Tai Carbon Isel i Genedlaethau'r Dyfodol: Pa heriau a chyfleoedd sy’n ein hwynebu?

Cyhoeddwyd 19/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 24 Hydref, bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar Tai Carbon Isel: Yr Her.

Yn ein blog, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, rydym yn rhoi cefndir y cyd-destun deddfwriaethol a'r cynnydd a wnaed yng Nghymru i liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU ei Adroddiad Cynnydd 2018 i'r Senedd. Dangosodd gynnydd o 5% mewn allyriadau yn 2016 , a hynny’n dilyn gostyngiad yn 2014 a 2015. Ers 1990, mae allyriadau wedi gostwng 14 y cant yng Nghymru, sydd gryn dipyn yn is na’r targed anstatudol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd (2010) (PDF, 2.8MB) sef sicrhau gostyngiad o 40 y cant erbyn 2020, ac mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU o’r farn ei bod yn debygol iawn na chaiff y targed ei gyrraedd.

Mae'r ffigurau diweddaraf Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn dangos bod allyriadau o adeiladau preswyl yng Nghymru yn cyfrif am 8% o gyfanswm yr allyriadau, ac roeddent 25% yn is na lefelau 1990. Bu cynnydd o 2% yn 2016, yn dilyn gostyngiad o 16% yn 2014 a chynnydd o 3% yn 2015. O dan Gyfarwyddeb yr UE ar Berfformiad Ynni mewn Adeiladau 2010, mae’n ofynnol i bob adeilad newydd gael ei adeiladu i safon 'bron yn ddi-ynni' erbyn diwedd 2020. Er bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd y ddeddfwriaeth hon yn dal yn gymwys.

Beth oedd argymhelliad y Pwyllgor?

“There are many reasons why we should improve the energy efficiency of our housing stock. The most pressing is the need to deliver on legal obligations to eliminate fuel poverty and reduce the emission of greenhouse gases […] Achieving the targets will require a considerable ramping up of ambition and must span the whole of Wales’ policy levers.”

Gwnaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig 10 argymhelliad: gan gynnwys:

  • Rhaid i Lywodraeth Cymru baratoi a chyhoeddi strategaeth ddeng mlynedd ar gyfer tai carbon isel. Rhaid i’r strategaeth gynnwys cerrig milltir a thargedau a rhaid iddi gyflawni’r canlynol o fewn ei hoes:
    • Ôl-osod yr holl dai sydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru er mwyn iddynt gyrraedd safonau ‘gweithredu’n ddi-garbon’;
    • Adeiladu pob tŷ newydd yng Nghymru i safonau ‘gweithredu’n ddi-garbon’;
    • System gynllunio ac adeiladu ategol gydag effeithlonrwydd ynni a charbon isel wrth eu gwraidd, a chyda chefnogaeth cyfundrefnau arolygu annibynnol, trylwyr;
    • Cymhellion ariannol i annog prynwyr a pherchnogion i brynu tai carbon isel a buddsoddi mewn mesurau ôl-osod;
    • Ymyriadau cyllido sy’n gwneud y mwyaf o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn tai carbon isel; a
    • Gweithlu wedi’i hyfforddi’n llawn, yn barod i adeiladu a gwella cartrefi gan ddefnyddio’r technolegau diweddaraf

Tai newydd:

  • Dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio Rhan L o’r rheoliadau adeiladu i gynyddu effeithlonrwydd ynni gofynnol cartrefi newydd. Dylai nodi amserlen glir i ddatblygu cartrefi sy’n gweithredu’n ddi-garbon, fel y gall adeiladwyr tai, y gadwyn gyflenwi a darparwyr sgiliau baratoi ar gyfer y newidiadau hyn.

Ôl -osod:

  • Yn ystod y 12 mis nesaf, dylai Llywodraeth Cymru gynnal a chyhoeddi dadansoddiad cost a budd cynhwysfawr o’r mesurau ôl-osod i weithredu’n ddi-garbon yn achos cartrefi sydd mewn tlodi tanwydd.

Sgiliau Adeiladu

  • Dylai hyfforddiant a sgiliau yn y secto adeiladu fod yn ganolog i strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer tai carbon isel.

Cyllido a chyllid:

  • Dylai Llywodraeth Cymru baratoi a chyhoeddi adroddiad o fewn y 12 mis nesaf ar yr opsiynau sydd ar gael iddi gyllido’r gwaith o ddarparu tai carbon isel ar raddfa eang; a
  • Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda darparwyr morgais mawr yng Nghymru i’w cymell i gynnig cyfraddau benthyca ffafriol ar gyfer cartrefi carbon isel.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyniodd Llywodraeth Cymru un ar ddeg o’r argymhellion, a derbyniodd chwech arall mewn egwyddor. Gwrthododd dri arall. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor ei bod, ar hyn o bryd, yn datblygu rhaglen weithredu newydd i hybu’r gwaith o ddatgarboneiddio 80% o gartrefi yng Nghymru erbyn 2050. Dywedodd ei bod yn datblygu'r rhaglen gan ddefnyddio gwaith ymchwil annibynnol a gomisiynwyd yn benodol, a’r Grŵp Cynghori ar Ddatgarboneiddio Cartrefi. Disgwylir i’r Grŵp gyflwyno’i adroddiad i Weinidogion yn yr haf 2019. Gofynnodd Llywodraeth Cymru i'r Grŵp :

Argymell y mathau priodol o gamau gweithredu a chymorth y gallai’r holl randdeiliaid allweddol, ac nid dim ond y Llywodraeth, eu rhoi ar waith i ddarparu’r rhaglen yn y tymor byr, canolig a hwy;
Dadansoddi’r costau, gwerth, ysgogwyr, cymhellion/anghymhellion, heriau a chyfleoedd a gynrychiolir gan gyfresi o gamau gweithredu unigol ac ar y cyd;
Argymell y mathau priodol o gymorth ac ymyriadau sydd eu hangen i gyflawni amcanion y rhaglen;
Ystyried sut y gellir rhoi camau gweithredu ar waith e.e. fesul deiliadaeth, ardal, incwm neu fath o adeilad neu gyfuniad o’r dulliau hyn.

Mae hefyd yn dweud y bydd rheoliadau adeiladu yn ymdrin â her o ddatblygu’r cartrefi newydd.


Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun o Flickr gan Jeremy Segrott. Dan drwydded Creative Commons.