Pam mae'r Cynulliad yn trafod diddymu Deddf parhad Cymru?

Cyhoeddwyd 16/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth 20 Tachwedd, bydd y Cynulliad yn trafod Rheoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018 (PDF 52KB), sy'n ceisio diddymu Deddf Parhad Cymru, ac yn pleidleisio ar a ddylid caniatáu i'r rheoliadau gael eu gwneud.

Beth yw'r Ddeddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018?

Roedd y Bil Ymadael (nawr Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018), sy'n trosi cyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig, fel y’i cyflwynwyd, yn gosod cyfyngiad ar allu’r deddfwrfeydd datganoledig i basio unrhyw ddeddfwriaeth a oedd yn anghydnaws â’r corff o gyfraith yr UE a gedwir yn ôl gan y Bil. Roedd Llywodraeth Cymru yn dadlau fod hyn gyfystyr â Llywodraeth y DU yn 'bachu pwerau' dros feysydd sydd wedi’u datganoli.

Yn dilyn methiant i gyrraedd cytundeb ar welliannau i'r Bil Ymadael, penderfynodd Llywodraeth Cymru gyflwyno ei ddeddfwriaeth barhad ei hun, sef Ddeddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 ('y Bil Parhad'), i drosglwyddo cyfraith yr UE mewn meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli yn gyfraith Cymru ar y diwrnod gadael.

Ar 27 Chwefror 2018, cytunodd y Cynulliad i ystyried deddfwriaeth parhad Llywodraeth Cymru fel bil brys. Fe'i cyflwynwyd ar 7 Mawrth ac fe'i pasiwyd drwy'r Cynulliad mewn ychydig dros bythefnos.

Cymerodd Llywodraeth yr Alban gamau tebyg yn yr Alban gan gyflwyno’r Bil Ymadael a’r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban) (‘Bil Parhad yr Alban).

Cyfeiriwyd y ddau fil gan swyddog cyfreithiol Llywodraeth y DU i'r Goruchaf Lys am ddyfarniad ynghylch a oeddent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y deddfwrfeydd datganoledig.

Pam mae Deddf Parhad Cymru yn cael ei ddiddymu?

Ar 25 Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi dod i Gytundeb Rhynglywodraethol gyda Llywodraeth y DU ar y Bil Ymadael. Fel rhan o'r cytundeb, cytunodd y ddau lywodraeth y byddai camau'n cael eu cymryd i ddiddymu Bil Parhad Cymru ac y byddai'r cyfeiriad at y Goruchaf Lys yn cael ei dynnu'n ôl.

Ar ôl i'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Ymadael gael ei drafod a'i gymeradwyo gan y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Mai, ysgrifennodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Llywydd yn cadarnhau bod y cyfeiriad at y Goruchaf Lys wedi’i dynnu nôl. O ganlyniad, derbyniodd y Bil Gydsyniad Brenhinol a daeth yn Ddeddf ar 6 Mehefin.

Fel arfer, caiff Deddf Cynulliad ei diddymu trwy basio Deddf arall. Fodd bynnag, diwygiwyd y Bil Parhad yn ystod Cyfnod 3 i alluogi Gweinidogion Cymru i ddiddymu'r Ddeddf drwy is-ddeddfwriaeth.

Pa gamau y mae'n rhaid eu cymryd i ddiddymu'r Ddeddf?

Rhaid i reoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf Parhad Cymru i ddiddymu'r ddeddfwriaeth fod yn destun gweithdrefn uwchgadarnhaol. Felly, ar 8 Mehefin, gosododd Llywodraeth Cymru reoliadau drafft i'r perwyl hwnnw gerbron y Cynulliad am gyfnod o 60 diwrnod. Daeth y cyfnod o 60 diwrnod i ben ar 1 Hydref.

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau, penderfyniadau gan y Cynulliad, ac unrhyw argymhellion pwyllgor sydd â chyfrifoldeb dros gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau drafft, yn ystod y cyfnod 60 diwrnod.

Dim ond un sylw a wnaed yn ystod y cyfnod hwn, a hynny gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Nododd adroddiad y Pwyllgor: (PDF 79KB)

Rydym yn nodi arwyddocâd y Rheoliadau hyn a'r ffaith y byddai'r diddymiad yn golygu y bydd materion cyfansoddiadol a chyfreithiol pwysig (megis parhad cyfraith Cymru sy'n gysylltiedig â'r UE ar ôl ymadael, a phwerau Gweinidogion Cymru i gywiro diffygion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir) yn cael eu trin o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Rydym hefyd yn nodi bod diddymu'r Ddeddf yn rhan o'r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin.

Os, ar ôl i'r cyfnod o 60 diwrnod ddod i ben, mae Gweinidogion Cymru am wneud y Rheoliadau yn nhermau'r drafft, rhaid iddynt osod gerbron y Cynulliad ddatganiad yn nodi a gyflwynwyd unrhyw sylwadau. Os cyflwynwyd unrhyw sylwadau, rhaid rhoi manylion y sylwadau hynny. Gosodwyd datganiad (PDF 80KB) i'r perwyl hwnnw ar 13 Tachwedd.

Beth am Fil Parhad yr Alban?

Ni roddodd Senedd yr Alban gydsyniad deddfwriaethol i'r Bil Ymadael ac fe aeth Gwrandawiad y Goruchaf Lys o ran a yw Bil yr Alban o fewn cymhwysedd deddfwriaethol yn ei flaen ar 24 a 25 Gorffennaf. Cymerodd Cwnsler Cyffredinol Cymru ran yn yr achos. Dywedodd bod y materion yn yr achos:

...yn codi cwestiynau ynghylch pob un o'r setliadau datganoli yn y DU ac nid ydynt yn gwbl gyfyngedig i Fil yr Alban nac i setliad datganoli yr Alban. Felly, mae ein cyfranogiad yn achos yr Alban gerbron y Goruchaf Lys yn crybwyll y materion hyn sydd yn ymestyn y tu hwnt i setliad yr Alban ac sy'n ymwneud â gweithrediad y Deyrnas Unedig yn y dyfodol ar ôl Brexit, ac mae'n hanfodol felly bod gan Gymru lais.

Nid oes dyddiad i'r Llys ddatgelu ei ddyfarniad wedi ei gyhoeddi eto. Fodd bynnag, ar 5 Tachwedd dywedodd y Prif Weinidog wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol nad yw Llywodraeth Cymru yn aros am ddyfarniad cyn diddymu Deddf Cymru. Dywedodd:

I would argue we've actually protected ourselves because we have an agreement in place. We could have not agreed; we could have ended up in the Supreme Court. But what happens if the Supreme Court then says, 'Well, actually, the UK Government can do this'? The Scots have no agreement. We have an agreement. I suppose the UK Government could terminate the agreement, but that's a sign of bad faith straight away, and I've said before that we have an agreement and the UK Government and ourselves have to live up to the terms of that agreement.

Os ydych chi am gael clywed y diweddaraf ynghylch beth y mae'r Cynulliad yn ei wneud o ran Brexit, gallwch ddilyn y dudalen newydd Brexit yng Nghymru.


Erthygl ganManon George, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru