Yr Amgylchedd

Y Cynulliad i drafod Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2018

Ar 4 Rhagfyr, bydd y Cynulliad yn trafod Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2018. Drwy’r gyfres o bum set o Reoliadau, mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei rhwymedigaethau statudol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

29 Tachwedd 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 4 Rhagfyr, bydd y Cynulliad yn trafod Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2018. Drwy’r gyfres o bum set o Reoliadau, mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei rhwymedigaethau statudol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Yn ei Strategaeth Newid Hinsawdd 2010, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i leihau cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr i lefel sydd 40 y cant yn is na lefelau 1990 erbyn 2020. Roedd y Strategaeth hefyd yn cynnwys targed i leihau allyriadau mewn meysydd o fewn cymhwysedd datganoledig, a hynny o 3 y cant bob blwyddyn gan ddechrau yn 2011, o’i gymharu â’r llinell sylfaen ar gyfer yr allyriadau cyffredinol rhwng 2006 a 2010.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Deddf yr Amgylchedd) yn gosod dyletswyddau newydd ar Lywodraeth Cymru i leihau allyriadau:

  • Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr allyriadau net yn 2050 o leiaf 80% yn is na’r llinell sylfaen (1990 neu 1995);
  • Erbyn diwedd 2018, rhaid i Lywodraeth Cymru bennu targedau allyriadau interim ar gyfer 2020, 2030 a 2040;
  • Ar gyfer pob cyfnod cyllidebol o bum mlynedd, rhaid i Lywodraeth Cymru bennu uchafswm allyriadau net Cymru (cyllideb garbon), a rhaid pennu’r ddwy gyllideb gyntaf erbyn diwedd 2018;
  • Caiff Llywodraeth Cymru wneud rheoliadau i sefydlu neu ddynodi corff neu unigolyn i fod yn gorff cynghori. Os na fydd yn gwneud Rheoliadau at y diben hwn,  y corff cynghori fydd Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd; a
  • Rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried cytundebau rhyngwladol i gyfyngu ar unrhyw gynnydd yn nhymheredd y byd ar gyfartaledd.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol”) yn hybu ymdrechion i leihau carbon yn genedlaethol ac yn lleol. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, weithio i gyflawni pob un o’r saith nod llesiant, ac mae tri ohonynt yn cyfeirio’n benodol at y newid yn yr hinsawdd.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd i’w chynghori ynghylch cynllunio cyllidebau a thargedau carbon Cymru (Ebrill 2017) ac, yn fwy diweddar (Rhagfyr 2017), ynghylch lefel y targedau allyriadau a’r cyllidebau carbon  sydd eu hangen er mwyn i Lywodraeth Cymru gyflawni  ei rhwymedigaethau fel y’u nodir yn Neddf yr Amgylchedd.

Dyma’r prif argymhellion yn y cyngor a gafwyd:

  • Dylid seilio’r fframwaith cyfrifyddu cyffredinol ar allyriadau gwirioneddol yng Nghymru, yn hytrach na’u haddasu ar gyfer gweithgarwch System Masnachu Allyriadau’r Undeb Ewropeaidd;
  • Dylai fod modd i Lywodraeth Cymru barhau i ddewis prynu credydau allyriadau rhyngwladol, credadwy er mwyn cynnig hyblygrwydd mewn amgylchiadau annisgwyl. Dylid ystyried mai trefniadau wrth gefn yw’r credydau hyn ac ni ddylid cynllunio i’w defnyddio, a dylid ceisio cyngor ymlaen llaw gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd;
  • Dylid cynnwys cyfran Cymru o allyriadau hedfan a morgludiant rhyngwladol yn y targedau ar gyfer allyriadau Cymru; a
  • Dylid dangos pob targed o dan Ddeddf yr Amgylchedd drwy eu cymharu â lefel allyriadau 1990. Felly, yn y cyllidebau carbon pum mlynedd, dylid eu dangos yn syml fel y gostyngiad cyfartalog o’i gymharu ag allyriadau 1990 drwy’r cyfnod cyllidebol.
  • Bydd sicrhau gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau erbyn 2050 yn anoddach i Gymru na’r gostyngiad cyfatebol ar gyfer y DU gyfan, yn bennaf oherwydd bod cynifer o ‘allyrwyr mawr’;
  • Mae lle i Gymru fynd y tu hwnt i’r gostyngiad lleiaf y deddfwyd ar ei gyfer, sef 80%, a sicrhau gostyngiad o 85% erbyn 2050;
  • Rhaid addasu’r ffigurau os bydd gorsaf bŵer Aberddawan, sy’n llosgi glo, yn cau cyn 2025. Mae’r lefelau a argymhellir ar gyfer 2020 a’r ddwy gyllideb garbon gyntaf yn caniatáu ar gyfer parhau i gynhyrchu ynni yng ngorsaf bŵer Aberddawan; ac
  • Argymhellion polisi mewn nifer o feysydd: safonau adeiladu; gwaith ôl-osod i sicrhau effeithlonrwydd ynni a gwresogi carbon isel; cludiant, amaethyddiaeth; coedwigaeth; cynhyrchu trydan; caffael; a chynllunio.

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2018

Ym mis Tachwedd, cyflwynodd Llywodraeth Cymru bum set o Reoliadau a fyddai’n caniatáu iddi gyflawni ei hymrwymiadau o dan Ddeddf yr Amgylchedd. sef:

Ochr yn ochr â’r Rheoliadau, ceir Memorandwm Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Yng nghyd-destun y pum set o Reoliadau, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, ac wedi ystyried y cyngor hwnnw, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Dros Dro) (Cymru) 2018

Diben y Rheoliadau hyn yw gosod targedau degawdol a fydd yn caniatáu iddi gyrraedd y targed o sicrhau gostyngiad o 80% o leiaf mewn allyriadau erbyn 2050. Wrth bennu pob targed interim, rhaid i Weinidogion Cymru fod yn fodlon eu bod yn cyd-fynd â’r gofyniad i gyrraedd targed 2050. Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd y DU, a’r targedau a bennwyd yn y Rheoliadau:

  • Targed ar gyfer 2020 i sicrhau gostyngiad o 27% yng nghyfanswm yr allyriadau o’u cymharu â 1990;
  • Targed ar gyfer 2030 i sicrhau gostyngiad o 45% yng nghyfanswm yr allyriadau o’u cymharu â 1990; a’r
  • Targed ar gyfer 2040 i sicrhau gostyngiad o 67% yng nghyfanswm yr allyriadau o’u cymharu â 1990.

Sefydlodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Grŵp Cyfeirio Arbenigol yn 2016, i’w gynorthwyo i graffu ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran y newid yn yr hinsawdd, a hynt y gwaith hwnnw.  Roedd y Grŵp yn siomedig â’r targedau a bennwyd gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd ar gyfer 2020, 2030 a 2040. Awgrymodd nad oeddent yn ddigon uchelgeisiol ac y gellid eu dehongli fel gwobr i Lywodraeth Cymru am fethu â chyrraedd targedau Strategaeth Newid Hinsawdd (2010). Roedd y Grŵp hefyd yn credu nad yw’r targedau’n rhoi digon o sylw i’r ymrwymiadau a wnaed o dan Gytundeb Paris, ac y dylent fod yn fwy uchelgeisiol.

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018

Mae cyllideb garbon yn gosod terfyn ar gyfanswm yr allyriadau yng Nghymru a ganiateir dros gyfnod cyllidebol o bum mlynedd. Y cyfnod cyllidebol cyntaf yw rhwng 2016 a 2020, ac mae’r cyfnodau dilynol yn cynnwys cyfnodau o bum mlynedd hyd at 2050. Wrth bennu pob targed interim, rhaid i Weinidogion Cymru fod yn fodlon eu bod yn cyd-fynd â’r gofyniad i gyrraedd targed allyriadau 2050 a’r targed interim ar gyfer unrhyw flwyddyn darged interim o fewn y cyfnod cyllidebol hwnnw. Mae’n ofynnol iddynt bennu’r lefelau ar gyfer y ddwy gyllideb garbon gyntaf erbyn diwedd 2018. Yn unol â’r targedau allyriadau interim, derbyniodd Llywodraeth Cymru gyngor Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, a dyma’r cyllidebau a bennwyd yn y Rheoliadau:

  • Y gyllideb garbon gyntaf (2016-2020): 23% yn is nag allyriadau 1990 ar gyfartaledd; a’r
  • Ail gyllideb garbon (2021-2025): 33% yn is nag allyriadau 1990 yn gyffredinol.

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Ryngwladol a Morgludiant Rhyngwladol) (Cymru) 2018

Diben y Rheoliadau hyn yw cynnwys cyfran Cymru o’r allyriadau sy’n deillio o hedfan rhyngwladol a morgludiant rhyngwladol fel rhan o fframwaith cyfrifo Llywodraeth Cymru drwy’r Cyfrif Allyriadau Net ar gyfer Cymru. Caiff y Cyfrif Allyriadau Net ei gyfrifo drwy bennu swm net yr allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchwyd yng Nghymru yn ystod y cyfnod, gan ddidynnu nifer yr unedau carbon a gredydwyd i’r cyfrif, ac ychwanegu nifer yr unedau carbon a ddebydwyd o’r cyfrif yn ystod y cyfnod. Drwy gynnwys yr allyriadau hyn yn y Cyfrif Allyriadau Net, y bwriad yw defnyddio dulliau cliriach a mwy tryloyw o gyfrifo allyriadau Cymru a hybu ymdrechion byd-eang i leihau allyriadau yn y sector hwn.

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd) (Cymru) 2018

Mae Deddf yr Amgylchedd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi terfyn ar faint y gellir lleihau’r Cyfrif Allyriadau Net drwy ddefnyddio unedau carbon. Credydau carbon rhyngwladol yw unedau carbon, a chânt eu cynhyrchu drwy’r trefniadau ardystiedig i leihau allyriadau .  Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Rheoliadau’n dweud eu bod yn gyfrwng i Gymru fuddsoddi mewn gweithgareddau i leihau allyriadau dramor a defnyddio’r gostyngiadau a sicrhawyd i wrthbwyso allyriadau domestig o fewn targedau Cymru. Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod terfyn o 10% ar y defnydd o unedau carbon yn ystod cyfnod y gyllideb garbon gyntaf.

Yn y cyngor a roddodd i Lywodraeth Cymru yn 2017, argymhellodd Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd mai dim ond ychydig o ddefnydd y dylid ei wneud o gredydau allyriadau ar draws yr economi i greu hyblygrwydd. Nid oedd y cyngor yn argymell gosod terfyn penodol ar ddefnyddio credydau allyriadau mewn deddfwriaeth. Fodd bynnag, mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd statudol o dan Ddeddf yr Amgylchedd i bennu terfyn penodol ar y defnydd o gredydau carbon mewn rheoliadau. Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar Ddatgarboneiddio wedi ymrwymo i geisio cyngor gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd cyn defnyddio credydau carbon mewn perthynas â’r gyllideb garbon gyntaf neu dargedau 2020.

Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018

Pwrpas y Rheoliadau hyn yw diffinio’r math o unedau carbon a all gyfrif tuag at dargedau a chyllidebau Llywodraeth Cymru at ddibenion cyfrifyddu, a sut y dylid  eu gweinyddu. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn dweud bod y Rheoliadau hefyd yn ceisio gwneud y broses o weinyddu a defnyddio’r unedau carbon yn ddibynadwy ac yn dryloyw drwy sefydlu prosesau gweinyddu ffurfiol i’r llywodraeth eu dilyn wrth brynu a defnyddio unedau carbon, a drwy esbonio sut y caiff yr unedau eu credydu i Gyfrif Allyriadau Net Cymru.


Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru