Addysg Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd Economi Trafnidiaeth

Beth yw dyfodol ffermio, teithio a sgiliau yn y gweithle yng Nghymru?

‘Mae economi Cymru yn wynebu her oes...mae cyfle i drawsnewid – yn gadarnhaol ac yn negyddol’. Dyna gasgliad adroddiad Pwyllgor Menter, Seilwaith a Sgiliau (y Pwyllgor) y Cynulliad, ‘Diwydiant 4.0 - dyfodol Cymru’. Mae’r adroddiad yn deillio o’i waith archwilio parhaus i effaith Awtomeiddio yng Nghymru.

12 Hydref 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

‘Mae economi Cymru yn wynebu her oes…mae cyfle i drawsnewid – yn gadarnhaol ac yn negyddol’. Dyna gasgliad adroddiad Pwyllgor Menter, Seilwaith a Sgiliau (y Pwyllgor) y Cynulliad, ‘Diwydiant 4.0 – dyfodol Cymru’ (PDF 1.50MB). Mae’r adroddiad yn deillio o’i waith archwilio parhaus i effaith Awtomeiddio yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn crynhoi’r casgliadau a geir yn rhan gyntaf Ymchwiliad y Pwyllgor i Awtomeiddio ac Economi Cymru, a oedd yn cynnwys pedwar panel. Trafododd y panel cyntaf awtomeiddio a’r pedwerydd chwyldro diwydiannol (diwydiant 4.0) yn gyffredinol, gyda’r tri phanel arall yn canolbwyntio ar: amaethyddiaeth fanwl, cerbydau cysylltiedig ag awtonomaidd (CAV) a dyfodol sgiliau. Amlinellodd Llywodraeth Cymru ei feddwl ynghylch y tri mater mewn tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor (PDF 155kb).

Cyn y ddadl yn y Cynulliad ar yr adroddiad ar 17 Hydref (gellir ei gwylio yn fyw yma, neu bydd recordiad ar gael yma) bydd yr erthygl hon yn rhoi trosolwg o gasgliadau’r adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru.

Robotiaid ffatri yn dodi bara ar baledau.

Casgliadau cyffredinol

Yn gyffredinol, canfu’r Pwyllgor fod y cynnydd cyflym ym maes uwch-dechnoleg ac awtomeiddio yn cynnig llawer o fanteision i’r rhai sy’n barod. O ganlyniad, gwnaed pedwar argymhelliad lefel uchel i Lywodraeth Cymru ynghylch sut y gall fanteisio orau ar fuddiannau diwydiant 4.0. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhellion canlynol:

  • sicrhau bod Cymru yn darparu technolegau sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal â’u defnyddio, a hynny drwy nodi a chefnogi’r diwydiant wrth iddo gynyddu yng Nghymru;
  • adolygu sut mae’n cefnogi cwmnïau Cymru sy’n ceisio cymorth o Gronfa Ymchwil, Datblygiad ac Arloesi y DU; a
  • defnyddio arbenigedd arbenigwyr yng Nghymru, cyn-fyfyrwyr prifysgolion Cymru a’r Cymry ar wasgar i ddatblygu dyfodol diwydiant Cymru.

Ond gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad y Pwyllgor y dylid dadansoddi manteision creu ‘cymuned enghreifftiol’ lle y gellid profi technolegau newydd. Dadl Llywodraeth Cymru yw na fyddai’n bosibl i gymuned enghreifftiol sengl allu darparu’r ‘holl nodweddion, demograffeg, topograffi, ac ati’. Yn hytrach, mae’n bwriadu gweithio gyda gwahanol safleoedd ledled Cymru.

Amaethyddiaeth fanwl

Clywodd y Pwyllgor y gall amaethyddiaeth fanwl ddod â manteision lawer i ffermwyr a’r amgylchedd yng Nghymru. Gallai’r dechnoleg newydd arwain at:

  • reoli cnydau’n well trwy well olrhain electronig;
  • defnyddio llawer llai o blaladdwyr ac asiantau eraill wrth ffermio, a hynny drwy dargedu chwyn yn electronig, gan leihau cemegolion yn llifo o gae; a
  • gwneud ffermio yn broffesiwn mwy deniadol i bobl ifanc trwy ddileu rhywfaint o’r syniad ei fod yn waith llafurus, a hynny drwy ehangu systemau godro gwartheg awtomataidd ar ffermydd llai, er enghraifft.

Er mwyn cyflawni’r canlyniadau hyn, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gydweithio gyda’r sector addysg ôl-16 i ddatblygu meddalwedd a chaledwedd amaethu manwl a fyddai’n addas ar gyfer ffermydd bach Cymru.

Nododd Llywodraeth Cymru fod nifer o gynlluniau cyllido ar gael i’r sector hwn, gan gynnwys ei chynllun ei hun, Rhaglen arbenigedd SMART a ariennir gan yr UE, a chynllun InnovateUK Llywodraeth y DU. Ymrwymodd i weithio gyda sefydliadau academaidd i archwilio’r cyfleoedd cyllido sy’n deillio o’r cynlluniau hyn.

Mewn ymateb i ddymuniad y Pwyllgor i weld y Rhaglen Cyswllt Ffermio yn cael ei halinio â’r byd academaidd yng Nghymru, nododd Llywodraeth Cymru y bydd ei adolygiad o’r rhaglen yn parhau:

…nes y byddwn yn gwybod ar ba sail y bydd y DU yn gadael yr UE, ein trefniadau masnachu yn y dyfodol ac eglurder ar gyllido amaethyddiaeth hirdymor gan Lywodraeth y DU.

O’r herwydd, mae’n annhebygol y bydd unrhyw newidiadau mawr cyn hynny.

Cerbydau Cysylltiedig ac Awtonomaidd (CAV)

Clywodd y Pwyllgor y bydd hi’n 20 mlynedd cyn y gwelwn geir awtonomaidd ym mhob man. Bydd dyfodiad Cerbydau Cysylltiedig ac Awtonomaidd (CAV) yn cynnig cyfleoedd i’r rhai sy’n eu mabwysiadu, gan gynnwys lleihau damweiniau ffordd, lleihau tagfeydd traffig a gostwng allyriadau cerbydau.

Fodd bynnag, er mwyn gwireddu’r manteision hyn, bydd angen i’r gymdeithas delio ag anawsterau megis gallu cymdeithas i dderbyn camgymeriadau gan gerbydau o’r math, sicrhau seiber-ddiogelwch y cerbydau hyn, a datblygu’r seilwaith digidol a ffisegol fydd eu hangen arnynt.

Er mwyn i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â rhai o’r heriau, argymhellodd y Pwyllgor y dylai annog cwmnïau’r cerbydau hyn rannu data cyn-ddamweiniol i wella dysgu a diogelwch yn y sector a hefyd ddadansoddiad o’r costau a’r manteisio o greu canolfan arbrofi CAV 5G yng Nghymru.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhellion hyn. Er mwyn hyrwyddo rhannu data cyn-ddamweiniol, nododd y byddai’n ‘ymchwilio i’r hyn y gellir ei gyflawni drwy reoleiddio’. Fodd bynnag gan fod hwn yn faes nas datganolwyd, bydd yn rhaid iddo ymgysylltu â Llywodraeth y DU i drafod yr opsiwn hwn. Amlygodd Llywodraeth Cymru hefyd y bydd yn rhoi syniad canolfan arbrofi CAV 5G i’r grŵp cynghori arbenigol y mae wedi ei gomisiynu i ‘baratoi a llunio rhaglen 5G genedlaethol gydlynol’ ar gyfer Cymru.

Dyfodol sgiliau

Yn gyffredinol, clywodd y Pwyllgor ei bod yn debygol y crëir swyddi newydd a fydd yn talu yn well o bosibl oherwydd awtomeiddio, ond mai ar y rhai sy’n lleiaf abl i ymateb i newidiadau yn y farchnad lafur y bydd yr effaith fwyaf i ddechrau. Yn ei thystiolaeth i’r Pwyllgor (PDF 155kb), nododd Llywodraeth Cymru ei bod:

wrthi’n gweithio ar y dybiaeth y bydd swyddi’n cael eu trawsnewid, yn hytrach na’u dileu o ganlyniad i ddatblygiadau mewn awtomeiddio.

Cytunodd pob tyst y bydd angen adnewyddu sgiliau’r gweithlu wrth ymateb i’r newidiadau disgwyliedig yn y farchnad lafur. Fodd bynnag, teimlai rhai o’r tystion nad ydym ni’n barod ar gyfer ailhyfforddi ac ailgyfeirio’r bobl y mae awtomeiddio’n debygol o effeithio arnynt.  O ganlyniad, gwnaeth y Pwyllgor bedwar argymhelliad i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â pharatoi gweithwyr ar gyfer y dyfodol, ac fe’u derbyniwyd bob un gan Lywodraeth Cymru .

Teimlai’r Pwyllgor fod angen i Lywodraeth Cymru ail-ffocysu ac ailddatblygu ei chefnogaeth ar gyfer dysgu gydol oes er mwyn cefnogi’n well y gweithwyr sydd fwyaf tebygol o gael eu disodli gan awtomeiddio. Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd ei chynllun Cyfrif Dysgu Unigol arfaethedig, fel y’i hamlinellir yn ei Chynllun Cyflogadwyedd, yn cefnogi gweithwyr i ailhyfforddi. Fodd bynnag, ni chynhelir cyfnod peilot y cynllun hwn cyn mis Ebrill 2019 yn y fan gyntaf, ac ymddengys ei fod yn ddibynnu ar lwyddiant cais i Gronfa Bontio’r UE.

Argymhelliad allweddol arall yw sicrhau parodrwydd a gallu’r gweithlu addysg i wneud offer digidol yn rhan o’r addysgu fel bod y genhedlaeth nesaf yn gallu ffynnu yn y byd digidol newydd. Mewn ymateb, pwysleisiodd Llywodraeth Cymru ei bod yn datblygu Fframwaith Dysgu Proffesiynol Digidol fel rhan o’i Model Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol newydd ar gyfer athrawon yng Nghymru.

Yn yr adroddiad, gelwir hefyd am gynllun newydd i gyllido addysg ôl-ddoethurol mewn meysydd sy’n gysylltiedig ag awtomeiddio a Deallusrwydd Artiffisial er mwyn denu’r sgiliau hynny i Gymru a’u cadw yma. Nododd Llywodraeth Cymru ei Rhaglen Sêr Cymru, a ddefnyddiwyd i gefnogi nifer o gymrodorion ym maes deallusrwydd artiffisial. Nododd fod cynllun wedi’i dargedu’n fwy ‘wrthi’n cael ei ystyried ar hyn o bryd’.

Yn olaf, o ystyried mai dim ond un o’r tri Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a nododd awtomeiddio fel mater yn eu cynllun sgiliau blynyddol 2017, argymhellodd y Pwyllgor y dylent ‘adolygu eu cynlluniau ar gyfer gofynion yn y dyfodol’. Tynnodd Llywodraeth Cymru sylw at y ffaith ei bod wedi ysgrifennu at y Partneriaethau, o sgil gwaith craffu y Pwyllgor, yn gofyn iddynt ‘roi ystyriaeth i arloesedd digidol yn eu hadroddiadau blynyddol eleni’.

Meysydd i’w harchwilio ymhellach

Yn ogystal â’i argymhellion, cafodd y Pwyllgor fod y dystiolaeth yn codi cwestiynau pellach i ‘bob un ohonom sydd â buddiant yn ffyniant economaidd Cymru’ ynghylch:

  • sut i daro’r cydbwysedd rhwng arloesedd a rheoleiddio?
  • sut y gellir sicrhau bod Diwydiant 4.0 yn gyfle i leihau anghydraddoldeb, yn hytrach na’i gynyddu?
  • sut y gellir annog i bobl gymryd rhan mewn teithio llesol, gyda theithio mewn CAV o’r naill le i’r llall yn dod yn beth mor ‘hawdd’ o bosibl?
  • sut y gellir ail-ddylunio dysgu gydol oes er mwyn ateb gofynion newidiol Diwydiant 4.0?

Mae’r Pwyllgor yn gobeithio y bydd ei adroddiad yn ysgogi trafodaeth ehangach ledled Cymru ynghylch y pwyntiau hyn fel y bydd Cymru’n barod i fanteisio ar newidiadau’r Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol.


Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru