Cymunedau

Drws Troi Diwygio

Yn ei hymgynghoriad diweddar ynghylch diwygiadau i'r ffordd y caiff gwasanaethau prawf eu darparu yng Nghymru a Lloegr, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod bod angen model newydd ar gyfer goruchwylio troseddwyr yng Nghymru er mwyn gwella'r cymorth adsefydlu iddynt. Mae cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn fater sydd wedi'i gadw yn ôl, ac yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae'r diwygiadau arfaethedig yn cydnabod bod modd integreiddio gwasanaethau adsefydlu ac ailsefydlu'n well â gwasanaethau allweddol sydd wedi'u datganoli – iechyd, tai, addysg a gwasanaethau cymdeithasol – os caiff y gwaith o oruchwylio pob troseddwr yng Nghymru ei dynnu i mewn i'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (NPS). Mae hyn yn golygu y bydd y gwaith o ddarparu gwasanaethau prawf yng Nghymru yn sylfaenol wahanol i Loegr.

19 Hydref 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

System brawf sy’n gweithio i Gymru

Yn ei hymgynghoriad diweddar ynghylch diwygiadau i’r ffordd y caiff gwasanaethau prawf eu darparu yng Nghymru a Lloegr, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod bod angen model newydd ar gyfer goruchwylio troseddwyr yng Nghymru er mwyn gwella’r cymorth adsefydlu iddynt. Mae cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn fater sydd wedi’i gadw yn ôl, ac yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae’r diwygiadau arfaethedig yn cydnabod bod modd integreiddio gwasanaethau adsefydlu ac ailsefydlu’n well â gwasanaethau allweddol sydd wedi’u datganoli – iechyd, tai, addysg a gwasanaethau cymdeithasol – os caiff y gwaith o oruchwylio pob troseddwr yng Nghymru ei dynnu i mewn i’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (NPS). Mae hyn yn golygu y bydd y gwaith o ddarparu gwasanaethau prawf yng Nghymru yn sylfaenol wahanol i Loegr.

Diwygiadau i’r Gwasanaeth Prawf yng Nghymru a Lloegr

Cafodd diwygiadau i’r ffordd y caiff gwasanaethau prawf eu darparu yng Nghymru a Lloegr eu hamlinellu yn nogfen ymgynghori y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ‘Cryfhau’r gwasanaeth prawf, meithrin hyder’, ym mis Gorffennaf 2018, i gryfhau’r gwaith o oruchwylio troseddwyr a chynyddu hyder mewn dedfrydau cymunedol. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 21 Medi 2018.

Yng Nghymru, caiff carchardai a gwasanaethau prawf eu goruchwylio ar hyn o bryd gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi Cymru. Un Cwmni Adsefydlu Cymunedol sydd yng Nghymru, ac un rhanbarth NPS. O dan y cynigion newydd, NPS fydd yn rheoli pob troseddwr, gan ddod â’r model presennol i ben lle mae NPS yn rheoli troseddwyr risg uwch, a’r Cwmni Adsefydlu Cymunedol yn rheoli troseddwyr risg isel a chanolig. Mae’n golygu terfynu contract cyfredol y Cwmni Adsefydlu Cymunedol ddwy flynedd yn gynnar, yn 2020.

‘Gweddnewid Ailsefydlu: Strategaeth ar gyfer diwygio’

Ers 2010, mae’r gwasanaeth prawf wedi cael ei ddiwygio ar raddfa ddigynsail a dadleuol, gan ddenu cryn feirniadaeth o’r cychwyn cyntaf. Mae Cymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf (Napo) wedi dweud yn y gorffennol bod y newidiadau a gyflwynwyd yn dilyn cyhoeddi dogfen strategaeth Llywodraeth y DU ‘Gweddnewid Ailsefydlu: Strategaeth ar gyfer diwygio ym mis Mai 2013 wedi rhoi’r cyhoedd a staff gwasanaethau prawf mewn perygl, gyda diffyg goruchwyliaeth briodol i droseddwyr a llwythi gwaith cynyddol fyth.

Un o’r prif newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn 2014 oedd cyflwyno darparwyr annibynnol i reoli troseddwyr risg isel a chanolig. Roedd hyn yn golygu rhannu’r gwasanaeth prawf yn ddau, gyda’r sector cyhoeddus yn rheoli troseddwyr risg uchel ac yn darparu gwasanaethau i’r llysoedd, a’r cwmnïau adsefydlu cymunedol newydd yn rheoli troseddwyr risg isel a chanolig.

Working Links sy’n gweithredu Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru.

O dan y contractau, mae cyfran sylweddol o incwm cwmnïau adsefydlu cymunedol yn parhau i fod yn amodol ar sicrhau gostyngiadau mewn achosion o aildroseddu. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr leihau nifer y bobl sy’n aildroseddu a nifer yr aildroseddau sy’n cael eu cyflawni gan y rheini sy’n aildroseddu.

Cyhoeddodd Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin bapur briffio ym mis Gorffennaf 2018, sy’n olrhain cynnydd y diwygiadau diweddar i’r gwasanaeth prawf yng Nghymru a Lloegr.

Cyflwyno rhaglen ddiwygio ‘Gweddnewid Ailsefydlu’

Mae darparwyr gwasanaethau prawf preifat wedi wynebu heriau sylweddol. Mae perfformiad cwmnïau adsefydlu cymunedol, gan gynnwys y gwasanaethau ailsefydlu a ddarperir i droseddwyr a darparu gwasanaethau drwy’r giât, yn is na’r disgwyliadau ac wedi cael ei feirniadu gan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi (HMIP).

Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn y bu problemau o ran cyflwyno’r rhaglen ddiwygio, ond mae’n mynnu bod cwmnïau adsefydlu cymunedol wedi bod yn effeithiol wrth leihau cyfanswm nifer y bobl sy’n aildroseddu. Mae Llywodraeth y DU wedi beio newidiadau annisgwyl ym mathau’r troseddwyr sy’n dod i’r llysoedd, a’r dedfrydau y maent yn eu cael, gan ddweud bod hyn wedi lleihau incwm cwmnïau adsefydlu cymunedol yn sylweddol ac wedi effeithio ar ansawdd gwasanaethau rheng flaen. Yn gyffredinol, mae’r baich achosion wedi cynyddu yn sgil estyn goruchwyliaeth i droseddwyr ar ôl eu rhyddhau i droseddwyr a ddedfrydwyd i lai na 12 mis yn y ddalfa.

Mae newidiadau yn y galw am wasanaethau prawf hefyd wedi rhoi pwysau ychwanegol ar NPS, ac mae’r staff wedi bod yn ysgwyddo llwythi achosion uchel. Bu hyn yn arbennig o nodedig yng Nghymru, lle bu cynnydd o 27% yn eu llwythi achosion rhwng 2014 a 2017.

Canfu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Llywodraeth y DU nad oedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyflawni ‘chwyldro adsefydlu’ eto, a chwestiynodd effeithiolrwydd y diwygiadau.

Yn 2017, dywedodd Prif Weithredwr y Gwasanaeth Rheoli Troseddwyr Cenedlaethol a’r Prif Arolygydd Prawf nad yw’r system newydd yn gweithio’n dda.

Mae adroddiad Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin ‘Transforming Rehabilitation’, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2018, yn nodi materion difrifol ynglŷn â’r diwygiadau, gan nodi nad yw gwasanaethau prawf yn perfformio’n ddigon da o gwbl, a bod amheuaeth ddifrifol ynghylch effeithiolrwydd y rhaglen Gweddnewid Ailsefydlu. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oedd wedi’i argyhoeddi y gall y model Gweddnewid Ailsefydlu fyth gyflwyno gwasanaeth prawf effeithiol na hyfyw.

Dyfodol y gwasanaeth prawf yng Nghymru

Mae’n wir fod partneriaid eisoes yn dod ynghyd yng Nghymru i gydgysylltu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau adsefydlu ac ailsefydlu, gan gynnwys HMPPS Cymru, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, sefydliadau’r trydydd sector a phartneriaid eraill. Mae’r ‘Fframwaith i gefnogi newid positif ar gyfer y rheini sydd mewn risg o droseddu yng Nghymru yn enghraifft o gydweithio effeithiol rhwng HMPPS Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol, ac mae’n nodi’r blaenoriaethau sy’n cael eu cyflwyno ledled Cymru ar gyfer lleihau achosion o aildroseddu. Fodd bynnag, bydd y diwygiadau arfaethedig i wasanaethau prawf yn cynnig model amgen yng Nghymru, ac felly bydd rhai yn dadlau y dylai’r atebolrwydd gwleidyddol am wasanaethau prawf yng Nghymru gael ei ddatganoli hefyd. Efallai y bydd gan y Comisiwn ar Gyfiawnder farn am hyn pan fydd yn adrodd y flwyddyn nesaf.

Yn y cyfamser, blaenoriaeth Llywodraeth y DU yw sicrhau, yn ogystal â chadw’r cyhoedd yn ddiogel, y bydd y diwygiadau diweddaraf hyn yn helpu i leihau achosion o aildroseddu. Mae angen bod y llysoedd yn hyderus yn y gwasanaeth prawf yng Nghymru os yw Llywodraeth y DU am gael unrhyw obaith o leihau’r niferoedd mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr, a mynd i’r afael â’r problemau sylweddol yn ein carchardai. Er mwyn gallu bod yn llai dibynnol ar ddedfrydau byr yn y ddalfa, mae angen dedfrydau cymunedol effeithiol. At hynny, os bydd troseddwyr yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt i gyfrannu’n gadarnhaol i’r gymuned a gweddnewid eu bywydau, mae angen i’r gwasanaeth prawf yng Nghymru fod yn effeithiol – ac yn sefydlog.

Bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod y mater hwn yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 23 Hydref 2018.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru