Addysg

Beth sydd nesaf ar gyfer dysgu proffesiynol i athrawon?

Beth sydd nesaf ar gyfer dysgu proffesiynol i athrawon yng Nghymru? Dylem wybod mwy ddydd Mawrth 13 Tachwedd pan fydd disgwyl i Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar y 'Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol' (y Dull Cenedlaethol). Yn ei phapur diweddar ar gyllideb ddrafft 2019-20 (PDF 2MB) i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: Mae llwyddiant y cwricwlwm newydd yn dibynnu ar ein proffesiwn addysgu. Dyna pam fy mod yn llunio cynigion terfynol i fuddsoddi £15 miliwn mewn ysgolion a fydd yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol ag adnoddau da i baratoi ymarferwyr ar gyfer rhoi’r cwricwlwm newydd ar waith - bydd hyn yn ychwanegol at y cyllid y byddaf yn ei ddarparu yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall ar y cyllid hwn cyn bo hir. Cyn y cyhoeddiad hwnnw, mae'r blog hwn yn rhoi rhywfaint o gefndir i'r system gyfredol o ddarparu dysgu proffesiynol i athrawon yng Nghymru a'r symud tuag at ddiwygio a gwella'r system hyd yn hyn.

09 Tachwedd 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Beth sydd nesaf ar gyfer dysgu proffesiynol i athrawon yng Nghymru? Dylem wybod mwy ddydd Mawrth 13 Tachwedd pan fydd disgwyl i Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar y ‘Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol’ (y Dull Cenedlaethol). Yn ei phapur diweddar ar gyllideb ddrafft 2019-20 (PDF 2MB) i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Mae llwyddiant y cwricwlwm newydd yn dibynnu ar ein proffesiwn addysgu. Dyna pam fy mod yn llunio cynigion terfynol i fuddsoddi £15 miliwn mewn ysgolion a fydd yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol ag adnoddau da i baratoi ymarferwyr ar gyfer rhoi’r cwricwlwm newydd ar waith – bydd hyn yn ychwanegol at y cyllid y byddaf yn ei ddarparu yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall ar y cyllid hwn cyn bo hir.

Cyn y cyhoeddiad hwnnw, mae’r blog hwn yn rhoi rhywfaint o gefndir i’r system gyfredol o ddarparu dysgu proffesiynol i athrawon yng Nghymru a’r symud tuag at ddiwygio a gwella’r system hyd yn hyn.

Yr ymgyrch i ddatblygu dysgu proffesiynol athrawon

Dechreuodd newidiadau i ddysgu proffesiynol athrawon fel rhan o ddiwygiadau addysgol tairochrog yng Nghymru. Y ddau faes arall yw datblygu’r cwricwlwm newydd, gan ddisgwyl cyhoeddi fersiwn ddrafft ohono ym mis Ebrill 2019, a chyflwyno system addysg gychwynnol newydd i athrawon, a fydd yn dechrau hyfforddi ei fyfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2019. Lansiwyd y rhain yn 2015 gan Huw Lewis, y Gweinidog Addysg ar y pryd.

Mae Ysgrifennydd presennol y Cabinet dros Addysg yn bwrw ymlaen â’r diwygiadau hyn drwy gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru Addysg: cenhadaeth ein cenedl 2017-2021. Mae “datblygu proffesiwn addysg o safon uchel” yn un o “bedwar amcan galluogi” y genhadaeth newydd. Mae’r amcan hwn yn arbennig o berthnasol o ystyried canfyddiadau Estyn yn 2017 mai:

Ansawdd yr addysgu yw’r prif ddylanwad ar ba mor dda mae dysgwyr yn dysgu, ond dyma’r agwedd wannaf ar y ddarpariaeth ar draws y rhan fwyaf o feysydd addysg yng Nghymru.

I ddechrau, roedd y newidiadau i ddysgu proffesiynol wedi’u nodi fel ‘Bargen Newydd’ lle byddai gan bob athro hawl i hyfforddiant o’r radd flaenaf i’w gefnogi i addasu i’r newidiadau y byddai’r rhaglen ddiwygio ehangach yn eu cyflwyno. Byddai disgwyl i’r athrawon, wedyn, fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Ar y dechrau, gofynnwyd i nifer o ysgolion arloesi fod yn gyfrifol am ddatblygu dulliau newydd o ddysgu proffesiynol.

Dylanwadwyd ar y diwygiadau hyn, yn rhannol, gan adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2014, o’r enw: Improving Schools in Wales (PDF 4MB). Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y diffyg opsiynau ar gyfer dilyniant gyrfa a datblygiad proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysgu yng Nghymru. O ganlyniad, argymhellodd fod Llywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol:

Raise the status of the profession and commit to initial teacher training [… and] ensure quality continuous professional development at all career stages.

Mae’r Sefydliad, ar gais Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi asesiad polisi cyflym hefyd o daith diwygio addysg Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2017. Argymhellodd yr asesiad hwn  y dylid rhoi sylw pellach i bolisi o ran y canlynol:

[…] developing a national approach to professional learning across all career stages and build capacity for implementation of the new curriculum, focusing on teachers’ formative assessment and differentiated teaching skills.

Ar y pryd dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn ‘cymryd camau i roi nifer o’u hargymhellion ar waith… gan gynnwys cyflwyno trefn genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol ‘.

Nid dyma’r unig bolisi addysg yng Nghymru a ddylanwadwyd arno gan ymgysylltiad parhaus Llywodraeth Cymru â’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.

Gwaith craffu y Cynulliad ar y daith hyd yma

Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad ar Addysgu a Dysgu Proffesiynol Athrawon. Canfu’r adroddiad hwn ‘[nad] yw’r gweithlu addysg yn barod i’r cwricwlwm newydd gael ei weithredu ar hyn o bryd’ a disgwylir iddo gael ei gyflwyno’n genedlaethol o fis Medi 2022, ac argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru ymhlith pethau eraill:

  • archwilio sut i ddefnyddio dyddiau HMS yn well, gan roi amser i athrawon fyfyrio ar eu gwaith proffesiynol;
  • ystyried hybu rhagor o ddysgu arferion ymhlith cydweithwyr, ac annog mwy o gyfleoedd datblygu a hyfforddi o fewn yr ystafell ddosbarth, er mwyn sicrhau gwell cydbwysedd ar gyfer datblygu proffesiynol;
  • ystyried sefydlu system achredu sy’n sicrhau ansawdd y cyfleoedd datblygu proffesiynol sydd ar gael; a
  • sicrhau bod athrawon cyflenwi yn cael mynediad llawn at gyfleoedd datblygu proffesiynol.

Mewn egwyddor, derbyniodd Ysgrifennydd y Cabinet y tri argymhelliad cyntaf y tynnir sylw atynt uchod, a nododd ei fod yn gweithio tuag at y nodau hyn trwy amrywiol fentrau parhaus. Roedd yn derbyn bod angen i athrawon cyflenwi gael mynediad llawn at gyfleoedd dysgu proffesiynol a dywedodd fod gwaith ar y gweill i gynyddu mynediad at ddysgu i athrawon cyflenwi.

Beth y gwyddom ni eisoes am y ‘Dull Cenedlaethol’?

Mewn papur i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Tachwedd 2016 (PDF 565KB), pwysleisiodd Llywodraeth Cymru, er y byddai rhai ysgolion arloesi yn parhau i weithio ar ddatblygiad proffesiynol:

[Mae’r] Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg yn cael ei ailfrandio i ddatblygu portffolio o gymorth datblygiad proffesiynol a fydd yn gwella gallu’r gweithlu i gyflawni’r Cwricwlwm newydd.

Dywedodd yr un papur fod Llywodraeth Cymru yn gwario £5.65 miliwn yn 2017-18 ar ddatblygu ‘Cynnig Dysgu Proffesiynol cenedlaethol’ drwy’r ysgolion arloesi a’r consortia addysg rhanbarthol. Dywedodd papur Ysgrifennydd y Cabinet i’r Pwyllgor Plant Pobl Ifanc ac Addysg, ym mis Tachwedd 2017 mai £5.8 miliwn oedd cyllideb 2018-19 ar gyfer hyn.

Ymddengys fod y ffigurau hyn yn ymwneud yn benodol â datblygiad y Dull Cenedlaethol i Ddysgu Proffesiynol. Dim ond rhan o’r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar ddatblygiad athrawon a chymorth yn fwy cyffredinol yw hyn, sy’n cynnwys yn y flwyddyn ariannol gyfredol tua £19 miliwn o gyllideb benodol a £13 miliwn o’i hymrwymiad Rhaglen Lywodraethu 2016-2021 (PDF 200KB) i wario £100 miliwn ar godi safonau ysgolion. Bydd y £15 miliwn ychwanegol yn 2019-20 yn mynd i linell wariant benodedig ar gyfer datblygu a chefnogi athrawon.

Mewn gwybodaeth a ddarparwyd i Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (PDF 1MB) ei bod yn ‘canolbwyntio ar roi ar waith fethodoleg glir ar gyfer dysgu proffesiynol, a hynny wedi’i seilio ar y canlynol’:

  • arferion myfyriol
  • defnyddio data a thystiolaeth ymchwil yn effeithiol;
  • cydweithredu’n effeithiol; a
  • hyfforddi a mentora.

Yn yr un papur, soniodd Kirsty Williams am lansiad dull cenedlaethol cwbl integredig erbyn mis Medi 2018. Roedd ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn nodi adolygiad thematig arfaethedig Estyn hefyd ar ddysgu proffesiynol ‘ar ôl i’r drefn genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol gael ei rhoi ar waith yn llawn ym mis Medi 2018’. Mewn man arall, dywedodd y papur:

Bydd trefn genedlaethol gychwynnol ar gyfer dysgu proffesiynol ar gael yn 2018 a bydd trefn genedlaethol gwbl integredig ar gyfer dysgu proffesiynol yn barod o fis Ebrill 2020.

Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y ffaith y caiff y Dull Cenedlaethol ei weithredu mewn tri cham ym mis Ebrill 2018, Ebrill 2019 ac Ebrill 2020. Mae’n bosib y bydd datganiad sydd ar y gweill gan Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro cynnwys, model cyflwyno ac amserlenni’r ‘Dull Cenedlaethol’.

Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu

Bydd y Dull Cenedlaethol yn cael ei ategu gan y model Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu (SLO), a lansiwyd i ddechrau ym mis Tachwedd 2017, sydd wedi’i gynllunio i sicrhau bod dysgu a datblygu yn rhan annatod o’r system ysgolion. Y gobaith yw, wrth wneud hynny, y bydd ysgolion yn datblygu eu gallu i gyflwyno’r cwricwlwm ysgol newydd sy’n sylfaenol wahanol.

Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economiadd hefyd yn dylanwadu ar y model SLO trwy ei adroddiad ‘What makes a school a learning organisation?’ (PDF 1MB), a gyhoeddwyd yn 2016. At hynny, cyhoeddodd y Sefydliad adolygiad o’r adroddiad ‘Datblygu ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu yng Nghymru’ ym mis Hydref 2018. Un o brif ganfyddiadau’r adolygiad oedd:

Mae’n ymddangos bod y rhan fwyaf o ysgolion Cymru wedi gwneud cynnydd da o ran datblygu fel sefydliadau sy’n dysgu …… fodd bynnag, mae cyfran sylweddol o’r ysgolion yn dal i fod yn bell o wireddu’r amcan hwn.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet (PDF 6MB) y bydd yn adolygu adroddiad diweddaraf y Sefydliad a’r 27 o argymhellion y mae’n eu gwneud i Lywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol ac Estyn.

Sut i ddilyn y ddadl

Mae’r ddadl gan Aelodau’r Cynulliad wedi’i threfnu ar gyfer dydd Mawrth 13 Tachwedd 2018. Darlledir y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar dudalennau Cofnod y Trafodion ar wefan y Cynulliad.


Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru