Amcangyfrif llinell amser trafodaethau Brexit (25/10/2018)

Cyhoeddwyd 25/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ym mis Ebrill 2017, cyhoeddodd y Gwasanaeth Ymchwil ei llinell amser gyntaf ar gyfer Brexit, gyda'r nod o amlinellu'r digwyddiadau allweddol yn y trafodaethau ar ymadawiad y DU â'r UE, ynghyd â pharatoadau domestig ar gyfer ymadawiad y DU dros gyfnod y trafodaethau o 24 mis. Wrth gyhoeddi'r llinell amser gyntaf honno, fe wnaethom ymrwymo i ddiweddaru a datblygu'r llinell amser wrth i'r trafodaethau fynd yn eu blaen.

Isod ceir y bedwaredd fersiwn o'r llinell amser. Fe wnaethom gyhoeddi'r drydedd fersiwn ym mis Mai 2018. Mae'r llinell amser yn seiliedig ar y wybodaeth gyhoeddus orau sydd ar gael ar hyn o bryd ac mae'n debyg o gael ei mireinio a'i newid ymhellach wrth i'r trafodaethau fynd yn eu blaen dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Ers fersiwn ddiwethaf y llinell amser ym mis Mai, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei gweledigaeth ar gyfer y berthynas yn y dyfodol â'r UE ac wedi cyhoeddi cyfres o 'hysbysiadau technegol' ynghylch y paratoadau ar gyfer dim bargen. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hefyd wedi dechrau cyflwyno deddfau a rheoliadau mewn perthynas â Brexit. Fodd bynnag, nid yw'r dyddiad ar gyfer cymeradwyo'r Cytundeb Ymadael yn derfynol wedi'i gadarnhau eto, ond erbyn hyn disgwylir mai ym mis Rhagfyr y bydd hyn. Cydnabyddir i raddau helaeth bod yna gytundeb ynghylch y rhan fwyaf o'r Cytundeb Ymadael, ond mae trafodaethau yn mynd rhagddynt ynglŷn â'r ffin ar ynys Iwerddon. Ynghyd â'r Cytundeb Ymadael, bydd datganiad gwleidyddol ynghylch y berthynas rhwng yr UE a'r DU yn y dyfodol. Ni fydd gan y datganiad hwn unrhyw effaith gyfreithiol. Os na all y trafodaethau hyn ddod i gasgliad y mae'r ddwy ochr yn cytuno arno, mae'n bosibl y byddai'r DU yn gadael yr UE â 'dim bargen'.

Os cytunir ar y Cytundeb Ymadael, rhaid i'r Senedd Ewropeaidd a Senedd y DU ill dau ei gymeradwyo hefyd.

Gall hyn ddigwydd wedi i Senedd y DU gymeradwyo'r fargen derfynol o dan y broses a bennir yn Neddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unig. Mae'r Ddeddf hon yn pennu y dylid cyflwyno Bil i roi effaith i'r Cytundeb Ymadael yng nghyfraith ddomestig y DU. Rhaid pasio'r Bil cyn i'r DU ymadael â'r UE ar 29 Mawrth 2019.

Gallwch gael y newyddion diweddaraf am Brexit yng Nghymru trwy'n Diweddariadau Brexit rheolaidd a'n Hadroddiad Monitro am y Trafodaethau Brexit, a gallwch weld yr holl weithgarwch diweddaraf ynghylch Brexit ar draws y Cynulliad ar y dudalen Brexit a Chymru.


Erthygl gan Helen Jones, Joe Champion, Peter Hill a Manon George, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.