O dan yr un to? Tai Cydweithredol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 24/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae gan Gymru gysylltiadau cryf â’r mudiad cydweithredol. Robert Owen, o’r Drenewydd, oedd un o’r arloeswyr yn y maes yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Llwyddodd i wella amodau gweithio a byw y staff yn ei felinau cotwm ac fe’i hystyrir yn ddiwygiwr cymdeithasol o fri ac yn dad i’r mudiad cydweithredol ym Mhrydain.

Mae’r ymrwymiad hwnnw gan Robert Owen i wella nid yn unig amodau gwaith ond amodau byw drwy egwyddorion cydweithredol yn parhau yng Nghymru. Mae’r blog hwn yn canolbwyntio ar dai cydweithredol yng Nghymru: y sefyllfa ar hyn o bryd a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Beth yw tai cydweithredol?

Grwpiau o bobl sy’n berchen ar/yn rhentu ac yn rheoli eu llety ar y cyd sy’n ffurfio cydweithfeydd tai – o dai a rennir a blociau o fflatiau i ystadau cyfan o dai. Gyda’i gilydd, maent yn gyfrifol am drefnu atgyweiriadau a gwneud penderfyniadau ynghylch rhent a phwy sy’n ymuno â’r gydweithfa neu’n ei gadael. Mae yna nifer o wahanol fathau o dai cydweithredol a allai fod yn berthnasol i bob math o ddeiliadaeth tai (perchnogaeth lawn, perchnogaeth ar y cyd neu dai rhent, naill ai yn ôl rhent y farchnad neu yn ôl rhent fforddiadwy). Fodd bynnag, ym mhob math o dai cydweithredol:

  • Ceir aelodaeth gymunedol ddemocrataidd o sefydliad y mae gan bob aelod gyfran enwol gyfartal ohono (fel arfer £1) sy’n rhoi’r hawl iddo bleidleisio ar faterion sy’n effeithio ar y gydweithfa; a’r
  • Sefydliad tai cydweithredol sydd â rheolaeth dros y cartrefi mewn rhyw ffordd ac sydd – mewn rhai achosion – berchen arnynt ac yn eu rheoli ar y cyd.

Gwahanol fathau o gydweithfeydd tai

Mae yna wahanol fathau o dai cydweithredol:

Cydweithfa rhentu – cydweithfa lle mae gan yr aelod gyfran enwol (fel arfer £1 neu £5). Bydd yr aelodau’n talu tâl rhent misol neu wythnosol i’r gydweithfa am yr hawl i feddiannu cartref sy’n eiddo i’r gydweithfa. Fel tenant, pan fydd aelod yn gadael y gydweithfa bydd yn ildio neu’n trosglwyddo ei gytundeb meddiannu, ac mae’r gyfran enwol yn cael ei fforffedu. Nid oes gan yr aelodau unrhyw ran yng ngwerth yr eiddo y maent yn ei feddiannu – maent yn talu rhent.

Cydweithfa gwerth marchnadol – Weithiau fe’i gelwir yn gydweithrediaeth gyd-drigo, gyda’r gydweithfa’n gyfrifol am berchnogaeth gydweithredol yr eiddo y mae’r aelodau yn ei feddiannu. Mae aelodau’n rhydd i brynu a gwerthu eu cartrefi (neu mae ganddynt yr hawl i feddiannu’r cartrefi hynny) yn ôl gwerth marchnadol y cartrefi hynny. Yn aml, caiff mynediad at forgeisi i aelodau unigol ei ddarparu drwy’r gydweithfa ei hun (ond wedi’i gyllido gan fanciau). Yn bennaf, mae rôl y gydweithfa yn debyg i rôl rheolwr adeilad sy’n ymdrin ag atgyweiriadau mewn mannau cymunedol ac atgyweiriadau strwythurol, yn ogystal â chynnig gwasanaethau eraill i aelodau.

Cydweithfa ecwiti cyfyngedig – Cydweithfa lle mae gan aelodau gyfran yng ngwerth cyfalaf y cartrefi cydweithredol y maent yn eu meddiannu. Mae’r gydweithfa ar y cyd wedi’i hariannu, yn rhannol, yn uniongyrchol gan yr aelod sy’n darparu cyllid personol. Caiff y rhan gydweithredol o gost cartref yr aelod ei chyllido drwy fenthyciad morgais corfforaethol i’r gydweithfa. Mae’r aelod yn talu costau cyllid ei hun yn ogystal â thaliad misol sy’n talu costau benthyciad a chostau rheoli a chynnal y gydweithfa. Pan fydd aelod yn gadael, mae ganddo’r hawl i werthu neu roi ei hawliau deiliadaeth gyda’i gyfran ecwiti cyfyngedig, naill ai am bris rheoledig (i’w gadw’n fforddiadwy) neu ar bris y farchnad agored ar gyfer gwerthu a phrynu’r gyfran ecwiti gyfyngedig a’r hawliau meddiannaeth sy’n cydfynd â hi.

Prosiect Tai Cydweithredol yng Nghymru

Yn 2012, dechreuodd y prosiect Tai Cydweithredol yng Nghymru gydag wyth cynllun arloesi. Derbyniodd dri o’r prosiectau peilot hynny – yng Nghaerdydd, yng Nghaerfyrddin ac yng Nghasnewydd – £1.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2013.

Yn 2017, rhoddodd Llywodraeth Cymru bron i £150,000 i Ganolfan Cydweithredol Cymru i gefnogi’r prosiect Tai Cydweithredol yng Nghymru. Nod y prosiect Tai Cydweithredol yng Nghymru yw:

  • Hybu cynnydd o ran datblygu cynlluniau tai cydweithredol yng Nghymru;
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu amrywiaeth o wahanol fodelau o ran tai cydweithredol; a
  • Gwella sgiliau ac arbenigedd aelodau o gynlluniau tai cydweithredol yng Nghymru i sicrhau eu cynaliadwyedd.

Adeiladu Cartrefi, Creu Cymunedau, Newid Bywydau

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi datblygu strategaeth – Adeiladu Cartrefi, Creu Cymunedau, Newid Bywydau – i sicrhau bod prosiectau tai cydweithredol yn cael yr effaith fwyaf bosibl yng Nghymru. Gan weithio gyda’r Cydffederasiwn Tai Cydweithredol, Swyddogion Galluogi Tai Gwledig, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, mae’r strategaeth yn anelu at:

  • Gynyddu nifer y tai cydweithredol, gyda mwy o gynlluniau a mwy o bobl yn elwa ohonynt;
  • Cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o 20,000 o dai fforddiadwy;
  • Datblygu a gweithredu dull o asesu perfformiad ac effaith cydweithfeydd tai; a
  • Chynyddu amrywiaeth cynlluniau tai cydweithredol, gan gynnwys ystod o ddeiliadaethau a lefelau incwm posibl, yn ogystal â diwallu anghenion amrywiol o ran tai mewn cymunedau gwledig a threfol.

Hefyd, mae gan y strategaeth bum amcan allweddol:

  • Mwy o gynlluniau tai cydweithredol, gan weithio gyda mwy o bartneriaid;
  • Datblygu adnodd ar-lein (fel pecyn cymorth Ymddiriedolaeth Elusennol y Cymdeithasau Tai y mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi cyfrannu ato) - datblygu canllawiau ar-lein, gan gynnwys podlediadau a deunyddiau fideo sy’n nodi materion allweddol yn ymwneud â datblygu tai cydweithredol ac sy’n galluogi cymunedau, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i ddeall y materion perthnasol a pha opsiynau sydd ar gael;
  • Ehangu opsiynau – ymchwilio i ddulliau newydd ac arloesol o ddiwallu anghenion a dyheadau’r rheiny sydd â diddordeb mewn tai cydweithredol;
  • Datblygu strwythurau cymorth – croesawu partneriaid newydd i’r grŵp rhanddeiliaid, a nodi’r ffordd orau o gefnogi rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol rhwng y sefydliadau tai cydweithredol sy’n datblygu; a
  • Datblygu methodoleg sy’n seiliedig ar effaith – datblygu a gweithredu dull cyffredinol i asesu effaith grwpiau tai cydweithredol newydd a deilliannau o ran cynlluniau tai cydweithredol.

Ble mae’r tai cydweithredol yng Nghymru?

Gellir dod o hyd i dai cydweithredol ledled Cymru. Mae’r map isod yn dangos y datblygiadau presennol – mae nifer o gynlluniau eraill ar y gweill.

Bydd y prosiect Tai Cydweithredol yng Nghymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru tan fis Mawrth 2019. Ochr yn ochr â hyn, mae’r prosiect yn cael cyllid gan y Nationwide Foundation i gael cyngor ac arbenigedd i helpu grwpiau i symud ymlaen â’u cynlluniau tai cydweithredol.

Yn ôl Canolfan Cydweithredol Cymru, yn ystod y misoedd nesaf, bydd y prosiect Tai Cydweithredol yng Nghymru yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i nodi cynlluniau posibl y gellir eu datblygu fel tai cydweithredol.

Map o dai cydweithredol yng Nghymru


Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Hoffai’r Gwasanaeth Ymchwil gydnabod cymorth Canolfan Cydweithredol Cymru wrth baratoi’r erthygl hon.