Y Cynulliad i drafod cyllid addysg bellach

Cyhoeddwyd 20/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn hwyrach y prynhawn yma, bydd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ynghylch yr adolygiad o gyllid addysg bellach. Yn dilyn hynny, cynhelir dadl Aelodau ddydd Mercher ar gyllid addysg bellach.

Mae'r blog hwn yn ystyried y dyraniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau addysg bellach (sefydliadau addysg bellach neu golegau) ym mlwyddyn academaidd 2018/19, ac yn trafod yn fyr rai pwyntiau o ddiddordeb yn ei gylch.

Y dyraniad i golegau ar gyfer 2018/19

Ar 29 Hydref 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei dyraniadau i sefydliadau addysg bellach yng Nghymru [PDF: 188KB] ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19.

Mae'r ffigurau'n dangos cynnydd cyffredinol o 2.47 y cant yn y dyraniad a wnaed ar draws y sector, o £286.4 miliwn i £293.4 miliwn. Fodd bynnag, maent hefyd yn dangos amrywiaeth sylweddol o ran y dyraniadau a wnaed i sefydliadau unigol (sy'n amrywio o ostyngiad o 0.41 y cant i gynnydd o 12.56 y cant o gymharu â 2017/18).

Nid dyma'r unig arian sydd ar gael i'r sector

Nid yw'r tabl uchod yn cynrychioli'r holl incwm a allai fod ar gael i sefydliadau addysg bellach ar gyfer y flwyddyn academaidd dan sylw. Yn hytrach, mae'n cynrychioli'r "grant craidd" y mae sefydliadau yn ei gael yn unig.

Ar ben y grant craidd hwn, mae colegau'n cael incwm o ffynonellau amrywiol, gan gynnwys cyllid yr UE, contractau Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu yn y gwaith, arian wedi'i neilltuo ar gyfer prosiectau penodol, arian ar gyfer darparu rhaglenni addysg uwch, ac arian sy'n gysylltiedig ag ymdrechion y colegau i ddatblygu eu ffynonellau incwm masnachol eu hunain—ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu hannog.

Yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru [PDF: 2.8MB] , yn 2015/16, allan o gyfanswm o £447 miliwn mewn incwm, dim ond 67.3 y cant oedd yn deillio o'r grant craidd, ac roedd 11.1 y cant yn deillio o gontractau dysgu yn y gwaith.

Ni fydd incwm cyffredinol cyfunol y sector ar gyfer 2018/19 yn hysbys hyd nes y bydd sefydliadau'n cyhoeddi eu hadroddiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn academaidd. Ar hyn o bryd, felly, mae hyn yn golygu nad oes modd asesu pa mor ddibynnol y mae sefydliadau addysg bellach ar y grant craidd ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.

Nid yw'r tabl yn dangos y rhaniad rhwng y dyraniad ar gyfer darpariaeth amser llawn a'r dyraniad ar gyfer darpariaeth ran-amser

Nid yw'r tabl uchod yn dangos y rhaniad rhwng y dyraniad grant craidd ar gyfer darpariaeth amser llawn a'r dyraniad ar gyfer darpariaeth ran-amser.

Rhwng 2011/12 a 2016/17, yng nghyd-destun toriad termau real o 13 y cant yn y grant craidd cyffredinol i golegau, blaenoriaeth Llywodraeth Cymru oedd ariannu astudiaeth amser llawn.

Arweiniodd y polisi hwn at ostyngiad o £23.4 miliwn yn y cyllid a ddyrannwyd i ddysgu rhan-amser rhwng 2011/12 a 2016/17. Roedd hyn yn cynrychioli gostyngiad o 70.9 y cant mewn termau real, o'i gymharu â'r cynnydd o 2.9 y cant mewn termau real a gafwyd yn y cyllid ar gyfer dysgu amser llawn. Golyga hyn fod y cyllid ar gyfer darpariaeth ran-amser wedi gostwng fel cyfran o'r grant craidd, a hynny o 12 y cant i 4 y cant.

Mae'r fethodoleg bresennol ar gyfer pennu dyraniadau yn seiliedig ar setliadau hanesyddol yn hytrach na rhagamcanion ar gyfer gofynion y dyfodol

Mae cyfrifo'r dyraniad grant craidd sydd ar gael i golegau addysg bellach bob blwyddyn yn gymharol syml ar hyn o bryd.

Yn fras, mae angen cymryd grant craidd y flwyddyn flaenorol, (sy'n cynnwys arian ychwanegol a ddarperir i rai colegau yn sgil amddifadedd a phrinder poblogaeth), a'i addasu yn seiliedig ar berfformiad cyfartalog y gorffennol, cyn cymhwyso ymgodiad canrannol unffurf i'r swm a addaswyd. Mae'r tabl uchod yn dangos hyn fel cynnydd o 1 y cant. Dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru bod y fethodoleg hon yn gallu:

cynnig rhywfaint o sicrwydd i golegau, [ond] mae’n golygu na all dyraniadau cyllid adlewyrchu newidiadau i lefel yr angen ledled Cymru, fel yn y boblogaeth dysgwyr ifanc

Felly, roedd y dull hwn yn destun argymhelliad yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y dyraniadau a wneir yn cael eu cysylltu'n agosach â galw, yn enwedig gan y bydd pob coleg yn gweld newidiadau demograffig rhanbarthol gwahanol a fydd yn arwain at batrymau galw anghyson ar draws y sector.

Ar hyn o bryd, mae perfformiad y gorffennol yn bwysig o ran pennu'r dyraniadau

Mae pob dyraniad grant craidd newydd yn dibynnu'n fras ar berfformiad y coleg o ran bodloni ei dargedau cyflawni dros y ddwy flynedd flaenorol (o fewn terfyn o 2.5 y cant).

Fel y gwelir yn y tabl uchod, roedd perfformiad cyfartalog Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a Grŵp Colegau NPTC yn 2015/16 a 2016/17 yn is na'r targed, sy'n golygu bod eu dyraniadau grant craidd ar gyfer 2018/19 wedi cael eu haddasu a'u gostwng o 2.36 y cant ac 1.74 y cant, yn y drefn honno, cyn i'r ymgodiad unffurf o 1 y cant gael ei gymhwyso iddynt. Dyma'r amgylchiadau sydd wedi arwain at sefyllfa lle mae eu dyraniadau ar gyfer 2018/19 yn llai na'u dyraniadau ar gyfer 2017/18.

Tueddiadau a'r dyfodol

Ers 2011/12, mae'r sector addysg bellach wedi rheoli'r gostyngiad a gafwyd yn y grant craidd gan Lywodraeth Cymru. Ar yr un pryd, fodd bynnag, mae'r sector wedi arallgyfeirio ei ffynonellau incwm eraill, gan gynnwys ffynonellau masnachol a rhyngwladol, ac wedi cymryd camau uno, gan greu nifer llai o sefydliadau addysg bellach mwy.

Amser a ddengys i ba raddau y bydd datganiad Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar yr adolygiad o gyllid addysg bellach yn mynd i'r afael â'r argymhellion a wnaed gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn 2017.

Mae'r Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Cyflogadwyedd [PDF: 1.4MB] yn dangos bod y cam o gysylltu'r drefn ariannu i wahaniaethau rhanbarthol mewn galw (a hynny, o bosibl, mewn perthynas â galw am alw a sgiliau ymhlith dysgwyr) wedi cael ei ystyried yn yr adolygiad, yn unol ag argymhellion Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn ogystal â'r cam o newid y drefn ar gyfer ariannu darpariaeth ran-amser.

Yn olaf, mae colegau'n gwneud defnydd cynyddol o'r canfyddiadau a'r wybodaeth sy'n deillio o'r tair Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol at ddibenion datblygu eu cynlluniau blynyddol a phenderfynu ar y rhaglenni a'r ddarpariaeth y byddant yn eu rhoi ar waith. Ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dechrau cysylltu'r drefn ariannu yn benodol â'r canfyddiadau hyn, fel y dangosir gan y Gronfa Datblygu Sgiliau, sy'n werth £10 miliwn. Amser a ddengys i ba raddau y bydd y patrwm hwn yn cael ei ddilyn mewn polisïau yn y dyfodol.


Erthygl gan Phil Boshier, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru