Brexit Economi

Sicrhau llais i Gymru yn y paratoadau ar gyfer Brexit – y diweddaraf

Gyda thrafodaethau Brexit ym Mrwsel yn cyrraedd cyfnod tyngedfennol, mae'r erthygl hon yn amlinellu rôl ddiweddaraf Cymru yn y gwaith sy'n mynd rhagddo ar lefel y DU i baratoi ar gyfer y dyfodol. 

23 Hydref 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Gyda thrafodaethau Brexit ym Mrwsel yn cyrraedd cyfnod tyngedfennol, mae’r erthygl hon yn amlinellu rôl ddiweddaraf Cymru yn y gwaith sy’n mynd rhagddo ar lefel y DU i baratoi ar gyfer y dyfodol.

Cynhaliodd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad (y Pwyllgor) ddwy sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ddiweddar i drafod i ba raddau y mae llais Cymru wedi gallu dylanwadu ar bolisi Llywodraeth y DU mewn perthynas â gadael yr UE. Ymddangosodd Robin Walker AS, yr Is-ysgrifennydd Seneddol dros Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd gerbron y Pwyllgor ar 11 Hydref, ac ar 15 Hydref bu’r Pwyllgor yn holi George Hollingbery AS, y Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach.

I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu dylanwadu hyd yma ar safbwyntiau Llywodraeth y DU tuag at adael yr UE?

Pan ymddangosodd Mr Walker gerbron y Pwyllgor ar 30 Ebrill 2018, dywedodd fod Llywodraeth y DU bob amser wedi dweud yn glir ei bod am sicrhau bod y gweinyddiaethau datganoledig yn rhan o’r trafodaethau a’u bod yn gallu hybu eu buddiannau penodol nhw. Yn y fideo isod, mae’n esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu dylanwadu ar safbwynt Llywodraeth y DU.

Pan holwyd Mr Walker am sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer nwyddau, dywedodd ei fod yn cydnabod na fyddai dwy lywodraethau, o reidrwydd, yn dod i gytundeb llawn os oedd  gwahaniaeth gwleidyddol sylfaenol rhyngddynt. Mae’r gweinyddiaethau datganoledig, meddai, yn rhan annatod o’r trafodaethau, ond Llywodraeth y DU fydd yn gorfod diffinio’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol:

We want to ensure that we’ve taken on board the views of the devolved administrations…but it’s not a situation in which, politically, they can necessarily drive the UK position on these issues more broadly

Ym mis Medi dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth y Pwyllgor bod Llywodraeth Cymru yn ei rhoi ar ddeall i Lywodraeth y DU ei bod yn hynod bwysig bod Cymru yn gallu dylanwadu ar y rheolau cyffredin ac na ddylid eu cymeradwyo nes bydd pob llywodraeth ddatganoledig yn cytuno arnynt:

I think part of the problem is that there are elements in the UK Government that don’t see the devolved governments as equals and don’t understand the idea of a discussion with devolved governments…it is hugely important the UK Government understands that, in many areas, devolution operates, and therefore they will need our input into how the common rulebook will function in the future.

O ran polisi masnach, dywedodd Mr Hollingbery wrth y Pwyllgor fod angen i Lywodraeth y DU arwain ar bolisi masnach, sy’n fater a gadwyd yn ôl. Dywedodd:

Trade and trade negotiation is a retained competence for the UK Government. And there has to be one body doing this because we have a single UK market, and we cannot have a situation whereby one part of the United Kingdom gets to veto what is otherwise a very good deal for everybody else.

Nid yw’n rhagweld y bydd gan y gweinyddiaethau datganoledig ran uniongyrchol yn y trafodaethau masnach. Safbwynt Llywodraeth Cymru (PDF, 283KB) yw y dylai gael cyfrannu at drafodaethau mewn meysydd lle mae ganddi gymhwysedd datganoledig, naill ai drwy fod yn ‘yn yr ystafell’ neu ‘yn yr ystafell drws nesaf’.  Rhoddodd y Prif Weinidog farn Llywodraeth Cymru am y sefyllfa bresennol mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor ar 17 Medi:

At the moment, the UK Government sees this as a non-devolved issue and, I think, sees us as a Government to be informed of what’s going on, rather than asked our views before negotiation takes place, which is— I don’t think it’s sensible, because we can offer a perspective for the UK Government to consider.

Fodd bynnag, esboniodd Mr Hollingbery a’i swyddog sut roedden nhw’n credu y gallai Llywodraeth Cymru fod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu polisi masnach:

  • Bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori’n llawn â Llywodraeth Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill i’w cynnwys yn y gwaith o ddatblygu polisi masnach;
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gallu bod yn rhan o’r broses o baratoi’r mandad ar gyfer trafod cytundebau masnach;
  • Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan mewn sesiynau i archwilio pynciau penodol a digwyddiadau bwrdd crwn i drafod polisïau a drefnwyd gan yr Adran Masnach Ryngwladol. Bydd y rhain yn datblygu’n drafodaethau dwyochrog mwy technegol rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Dywedodd Mr Hollingbery hefyd fod yr Adran Masnach Ryngwladol hefyd yn ystyried rhoi mwy o lais i Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan y gallai hyn fod yn gyfle i safbwyntiau Cymru gael eu clywed yn y Cabinet pan fydd Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau.

A fydd systemau newydd i sicrhau bod cenhedloedd y DU yn ymgysylltu ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd?

Yn ‘Brexit a Datganoli’ (PDF, 642KB) galwodd Llywodraeth Cymru am greu Cyngor Gweinidogion a fyddai’n cyfarfod yn rheolaidd mewn amrywiaeth o fformatau i drafod rheolau a fframweithiau cyffredin os cytunnir ei bod yn angenrheidiol, ac y byddai’n fuddiol, cael cysondeb drwy’r DU.

Yn y cyswllt hwn, roedd Mr Walker yn cydnabod bod nifer o broblemau wedi codi yng nghyfarfodydd cyntaf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) a dywedodd fod angen rhyw fath o beirianwaith ychwanegol. Fodd bynnag, nid oedd yn cytuno ag awgrym Prif Weinidog Cymru mai sefydlu Cyngor Gweinidogion y DU yw’r unig ffordd ymlaen, a chyfeiriodd at yr adolygiad o’r cysylltiadau rhynglywodraethol a oedd yn mynd rhagddo.

Yn y ddogfen ‘Polisi masnach: y materion i Gymru‘ (PDF, 2MB) mae Llywodraeth Cymru yn galw am sefydlu Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Fasnach Ryngwladol, ynghyd â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig. Byddai hyn yn arwain at greu Cyngor Gweinidogion y DU.

Yn ôl swyddog Mr Hollingbery, roedd Llywodraeth y DU wrthi’n ystyried cynnig Llywodraeth Cymru i sefydlu Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar gyfer Masnach Ryngwladol. Tanlinellodd Mr Hollingbery y byddai’n well  ganddo ef system a fyddai’n caniatáu i Lywodraeth y DU ymgysylltu’n gyflym â’r gweinyddiaethau datganoledig,  gan fod angen medru gwneud hynny mewn meysydd fel masnach, sy’n datblygu’n gyflym.

Dywedodd Mr Hollingbery hefyd fod Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno Concordat neu Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy’n nodi sut y bydd yn ymgysylltu â’r gweinyddiaethau datganoledig ynghylch polisi masnach, a gwrando ar eu pryderon ynghylch meysydd penodol.

Yn ogystal â hyn, ers y tro diwethaf i Mr Walker ymddangos gerbron y pwyllgor, sefydlwyd fforwm Gweinidogion ar drafodaethau’r UE, a’r Gweinidog Tai ac Adfywio oedd yn cynrychioli Llywodraeth Cymru. Ers hynny mae pedwar cyfarfod wedi’u cynnal, a’r diweddaraf ar 17 Medi, pan drafodwyd masnach ym maes cynhyrchion bwyd-amaeth a physgota.

Er bod y Gweinidog Tai ac Adfywio, yn rhinwedd ei swydd fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar y fforwm, wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn croesawu’r fforwm, nid yw hynny’n golygu na fydd yn parhau i alw am gael cyfrannu at y trafodaethau mwy ffurfiol drwy fod yn rhan o dîm y DU.

Sut y bydd y Cynulliad yn craffu ar y broses o adael yr UE yn y dyfodol agos?

Bydd y Prif Weinidog yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar 5 Tachwedd. Bydd y Pwyllgor hefyd yn parhau â’i ymchwiliadau i Berthynas Cymru ag Ewrop a’r Byd yn y dyfodol – rhan dau a Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?.

Mae Pwyllgorau eraill y Cynulliad hefyd yn parhau i gynnal nifer o ymchwiliadau i feysydd sy’n gysylltiedig â gadael yr UE,  gan gynnwys:

Hefyd, bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Materion Deddfwriaethol hefyd yn craffu ar is-ddeddfwriaeth sy’n deillio o Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018, a bydd y Cynulliad yn ystyried cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ar ddarnau o ddeddfwriaeth y DU fel y Bil Masnach a’r Bil Amaeth.


Erthygl gan Gareth Thomas a Peter Hill, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru