Cyllid Diwylliant

“Cyfnod anodd” i’r celfyddydau a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r arian cyhoeddus a roddir i’r celfyddydau yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol, mewn termau real. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar Gyngor Celfyddydau Cymru i leihau dibyniaeth sector y celfyddydau ar gymhorthdal cyhoeddus ac i’r sector diwylliant wneud rhagor i godi arian. Ond mae nifer o ffactorau yn ei gwneud yn arbennig o anodd i sefydliadau celfyddydol yng Nghymru gynyddu eu hincwm.

26 Tachwedd 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r arian cyhoeddus a roddir i’r celfyddydau yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol, mewn termau real. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar  Gyngor Celfyddydau Cymru i leihau dibyniaeth sector y celfyddydau ar gymhorthdal ​​cyhoeddus ac i’r sector diwylliant wneud rhagor i godi arian. Ond mae nifer o ffactorau yn ei gwneud yn arbennig o anodd i sefydliadau celfyddydol yng Nghymru gynyddu eu hincwm.

“Cyfnod anodd i’r celfyddydau a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru”

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn elusen annibynnol sy’n ariannu ac yn datblygu’r celfyddydau. Bydd yn dosbarthu cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Bydd Llywodraeth Cymru yn nodi’r hyn yr hoffai i’r Cyngor Celfyddydau ei wneud â’i gyllid mewn llythyr cylch gwaith blynyddol.

Cyngor y Clefyddydau sy’n cael y rhan helaeth o ddyraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru: cafodd £31.2 miliwn o’r £ 31.7 miliwn o arian refeniw a ddyrannwyd i’r maes hwn yng nghyllideb 2017-18. Gwelwyd cynnydd o 3.5 y cant mewn cyllid refeniw yn y maes hwn, mewn termau arian parod, o’i gymharu â’r llinell sylfaen ddiwygiedig ar gyfer 2016-17.

Mae’r cyllid a gaiff Cyngor Celfyddydaugan Lywodraeth Cymru wedi gostwng 18% mewn termau real rhwng 2011-12 a 2017-18  (Ffigurau’n seiliedig ar UK Government GDP deflators). Yn 2017-18 cafwyd y cynnydd cyntaf (yn nhermau arian parod a thermau real) yn y cyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ers 2010-11. Mae cyfran Cyngor y Celfyddydau o elw’r Loteri hefyd wedi gostwng ychydig iawn mewn termau real rhwng 2011-12 a 2017-18.

Mae awdurdodau lleol hefyd yn ariannu sefydliadau celfyddydol. Ond mae hwn yn faes gwariant dewisol, ac mae wedi lleihau oherwydd bod cyllidebau awdurdodau lleol wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r cyllid y mae awdurdodau lleol yn ei ddyrannu i Bortffolio Celfyddydau Cymru (sefydliadau celfyddydol sy’n cael cyllid refeniw blynyddol gan Gyngor y Celfyddydau) wedi gostwng o £11 miliwn yn 2011-12 i £5.1 miliwn yn 2016-17.

Mae Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor y Celfyddydau, yn disgrifio’r cyfnod anodd sy’n wynebu’r celfyddydau a ariennir yn gyhoeddus yn Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2017-18. “Mae’r celfyddydau’n dal i fod yn fregus,” meddai “oherwydd bod pwysau economaidd parhaus ar gyllid cyhoeddus yn gorfodi dewisiadau anghyfforddus ynghylch pa rannau o fywyd dinesig all gyflwyno’r ddadl fwyaf argyhoeddiadol dros gael cymorth.”

Ym mis Mawrth 2018 cyhoeddodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ei adroddiad ar gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y clefyddydau. Yn ystod ei ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor fod sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn wynebu anawsterau penodol wrth geisio cynyddu eu hincwm, a bod yn rhain wedi’u seilio’n bennaf ar eu maint a’u lleoliad.

Cymorth gan fusnesau: canolbwyntio ar sefydliadau mwy yn “y canolfannau metropolitan”

Mae’r sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn ei chael yn anodd cael cymorth gan fusnesau, gan mai nifer fach o fusnesau mawr sydd â’u pencadlys yng Nghymru. Yn ôl Cyngor y Celfyddydau, mae’n haws cael nawdd gan fusnesau yn y canolfannau dinesig a chaiff y nawdd hwn ei roi i sefydliadau celfyddydol mwy o ran maint ac amlygrwydd. Ychwanegodd y byddai sefydliad cymunedol bach mewn ardal wledig yn ei chael yn anodd cael nawdd corfforaethol sylweddol.

Mae Celfyddydau a Busnes Cymru yn meithrin perthynas rhwng sefydliadau celfyddydol a busnes, ac mae’n gweithredu fel elusen annibynnol yng Nghymru ers 2011. Mae ei gyllid cyhoeddus wedi gostwng dros y cyfnod hwn, ac yn 2017 roedd yn cyfrif am 27% o’i incwm.

Roedd Cyngor y Celfyddydau wedi bwriadu rhoi’r gorau i ariannu’r sefydliad yn 2016, ond penderfynodd ymestyn y cyfnod ariannu tan 2019. Yn ei ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor, dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth y bydd “yn pwyso…i barhau i neilltuo arian ar gyfer y gweithgarwch hwn”, er mai mater i Gyngor y Celfyddydau yw’r modd y maent yn darparu gwasanaethau i fusnesau.

Rhoddion gan unigolion: yr her barhaus o ddangos y gall y celfyddydau fod yn achos elusennol.

Mae’r ffaith mai nifer gymharol isel o unigolion cefnog ac mai nifer cymharol isel o unigolion sydd â gwerth net uchel yng Nghymru yn ei gwneud yn anodd codi arian gan unigolion. Dywedodd canolfan celfyddydau Chapter ei bod yn her barhaus dangos bod y celfyddydau’n achos elusennol. Roedd yr ymgynghoriaeth codi arian, Blue Canary, yn cytuno gan ddweud, fod sefydliadau celfyddydol ar eu hôl hi o ran y mentrau a’r arweiniad a welir mewn perthynas â chynhyrchu incwm ar draws y sector elusennol ehangach.

Ymddiriedolaethau a sefydliadau: “mae nifer ac ansawdd y ceisiadau’n parhau’n isel”

Mae’r farchnad bresennol ar gyfer cyllid gan ymddiriedolaethau a sefydliadau yn anodd: mae grantiau’n cael eu cyfyngu gan fod cyfraddau llog wedi bod yn isel am gyfnod estynedig, ac mae cystadleuaeth gref wrth i sefydliadau celfyddydol geisio dod o hyd i arian ar ôl colli eu cyllid cyhoeddus. Yn gyffredinol, mae’n well gan ymddiriedolaethau a sefydliadau ariannu prosiectau penodol yn hytrach na darparu arian sy’n cymryd lle cyllid refeniw y sector cyhoeddus.

Er bod cystadleuaeth ffyrnig am grantiau, mae Celfyddydau a Busnes Cymru yn teimlo bod llawer o ymddiriedolaethau yn Llundain yn dal yn awyddus i fuddsoddi mwy yng Nghymru, gan nodi bod nifer ac ansawdd y ceisiadau yn parhau’n isel. Mae’r sefydliadau hynny sy’n llwyddo’n dueddol o fod yn fwy, ac mae’r gallu ganddynt i gyflwyno ceisiadau sy’n llwyddo.

Ac mae cyllid cyhoeddus yn esgor ar gyllid preifat. Yn ôl Chapter:

Trusts like the reassurance of seeing public support there, and for funders who are not local, this public support is often the first sign that a project has a local need and should be funded.

Wrth i arian cyhoeddus grebachu,  mae’r gallu i geisio cyllid o ffynonellau preifat hefyd yn gwanhau.

Codi arian refeniw: mae nifer y cyfleoedd yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar faint

Efallai mai’r ffordd amlycaf i sefydliad celfyddydol godi arian yw drwy werthu ei nwyddau a’i wasanaethau. Ynghyd â’r digwyddiadau arferol, y caffis a’r siopau, eglurodd Celfyddydau a Busnes Cymru fod cynnydd sylweddol yn nifer y cwmnïau sy’n chwilio am hyfforddiant celfyddydol i ymdrin ag anghenion datblygu staff. Mae cwmni Theatr Hijinx, er enghraifft, yn defnyddio actorion sydd ag anableddau dysgu i ddysgu cwmnïau sut i gyfathrebu â phobl sy’n agored i niwed.

Unwaith eto, mae maint yn bwysig. Yn ôl Gallery G39, mae’r gallu i gynhyrchu incwm sylweddol yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar faint. Ac mae cyrff celfyddydol yn cael cyllid cyhoeddus oherwydd yr ystyrir na all y farchnad, ar ei phen ei hun, eu cynnal. Dywedodd cwmni Theatr na nÓg “ein cylch gwaith fel elusen yw darparu gwasanaeth, sydd … ddim o natur a fyddai’n ennill adenillion ar fuddsoddiad gan gwmni masnachol.”

Mae angen i’r sector diwylliant “feithrin ei allu i godi arian”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod angen i’r sector celfyddydau addasu i ymdopi â llai o arian cyhoeddus. Yn ôl ei strategaeth ddiwylliant, Golau yn y Gwyll, “Wrth i arian cyhoeddus grebachu, mae angen clir i’r sector diwylliant feithrin ei allu i godi arian, i farchnata ac i greu incwm “, a bod “y sector yn colli staff profiadol ac arbenigol, sy’n peryglu ei broffesiynoldeb”.

Cynhyrchodd Cyngor y Celfyddydau Raglen Wytnwch fel ymgais i gryfhau cynaliadwyedd ariannol y sector diwylliant. Ond dim ond i sefydliadau celfyddydol sy’n cael arian refeniw gan y Cyngor y mae hyn ar gael. Argymhellodd y Pwyllgor fod Cyngor y Celfyddydau yn ystyried ymestyn y rhaglen hon i gynnwys cyrff celfyddydol nad ydynt eisoes yn cael eu hariannu gan Gyngor y Celfyddydau.

Roedd y Pwyllgor hefyd o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru wneud rhagor. Dangosodd y dystiolaeth bod sefydliadau llai, mwy gwledig, nad ydynt yn cael fawr o gyllid, yn ei chael yn anoddach ymdopi â thoriadau yn sector cyhoeddus drwy ddod o hyd i ragor o gyllid preifat.

Daeth i’r casgliad “nad yw’n ddigon i Lywodraeth Cymru alw am i’r sector celfyddydau leihau ei ddibyniaeth ar gyllido cyhoeddus – mae angen iddi hefyd ddarparu lefel briodol o gymorth sydd wedi’i deilwra a’i lywio’n ddoeth i ategu hyn”.

Deunydd darllen ychwanegol:


Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru