Y datblygiadau diweddaraf o ran y trafodaethau Brexit

Cyhoeddwyd 02/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 5 Tachwedd 2018, bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd ac ymateb Llywodraeth Cymru.

Gallwch ddilyn y sesiwn yn fyw neu wylio recordiad ohoni ar www.senedd.tv. 17 Medi 2018 oedd y tro diwethaf i'r Prif Weinidog ddod i gyfarfod y Pwyllgor i roi diweddariad.

Mae'r Adroddiad Monitro Brexit diweddaraf gan y Gwasanaeth Ymchwil yn cynnwys manylion y negodiadau hyd at 11 Hydref 2018. Mae'r erthygl hon yn rhoi diweddariad o'r hyn sydd wedi digwydd ers hynny.

Uwchgynhadledd Cyngor yr UE

Y digwyddiad mwyaf arwyddocaol yn y negodiadau ers 11 Hydref oedd Uwchgynhadledd Cyngor yr UE a gynhaliwyd ar 17 ac 18 Hydref, lle cyfarfu penaethiaid holl aelod-wladwriaethau'r UE i drafod Brexit, ymhlith materion eraill.

Ar 18 Hydref, cafwyd datganiad gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, yn nodi nad oedd digon o gynnydd wedi'i wneud i gwblhau cytundeb, ac meddai y byddai'n barod i gynnull cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd i drafod Brexit pan fyddai negodwr yr UE yn datgan bod digon o gynnydd wedi'i wneud.

Ar 22 Hydref, dywedodd Prif Weinidog y DU, Theresa May, fod 95 y cant o'r Cytundeb Ymadael bellach wedi'i gwblhau – cynnydd o'r 80 y cant y cyfeiriwyd ato dros yr haf – a rhoddodd ddiweddariad ar y 5 y cant sy'n weddill i'w gwblhau. Cadarnhaodd mai'r trefniadau o ran y ffin yn Iwerddon yw'r 5 y cant hwnnw. Dywedodd:

[We must make the commitment to] create an option to extend the implementation period as an alternative to the backstop. I have not committed to extending the implementation period. I do not want to extend the implementation period, and I do not believe that extending it will be necessary. What I am saying is that if, at the end of 2020, our future relationship is not quite ready, the proposal is that the UK would be able to make a sovereign choice between the UK-wide customs backstop or a short extension of the implementation period.

Cyfeiriodd Donald Tusk yntau at y posibilrwydd hwn:

[…] if the UK decided that an extension of the transition period would be helpful to reach a deal, I am sure that the leaders would be ready to consider it positively.

Ar 22 Hydref, cyhoeddodd Grŵp Cynghori ar Ewrop Llywodraeth Cymru gofnodion ar gyfer ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Medi. Mae'r cofnodion hyn yn nodi y byddai estyniad byr i'r cyfnod gweithredu yn cyd-fynd â galwad y Grŵp ar y DU i 'ofyn i'r UE gynnig mwy o hyblygrwydd o ran amseru i sicrhau cytundeb manteisiol i'r ddwy ochr rhwng y DU a'r UE'. Ategwyd hyn gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, mewn datganiad yr un diwrnod.

Roedd si cyn y cyfarfod y byddai cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal gan Gyngor yr UE ym mis Tachwedd i gwblhau trefniadau terfynol y Cytundeb Ymadael a'r Datganiad Gwleidyddol cysylltiedig (nad oes iddo rym cyfreithiol) ynghylch perthynas y DU â'r UE yn y dyfodol. Ni wyddys bellach a fydd y cyfarfod arbennig fis Tachwedd yn cael ei gynnal. Fodd bynnag, mewn llythyr ar 24 Hydref, dywedodd Dominic Raab, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd:

[I am] happy to give evidence to the [House of Commons, Exiting the EU] Committee when a deal [on the Withdrawal Agreement] is finalised, and currently expect 21 November to be suitable.

Safbwynt Llywodraeth Cymru

Dywedodd y Prif Weinidog pan oedd gerbron y Pwyllgor ar 17 Medi nad oedd Llywodraeth y DU yn ymgysylltu digon â Llywodraeth Cymru. Dywedodd:

I think part of the problem is that there are elements in the UK Government that don't see the devolved governments as equals and don’t understand the idea of a discussion with devolved governments…it is hugely important the UK Government understands that, in many areas, devolution operates, and therefore they will need our input into how the common rulebook will function in the future.

Ymddangosodd Robin Walker AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd gerbron y Pwyllgor ar 11 Hydref. Dywedodd:

We want to ensure that we've taken on board the views of the devolved administrations, […] but it's not a situation in which, politically, they can necessarily drive the UK position on these issues more broadly, and that's the nature of the discussions we sometimes have to have in these forums: to explain where we agree, where we disagree, where there is important information we can take on board, but also where we may not reach agreement.

Cynhaliwyd pumed cynhadledd y Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 25 Hydref. Yn dilyn y cyfarfod, cyhoeddwyd datganiad ar y cyd ynghylch y trefniadau rhynglywodraethol cyfredol gan gadarnhau unwaith yn rhagor mai barn unfrydol y pwyllgorau oedd nad yw Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yn addas at ei ddiben. Fodd bynnag, nid oedd Robin Walker AS yn cytuno â chynnig Llywodraeth Cymru i greu Cyngor Gweinidogion, ac meddai fod strwythurau gwaith ychwanegol wedi cael eu creu:

I think we've also recognised […] that there needs to be additional machinery to support this process, and the ministerial forum on EU negotiations […] has been set up with the specific aim of reporting back to JMC(EN) on upcoming negotiations on the future relationship.

Yn fwy diweddar, ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething AC, a'i swyddog cyfatebol yn yr Alban, Jeane Freeman ASA, lythyr ar y cyd at Weinidog Mewnfudo Llywodraeth y DU, Caroline Nokes AS. Yn y llythyr, gwnaethant ofyn i Lywodraeth y DU ailystyried ei phenderfyniad i beidio â chynnwys aelodau teulu yng nghynllun preswylio sefydlog yr UE, gan gynnig cynnal rhaglen beilot i'r perwyl hwnnw yng Nghymru a'r Alban. Dywedasant wrth Lywodraeth y DU, pe na byddai'n gwneud hynny, na fyddent yn teimlo'n gyfforddus wrth wneud ymdrech ragweithiol i hybu'r cynllun i staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a'r Alban.

Mae'r llythyr hefyd yn datgan:

[…] earlier ministerial engagement would have provided a more timely opportunity to discuss and agree matters such as including family members in the [EU settlement scheme] while still in its planning stages.

Am ragor o wybodaeth ynghylch y graddau y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu dylanwadu ar safbwynt Llywodraeth y DU mewn perthynas â Brexit hyd yma, darllenwch erthygl ddiweddar y Gwasanaeth Ymchwil ar y pwnc.

Datblygiadau yn y dyfodol

Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt i geisio canfod datrysiad i fater y ffin yn Iwerddon. Disgwylir i gyfarfod nesaf y Cyngor Ewropeaidd gael ei gynnal ar 13 a 14 Rhagfyr, ac awgrymwyd y byddai'n ymarferol rhoi sêl bendith ar Gytundeb Ymadael erbyn y dyddiadau hynny, gan ganiatáu digon o amser i'r Cytundeb hwnnw gael ei gymeradwyo yn Senedd y DU a Senedd yr UE.

Gellir gweld amcangyfrif o linell amser Brexit dros y misoedd nesaf yn y ffeithlun a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gwasanaeth Ymchwil. Os ydych chi am gael clywed y diweddaraf ynghylch beth y mae'r Cynulliad yn ei wneud o ran Brexit, gallwch ddilyn y dudalen newydd Brexit yng Nghymru.


Erthygl gan Gethin Davies, Cynulliad Cenedlaethol Cymru