Arwyddion o newid? Data cynnar ynghylch cymorth ariannol i fyfyrwyr

Cyhoeddwyd 27/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Taith drwy’r data diweddaraf

Diben y blog hwn yw eich tywys ar daith drwy bedwar siart sy’n dangos y data cyntaf gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ynghylch myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig rhan-amser o Gymru sy’n cael cymorth ariannol.

O fis Medi 2018, dechreuodd y myfyrwyr israddedig amser-llawn a rhan-amser cyntaf â mynediad at becyn cymorth ariannol Diamond eu hastudiaethau. Ar yr un pryd, dechreuodd yr ail flwyddyn o fyfyrwyr ôl-raddedig i gael mynediad at fenthyciadau ôl-raddedig yng Nghymru eu ‘siwrnai’ hwythau fel myfyrwyr.

Ychydig fisoedd i mewn i flwyddyn gyntaf y prif ddiwygiadau, mae’r darnau cyntaf o ddata cychwynnol bellach ar gael yn gyhoeddus. Mae hyn yn caniatáu cipolwg agoriadol ar nifer y myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sy’n cael cymorth ariannol ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19.

Yn gyntaf, y cafeat. Rhaid dehongli’r data hyn yn ofalus, ac mae’n rhaid cofio’r hen ddywediad nad yw cydberthynas yn golygu achosiant (hynny yw, mae’n bosibl bod y niferoedd y myfyrwyr yr ydym ar fin eu cyflwyno yn newid am resymau heblaw diwygiadau Diamond, ac mai cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy’n gymwys i gael cymorth sy’n gyfrifol am y niferoedd hyn, yn hytrach na nifer uwch o fyfyrwyr yn gyffredinol).

Wedi dweud hynny, mae’r data cychwynnol hyn gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, a gyhoeddwyd ar 15 Tachwedd 2018, yn dangos cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig rhan-amser sy’n cael cymorth ariannol o’i gymharu â 31 Hydref y llynedd.

Atgoffwch fi, beth sydd yn y diwygiadau Diamond?

Efallai mai’r man cychwyn yw eich atgoffa’n fyr o’r hyn yr oedd y diwygiadau Diamond yn ei olygu i gymorth ariannol i fyfyrwyr.

Prif amcan y diwygiadau Diamond oedd symud pwyslais cymorth ariannol myfyrwyr oddi ar grantiau ffioedd dysgu tuag at gymorth ariannol i dalu costau byw, gan gynnwys darparu grantiau cynhaliaeth mwy i fyfyrwyr o aelwydydd ar incwm is.

Newid pwysig arall oedd na fyddai cyfanswm y cymorth sydd ar gael i fyfyriwr yn cael ei ostwng yn ôl incwm y cartref, dim ond y cydbwysedd rhwng y benthyciad cynhaliaeth (sy’n rhaid ei ad-dalu) a’r grant (nad oes yn rhaid ei ad-dalu).

Un o’r newidiadau arwyddocaol eraill yn y diwygiadau oedd cynnig fersiwn pro-rata o’r pecyn amser llawn i fyfyrwyr rhan-amser. Mae gweithredu’r egwyddor ‘cydraddoldeb cymorth’ hon wedi golygu bod myfyrwyr rhan-amser bellach yn gymwys i gael cymorth i dalu costau byw na fyddent wedi bod yn gymwys ar ei gyfer cyn mis Medi 2018 oherwydd incwm eu haelwydydd.

Mae’r diwygiadau hefyd wedi cynnwys mwy o gefnogaeth ariannol i fyfyrwyr ôl-raddedig drwy fenthyciad ôl-raddedig o fis Medi 2017 (a gyflwynwyd ychydig yn gynharach na gweddill y diwygiadau).

Felly, rydym wedi cadarnhau bod mis Medi 2018 yn nodi dechrau rhai newidiadau eithaf sylweddol i gymorth i fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig, felly mae’n amser symud ymlaen at niferoedd myfyrwyr.

Mae niferoedd y myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau rhan-amser a chyrsiau ôl-raddedig yng Nghymru, a niferoedd y myfyrwyr o Gymru sy’n dilyn y cyrsiau hyn, wedi bod yn gostwng ers blynyddoedd

Mae’r siart cyntaf yn dangos y duedd ar gyfer myfyrwyr israddedig rhan-amser newydd a nifer y myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau ôl-raddedig llawn-amser a rhan-amser a addysgir ym mhrifysgolion Cymru bob blwyddyn (nid cyfanswm y poblogaethau, ond nifer y myfyrwyr newydd bob blwyddyn).

Cofiwch fod y ffigurau hyn yn dangos pob cofrestriad ym mhrifysgolion Cymru, gan gynnwys myfyrwyr nad ydynt yn hanu o Gymru.

Ffigur 1 – Y duedd mewn dysgu rhan-amser a dysgu ôl-raddedig ym mhrifysgolion Cymru Mae’r graff yn dangos tuedd tuag i lawr i raddau helaeth o ran cofrestriadau newydd ar gyrsiau israddedig rhan-amser, gyda 1,340 yn llai o israddedigion gradd gyntaf (hynny yw, cyrsiau BA, BSc ac ati) yn cerdded drwy’r drws yn 2016/17 o’i gymharu â 2012/13.

Mae’r darlun o ran astudiaethau ôl-raddedig yn fwy cymysg, gyda nifer y cofrestriadau yn cynyddu yn 2016/17 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag nid yw’r cynnydd yn y ddau gategori yn 2016/17 yn adennill yr holl dir a gollwyd ers 2012/13.

Byddwch wedi sylwi nad yw’r siart hwn ond yn dangos myfyrwyr sy’n hanu o Gymru. Dim ond myfyrwyr sy’n hanu o Gymru sy’n elwa ar becyn Diamond. Fodd bynnag, gallwch ddod o hyd i’r data hyn ar wefan HESA yma a byddwch yn sylwi bod y duedd gyffredinol yr un fath: llai o gofrestriadau rhan-amser ac ôl-raddedig gan fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru sy’n astudio mewn prifysgolion unrhyw le yn y DU yn 2016/17 o’i gymharu â 2012/13.

Nid yw’r duedd hon yn unigryw i Gymru: roedd 122,000 yn llai o gofrestriadau rhan-amser newydd yn y DU yn 2016/17 o’i gymharu â 2012/13.

Lle mae myfyrwyr o Gymru’n wahanol i fyfyrwyr eraill yw bod llai ohonynt wedi cofrestru ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig llawn-amser newydd yn 2016/17 nag yn 2012/13. Mae pob gwlad arall yn y DU yn dangos tuedd yn y cyfeiriad arall, sef mwy o gofrestriadau gan fyfyrwyr ôl-raddedig newydd yn 2016/17 nag yn 2012/13.

Felly, mae’r hanes yn un o ddirywiad sylweddol yn niferoedd y myfyrwyr israddedig rhan-amser (mewn prifysgolion yng Nghymru ac ymhlith myfyrwyr sy’n hanu o Gymru sy’n astudio ledled y DU) a gostyngiad llai mewn myfyrwyr ôl-raddedig (eto, mewn prifysgolion yng Nghymru ac ymhlith myfyrwyr sy’n hanu o Gymru sy’n astudio ledled y DU).

Diwedd y duedd tuag i lawr?

Bellach, gellir cymharu’r duedd hon tuag i lawr â’r data gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Ffigur 2 – Y duedd dros 6 blynedd o ran myfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig sy’n cael cymorth ariannol a delir iddynt Mae’r siart hwn yn dangos bod mwy o fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig o Gymru (a’r UE) yn cael cymorth ariannol nag ar adeg gymharol yn unrhyw un o’r blynyddoedd blaenorol.

Mae llai o geisiadau ar gyfer y benthyciad ôl-raddedig gan mai dim ond y llynedd y dechreuodd y pecyn cymorth hwn.

Mae’r siart isod yn canolbwyntio ar eleni a’r llynedd i ddangos y cynnydd yn well.

Ffigur 3 – Cymharu 31 Hydref 2017 â 31 Hydref 2018 – Benthyciadau ôl-raddedig a chymorth rhan-amser a delir i fyfyrwyr Mae’r siart olaf yn dangos y nifer sy’n cael benthyciadau i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Ffigur 4 – Cymharu 31 Hydref 2017 â 31 Hydref 2018 – Benthyciadau ôl-raddedig ar gyfer myfyrwyr newydd yn unig Mae’r siart hwn yn dangos cynnydd yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig newydd sy’n cael cymorth ariannol a delir (ar gyrsiau llawn-amser a rhan-amser).

Mae’r siart yn dangos bod 2,800 o fyfyrwyr newydd o Gymru wedi cael benthyciad ôl-raddedig ar 31 Hydref 2017. Ar 31 Hydref 2018, fodd bynnag, cafodd 3,800 o fyfyrwyr newydd o Gymru fenthyciad – cynnydd o 1,000 o fyfyrwyr newydd yn cael cymorth.

Fel mae’n digwydd, mae’r siart hwn hefyd yn dangos cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr sy’n hanu o’r UE sy’n cael cymorth ariannol ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig, sef o 100 i 600.

Beth mae hyn oll yn ei ddweud wrthym?

Wel, yr hyn na all y wybodaeth hon ei ddweud wrthym yw a yw’r diwygiadau Diamond wedi ysgogi cynnydd mewn astudiaethau rhan-amser ac ôl-raddedig ymhlith myfyrwyr Cymru. Ni allwn fod yn siŵr bod un yn achosi’r llall.

Fodd bynnag, mae’r data yn dangos, ar yr wyneb, cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy’n gwneud cais am gymorth ariannol, ac sy’n cael y cymorth hwn, eleni o’i gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf – gellid gweld hyn fel arwydd calonogol fod y tueddiadau hanesyddol o ran astudiaethau israddedig rhan-amser ac astudiaethau ôl-raddedig yng Nghymru yn dechrau gwrthdroi.

Fodd bynnag...! Yr hyn na allwn ei ddweud eto yw a fydd hyn yn duedd gyson tuag i fyny, gan wrthdroi’r dirywiad hanesyddol. Efallai mai galw heb ei fodloni eto sydd y tu ôl i’r duedd hon – hynny yw, mae pobl wedi bod yn aros i’r diwygiadau gael eu gweithredu cyn dechrau eu hastudiaethau. Mewn ychydig fisoedd, bydd y data cyntaf ar nifer y myfyrwyr o Gymru sydd wedi cofrestru ar raglenni rhan-amser a rhaglenni ôl-raddedig ar gael i Lywodraeth Cymru. Amser a ddengys a yw’r data hyn yn cyd-fynd â’r data hyn gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.


Erthygl gan Phil Boshier, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffigur 1 Ffynhonnell: HESA Ffigur 2, 3, 4 Ffynhonnell: Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr