Diwrnod Diabetes y Byd (14 Tachwedd)

Cyhoeddwyd 14/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cynhelir Diwrnod Diabetes y Byd ar 14 Tachwedd bob blwyddyn, ac mae'n rhan o ymgyrch fyd-eang sy'n cael ei arwain gan Ffederasiwn Diabetes Rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr. Thema eleni yw “Y Teulu a Diabetes”.

Yn 2015, amcangyfrifwyd bod diabetes wedi achosi mwy o farwolaethau ar draws y byd (5.0 miliwn) na nifer y marwolaethau blynyddol o HIV/AIDS (1.2 miliwn), twbercwlosis (1.5 miliwn) a malaria (0.4 miliwn) gyda'i gilydd. Mae nifer y bobl â diabetes wedi cynyddu ar draws y byd ers 1980, a chaiff hynny ei gymhlethu gan gynnydd yn y boblogaeth yn ogystal â phoblogaeth sy'n heneiddio, sydd, gyda'i gilydd, wedi cynyddu nifer yr oedolion â diabetes bron bedair gwaith ers 1980 o 108 miliwn i 422 miliwn yn 2014.

Mae nifer yr achosion o ddiabetes wedi cynyddu ar y raddfa fwyaf yn y gwledydd sydd ag incwm isel a chanolig ac mae'r ddaearyddiaeth yn amrywio o ran cynnydd byd-eang yn achosion o ddiabetes, fel y dangosir yn Ffigur 1 o ran rhanbarthau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).

Mathau a Nifer yr Achosion o Ddiabetes

Mae dau brif fath (PDF, 1.45MB, t.6) o ddiabetes. Mae diabetes math 1 yn cyfrif am tua 10% o gleifion â diagnosis o ddiabetes. Cyflwr hunanimíwn yw diabetes math 1 sy'n aml wedi'i etifeddu, ac mae'n golygu nad yw'r corff yn cynhyrchu inswlin. Mae diabetes math 1 fel arfer yn datblygu cyn bod rhywun yn 40 oed, ac yn aml yn ystod blynyddoedd yr arddegau. Rheolir y math hwn o ddiabetes gyda chwistrelliadau dyddiol o inswlin.

Mae diabetes math 2 yn cyfrif am tua 90% o gleifion â diagnosis o ddiabetes, ac yn aml yn cael ei ddylanwadu'n fawr gan ffactorau ffyrdd o fyw. Mae diabetes math 2 yn digwydd pan na all y corff gynhyrchu digon o inswlin i weithio’n iawn neu pan nad yw celloedd y corff yn adweithio i inswlin. Mae'n bosibl na chaiff ei ganfod am flynyddoedd. Mae angen i bobl â diabetes math 2 addasu eu deiet a'u ffordd o fyw. Mae'r cyflwr yn un sy'n gwaethygu dros amser a bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl â diabetes math 2 gymryd tabledi neu inswlin i reoli eu lefel glwcos yn y gwaed yn y pen draw. Mae nifer o ffactorau risg (PDF, 276KB, t.2) ar gyfer diabetes math 2:

  • Gordewdra - Mae mwy o risg o ddiabetes math 2 ymysg pobl sydd dros eu pwysau.
  • Lefelau gweithgarwch corfforol - Mae lefelau is o weithgarwch corfforol a ffordd o fyw lle mae rhywun yn eistedd llawer yn gysylltiedig â mwy o risg o ddiabetes math 2.
  • Hanes teuluol - Mae pobl dair gwaith yn fwy tebygol o gael diabetes math 2 os oes gan berthynas teuluol agos y cyflwr hefyd.
  • Oedran - Mae'r siawns o gael diabetes math 2 yn cynyddu gydag oedran.
  • Ethnigrwydd - Mae pobl o dras De Asia yn fwy tebygol o ddatblygu diabetes Math 2 na phobl Gwyn Ewropeaidd, ac mae'n aml yn datblygu ymysg oedran iau ac ymysg pobl nad ydynt yn ordew. Credir bod hyn yn bennaf oherwydd gwahaniaethau mewn cyfansoddiad y corff, deiet, a lefelau gweithgarwch corfforol.
  • Amddifadedd - Mae'r bobl fwyaf difreintiedig yn y DU yn fwy tebygol o gael diabetes o unrhyw oed, yn bennaf oherwydd y cysylltiadau cryf rhwng amddifadedd, gordewdra ac anweithgarwch corfforol.
  • Salwch meddwl - Mae pobl â salwch meddwl yn fwy tebygol na rhai hebddo i ddatblygu diabetes math 2. Credir mai'r rheswm dros hynny yw oherwydd gwahaniaethau mewn deiet a gweithgarwch a sgil-effeithiau cyffuriau.
  • Clefyd fasgwlaidd - Mae pobl sydd â hanes o glefydau fasgwlaidd a phwysau gwaed uchel hefyd â mwy o risg o ddatblygu diabetes math 2.

Gan ddefnyddio ffigurau o'r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau. Mae Diabetes UK yn nodi ym mis Tachwedd 2017, fod 191,590 o oedolion â diagnosis o ddiabetes yng Nghymru. Mae hynny'n 7.4% o gleifion oedolion ar gofrestr Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau Cymru (PDF, 1.76MB, t.8). Cymru sydd â'r achosion mwyaf o ddiabetes fel canran o'i phoblogaeth yn y DU. Awgrymir bod gan 59,000 o bobl eraill yng Nghymru ddiabetes math 2, ond nad ydynt yn ymwybodol ohono neu nad yw'r diagnosis wedi'i gadarnhau.

Mae achosion o ddiabetes yn amrywio ledled Cymru, gyda'r ganran uchaf (7.7 y cant) yng nghlwstwr meddygon teulu Dwyrain Blaenau Gwent a'r isaf yn Ne-ddwyrain Caerdydd (4.1 y cant), fel y dangosir yn Ffigur 2. Mae nifer yr achosion o ddiabetes wedi cynyddu bob blwyddyn yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru. Diabetes math 2 sy'n bennaf cyfrifol am y cynnydd yn nifer yr achosion o ddiabetes yn y DU, er mae ffactorau eraill (PDF, 5.37MB, t.8) yn cynnwys poblogaeth sy'n heneiddio, gwell cyfraddau goroesi, a gwell diagnosis o ddiabetes math 2.

Amcangyfrif bod diabetes yn costio tua 10 y cant o'i gyllideb flynyddol i'r GIG yng Nghymru, gyda 80 y cant ohono'n cael ei wario ar reoli cymhlethdodau y gellir eu hosgoi (Diabetes UK).

Codi Ymwybyddiaeth o Ddiabetes Math 1 yng Nghymru

Cynulliad ddeiseb (P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc), yn dilyn marwolaeth Peter Baldwin, 13 oed, ym mis Ionawr 2015, o ganlyniad i getoacidosis diabetig yn deillio o ddiabetes Math 1 heb ddiagnosis, (a chyflwynodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF, 771KB) ym mis Gorffennaf 2018) a chafodd y ddeiseb hefyd ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Hydref 2018. Mae tua 96% o'r ~1,400 o blant â diabetes yng Nghymru â diabetes math 1.

Yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Deisebau, gwnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, pob un o argymhellion y Pwyllgor. Gyda'i gilydd, nod argymhellion y Pwyllgor Deisebau yw cynyddu ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1 ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r cyhoedd yn ehangach, ac i sicrhau nad yw cyfleoedd allweddol i ganfod a thrin y cyflwr yn gynnar yn cael eu colli.

Un datblygiad allweddol yn ystod ystyriaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb oedd treialu gwaith ar lwybr atgyfeirio (PDF, 122KB) diabetes math 1 ar gyfer gofal sylfaenol, dan arweiniad Rhwydwaith Diabetes Cymru Plant a Phobl Ifanc. Bwriad y llwybr yw ategu ymgyrch ymwybyddiaeth pedair T Diabetes UK Cymru, Know Type 1. Y pedair T yw'r prif symptomau i'w canfod er mwyn cael diagnosis Math 1 yn gyflym:

  • Tŷ Bach ('Toilet') – Mynd i'r tŷ bach yn aml, plentyn yn gwlychu'r gwely heb wneud hynny o'r blaen, neu gewynnau babanod sy'n drymach na'r arfer.
  • Syched ('Thirsty') – Bod â syched mawr na ellir ei dorri.
  • Blinder ('Tired') – Teimlo'n fwy blinedig na'r arfer.
  • Teneuach ('Thinner') – Colli pwysau neu edrych yn deneuach na'r arfer.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r Pwyllgor yn cadarnhau bod y llwybr wedi'i gyflwyno bellach i bob bwrdd iechyd yng Nghymru.


Article by Alistair Anderson, National Assembly for Wales Research Service Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a ddarparwyd i Alistair Anderson gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, sydd wedi galluogi cwblhau’r Briff Ymchwil hwn.