Biliau a mwy o filiau – diweddariad ar ddeddfwriaeth Brexit

Cyhoeddwyd 13/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Gyda phum mis nes i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r erthygl hon yn trafod deddfwriaeth Brexit sydd eisoes wedi'i phasio a'r hyn y gallwn ei ddisgwyl yn y misoedd i ddod.

Biliau sydd wedi dod yn gyfraith

Y darn mawr cyntaf o ddeddfwriaeth Brexit i gael ei basio yn San Steffan oedd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 26 Mehefin 2018. Diben y Ddeddf yw sicrhau parhad cyfreithiol ar ôl Brexit, trwy drosi cyfraith bresennol yr UE yn gyfraith y DU. Gelwir y categori newydd hwn o gyfraith ddomestig a grëwyd gan y Ddeddf yn 'gyfraith yr UE a gadwyd.' Fodd bynnag, ni fydd llawer o'r deddfau hyn yn gwneud synnwyr unwaith y bydd y DU yn gadael yr UE. Felly, mae'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i gywiro deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth na fyddai'n gweithredu'n briodol ar ôl Brexit.

Ar ôl diwrnod gadael, bydd y Cynulliad yn gallu addasu cyfreithiau yr UE a gadwyd mewn meysydd datganoledig, oni bai bod Gweinidogion y DU yn gwneud rheoliadau o dan y Ddeddf yn pennu rhannau o’r gyfraith maent am ei warchod rhag addasu gan y deddfwrfeydd datganoledig. Bydd angen proses gydsyniad yn y Cynulliad ar unrhyw reoliadau sy'n cynnig cyfyngiadau ar bwerau datganoledig.

Mae'r Ddeddf wedi'i gwneud yn ofynnol i newidiadau gael eu gwneud i weithdrefnau'r Cynulliad. Gallwch ddarllen mwy am y newidiadau hyn yn yr erthygl hon.

Y Bil Brexit nesaf i'w basio oedd y Ddeddf Cofrestru Trwyddedau Cludo ac Ôl-gerbydau, ar 19 Gorffennaf 2018. Ei diben yw gwneud darpariaeth i gludwyr y DU barhau i weithredu'n rhyngwladol ar ôl Brexit. Mae'r Bil yn ymestyn ac yn gymwys i Gymru, ond nid yw'n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gan nad oes gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol yn y maes hwn.

Mae Deddf Trethiant (Masnach Drawsffiniol) 2018 hefyd wedi cael Cydsyniad Brenhinol, ar 13 Medi. Mae'r Ddeddf yn galluogi Llywodraeth y DU i greu cyfundrefn tollau tramor, TAW a thollau cartref ar gyfer y DU ar ôl Brexit. Nid oedd angen cydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig arni gan ei bod yn ymwneud â phwerau nad ydynt wedi'u datganoli i Gymru. Dymu lun o destun Bil

Biliau sy'n cael eu trafod ar hyn o bryd

Ym mis Tachwedd 2017, cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Masnach, sy'n darparu pwerau ar gyfer gweithredu cytundebau masnach ryngwladol ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu awdurdod rhwymedïau masnach. Bydd angen cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad ar y Bil gan ei fod yn ymwneud â materion datganoledig mewn nifer o feysydd. Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gerbron y Cynulliad ym mis Rhagfyr 2017, ond dywedodd na allai argymell bod y Cynulliad yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil bryd hynny.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad ym mis Ionawr 2018 yn nodi manylion y diwygiadau yr hoffai Llywodraeth Cymru eu gweld. Ysgrifennodd George Hollingbery AS, Gweinidog y DU dros Bolisi Masnach, at y Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2018 i roi gwybod bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno diwygiadau i'r Bil, gan dynnu sylw at y ffaith bod y rhain yn mynd i'r afael ag awgrymiadau Llywodraeth Cymru. Cafodd y diwygiadau mewn perthynas â datganoli eu derbyn yn unfrydol ar 17 Gorffennaf.

Mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Allanol ar 17 Medi, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn croesawu'r diwygiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU, ond tynnodd sylw at un maes sy'n peri pryder ynghylch yr awdurdod rhwymedïau masnach arfaethedig.

Ar 8 Hydref, cyhoeddodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad ei adroddiad ynghylch craffu ar reoliadau a wneir o dan y Bil Masnach. Nid yw Cyfnod y Pwyllgor o'r Bil Masnach yn Nhŷ'r Arglwyddi wedi'i gyhoeddi eto.

Cafodd y Bil Amaethyddiaeth ei Ddarlleniad Cyntaf yn San Steffan ar 12 Medi 2018. Nod y Bil yw darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gadael y Polisi Amaethyddol Cyffredin a sefydlu systemau newydd ar gyfer cymorth amaethyddol a rheoli tir ar draws y DU. Mae Atodlen 3 o'r Bil yn gymwys i Gymru yn benodol a chynhwyswyd y pwerau hyn ar gais Llywodraeth Cymru. Mae'r pwerau hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru barhau i wneud taliadau i ffermwyr a rheolwyr tir ar ôl Brexit, gwneud newidiadau i'r cynlluniau presennol a gweithredu cynlluniau newydd. Bwriedir i'r pwerau hyn bara am gyfnod penodol nes i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei Bil Amaethyddiaeth ei hun, a ddisgwylir cyn diwedd y Cynulliad hwn. Cadarnhawyd hyn gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, mewn datganiad ar 12 Medi.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi mynegi cefnogaeth i Fil y DU yn gyffredinol, mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi nodi dau faes lle mae anghytundeb. Yn gyntaf, mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno â Llywodraeth y DU ar y graddau y mae'r cymal sy'n ymwneud â Chytundeb Llywodraeth y DU â Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth yn fater a gedwir yn ôl. Yn ail, hoffai Llywodraeth Cymru weld pwerau sy'n ymwneud ag ailddosbarthu'r lefi cig coch sydd ar wyneb y Bil. Mae'n disgwyl diwygiad gan Lywodraeth y DU i 'gywiro hyn cyn gynted â phosib'. Heb y diwygiad hwn, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet na fyddai modd iddi argymell cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil.

Gallwch ddarllen mwy am yr hyn y mae'r Bil yn ei olygu i Gymru yn yr erthygl hon.

Cyflwynwyd y Bil Pysgodfeydd i Senedd y DU ar 25 Hydref 2018. Prif nodau'r Bil yw rheoli mynediad at ddyfroedd y DU; sicrhau y gall y DU bennu ei chwota pysgota ei hun; gwarchod yr amgylchedd morol; a nodi sut y bydd Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig yn gweithio gyda'i gilydd o ran rheoli pysgodfeydd.

Fel yn achos y Bil Amaethyddiaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn cyflwyno Bil Pysgodfeydd Cymru. Cadarnhawyd hyn gan Lesley Griffiths pan ymddangosodd gerbron y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar 18 Gorffennaf.

Gallwch ddarllen mwy am berthnasoedd yr UE yn y dyfodol a physgodfeydd yn yr erthygl hon.

Y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) yw'r Bil diweddaraf i'w gyflwyno yn Senedd y DU. Mae'r Bil yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol ariannu a threfnu gofal iechyd y tu allan i'r DU a rhoi cytundebau gofal iechyd cyfatebol ar waith rhwng y DU a gwledydd eraill. Bydd angen cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad ar y Bil. Gallwch weld mwy am ofal iechyd trawsffiniol yn y blog yma.

Biliau nad ydynt wedi'u cyflwyno eto

Os ceir bargen Brexit, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) i weithredu'r fargen derfynol yng nghyfraith y DU.

Mae Papur Gwyn y Bil yn canolbwyntio ar dair agwedd ar y cytundeb ymadael drafft y cytunwyd arnynt yng nghyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ar 19 Mawrth 2018: hawliau dinasyddion, y cyfnod gweithredu a'r setliad ariannol a gytunwyd. Caiff y Bil ei gyflwyno pan fydd Senedd y DU wedi cymeradwyo'r fargen derfynol a rhaid ei basio cyn y diwrnod ymadael, sef 29 Mawrth 2019.

Os na cheir bargen, neu os na chaiff ei chadarnhau mewn pryd gan Senedd y DU a Senedd Ewrop, ac os na chaiff estyniad i Erthygl 50 ei sicrhau, ni fydd Bill, gan na fyddai cytundeb i'w weithredu. Fodd bynnag, mae'r Papur Gwyn yn nodi bod Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd y negodiadau'n dod i ben yn llwyddiannus.

Mae Llywodraeth y DU yn ymrwymedig i weithio'n effeithiol gyda'r gweinyddiaethau datganoledig wrth ddatblygu'r Bil a bydd yn gofyn am gydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig yn ôl yr angen.

Mae'r Prif Weinidog hefyd wedi dweud y creffir ar y Cytundeb Ymadael yn y Cynulliad. Mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor MADY ym mis Tachwedd, dywedodd y bydd dadl ar y cytundeb ei hun, ac yna y bydd dadl ar wahân ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil y Cytundeb Ymadael.

Gallwch ddarllen rhagor am y broses ddeddfu ar gyfer y cytundeb ymadael yn yr erthygl hon.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn cyflwyno Bil Mewnfudo i ganiatáu i'r DU osod ei system fewnfudo yn y dyfodol. Mae'n cynnig un system fewnfudo sy'n trin mudwyr o wledydd yr UE yn yr un modd â'r rhai o wledydd nad ydynt yn rhan o'r UE, gyda gweithwyr tra medrus sydd am fyw a gweithio ym Mhrydain yn cael blaenoriaeth. Bwriadwyd cyflwyno Papur Gwyn yn yr hydref, ond nid yw wedi'i gyhoeddi eto.

I weld y diweddaraf am beth mae’r Cynulliad yn ei wneud o ran Brexit, gallwch ddilyn ein tudalen newydd, Y Cynulliad a Brexit.


Erthygl gan Peter Hill, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru