Dan ofal pwy?

Cyhoeddwyd 07/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae bron i 6,000 o blant bellach yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol Cymru: mwy nag erioed o'r blaen a bron i ddwbl y nifer ugain mlynedd yn ôl.

Yn ystod y flwyddyn hyd at ddiwedd mis Mawrth 2017:

  • Aeth mwy na chwe deg y cant o'r plant a oedd yn dechrau derbyn gofal i ofal oherwydd camdriniaeth neu esgeulustod...
  • Cafodd deg y cant o blant a oedd yn derbyn gofal dri neu fwy o leoliadau yn ystod y deuddeg mis blaenorol (624 o blant).
  • Cafodd saith deg pedwar y cant o blant a oedd yn derbyn gofal eu lletya mewn lleoliadau gofal maeth.

Ffocws yn y Cynulliad

Ers dyddiau cynnar y Cynulliad bu cefnogaeth drawsbleidiol i'r angen i wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Bu ystod o strategaethau sy'n ceisio gwneud gwelliannau gyda chonsensws parhaus bod angen gwneud mwy.

Ar 13 Tachwedd 2018 disgwylir i'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol wneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 'Wella Canlyniadau i Blant: Lleihau'r Angen i Blant fynd i Ofal, a gwaith y Grŵp Cynghori Gweinidogion.

Heddiw, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cyhoeddi ei fwriad, yn amodol ar ymgynghoriad, i gyflwyno deddfwriaeth i eithrio pobl sy’n gadael gofal rhag y dreth gyngor o 1 Ebrill 2019.

Heddiw hefyd fe fydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ‘Gyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol’. Roedd hyn yn cynnwys naw argymhelliad penodol ynghylch y cyllid a dargedwyd ar gyfer gwella canlyniadau addysgol plant sy'n derbyn gofal a phlant wedi’u mabwysiadu.

Ceisiadau gofal cyhoeddus yng Nghymru

Os oes gan awdurdod lleol bryderon difrifol am ddiogelwch neu les plentyn, gall wneud cais i'r llys i gymryd y plentyn i ofal. Dros y degawd diwethaf, mae ceisiadau am orchmynion gofal wedi mwy na dyblu yng Nghymru a Lloegr. Yng Nghymru, mae 95 o bob 10,000 o blant yn derbyn gofal, o'i gymharu â 62 o bob 10,000 yn Lloegr. Mae'r gyfradd hon yn amrywio rhwng awdurdodau lleol Cymru ac er y gellir egluro hyn yn rhannol gan lefelau amddifadedd, nid yw'r ffactor hwn yn esbonio'r gwahaniaethau daearyddol yn llawn.

Mewn ymateb i'r hyn y cyfeiriwyd ato fel 'argyfwng uniongyrchol y nifer cynyddol o achosion gofal cyfraith gyhoeddus', ceisiodd Adroddiad Adolygu’r Argyfwng ym maes Gofal 2018 nodi newidiadau allweddol posibl y gellid eu gwneud i ddarparu dulliau cynaliadwy o reoli'r galw o fewn y systemau gofal a chyfiawnder teuluol mewn ffyrdd a fyddai'n sicrhau’r canlyniadau gorau i blant, a mynd i’r afael â hwy. Dywedodd:

In 2017 in England and Wales local authorities had larger numbers of children in care than ever before. The previous year the courts had record numbers of applications for care proceedings. There are serious concerns about whether the child welfare and family justice systems can be sustained with the curent levels of demand.

Rhoddodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol araith yn Lansiad yr Adolygiad o’r Argyfwng ym maes Gofal ym mis Mehefin 2018.

Gwasanaethau ar ffiniau gofal

Wrth i’r duedd tuag at i fyny yn nifer y plant sy'n mynd i ofal awdurdodau lleol barhau, bu ffocws cynyddol yn y blynyddoedd diwethaf ar 'wasanaethau ar ffiniau gofal'. Ymyriadau neu wasanaethau yw'r rhain sy'n ceisio lleihau’n ddiogel nifer y plant sydd angen llety awdurdod lleol trwy ganolbwyntio ar wasanaethau atal a chymorth i deuluoedd.

Yn 2017-18, dyrannodd Llywodraeth Cymru £5 miliwn i ehangu 'Gwasanaethau ar Ffiniau Gofal' a £850,000 i ehangu'r prosiect Adlewyrchu ar draws Cymru sy'n ceisio lleihau nifer y plant sy'n cael eu cymryd i ofal trwy dorri’r cylch o ail-feichiogi ac achosion gofal rheolaidd. Trosglwyddwyd yr arian hwn i’r Grant Cynnal Refeniw llywodraeth leol yn 2018-19.

A yw gwariant cyhoeddus ar blant sy'n derbyn gofal yn arwain at ganlyniadau da?

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cynnal ymchwiliad i'r mater penodol hwn. Mae disgwyl iddo adrodd ym mis Tachwedd 2018 ynghylch a yw gwasanaethau cyhoeddus yn darparu gwerth am arian, gan ganolbwyntio ar a yw'n arwain at ganlyniadau da ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

Yr hyn yr ydym eisoes yn ei wybod yw bod £ 284 miliwn wedi ei wario ar blant sy'n derbyn gofal gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol Cymru yn 2017-18. Mae hyn yn cymharu â £ 147 miliwn ddeng mlynedd yn ôl yn 2007-08. Mae hyn yn adlewyrchu nifer cynyddol y plant a'r dyletswyddau cyfreithiol sydd gan awdurdodau lleol.

Nid yw hyn yn cynnwys gwariant cyhoeddus arall, fel iechyd ac addysg. Nid yw chwaith yn adlewyrchu cyllid canolog Llywodraeth Cymru, er enghraifft, y £ 4.6 miliwn a ddyrannwyd i'r Grant Datblygu Disgyblion (PDG) ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn 2018-19 gyda'r nod o wella eu canlyniadau addysgol.

Grŵp Cynghori'r Gweinidog

Grŵp Cynghori’r Gweinidog yw olynydd Llywodraeth Cymru i'r Grŵp Llywio Strategol Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant, a oedd yn goruchwylio cam cyntaf y datblygiad tuag at ddull gweithredu cenedlaethol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. Sefydlwyd y grŵp ar ôl etholiadau'r Cynulliad yn 2016 ac mae'n cael ei gadeirio gan David Melding AC. Mae gwaith y Grŵp yn canolbwyntio ar:

  • nodi camau cynnar ac ataliol i helpu i leihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal;
  • gwella canlyniadau i blant sydd eisoes mewn gofal
  • gwella canlyniadau i’r rhai sy'n gadael gofal.

Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru