Wythnos Ymwybyddiaeth Gwrthfiotig y Byd (12 i 18 Tachwedd 2018): Beth yw’r sefyllfa yng Nghymru o ran ymwrthedd gwrthficrobaidd?

Cyhoeddwyd 12/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Beth yw Ymwrthedd Gwrthficrobaidd?

Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn fater iechyd y cyhoedd byd-eang sy'n bygwth effeithiolrwydd gwrthfiotigau a meddyginiaethau gwrthficrobaidd eraill sydd wedi dod yn brif gynnyrch hanfodol y storfa feddygol fodern. Dros amser, mae pathogenau fel bacteria yn gallu datblygu ymwrthedd gwrthficrobaidd - yn achos haint bacteriol, byddai hyn yn golygu llai o dueddiad i un neu fwy o wrthfiotigau. Pan nad yw pathogen penodol yn agored i driniaethau clinigol gyda'r cyffuriau hyn, ystyrir fod ganddo 'ymwrthedd' i'r cyffur.

Gwnaeth yr Adolygiad o Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (PDF 2.25MB), a gomisiynwyd yn 2014 gan David Cameron, y Prif Weinidog ar y pryd, ac a gadeiriwyd gan yr Arglwydd O'Neill o Gatley, yr economegydd, ragfynegiadau enbyd am ganlyniadau ymwrthedd gwrthficrobaidd pe na bai llunwyr polisi yn ymateb yn effeithiol iddo:

"We estimate that by 2050, 10 million lives a year and a cumulative 100 trillion USD of economic output are at risk due to the rise of drug resistant infections if we do not find proactive solutions now to slow down the rise of drug resistance. Even today, 700,000 people die of resistant infections every year. Antibiotics are a special category of antimicrobial drugs that underpin modern medicine as we know it: if they lose their effectiveness, key medical procedures (such as gut surgery, caesarean sections, joint replacements, and treatments that depress the immune system, such as chemotherapy for cancer) could become too dangerous to perform. Most of the direct and much of the indirect impact of AMR will fall on low and middle-income countries” (tud.4).

Mae Banc y Byd (PDF 3.75MB) wedi rhybuddio y gallai effaith ymwrthedd gwrthficrobaidd "ganslo degawdau o gynnydd mewn cydgyfeirio economaidd byd-eang" (tud. 18), gyda chost economaidd ymwrthedd gwrthficrobaidd yn amrywio ar draws grwpiau incwm gwledydd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (PDF 3.62MB) wedi nodi bod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn "broblem gynyddol yng Nghymru [sydd] eisoes wedi arwain at nifer fach o heintiau anodd eu trin, gan arwain at therapi sy’n methu a chymhlethdodau posibl" (tud. 3).

Wythnos Ymwybyddiaeth Gwrthfiotig y Byd

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Gwrthfiotig y Byd wedi'i chynnal bob mis Tachwedd ers 2015. Arweinir y fenter gan Sefydliad Iechyd y Byd fel rhan o'i amcan i "wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ymwrthedd gwrthficrobaidd" - un o'r pum amcan strategol o Gynllun Gweithredu Byd-eang (PDF 235KB) Sefydliad Iechyd y Byd. Y themâu blaenorol oedd "Antibiotics: Handle with Care" (2015 a 2016) a "Seek advice from a qualified healthcare professional before taking antibiotics" (2017). Yn 2018, y prif negeseuon yw "Think Twice, Seek Advice" a "Misuse of Antibiotics puts us all at Risk", er bod yna hefyd bum diwrnod "ffocws" o negeseuon wedi'u teilwra yn ymwneud â phob un o amcanion y Cynllun Gweithredu Byd-eang. Dengys Ffigwr 1 fod gwrthiant gwrthficrobaidd ar hyn o bryd yn achosi amcangyfrif o 700,000 o farwolaethau, a rhagwelir y bydd yn achosi 10 miliwn yn 2050.

Ymwrthedd Gwrthficrobaidd yng Nghymru

Rhyddhawyd cynllun cyflenwi Llywodraeth Cymru ar gyfer Ymwrthedd Gwrthficrobaidd yn cwmpasu 2016-2018, "Law yn Llaw at Iechyd: Taclo Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Gwella Rhagnodi Gwrthfiotigau"(PDF 756KB), ym mis Mawrth 2016 gyda saith thema gyflenwi:

  1. Gwella arferion atal a rheoli heintiau
  2. Optimeiddio arferion rhagnodi
  3. Gwell addysg, hyfforddiant ac ymrwymiad
  4. Datblygu cyffuriau, triniaethau a diagnosteg newydd
  5. Gwelliant mewn adnabyddiaeth a blaenoriaethu anghenion ymchwil Ymwrthedd Gwrthficrobaidd
  6. Gwell mynediad at ddata gwyliadwriaeth a gwell defnydd ohono
  7. Cryfhau cydweithredu rhyngwladol

Mae'r cynllun yn canolbwyntio'n bennaf ar iechyd pobl, oherwydd nid yw rheolaeth filfeddygol a rhagnodi gwrthficrobau wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru.

Ym mis Mai 2018, cyflwynodd Llywodraeth Cymru nodau gwella (PDF 589KB) ar gyfer rhagnodi gwrthficrobau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19. Y nod ar gyfer gofal sylfaenol a gofal eilaidd yw gostyngiad o 5 y cant yn erbyn blwyddyn waelodlin Ebrill 2016 - Mawrth 2017.

Mae adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru, "Defnydd gwrthfacterol mewn Gofal Sylfaenol yng Nghymru 2013/14-2017/18" (PDF 7.11MB), a gyhoeddwyd ar 1 Awst 2018, yn cyflwyno'r cynnydd diweddar o ran lleihau defnydd gwrthfacterol mewn meddygfeydd teulu yng Nghymru. Sylwodd yr adroddiad ar ostyngiad o 11.9 y cant yng nghyfanswm yr eitemau gwrthfacterol a ddosbarthwyd ar draws y meddygfeydd teulu yng Nghymru dros gyfnod o bum mlynedd o flwyddyn ariannol 2013/14 i 2017/18. Yn 2017/18, dangosodd cyfanswm yr eitemau gwrthfacterol a ddosbarthwyd ar gyfer meddygfeydd teulu yng Nghymru ostyngiad o 2 y cant mewn defnydd o'i gymharu â blwyddyn ariannol 2016/17.

Yn 2017/18, roedd llai o ddefnydd o eitemau gwrthfacterol yn chwech o'r saith Bwrdd Iechyd, yn fwyaf nodedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda gostyngiad o 5.9 y cant. Roedd cynnydd o 0.8 y cant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi amrywiad sylweddol rhwng Clystyrau Meddygon Teulu o ran defnydd gwrthficrobaidd blynyddol gros yn 2017/18, gyda gwahaniaeth o 36 y cant mewn cyfraddau rhagnodi rhwng y Clwstwr Meddygon Teulu â’r gyfradd flynyddol uchaf (De Rhondda) o eitemau wedi'u dosbarthu a'r Clwstwr Meddygon Teulu (Gogledd Ceredigion ) â'r gyfradd isaf.

Fel y dangosir yn Ffigur 2, mae cyfradd gyfartalog yr eitemau gwrthfacterol a ddosbarthwyd ar gyfer Cymru ar hyn o bryd yn uwch na Lloegr (a Gogledd-ddwyrain Lloegr, sy'n debyg i Gymru o ran demograffeg). Mae'r rhan fwyaf o'r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru ymysg y dosbarthwyr uchaf pan gânt eu cynnwys gyda Grwpiau Comisiynu Clinigol Lloegr. Dengys Ffigur 2 fod y gyfradd gyfartalog o antibacterialau wedi'u dosbarthu yn uwch yng Nghymru na Lloegr, ac mae'r rhan fwyaf o fyrddau Iechyd Cymru ymysg y dosbarthwyr uchaf yng Nghymru a Lloegr. Sylwodd adroddiad arall a gyhoeddwyd ar 1 Mehefin 2018 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, "Ymwrthedd Gwrthfacterol yng Nghymru 2008-2017" (PDF 3.62MB), y bu cynnydd mewn ymwrthedd gwrthfacterol ymhlith y tri achos bacteriol mwyaf cyffredin o heintiau llif y gwaed yng Nghymru yn 2017. Mewn eitem newyddion GIG Cymru ym mis Awst 2018, dywedodd Eleri Davies, cyd-awdur yr adroddiad, fod ymwrthedd gwrthfacterol yng Nghymru yn debyg i gyfraddau a thueddiadau cyfanredol y DU. Fodd bynnag, mae cryn amrywiad rhwng ardaloedd ac ysbytai."

Amlygodd yr Athro'r Fonesig Sally Davies, Prif Swyddog Meddygol Lloegr, yn ei llyfr yn 2013 The Drugs Don’t Work: A Global Threat y gall cymdeithas sy'n heneiddio gyda nifer cynyddol o gleifion â chyd-afiachusrwydd arwain at gyfraddau rhagnodi gwrthfiotigau uwch nag a fyddai'n angenrheidiol mewn cymdeithasau ieuengach ac iachach. Mae adroddiad (PDF 989KB) a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2018 gan Bwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ei ymchwiliad i gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio, yn dweud bod tystion wedi nodi cynnydd sylweddol a llym yn y galw ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, yn rhannol oherwydd y lefelau uwch o ofal a chymorth sydd ei angen ar bobl, natur gymhleth y gefnogaeth sydd ei hangen a phresenoldeb nifer o broblemau iechyd ychwanegol sy'n cyd-ddigwydd â’r un sylfaenol (neu "gyd-afiachusrwydd") (t.18). Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi rhagweld y bydd y gyfran o bobl hŷn yng Nghymru, sydd wedi bod yn cynyddu dros y degawd diwethaf, yn parhau i gynyddu yn ystod y blynyddoedd i ddod.


Article by Alistair Anderson, National Assembly for Wales Research Service Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a ddarparwyd i Alistair Anderson gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, sydd wedi galluogi cwblhau’r Briff Ymchwil hwn.