Bil Deddf Uno

Cyhoeddwyd 21/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 9 Hydref 2018 cafodd y Bil Deddf Uno ei Ddarlleniad Cyntaf yn Nhŷ'r Arglwyddi. Mae'n Fil Preifat Arglwyddi ac wedi'i noddi gan yr Arglwydd Lisvane, aelod annibynnol a chyn Glerc Tŷ'r Cyffredin. Nod y Bil yw:

[…] to provide a renewed constitutional form for the peoples of England, Scotland, Wales and Northern Ireland, to continue to join together to form the United Kingdom, to affirm that the peoples of those nations and parts have chosen, subject to and in accordance with the provisions of this Act, to continue to pool their sovereignty for specified purposes, and to protect social and economic rights for citizens.

Nid oes dyddiad wedi'i bennu eto ar gyfer Ail Ddarlleniad y Bil. Mae'r erthygl hon yn nodi beth sydd yn y Bil, sut mae'n ymwneud â Chymru, ac i ba raddau y byddai'n arwain at gamau tuag at wladwriaeth ffederal.

Pam bod y Bil hwn wedi'i gyflwyno?

Y Grŵp Diwygio Cyfansoddiadol (“CRG”) yw'r sefydliad sydd wedi datblygu'r Bil, a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Lisvane. Mae'n cynnwys cyn-wleidyddion a gwleidyddion cyfredol o bob un o brif bleidiau'r DU, nifer o academyddion, cyn swyddogion yn Senedd a llywodraeth y DU, yn ogystal â dinasyddion cyffredin. Mae'r CRG o'r farn:

The United Kingdom risks disintegration unless we have a new constitutional settlement to guarantee the rights and autonomy of each constituent nation and region within a reformed UK under a new Act of Union.

Lansiodd y CRG ddadl gyhoeddus gyda phapur byr ym mis Medi 2015, ac yna Bil Deddf Uno Drafft a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2016. Roedd Nodiadau Esboniadol i gyd-fynd ag ef. Y rheswm pam bod y Bil yn cael ei ailadrodd nawr yw gan fod ymgynghori wedi digwydd dros y tair blynedd diwethaf, ac amcan y CRG yw ysgogi dadl bellach. Mae'r CRG yn nodi:

All of the members of the Steering Committee and the Group’s wide circle of correspondents agree that, in spite of piecemeal constitutional changes over recent decades, our present constitutional arrangements are unsatisfactory and trigger questions which undermine the stability of the UK.
The Group believes that the case is a very urgent one, and the Bill as it has been drafted reflects the view that the UK needs a new constitutional settlement if the Union is to be preserved and strengthened. This is particularly important as the UK embarks on a new chapter of its history as it departs the EU in March 2019.

Beth sydd yn y Bil?

Mae Nodiadau Esboniadol 2016 yn nodi mai diben Bil y Ddeddf Uno yw: “to cement the fundamental structure of the UK for the foreseeable future, based on principles and processes that command the general support of people throughout the country.” Nod y Bil yw cadw a chodeiddio y nodweddion mwyaf pwysig a llwyddiannus y system bresennol, fel y syniad o gyd-gefnogaeth a hawliau a gwerthoedd cyffredin; ond mae hefyd yn awgrymu newid ar faterion lle ystyrir bod diffyg cynnwys cyffredinol, gan gynnwys trefn llywodraethu Lloegr a strwythur Tŷ'r Arglwyddi.

Hanfod polisi'r Bil yw ei fod yn dechrau o'r sefyllfa bod Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn uned a allai ac a ddylai benderfynu ar faterion eu hunain i'r graddau y maent yn ystyried y dylent; ond y dylai pob uned hefyd fod yn rhydd i ddewis rhannu, drwy'r Deyrnas Unedig effeithlon ac effeithiol, swyddogaethau sy'n cael eu hymarfer yn fwy effeithiol wrth eu rhannu.

Beth mae'r Bil yn ei ddweud am Gymru?

Mae Rhan 5 o'r Bil drafft yn gwneud darpariaeth ar gyfer llywodraethu Cymru.

Mae'r Bil yn achub y blaen ar gynlluniau Comisiwn y Cynulliad o ran newid enw yn y Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru) wrth ddisgrifio Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel Senedd Cymru/Welsh Parliament.

Mae Rhan 5 yn cadarnhau'r trefniadau presennol ar gyfer datganoli. Mae'n cadw Deddfau Llywodraeth Cymru 1998 a 2006 fel y Deddfau craidd ynghylch llywodraeth a deddfwrfa Cymru.

Mae'n ei gwneud yn ofynnol bod Deddfau Llywodraeth Cymru yn cael eu diwygio i sicrhau bod Senedd Cymru/Welsh Parliament a Llywodraeth Cymru â chymhwysedd ym mhob mater ac eithrio'r meysydd polisi canolog a gedwir i Senedd a Llywodraeth y DU gan Ran 2 o'r Bil.

Byddai Deddfau Llywodraeth Cymru yn cael eu diwygio (os bydd angen) i gyflawni'r canlynol:

  • darparu bod materion yn ymwneud ag etholiadau i Senedd Cymru yn cael eu deddfu gan Senedd Cymru ei hun;
  • cael gwared ar bwerau Senedd y DU i ymyrryd ym materion Senedd Cymru;
  • cael gwared ar bwerau Llywodraeth y DU i ymyrryd ym materion Llywodraeth Cymru;
  • cael gwared ar reolaethau ar daliadau allan o Gronfa Gyfunol Cymru;
  • cael gwared ar reolaethau presennol ar fenthyca gan Weinidogion Cymru.

Symud tuag at ffederaliaeth?

Cafodd y Bil ei gyflwyno gan y CRG fel Bil i atal y DU rhag rhannu, yn sgil Senedd y DU yn cyflwyno Pleidleisiau Lloegr ar gyfer Cyfreithiau Lloegr. Mewn erthygl o 2015, dywedodd yr Arglwydd Campbell, yr Arglwydd Hain ac Ardalydd Salisbury, y mae pob un ohonynt yn aelodau o Grŵp Llywio'r CRG:

The English votes for English laws provisions in effect create two classes of MP, making the Scots, Northern Irish and Welsh seem less welcome than they are — grist to the mill for separatists. They also make it difficult for article 9 of the Bill of Rights — which covers freedom of speech in parliament — to apply, which risks opening parliamentary proceedings to litigation. Perhaps worst of all, the use of standing orders as a vehicle for change makes our constitutional arrangements even more impenetrable. The bones of our constitution should be clear and understandable to any interested citizen, not just legislative anoraks.

I'r perwyl hwn, mae'r Bil yn amlinellu dibenion yr Undeb, gan gynnwys cydraddoldeb a rheol gyfreithiol; hawliau a rhyddid; goddefgarwch a pharch; cyfle cyfartal; diogelwch; hawliau cymdeithasol ac economaidd, gan gynnwys iechyd ac addysg; a budd o hanes a diwylliant cyffredin. Mae rhestr o gymwyseddau a gedwir, fel y setliadau datganoli cyfredol, gyda manylion i'w llenwi ar gyfer y cenhedloedd unigol. Mewn erthygl, dywedodd y gwyddonydd gwleidyddol, yr Arglwydd Michael Keating fod hyn yn cyfeirio at ryw fath o undeb ffederal anghymesur sy'n cynnig arbrawf meddwl defnyddiol a mesur ar gyfer unrhyw setliad gwirioneddol.

Fodd bynnag, mae'n nodi bod rhan olaf y Bil yn mynd i gyfeiriad gwahanol iawn. Bydd hefyd un gwasanaeth sifil gyda'r bwriad i fod yn rym cryf ar gyfer cydlyniant. Daw i'r casgliad:

Most strikingly of all, there is a clause that provides that nothing in the Act will affect the sovereignty of the UK Parliament, which even retains the power to amend or repeal the Act of Union itself. Such a clause has featured in every devolution bill since 1886, with the exception of one Scotland bill in the 1920s. It is the essential difference between devolution and the federal or confederal alternatives. It is also in glaring contradiction with the commitment to the sovereignty of the nations on which the earlier part of the proposal is based.

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru