A yw Cymru’n decach yn 2018?

Cyhoeddwyd 01/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar ddydd Mawrth, 6 Tachwedd, bydd Aelodau Cynulliad yn trafod Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) 2017/18.

Cyhoeddodd y EHRC ei adroddiad, A Yw Cymru’n Decach? ar 25 Hydref 2018. Mae’r adroddiad yn asesu sefyll cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yn 2018. Llaw a chadair olwyn

A yw Cymru’n decach?

Mae’r EHRC yn ystyried bod peth cynnydd wedi’i wneud tuag at sicrhau bod Cymru’n decach, gan gynnwys:

  • Cyfradd gyflogaeth gynyddol;
  • Llai o bobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth, na hyfforddiant (NEET);
  • Cynnydd yn nifer y merched mewn swyddi sy’n talu’n dda;
  • Mwy o bobl yng Nghymru yn ymgysylltu â democratiaeth;
  • Cynnydd yn nifer y merched sy’n pleidleisio;
  • Gostyngiad mewn cyflyrau iechyd meddwl ymysg plant anabl;
  • Lleihad yn nifer y gorsafoedd heddlu sy’n cael eu defnyddio fel ‘llefydd diogel’ ar gyfer pobl â chyflyrau iechyd meddwl; ac
  • Mae cyrhaeddiad yn y blynyddoedd cynnar yn gwella, gyda bechgyn a phlant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn cyflawni gwelliannau cyflymach.

Ond, mae’r adroddiad yn awgrymu bod llawer mwy o waith eto i’w wneud.

Anfantais economaidd-gymdeithasol

Mae’r adroddiad yn pwysleisio bod mwy o bobl, fel cyfran, yng Nghymru yn dibynnu ar fudd-daliadau nag yn Lloegr a’r Alban, sy’n golygu bod gostyngiadau i fudd-daliadau i bobl sy’n gweithio a phobl nad ydyn nhw’n gweithio yn cael mwy o effaith yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn awgrymu bod newidiadau i’r system fudd-daliadau yn gwthio mwy o bobl, yn enwedig merched, pobl anabl a lleiafrifoedd ethnig, mewn i dlodi.

Mae’r adroddiad yn pwysleisio bod anfantais economaidd-gymdeithasol yn cael effaith negyddol ar ganlyniadau addysg ac iechyd. Mae plant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim gyda chyfraddau gwahardd uwch na phlant eraill, tra bod oedolion a phlant sy’n byw yn yr ardaloedd tolaf yn cael canlyniadau iechyd gwaeth.

Mae gan oedolion sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ddisgwyliadau oes is na’r rheiny sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Anabledd

Mae’r adroddiad yn nodi y bydd un o bob pum disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol (ALN) yn ennill pump TGAU gradd A*-C (gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg), i’w gymharu â dwy ran o dair o ddisgyblion heb ALN.

Mae anfantais mewn bywyd cynnar yn parhau yn hwyrach mewn bywyd, gyda phobl anabl wedi eu tangynrychioli mewn prentisiaethau, a chyfraddau cyflogaeth pobl anabl yng Nghymru yn llai na hanner y rheiny ar gyfer pobl nad ydyn nhw’n anabl.

Mae gwaith ymchwil sydd eisoes wedi’i gyhoeddi gan y EHRC, yn dangos bod prinder tai hygyrch ac addasadwy yng Nghymru, ynghyd ag oedi sylweddol i wneud tai presennol yn hygyrch.

Rhyw

Mae’r adroddiad yn awgrymu bod cynnydd wedi bod mewn cam-drin domestig, troseddau trais rhywiol a thrais sydd wedi eu hadrodd a’u cofnodi yng Nghymru.

Mae’r EHRC yn ystyried bod rolau, normau a stereoteipiau rhyw traddodiadol yn parhau i effeithio ar gyrhaeddiad addysgol. Mae merched yn llawer llai tebygol o barhau i astudio gwyddoniaeth a mathemateg ar ôl gadael yr ysgol, ac mae merched yn parhau i fod yn fwy tebygol na dynion o weithio mewn galwedigaethau cyflog isel.

Mae’r adroddiad yn nodi mai’r anhawster wrth gydbwyso cyfrifoldebau gofalu tra’n dringo’r ysgol yrfa yw un o’r rhesymau am yr anghydraddoldeb sy’n effeithio merched. Mae saith o bob deg mam newydd wedi cael profiad negyddol neu brofiad a all fod yn enghraifft o arwahanu yn y gwaith, a hynny o ganlyniad i feichiogrwydd neu famolaeth.

Hil

Mae’r EHRC wedi canfod bod 75% o droseddau casineb cafodd eu hadrodd a’u cofnodi yng Nghymru yn 2016/17 wedi eu hysgogi gan hil neu grefydd.

Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r cysylltiad rhwng anghydraddoldebau hiliol a chyrhaeddiad addysgol, gyda disgyblion du yn profi cyrhaeddiad is na disgyblion gwyn Prydeinig yn ystod addysg blynyddoedd cynnar. Mae’r bwlch cyrhaeddiad hwn yn culhau yn ystod cyfnod TGAU, gyda 57.9% o ddisgyblion du yn ennill 5 gradd A*-C (gan gynnwys mathemateg, Saesneg neu Gymraeg), i’w gymharu â 58.9% o ddisgyblion gwyn Prydeinig. Ond, ar gyfer grwpiau lleiafrifoedd ethnig eraill, nid yw’r bwlch cyrhaeddiad yn culhau, gan mai dim ond un o bob pump (21.5%) o ddisgyblion Sipsi/Sipsi Roma fydd yn cyflawni hyn.

Mae bylchau cyrhaeddiad hefyd yn amlwg yn ystod addysg uwch, gyda myfyrwyr Prydeinig gwyn yng Nghymru ar y blaen o ran cyrhaeddiad o 8.5 o bwyntiau canran dros fyfyrwyr o leiafrifoedd ethnig.

Beth oedd argymhellion y EHRC?

Mae adroddiad y EHRC yn gwneud nifer o argymhellion ynglyn â sut i wneud Cymru yn decach. Mae’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn:

  • Deddfu’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Neddf Cydraddoldeb 2010, fel bod cyrff cyhoeddus yn rhoi sylw dyladwy i anfantais economaidd-gymdeithasol fel rhan o’u penderfyniadau strategol;
  • Ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn llawn i mewn i ddeddfwriaeth Cymru; a
  • Gweithredu’n llawn Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a chyflwyno Strategaeth Genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol erbyn Tachwedd 2021.

Mae modd darllen ein herthyglau blaenorol am gyraddoldeb a hawliau dynol yma.


Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.