Mae Llywodraeth Cymru yn targedu adnoddau drwy'r Grant Datblygu Disgyblion (GDD) wrth fynd i'r afael â'r cysylltiad negyddol rhwng amgylchiadau dan anfantais disgyblion a'u cyrhaeddiad yn yr ysgol. Rhwng 2014 a 2017, darparodd Llywodraeth Cymru hefyd her a chymorth ychwanegol i rai ysgolion sy'n tanberfformio drwy ei rhaglen Her Ysgolion Cymru.
Bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod effeithiolrwydd y dull hwn yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 7 Tachwedd 2018 pan fyddant yn trafod adroddiad ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA), Cyrraedd y nod? Cyllid wedi’i dargedu i wella canlyniadau addysgol (PDF 1.91MB) ac Ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 712KB).
Ymchwiliad ac argymhellion y Pwyllgor
Canfu'r Pwyllgor gefnogaeth gyffredinol ar gyfer egwyddor cyllid wedi'i dargedu, ond gwnaeth 31 o argymhellion, gyda'r nod o fanteisio i'r eithaf ar y buddsoddiad yn y GDD a bwrw ymlaen i wella ysgolion yn dilyn Her Ysgolion Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn 24 o argymhellion, gan gynnwys pedwar ar y cyd. Derbyniwyd tri arall mewn egwyddor a gwrthodwyd pedwar.
Targedu'r GDD a'i ddefnyddio'n effeithiol
Mae'r GDD yn rhoi £1,150 ychwanegol i ysgolion fesul disgybl sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM). Canfu'r Pwyllgor fod y GDD, ar y cyfan, yn cael ei dargedu dim ond i gyrraedd disgyblion eFSM sy'n cyflawni'n isel neu ei fod yn cael ei ddefnyddio er mwyn mynd i'r afael â chyrhaeddiad isel yn gyffredinol. Dywedodd WISERD, a werthusodd y GDD i Lywodraeth Cymru mai camddealltwriaeth sylfaenol oedd hyn o sail gysyniadol y polisi, sef helpu'r holl ddisgyblion eFSM i gyrraedd eu potensial. Mae hyn yn cynnwys disgyblion eFSM mwy abl a thalentog a allai gyflawni hyd yn oed yn uwch oni bai am amddifadedd. Ysgrifennodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, at ysgolion yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor i'w hatgoffa o hyn.
Clywodd y Pwyllgor hefyd gan Estyn fod dau draean o ysgolion yn defnyddio'r GDD yn effeithiol. Caiff £94 miliwn ei fuddsoddi'n flynyddol yn y GDD, felly argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y pedwar consortiwm addysg rhanbarthol yn rhagweithiol o ran gwneud y gorau o'r effaith a'r gwerth am yr arian hwn.
Pa ddisgyblion eFSM sy'n gymwys? GDD 'Ever 2'?
Mae tri o'r argymhellion a wrthodwyd yn ymwneud â sut y cyfrifir nifer y disgyblion eFSM i ddyrannu'r GDD:
- O 2018-19, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion dargedu'r GDD i gyrraedd disgyblion eFSM yn y naill neu'r llall o'r ddwy flynedd flaenorol, er mai dim ond ar sail cyfrifiad eFSM y flwyddyn ddiweddaraf y mae'n cyllido ysgolion. Mae hyn yn cyferbynnu â'r sefyllfa yn Lloegr lle mae dyraniadau ysgolion o'r Premiwm Disgyblion 'Ever 6' yn seiliedig ar nifer y disgyblion eFSM ar unrhyw adeg yn ystod y chwe blynedd diwethaf. Tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith mai dim ond 'Ever 2' yw'r GDD mewn gwirionedd o ran pa ddisgyblion y gellir eu targedu, nid o ran faint o arian a roddir i ysgolion. Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â hyn.
- Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn ystyried ystod o gyfnodau amser o ran cymhwystra eFSM ar gyfer targedu'r GDD, er enghraifft disgyblion sydd wedi bod yn eFSM yn ystod y ddwy, y tair, y pedair neu'r pum mlynedd diwethaf.
- Roedd y Pwyllgor hefyd yn poeni y byddai penderfyniad Llywodraeth Cymru i osod dyraniadau GDD 2018-19 a 2019-20 ysgolion yn ôl eu cyfrifiad eFSM yn 2016 yn rhoi ysgolion â lefel eFSM uwch yn 2017 neu 2018 dan anfantais. Gan gydnabod sail resymegol Llywodraeth Cymru bod cyfrifiadau eFSM 2016 yn uwch yn gyffredinol, argymhellodd y Pwyllgor ddefnyddio ffigwr 2016 neu'r diweddaraf sydd ar gael, p'un bynnag sydd uchaf.
Cyrhaeddiad disgyblion eFSM
Hyd at 2016
Culhaodd y bwlch o ran cyrhaeddiad disgyblion eFSM a disgyblion nad ydynt yn eFSM rhwng 2010 a 2016: o 34.3 i 17.4 pwynt canran ar gyfer trothwy Lefel 2 (5 TGAU A *-C neu fwy neu'r cymwysterau galwedigaethol cyfatebol) ac o 33.9 i 31.2 pwynt canran ar gyfer trothwy cynwysedig Lefel 2 (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg).
Fodd bynnag, oherwydd i'r duedd hon ddechrau cyn cyflwyno'r GDD yn 2012-13, ynghyd â thystiolaeth Estyn na fu newid sylweddol, gofynnodd y Pwyllgor a fu digon o gynnydd o ystyried maint buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y GDD. (Am ragor o ddata a sylwadau ar y bwlch cyrhaeddiad eFSM/dim eFSM gyda threigl amser, gweler pennod 7 o adroddiad y Pwyllgor (PDF 1.91MB) a phennod 2 o'n cyhoeddiad ni, sef Data cyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4.)
2017 a 2018
Gwnaeth Llywodraeth Cymru newidiadau i fesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 yn 2017, er mwyn mynd i'r afael â cheisiadau gormodol am gymwysterau galwedigaethol ac atal ysgolion rhag twyllo'r system fel y crybwyllwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion o'r blaen (PDF 353KB).
Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod y newidiadau'n golygu na ellir cymharu data cyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4 2017 â blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, ehangodd y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion eFSM a rhai nad ydynt yn eFSM rhwng 2016 a 2017 (o 17.4 i 32.2 pwynt canran ar gyfer trothwy Lefel 2 ac o 31.2 i 32.4 pwynt canran ar gyfer trothwy cynwysedig Lefel 2). Derbyniodd Ysgrifennydd y Cabinet fod disgyblion eFSM yn llai abl i wrthsefyll y newidiadau na'u cyfoedion.
Roedd y Pwyllgor yn pryderu bod y newidiadau i fesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 wedi cael 'effaith annheg ac anffafriol' ar garfan eFSM 2017. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru 'ymchwilio ar fyrder' a 'dysgu gwersi o hyn cyn gynted â phosibl a’u rhoi ar waith', gan ofyn sut y cafodd y risgiau i garfan 2018 eu lliniaru, o ystyried na chaiff mesurau perfformiad interim newydd eu defnyddio tan haf 2019. Mae data cyrhaeddiad Dros Dro Cyfnod Allweddol 4 2018 yn dangos bod y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion eFSM a'r rhai nad ydynt yn eFSM bron yn union yr un peth ag yn 2017, felly mae'n parhau i fod yn ehangach na 2016 a chyn hynny, o leiaf ar y telerau y mae bellach yn cael ei fesur.
Ymatebodd (PDF 712KB) Llywodraeth Cymru i bedwar o argymhellion y Pwyllgor ar gyrhaeddiad disgyblion eFSM ar y cyd a dywedodd y bydd yn rhoi papur tystiolaeth i'r Pwyllgor yn y Flwyddyn Newydd ar ôl i ganlyniadau TGAU dilys 2018 gael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr.
Y GDD i Blant sy'n Derbyn Gofal a phlant mabwysiedig
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi arian GDD i'r pedwar consortiwm addysgol rhanbarthol er mwyn cefnogi canlyniadau addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal a phlant mabwysiedig. Canfu'r Pwyllgor mai 'cymharol ychydig o bwyslais' a roddwyd i'r agwedd hon ar y GDD sydd, tan yn ddiweddar, wedi bod yn 'gymharol anstrategol'. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru roi sylw priodol i werthusiad ICF Consulting (i'w gyhoeddi yr hydref hwn) i sicrhau dull strategol ac effeithiol.
Tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith bod y newidiadau i fesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 wedi effeithio'n anghymesur ar Blant sy'n Derbyn Gofal yn dilyn y cynnydd hyd at 2016 wrth gulhau'r bwlch rhwng eu cyrhaeddiad hwy a chyrhaeddiad eu cyfoedion, fel gyda disgyblion eFSM, a bod y bwlch wedi ehangu eto ers hynny. (I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler adran 8.2 o adroddiad y Pwyllgor.(PDF 1.91MB) Er bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gonsortia hefyd dargedu'r GDD i gyrraedd plant mabwysiedig, dim ond ar sail nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal y caiff y swm, sef £1,150 y pen, ei ddyrannu. Ar hyn o bryd, mae tua 4,000 o Blant sy'n Derbyn Gofal yng Nghymru. Mae amcangyfrifon, gan gynnwys rhai Adoption UK Cymru, yn nodi bod 3,000-3,500 o blant oedran ysgol mabwysiedig ychwanegol.
Mynegodd y Pwyllgor bryder am hyn am ddau reswm. Naill ai nid yw'r GDD yn cyrraedd y 3,000-3,500 o blant mabwysiedig y bwriedir iddo fod o fudd iddynt neu, os ydyw, mae'n cael ei wanhau bron 50 y cant fesul plentyn cymwys. Cyferbynnodd y Pwyllgor hyn â'r sefyllfa yn Lloegr lle mae Llywodraeth y DU yn ariannu'r Premiwm Disgyblion ar sail £2,300 fesul Plentyn sy'n Derbyn Gofal a phlentyn mabwysiedig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn, mewn egwyddor, argymhelliad y Pwyllgor ei bod yn gweithio gyda rhieni i nodi plant mabwysiedig fel y gallant gael cymorth GDD. Fodd bynnag, mae wedi gwrthod yr argymhelliad y dylid cyllido'r GDD fesul Plentyn sy'n Derbyn Gofal a phlentyn mabwysiedig oherwydd yr hyn y mae'n galw'n ddiffyg data, er y bydd yn parhau i adolygu hyn.
Her Ysgolion Cymru
Gwariwyd tua £40 miliwn ar Her Ysgolion Cymru rhwng mis Medi 2014 a mis Gorffennaf 2017, gyda 39 o ysgolion yn derbyn cyfuniad o gyllid wedi'i dargedu, cyngor, her a chymorth. Canfu'r Pwyllgor fod cynnydd yr ysgolion a gymerodd ran yn 'amrywiol' a daeth i'r casgliad bod lefel ymgysylltiad y consortiwm rhanbarthol a newidiadau i uwch-arweinwyr ysgol yn ffactorau hanfodol i lefel y llwyddiant. (Am ragor o ddata a sylwadau ar y bwlch cyrhaeddiad, gweler pennod 10 o adroddiad y Pwyllgor (PDF 1.91MB) a phennod 3 o'n cyhoeddiad ni, sef Data cyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4.)
Roedd y Pwyllgor yn feirniadol o benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i Her Ysgolion Cymru cyn i'r gwerthusiad a gomisiynodd gael ei gwblhau. Roedd Llywodraeth Cymru o'r farn o hyd y byddai'r rhaglen bob amser yn 'gyfyngedig o ran amser' ac, mewn gwirionedd, cafodd ei hestyn o ddwy i dair blynedd. Fodd bynnag, dywedodd yr Athro Mel Ainscow, Hyrwyddwr Her Ysgolion Cymru Llywodraeth Cymru ar y pryd, wrth y Pwyllgor ei bod yn sicr yn amlwg, yn ei farn ef, ar ôl i Kirsty Williams ddod yn Ysgrifennydd y Cabinet, nad oedd y rhaglen yn rhan greiddiol o'r agenda a'i bod yn 'cael ei rhoi i’r naill ochr', fel bod 'gweithgareddau yn y drydedd flwyddyn wedi pylu’n raddol'.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor fod Her Ysgolion Cymru 'wedi cyflawn ei diben', drwy gefnogi ysgolion penodol gan ddatblygu capasiti’r consortia rhanbarthol ar adeg pan oeddent yn eu babandod i wella ysgolion. Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gwerthuso sut y mae consortia rhanbarthol yn darparu her a chymorth i ysgolion y mae angen iddynt wella a'i bod yn parhau i fod yn wyliadwrus i golli unrhyw fomentwm posibl mewn ysgolion sy'n cymryd rhan yn Her Ysgolion Cymru.
Materion ariannu ysgolion ehangach
Tynnodd yr ymchwiliad sylw at rai materion cyllido ehangach; yn gyntaf, digonolrwydd cyllidebau ysgolion. I rai arweinwyr ysgol (PDF 266KB), mae cyllid wedi'i dargedu, megis y DGG, yn 'celu’r ffaith nad yw cyllideb ysgolion yn ddigonol' ac yn 'llenwi bylchau' ynddi. Oherwydd hyn, yn rhannol, lansiodd y Pwyllgor PPIA ymchwiliad polisi i ariannu ysgolion.
Yn ail, fel y nododd y Pwyllgor yn ei adroddiad (adran 13.2), mae dod â Her Ysgolion Cymru i ben wedi golygu bod £15 miliwn wedi'i golli'n flynyddol o gyllideb addysg Llywodraeth Cymru. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y gallai hyn godi amheuon ynghylch ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i ddarparu £100 miliwn ychwanegol er mwyn codi safonau ysgolion yn ystod y Cynulliad hwn (2016-2021).
Sut i ddilyn y ddadl
Mae'r ddadl gan Aelodau'r Cynulliad wedi'i threfnu ar gyfer dydd Mercher 7 Tachwedd 2018. Darlledir y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar wefan Cofnod Trafodion y Cynulliad.
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru