Llai o dagfeydd o’r diwedd? Penderfyniad ynghylch ffordd liniaru’r M4 ar y gorwel

Cyhoeddwyd 20/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Mae’n bwnc sydd wedi ysgogi sawl dadl ers dechrau’r 1990au pan gynigiodd y Swyddfa Gymreig ffordd liniaru i oresgyn y problemau tagfeydd ar y rhan hon o’r draffordd gyntaf. Nawr, dros 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n ymddangos y gall diwedd y daith hir hon fod ar y gorwel. Yr hyn nad yw’n glir, fodd bynnag, yw i ba gyfeiriad fydd y ffordd yn mynd. A fydd y problemau tagfeydd yn cael eu lliniaru o’r diwedd i gefnogwyr neu wrthwynebwyr y llwybr newydd arfaethedig?

Yn y blog hwn, rydym yn crynhoi’r hyn sydd wedi digwydd hyd yma, o ran y cynigion presennol, ac yn egluro beth all ddigwydd nesaf.

Y daith hyd yma

Bu cynnig presennol Llywodraeth Cymru, sef opsiwn y Llwybr Du y mae’n ei ffafrio, yn destun nifer o ddadleuon yn y Cynulliad ac ymchwiliad cyhoeddus hir. Mae adroddiad yr arolygydd wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac mae Julie James AC, Arweinydd y Tŷ, wedi dweud y bydd dadl ar y cynigion a phleidlais yn cael eu cynnal yn y Cynulliad ddechrau mis Rhagfyr 2018.

Cyn y ddadl, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan y bydd yn cyhoeddi adroddiad yr arolygydd a phenderfyniad y Prif Weinidog ynghylch a ddylid cadarnhau’r Gorchmynion statudol sy’n ofynnol ar gyfer y cynllun. Os yw’n gwneud hynny, bydd hyn, yn ei hanfod, yn rhoi caniatâd cynllunio i’r prosiect fynd rhagddo, a bydd y penderfyniad terfynol ynghylch a yw’r gwaith adeiladu’n dechrau, mae’n ymddangos, yn digwydd ar sail pleidlais orfodi yn y Cynulliad. Pe gwneir y penderfyniad i gadarnhau’r Gorchmynion, mae’r cwestiwn mawr yn parhau o ran a fyddai’r Cynulliad yn pleidleisio o blaid y cynllun neu yn ei erbyn. Mae hwn yn brosiect sydd wedi rhannu barn ers amser, ac nid yw’r llwybr i gyrraedd y pwynt hwn wedi bod yn un llyfn i Lywodraeth Cymru bob amser, ac roedd hyd yn oed rhai Aelodau Cynulliad o’r blaid Lafur yn ymddangos fel pe baent yn gwrthwynebu’r cynllun (PDF, 3MB).

Golwg yn ôl

Yn 2014, yn dilyn ymgynghoriad ddiwedd y flwyddyn flaenorol, nododd Llywodraeth Cymru gynlluniau i adeiladu rhan newydd o draffordd, a alwyd y llwybr du, ochr yn ochr â chyfres o fesurau ategol yn y ddogfen Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd - Y Cynllun. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried mai’r cynigion hyn:

yw’r ateb cynaliadwy, hirdymor i’r problemau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd presennol sy’n gysylltiedig â’r ffordd hon. Mae’n rhan hanfodol o’n gweledigaeth am system drafnidiaeth integredig effeithiol yn Ne Cymru].

Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddwyd nifer sylweddol o ddogfennau a oedd yn nodi cyfnod allweddol yn y broses gynllunio ar gyfer y prosiect a’i ddarparu, fel yr edrychwyd arno yn ein blog blaenorol. Hefyd, cafodd deg o arddangosfeydd cyhoeddus eu cyhoeddi, lle y gallai’r cyhoedd edrych yn fanwl ar Orchmynion drafft, ar wybodaeth amgylcheddol ac ar adroddiadau a deunyddiau cysylltiedig eraill.

Yn dilyn yr arddangosfeydd cyhoeddus, cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y pryd, yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mehefin 2016 y byddai ymchwiliad cyhoeddus lleol yn cael ei gynnal.

Ymchwiliad cyhoeddus

Roedd yr ymchwiliad i ddechrau yn hydref 2016, ac i aros hwn, nododd Llywodraeth Cymru ei datganiad achos ym mis Awst 2016. Roedd Rhan 1 (PDF 2.23MB) yn rhoi manylion trosolwg o’r cynllun, a chyfiawnhad drosto, ac roedd rhan 2 a 3 (PDF 2.35MB) yn rhoi crynodeb o’r gwrthwynebiadau a ddaeth i law, ac amlinelliad o ymateb Llywodraeth Cymru.

Ym mis Hydref 2016, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet fod yr ymchwiliad wedi’i ohirio oherwydd bod angen cwblhau’r gwaith modelu a rhagamcanu traffig diwygiedig. Rhoddwyd diweddariad pellach ym mis Rhagfyr 2016, lle dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod wedi cymryd ‘golwg newydd’ ar y cynigion. Digwyddodd hyn yng ngoleuni’r data diwygiedig ar dwf traffig a chynigion diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer Metro De Cymru, ynghyd â dyletswyddau newydd a oedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod hefyd wedi edrych o’r newydd ar lwybrau eraill, gan gynnwys opsiwn y ‘Llwybr Glas y bu cymaint o sôn amdano’ ond roedd yn credu mai ‘Prosiect yr M4 yw’r ateb cynaliadwy tymor hir o hyd’.

Cefnogaeth a gwrthwynebiadau

Dechreuodd yr Ymchwiliad ar 28 Chwefror 2017 gyda phenodi arolygydd annibynnol. Mae’r cynnig ar gyfer yr M4 wedi bod yn destun y penawdau newyddion yn rheolaidd ac mae teimladau cryfion ynghylch y prosiect hwn yn amlwg yn sgîl nifer y gwrthwynebwyr a’r cefnogwyr iddo. Pwysleisiwyd hyn yn sylwadau agoriadol (PDF, 205KB) yr arolygydd i’r ymchwiliad, a oedd yn crynhoi’r prif resymau dros y gefnogaeth a’r gwrthwynebiadau i’r llwybr du arfaethedig.

Dywedodd yr arolygydd bryd hynny y cyflwynwyd oddeutu 200 o ddarnau unigryw o ohebiaeth gan unigolion, cwmnïau a sefydliadau (yn bennaf ar draws De Cymru) yn mynegi cefnogaeth amlwg. Mae cefnogwyr y cynllun arfaethedig, fel y’i crynhoir gan yr arolygydd yn ei sylwadau agoriadol, o’r farn y byddai’n helpu i adfywio dinas Casnewydd, yn dileu rhwystrau rhag buddsoddi yn yr ardal ac yn lleddfu tagfeydd.

Hefyd, nododd yr arolygydd fod tua 340 o wrthwynebiadau unigryw. Gwneir rhai o’r prif ddadleuon yn erbyn y llwybr du ar sail amgylcheddol, gyda’r llwybr arfaethedig wedi’i osod i dorri ar draws gwastadeddau Gwent a ddiogelir yn frwd, ac ym mis Mawrth 2015 roedd Cyfeillion y Ddaear yn aflwyddiannus yn eu her gyfreithiol i gynigion Llywodraeth Cymru.

Mae rhai pryderon hefyd ynglŷn ag effeithiau ariannol y cynllun, gyda chwestiynau’n cael eu codi ynghylch a yw’r cynigion yn rhoi gwerth am arian. Yn 2015, dywedodd y Prif Weinidog y byddai’r prosiect yn costio ‘ymhell o dan’ £ 1 biliwn, - ond y ffigwr a nodir yn awr yw 1.4bn.

Yn y cyfamser, mae eraill yn dadlau nad yw’r cynigion yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a ddaeth i rym ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei opsiwn llwybr du dewisol yn 2014. Mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, wedi mynegi ei gwrthwynebiad i’r cynlluniau a chyflwynwyd tystiolaeth i’r ymchwiliad cyhoeddus.

Fodd bynnag, mae rhai rhwystrau wedi’u goresgyn, gan fod rhai gwrthwynebiadau i’r prosiect wedi’u tynnu’n ôl yn ystod proses yr ymchwiliad. Ym mis Rhagfyr 2017 cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch gwrthwynebiadau a wnaed gan Associated British Ports (ABP) ynglŷn â Dociau Casnewydd. Amlinellodd y datganiad bod cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru ac ABP wedi arwain at gytundeb ar gyfer gwaith i integreiddio Dociau Casnewydd gyda’r prosiect a mynd i’r afael â phryderon ABP. Mae hyn, fodd bynnag, yn gohirio ymhellach y dyddiad cwblhau disgwyliedig ar gyfer y ffordd newydd pe bai’r prosiect yn dechrau. Yn dilyn y cytundeb, cyflwynodd Llywodraeth Cymru dystiolaeth wedi’i diweddaru am y cynllun i’r ymchwiliad sy’n nodi:

the December 2016 Revised Economic Appraisal Report (PDF,900KB) assumed an opening year of 2022… due to the additional works within the Newport Docks, the new section of motorway will not be open to traffic until December 2023

Roedd y cynlluniau cychwynnol a gyhoeddwyd ar yr opsiwn dewisol yn 2014 wedi dweud y byddai’r gwaith adeiladu’r rhan newydd o’r ffordd yn cael ei gwblhau yn 2021.  Dangosodd y dystiolaeth ddiweddaraf hon hefyd y byddai’r gwaith sy’n ofynnol o amgylch Dociau Casnewydd yn cynyddu cost y cynllun ymhellach o tua £190 miliwn.

Cyfeiriad arall?

Mae nifer o ddewisiadau amgen i opsiwn y llwybr du a ffefrir gan Lywodraeth Cymru wedi’u cynnig. Pan ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ei Chynllun drafft ddiwedd 2013 roedd yn ystyried dau ‘ddewis amgen rhesymol’, sef y ‘Llwybr Coch’ (ffordd ddeuol i’r De o Gasnewydd) a ‘Llwybr Porffor’ (traffordd ar hyd aliniad amgen i’r De o Gasnewydd’.

Ym mis Gorffennaf 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru werthusiad o ddewisiadau amgen a ystyriwyd yn ystod y broses ymgynghori (PDF 2.39MB). Roedd hwn hefyd yn ystyried y ‘Llwybr Glas’ amgen, a drafodwyd yn helaeth, a fyddai’n defnyddio cyfuniad o ffordd ddosbarthu ddeheuol Casnewydd yr A48 a’r hen ffordd gwaith dur ar ochr ddwyreiniol Casnewydd i greu ffordd ddeuol newydd.

Cynigiwyd y ‘Llwybr Glas’ gan y Sefydliad Materion Cymreig a’r Athro Stuart Cole mewn Adroddiad ar y Llwybr Glas (PDF 814KB) a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2013. Roedd cefnogwyr yn dadlau y byddai hon yn rhatach ac yn gyflymach i’w hadeiladu na’r ffordd liniaru. Roedd arfarniad Llywodraeth Cymru yn 2014, fodd bynnag, yn awgrymu na fyddai’r ‘Llwybr Glas’ yn cyflawni amcanion y cynllun, ac y byddai, ei hun, yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol ac yn darparu manteision annigonol.

Roedd datganiad agoriadol (PDF, 356KB) Llywodraeth Cymru i’r ymchwiliad cyhoeddus lleol yn amlinellu bod Llywodraeth Cymru wedi cael manylion am 22 o lwybrau amgen gan wrthwynebwyr i’r opsiwn a ffefrir yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd Manylion am ddewisiadau eraill y gwrthwynebwyr hyn (PDF 136KB) ar gael fel rhan o’r ymchwiliad ac, ym mis Mawrth 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Hadroddiad ar ‘arfarniad o gynigion llwybr glas arall y gwrthwynebwyr’ (PDF 56.1MB) a oedd yn ystyried pob un o’r dewisiadau eraill hyn.

Ar wahân i gynigion o ran llwybr amgen ar gyfer ffordd newydd, mae opsiynau eraill a awgrymir yn cynnwys buddsoddi’r arian a glustnodwyd ar gyfer y prosiect mewn dulliau cludiant eraill. Ym mis Medi 2018, cyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru adroddiad o’r enw ‘Trafnidiaeth addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol‘ a oedd yn cynnig dewis amgen i ‘ddatrys tagfeydd o gwmpas Casnewydd’ drwy fuddsoddi’r:

£1.4 biliwn a glustnodwyd ar hyn o bryd ar gyfer Llwybr Du yr M4...mewn trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol a sicrhau cyflawni pob cam o Fetro De Cymru.

Fel yr adroddwyd yn y cyfryngau, cafodd cynigion y Comisiynydd ymateb cymysg, gyda grwpiau amgylcheddol yn croesawu’r awgrymiadau a wnaed. Fodd bynnag, nid roddodd y gymuned fusnes yr un croeso, ac roedd Prif Weithredwr Siambr Fasnach De Cymru yn datgan nad yw’r adroddiad yn cynnig ‘atebion i’r problemau y mae busnesau Cymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd, bob dydd’.

Eto mae yna ddadlau hyd yn oed o fewn y gymuned fusnes ar yr ateb gorau ar gyfer y ffordd. Labelodd Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru y prosiect fel ‘camgymeriad biliwn o bunnoedd’ ar yr adeg y cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y llwybr du fel yr opsiwn a ffafriwyd, yn 2014, a ffafrio’r llwybr glas yn ei le. Yn y cyfamser mynegodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain gefnogaeth i’r llwybr du gan nodi ‘nad yw’r llwybr glas yn dysgu dim gwersi oddi wrth hanes’.

Parhau i danio’r ddadl

Mae’n ymddangos hefyd bod rhagor o danwydd wedi’i ychwanegu at y ddadl yn ddiweddar gyda’r awgrymiadau y gallai dileu tollau’r M4 ddylanwadu ar y penderfyniad ar p’un a ddylid bwrw ymlaen. Mae hefyd adroddiadau wedi bod yn y cyfryngau a fu’n awgrymu bod gwrthdaro dros y defnydd o bwerau benthyca Llywodraeth Cymru i adeiladu’r ffordd, a gyrhaeddodd y penawdau ar ôl cyhoeddi Cyllideb yr Hydref 2018 Llywodraeth y DU.

Mewn gwirionedd, y pwerau benthyca a roddwyd i Lywodraeth Cymru yn sgîl Deddf Cymru 2014 a helpodd i sbarduno penderfyniad Llywodraeth Cymru i ystyried adeiladu ffordd newydd, gyda’r Prif Weinidog yn datgan ar y pryd y bydd y pwerau i fenthyg hyd at £1 biliwn yn golygu y ‘byddwn yn gallu ystyried yr opsiwn o ffordd liniaru’r M4’. Amlinellodd Cyllideb Hydref 2018 y byddai pwerau benthyca Llywodraeth Cymru yn cael eu hadolygu i ystyried a ddylai’r cap benthyca gynyddu £300m, gyda Llywodraeth y DU yn dweud bod hyn ar gyfer ‘cefnogi cyflwyno ffordd liniaru’r M4’. Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid,, fodd bynnag, mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yn penderfynu ar sut y caiff pwerau benthyca eu defnyddio’.

Llai o dagfeydd o’r diwedd?

Daeth yr ymchwiliad i ben ym mis Ebrill 2018 ac mae adroddiad yr arolygydd bellach wedi’i roi i Weinidogion Cymru i’w ystyried. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i gyhoeddi’r adroddiad a’i benderfyniad ynghylch a fydd y Gorchmynion yn cael eu cadarnhau. Er y gall Llywodraeth Cymru benderfynu cadarnhau’r Gorchmynion, ymddengys mai pleidlais y Cynulliad a fydd yn penderfynu a yw’r gwaith adeiladu’n mynd rhagddo, a nododd Arweinydd y Tŷ y caiff y bleidlais hon ei chynnal ddechrau mis Rhagfyr 2018.

Gyda Carwyn Jones, y Prif Weinidog presennol yn rhoi’r gorau i’w swydd ar 11 Rhagfyr, mae pwy sy’n gwneud penderfyniad Llywodraeth Cymru o ran y Gorchymyn yn fater arall lle mae’n ymddangos bod Aelodau’r Cynulliad yn anghytuno. Mae’r Prif Weinidog ei hun wedi dweud bod hwn yn benderfyniad a wneir ganddo ef er bod eraill yn awgrymu y dylid ei adael i’w olynydd.

Wrth i’r genedl aros am y penderfyniad terfynol ar Orchmynion y cynllun, a phleidlais y Cynulliad i benderfynu a yw’r gwaith adeiladu’n dechrau, rhaid dal i aros i ganfod ai cefnogwyr neu wrthwynebwyr y prosiect a gaiff y fuddugoliaeth yn y pen draw.


Erthygl gan Francesca Howorth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru