Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd Brexit Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Economi

Y Cynulliad i drafod adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ddisodli ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru

Ar 14 Tachwedd, bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Cyllid Paratoadau ar gyfer disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru. Bydd nifer o benderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU dros y misoedd nesaf ar sut y caiff ffrydiau cyllido'r UE eu disodli, gan gynnwys a fydd Cymru'n parhau i dderbyn y £680 miliwn y flwyddyn y mae'n ei gael ar hyn o bryd o gronfeydd yr UE a pha lefel o reolaeth fydd gan Lywodraeth Cymru dros sut mae cyllid yn cael ei wario yng Nghymru.

09 November 2018

Darllenwch yr erthygl yma yn Gymraeg | View this post in Welsh

Ar 14 Tachwedd, bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Cyllid Paratoadau ar gyfer disodli ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru. Bydd nifer o benderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU dros y misoedd nesaf ar sut y caiff ffrydiau cyllido’r UE eu disodli, gan gynnwys a fydd Cymru’n parhau i dderbyn y £680 miliwn y flwyddyn y mae’n ei gael ar hyn o bryd o gronfeydd yr UE a pha lefel o reolaeth fydd gan Lywodraeth Cymru dros sut mae cyllid yn cael ei wario yng Nghymru.

Mae ein herthygl a gyhoeddwyd ym mis Medi 2018 yn rhoi cyflwyniad i gyllid yr UE a dderbynnir gan Gymru ar hyn o bryd, ac mae’n tynnu sylw at y materion a’r argymhellion allweddol o adroddiad y Pwyllgor, sydd hefyd wedi’u nodi yn y fideo isod. Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, ac ar ddatblygiadau allweddol ers cyhoeddi’r adroddiad.

Rydym wedi cyhoeddi dau flog arall yn ddiweddar ynghylch cyllid yr UE, sy’n ymdrin â materion sy’n berthnasol i’r ddadl. Cafodd ein herthygl ateb cwestiynau cyffredin am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ei chyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon, a chyhoeddwyd erthygl gennym ar fuddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit ym mis Hydref 2018, a oedd yn archwilio cynigion Llywodraeth Cymru ar sut y gallai hyn weithredu yn y dyfodol.

Sut y gwnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i argymhellion y Pwyllgor?

Croesawodd Llywodraeth Cymru adroddiad y Pwyllgor, gan ei alw’n gyfraniad pwysig ac amserol i’r ddadl ynghylch disodli cyllid yr Undeb Ewropeaidd. Derbyniodd bob un o’r 11 o argymhellion yn yr adroddiad, gan nodi eu bod yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch dyfodol ffrydiau cyllido’r UE. Ymhlith y pwyntiau allweddol o’r ymateb mae:

  • Yng nghyfarfod pedairochrog y Gweinidogion Cyllid (lle mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn cwrdd â’r gweinidogion cyllid o’r gweinyddiaethau datganoledig), cododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid safbwynt Llywodraeth Cymru na ddylai gadael yr UE olygu unrhyw ostyngiad yn y cyllid sydd ar gael i Gymru nac effeithio ar y pwerau a ddatganolwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â datblygu economaidd, amaethyddiaeth nac unrhyw faes arall.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu uned ganolog i ddatblygu trefniadau cyllido yn y dyfodol mewn cyd-gynhyrchiad â phartneriaid, a bydd hon yn cydweithio’n agos â’i Hadran Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol i gyflawni amcanion y Cynllun Gweithredu Economaidd.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill i gytuno ar fframwaith priodol i’r DU gyfan ar gyfer cymorth amaethyddol. Cytunodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU y bydd mwyafrif y fframwaith hwn yn cael ei reoli drwy gydgysylltiad rhynglywodraethol anneddfwriaethol.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gadw ac adeiladu ar y rôl y mae Cronfeydd Strwythurol yn ei chwarae wrth brif ffrydio cydraddoldeb, mynd i’r afael â thlodi a hawliau dynol pe bai’n sicrhau datganoli pwerau sy’n gysylltiedig â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn trafod cyfranogiad parhaus yn rhaglen Hawliau, Cydraddoldeb a Dinasyddiaeth yr UE.

Beth sydd wedi digwydd ers i adroddiad y Pwyllgor gael ei gyhoeddi?

Mewn perthynas â datblygiad rhanbarthol, ym mis Hydref 2018 cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y byddai’n sefydlu grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol, gan gynnwys cynrychiolwyr o fyd busnes, y trydydd sector, prifysgolion a gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau bod dull Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â’i bolisi economaidd ehangach. Mae hefyd wedi dyrannu £350,000 o Gronfa Bontio’r UE i sefydlu partneriaeth gyda’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i lywio ei ddull buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol a gweithredu ei gynllun gweithredu economaidd.

Bu nifer o ddatblygiadau dros yn wythnosau diwethaf, hefyd, yn gysylltiedig â chyllid amaethyddol. Ar 16 Hydref, cyhoeddodd Michael Gove, Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, adolygiad o lefelau cyllido amaethyddol ar ôl-Brexit. Caiff ei gadeirio gan yr Arglwydd Bew o Donegore, a gaiff ei gefnogi gan banel o gynrychiolwyr o bob rhan o’r DU, ac ymgynghorir â’r gweinyddiaethau datganoledig cyn i Lywodraeth y DU benodi aelodau’r panel. Mae cylch gorchwyl yr adolygiad yn datgan y bydd yn edrych ar ba ffactorau y dylid eu hystyried i sicrhau dyraniad ‘teg’ o gyllid cymorth fferm domestig ledled y DU o 2020 tan ddiwedd tymor presennol Llywodraeth y DU yn 2022. Mae Llywodraeth y DU wedi diystyru defnyddio fformiwla Barnett yn unig i ddyrannu cyllid amaethyddol ôl-Brexit dros y cyfnod hwn. Daw’r adolygiad i ben cyn Adolygiad Gwariant 2019 gyda’r nod o lywio penderfyniadau cyllido yn y dyfodol.

Daeth ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gyfer ei chynigion o ran cefnogaeth amaethyddol yn y dyfodol, Brexit a’n Tir, i ben ar 30 Hydref. Cafodd dros 12,000 o ymatebion. Mynegwyd pryderon gan y ddwy undeb ffermio yng Nghymru (NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru) ynghylch y cynigion, gyda sefydliadau amgylcheddol megis WWF Cymru ac RSPB Cymru yn fwy cefnogol, ynghyd â CLA Cymru (sy’n cynrychioli tir, eiddo a pherchenogion busnesau yng nghefn gwlad Cymru).

Pa benderfyniadau allweddol ar gyllid ar ôl yr UE sydd ar y gweill?

Dylem wybod mwy am gynigion Llywodraeth y DU ar sut y bydd ei Chronfa Ffyniant Gyffredin ledled y DU yn gweithio erbyn diwedd y flwyddyn, gan ei bod wedi ymrwymo i ymgynghori ar ei chynlluniau erbyn hynny. Bydd penderfyniadau ar weithredu a dyrannu’r gronfa hon yn cael eu gwneud yn dilyn yr ymgynghoriad, a byddant yn ddarostyngedig i’r adolygiad o wariant Llywodraeth y DU, sydd i’w gynnal yn ystod gwanwyn 2019.

Disgwylir i Adolygiad Llywodraeth y DU o gyllid cymorth amaethyddol gael ei gwblhau o fewn 3-6 mis, ac yn dilyn hynny, bydd Llywodraeth y DU yn ystyried ei chanfyddiadau ac yn ymateb iddynt. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i’w hymgynghoriad Brexit and Our Land pan fydd wedi dadansoddi’r 12,000+ o ymatebion a gafodd. Ar 1 Tachwedd, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig dri ymrwymiad yn ei haraith i gynhadledd flynyddol NFU Cymru. Y rhain oedd na fydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu gwneud nes bydd yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad wedi’u hadolygu; na wneir unrhyw newidiadau i’r taliadau presennol heb ymgynghori pellach yn ystod gwanwyn 2019; ac ni chaiff hen gynlluniau eu diddymu cyn bod cynlluniau newydd yn barod.

Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol ar gyfer parhau i gymryd rhan mewn, neu ddisodli, ffynonellau cyllido eraill yr UE, megis cyllid ymchwil ac arloesi Horizon Europe, rhaglen cyfnewid myfyrwyr ERASMUS+, a Banc Buddsoddi Ewrop yn parhau i fod yn destun trafodaethau rhwng y DU a’r UE.

I weld y diweddaraf am beth mae’r Cynulliad yn ei wneud o ran Brexit, gallwch ddilyn ein tudalen newydd, Y Cynulliad a Brexit.


Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru