'Cyrraedd y nod'? Sut y mae Llywodraeth Cymru yn targedu cyllid a chymorth ychwanegol i gyrraedd disgyblion dan anfantais ac ysgolion sy'n tanberfformio?

Cyhoeddwyd 01/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth Cymru yn targedu adnoddau drwy'r Grant Datblygu Disgyblion (GDD) wrth fynd i'r afael â'r cysylltiad negyddol rhwng amgylchiadau dan anfantais disgyblion a'u cyrhaeddiad yn yr ysgol. Rhwng 2014 a 2017, darparodd Llywodraeth Cymru hefyd her a chymorth ychwanegol i rai ysgolion sy'n tanberfformio drwy ei rhaglen Her Ysgolion Cymru.

Bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod effeithiolrwydd y dull hwn yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 7 Tachwedd 2018 pan fyddant yn trafod adroddiad ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA), Cyrraedd y nod? Cyllid wedi’i dargedu i wella canlyniadau addysgol (PDF 1.91MB) ac Ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 712KB).

Ymchwiliad ac argymhellion y Pwyllgor

Canfu'r Pwyllgor gefnogaeth gyffredinol ar gyfer egwyddor cyllid wedi'i dargedu, ond gwnaeth 31 o argymhellion, gyda'r nod o fanteisio i'r eithaf ar y buddsoddiad yn y GDD a bwrw ymlaen i wella ysgolion yn dilyn Her Ysgolion Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn 24 o argymhellion, gan gynnwys pedwar ar y cyd. Derbyniwyd tri arall mewn egwyddor a gwrthodwyd pedwar.

Targedu'r GDD a'i ddefnyddio'n effeithiol

Mae'r GDD yn rhoi £1,150 ychwanegol i ysgolion fesul disgybl sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM). Canfu'r Pwyllgor fod y GDD, ar y cyfan, yn cael ei dargedu dim ond i gyrraedd disgyblion eFSM sy'n cyflawni'n isel neu ei fod yn cael ei ddefnyddio er mwyn mynd i'r afael â chyrhaeddiad isel yn gyffredinol. Dywedodd WISERD, a werthusodd y GDD i Lywodraeth Cymru mai camddealltwriaeth sylfaenol oedd hyn o sail gysyniadol y polisi, sef helpu'r holl ddisgyblion eFSM i gyrraedd eu potensial. Mae hyn yn cynnwys disgyblion eFSM mwy abl a thalentog a allai gyflawni hyd yn oed yn uwch oni bai am amddifadedd. Ysgrifennodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, at ysgolion yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor i'w hatgoffa o hyn.

Clywodd y Pwyllgor hefyd gan Estyn fod dau draean o ysgolion yn defnyddio'r GDD yn effeithiol. Caiff £94 miliwn ei fuddsoddi'n flynyddol yn y GDD, felly argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y pedwar consortiwm addysg rhanbarthol yn rhagweithiol o ran gwneud y gorau o'r effaith a'r gwerth am yr arian hwn.

Pa ddisgyblion eFSM sy'n gymwys? GDD 'Ever 2'?

Mae tri o'r argymhellion a wrthodwyd yn ymwneud â sut y cyfrifir nifer y disgyblion eFSM i ddyrannu'r GDD:

  • O 2018-19, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion dargedu'r GDD i gyrraedd disgyblion eFSM yn y naill neu'r llall o'r ddwy flynedd flaenorol, er mai dim ond ar sail cyfrifiad eFSM y flwyddyn ddiweddaraf y mae'n cyllido ysgolion. Mae hyn yn cyferbynnu â'r sefyllfa yn Lloegr lle mae dyraniadau ysgolion o'r Premiwm Disgyblion 'Ever 6' yn seiliedig ar nifer y disgyblion eFSM ar unrhyw adeg yn ystod y chwe blynedd diwethaf. Tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith mai dim ond 'Ever 2' yw'r GDD mewn gwirionedd o ran pa ddisgyblion y gellir eu targedu, nid o ran faint o arian a roddir i ysgolion. Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â hyn.
  • Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn ystyried ystod o gyfnodau amser o ran cymhwystra eFSM ar gyfer targedu'r GDD, er enghraifft disgyblion sydd wedi bod yn eFSM yn ystod y ddwy, y tair, y pedair neu'r pum mlynedd diwethaf.
  • Roedd y Pwyllgor hefyd yn poeni y byddai penderfyniad Llywodraeth Cymru i osod dyraniadau GDD 2018-19 a 2019-20 ysgolion yn ôl eu cyfrifiad eFSM yn 2016 yn rhoi ysgolion â lefel eFSM uwch yn 2017 neu 2018 dan anfantais. Gan gydnabod sail resymegol Llywodraeth Cymru bod cyfrifiadau eFSM 2016 yn uwch yn gyffredinol, argymhellodd y Pwyllgor ddefnyddio ffigwr 2016 neu'r diweddaraf sydd ar gael, p'un bynnag sydd uchaf.

Cyrhaeddiad disgyblion eFSM

Hyd at 2016

Culhaodd y bwlch o ran cyrhaeddiad disgyblion eFSM a disgyblion nad ydynt yn eFSM rhwng 2010 a 2016: o 34.3 i 17.4 pwynt canran ar gyfer trothwy Lefel 2 (5 TGAU A *-C neu fwy neu'r cymwysterau galwedigaethol cyfatebol) ac o 33.9 i 31.2 pwynt canran ar gyfer trothwy cynwysedig Lefel 2 (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg).

Fodd bynnag, oherwydd i'r duedd hon ddechrau cyn cyflwyno'r GDD yn 2012-13, ynghyd â thystiolaeth Estyn na fu newid sylweddol, gofynnodd y Pwyllgor a fu digon o gynnydd o ystyried maint buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y GDD. (Am ragor o ddata a sylwadau ar y bwlch cyrhaeddiad eFSM/dim eFSM gyda threigl amser, gweler pennod 7 o adroddiad y Pwyllgor (PDF 1.91MB) a phennod 2 o'n cyhoeddiad ni, sef Data cyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4.)

2017 a 2018

Gwnaeth Llywodraeth Cymru newidiadau i fesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 yn 2017, er mwyn mynd i'r afael â cheisiadau gormodol am gymwysterau galwedigaethol ac atal ysgolion rhag twyllo'r system fel y crybwyllwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion o'r blaen (PDF 353KB).

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod y newidiadau'n golygu na ellir cymharu data cyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4 2017 â blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, ehangodd y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion eFSM a rhai nad ydynt yn eFSM rhwng 2016 a 2017 (o 17.4 i 32.2 pwynt canran ar gyfer trothwy Lefel 2 ac o 31.2 i 32.4 pwynt canran ar gyfer trothwy cynwysedig Lefel 2). Derbyniodd Ysgrifennydd y Cabinet fod disgyblion eFSM yn llai abl i wrthsefyll y newidiadau na'u cyfoedion.

Roedd y Pwyllgor yn pryderu bod y newidiadau i fesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 wedi cael 'effaith annheg ac anffafriol' ar garfan eFSM 2017. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru 'ymchwilio ar fyrder' a 'dysgu gwersi o hyn cyn gynted â phosibl a’u rhoi ar waith', gan ofyn sut y cafodd y risgiau i garfan 2018 eu lliniaru, o ystyried na chaiff mesurau perfformiad interim newydd eu defnyddio tan haf 2019. Mae data cyrhaeddiad Dros Dro Cyfnod Allweddol 4 2018 yn dangos bod y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion eFSM a'r rhai nad ydynt yn eFSM bron yn union yr un peth ag yn 2017, felly mae'n parhau i fod yn ehangach na 2016 a chyn hynny, o leiaf ar y telerau y mae bellach yn cael ei fesur.

Ymatebodd (PDF 712KB) Llywodraeth Cymru i bedwar o argymhellion y Pwyllgor ar gyrhaeddiad disgyblion eFSM ar y cyd a dywedodd y bydd yn rhoi papur tystiolaeth i'r Pwyllgor yn y Flwyddyn Newydd ar ôl i ganlyniadau TGAU dilys 2018 gael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr.

Y GDD i Blant sy'n Derbyn Gofal a phlant mabwysiedig

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi arian GDD i'r pedwar consortiwm addysgol rhanbarthol er mwyn cefnogi canlyniadau addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal a phlant mabwysiedig. Canfu'r Pwyllgor mai 'cymharol ychydig o bwyslais' a roddwyd i'r agwedd hon ar y GDD sydd, tan yn ddiweddar, wedi bod yn 'gymharol anstrategol'. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru roi sylw priodol i werthusiad ICF Consulting (i'w gyhoeddi yr hydref hwn) i sicrhau dull strategol ac effeithiol.

Tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith bod y newidiadau i fesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 wedi effeithio'n anghymesur ar Blant sy'n Derbyn Gofal yn dilyn y cynnydd hyd at 2016 wrth gulhau'r bwlch rhwng eu cyrhaeddiad hwy a chyrhaeddiad eu cyfoedion, fel gyda disgyblion eFSM, a bod y bwlch wedi ehangu eto ers hynny. (I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler adran 8.2 o adroddiad y Pwyllgor.(PDF 1.91MB) Dyma ffeithlun sy'n dangos, er bod y Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ddyrannu ar sail nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal, na chaiff dim arian ei ddyrannu yn ôl nifer y plant mabwysiedig. Er bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gonsortia hefyd dargedu'r GDD i gyrraedd plant mabwysiedig, dim ond ar sail nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal y caiff y swm, sef £1,150 y pen, ei ddyrannu. Ar hyn o bryd, mae tua 4,000 o Blant sy'n Derbyn Gofal yng Nghymru. Mae amcangyfrifon, gan gynnwys rhai Adoption UK Cymru, yn nodi bod 3,000-3,500 o blant oedran ysgol mabwysiedig ychwanegol.

Mynegodd y Pwyllgor bryder am hyn am ddau reswm. Naill ai nid yw'r GDD yn cyrraedd y 3,000-3,500 o blant mabwysiedig y bwriedir iddo fod o fudd iddynt neu, os ydyw, mae'n cael ei wanhau bron 50 y cant fesul plentyn cymwys. Cyferbynnodd y Pwyllgor hyn â'r sefyllfa yn Lloegr lle mae Llywodraeth y DU yn ariannu'r Premiwm Disgyblion ar sail £2,300 fesul Plentyn sy'n Derbyn Gofal a phlentyn mabwysiedig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn, mewn egwyddor, argymhelliad y Pwyllgor ei bod yn gweithio gyda rhieni i nodi plant mabwysiedig fel y gallant gael cymorth GDD. Fodd bynnag, mae wedi gwrthod yr argymhelliad y dylid cyllido'r GDD fesul Plentyn sy'n Derbyn Gofal a phlentyn mabwysiedig oherwydd yr hyn y mae'n galw'n ddiffyg data, er y bydd yn parhau i adolygu hyn.

Her Ysgolion Cymru

Gwariwyd tua £40 miliwn ar Her Ysgolion Cymru rhwng mis Medi 2014 a mis Gorffennaf 2017, gyda 39 o ysgolion yn derbyn cyfuniad o gyllid wedi'i dargedu, cyngor, her a chymorth. Canfu'r Pwyllgor fod cynnydd yr ysgolion a gymerodd ran yn 'amrywiol' a daeth i'r casgliad bod lefel ymgysylltiad y consortiwm rhanbarthol a newidiadau i uwch-arweinwyr ysgol yn ffactorau hanfodol i lefel y llwyddiant. (Am ragor o ddata a sylwadau ar y bwlch cyrhaeddiad, gweler pennod 10 o adroddiad y Pwyllgor (PDF 1.91MB) a phennod 3 o'n cyhoeddiad ni, sef Data cyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4.)

Roedd y Pwyllgor yn feirniadol o benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i Her Ysgolion Cymru cyn i'r gwerthusiad a gomisiynodd gael ei gwblhau. Roedd Llywodraeth Cymru o'r farn o hyd y byddai'r rhaglen bob amser yn 'gyfyngedig o ran amser' ac, mewn gwirionedd, cafodd ei hestyn o ddwy i dair blynedd. Fodd bynnag, dywedodd yr Athro Mel Ainscow, Hyrwyddwr Her Ysgolion Cymru Llywodraeth Cymru ar y pryd, wrth y Pwyllgor ei bod yn sicr yn amlwg, yn ei farn ef, ar ôl i Kirsty Williams ddod yn Ysgrifennydd y Cabinet, nad oedd y rhaglen yn rhan greiddiol o'r agenda a'i bod yn 'cael ei rhoi i’r naill ochr', fel bod 'gweithgareddau yn y drydedd flwyddyn wedi pylu’n raddol'.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor fod Her Ysgolion Cymru 'wedi cyflawn ei diben', drwy gefnogi ysgolion penodol gan ddatblygu capasiti’r consortia rhanbarthol ar adeg pan oeddent yn eu babandod i wella ysgolion. Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gwerthuso sut y mae consortia rhanbarthol yn darparu her a chymorth i ysgolion y mae angen iddynt wella a'i bod yn parhau i fod yn wyliadwrus i golli unrhyw fomentwm posibl mewn ysgolion sy'n cymryd rhan yn Her Ysgolion Cymru.

Materion ariannu ysgolion ehangach

Tynnodd yr ymchwiliad sylw at rai materion cyllido ehangach; yn gyntaf, digonolrwydd cyllidebau ysgolion. I rai arweinwyr ysgol (PDF 266KB), mae cyllid wedi'i dargedu, megis y DGG, yn 'celu’r ffaith nad yw cyllideb ysgolion yn ddigonol' ac yn 'llenwi bylchau' ynddi. Oherwydd hyn, yn rhannol, lansiodd y Pwyllgor PPIA ymchwiliad polisi i ariannu ysgolion.

Yn ail, fel y nododd y Pwyllgor yn ei adroddiad (adran 13.2), mae dod â Her Ysgolion Cymru i ben wedi golygu bod £15 miliwn wedi'i golli'n flynyddol o gyllideb addysg Llywodraeth Cymru. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y gallai hyn godi amheuon ynghylch ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i ddarparu £100 miliwn ychwanegol er mwyn codi safonau ysgolion yn ystod y Cynulliad hwn (2016-2021).

Sut i ddilyn y ddadl

Mae'r ddadl gan Aelodau'r Cynulliad wedi'i threfnu ar gyfer dydd Mercher 7 Tachwedd 2018. Darlledir y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar wefan Cofnod Trafodion y Cynulliad.


Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru