Brexit

Beth yw goblygiadau’r Datganiad Gwleidyddol ar Brexit i Gymru?

Ar 4 Rhagfyr, bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar y cytundeb ymadael â'r UE drafft a’r datganiad gwleidyddol. Mae hyn yn unol â bwriad Prif Weinidog Cymru y bydd y Cynulliad yn cynnal pleidlais ar y cytundeb a’r datganiad gwleidyddol cyn y 'bleidlais ystyrlon' yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae'r 'bleidlais ystyrlon' wedi'i threfnu ar gyfer 11 Rhagfyr, yn dilyn pum niwrnod o drafod, a bydd yn cadarnhau'r cytundeb ymadael, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

30 Tachwedd 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 4 Rhagfyr, bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar y cytundeb ymadael â’r UE drafft a’r datganiad gwleidyddol. Mae hyn yn unol â bwriad Prif Weinidog Cymru y bydd y Cynulliad yn cynnal pleidlais ar y cytundeb a’r datganiad gwleidyddol cyn y ‘bleidlais ystyrlon’ yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae’r ‘bleidlais ystyrlon’ wedi’i threfnu ar gyfer 11 Rhagfyr, yn dilyn pum niwrnod o drafod, a bydd yn cadarnhau’r cytundeb ymadael, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Roedd ein blog blaenorol yn cwmpasu cynnwys y cytundeb ymadael drafft, ond yn yr erthygl hon rydym yn troi ein golygon at y datganiad gwleidyddol, a’r materion allweddol sydd ynddo ar gyfer Cymru. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o flogiau ar themâu sy’n deillio o’r datganiad gwleidyddol, ac effeithiau economaidd posibl y cytundeb ymadael, felly cadwch lygad am y rhain.

Beth yw’r datganiad gwleidyddol?

Ar 25 Tachwedd 2018, cymeradwyodd y Cyngor Ewropeaidd destun drafft y cytundeb ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â datganiad gwleidyddol sy’n nodi’r fframwaith ar gyfer y berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r DU yn y dyfodol. Yn wahanol i’r cytundeb ymadael, nid yw’r datganiad gwleidyddol yn destun cyfreithiol sy’n rhwymo. Ei bwrpas yw gosod cyfeiriad y trafodaethau ar y berthynas yn y dyfodol, a fydd yn dechrau unwaith y bydd y DU wedi gadael yr UE yn ffurfiol ar ôl 29 Mawrth 2019. Mae’n cynnwys y dyheadau allweddol y mae’r ddwy ochr wedi cytuno arnynt, ond mae llawer o’r manylion i ddod eto.

Wrth gydnabod yr hyn sydd o’n blaenau, mae’r datganiad yn tynnu sylw y bydd y ddwy ochr yn gweithio i sicrhau ‘fframwaith sefydliadol cyffredinol’ mewn perthynas â meysydd penodol o gydweithrediad, ac y bydd modd adolygu’r berthynas eto yn y dyfodol. Mae’n nodi y gallai fframwaith yn y dyfodol fod ar ffurf cytundeb cydgysylltiad. I ddarllen rhagor am gytundebau cydgysylltiad, beth am ddarllen y blog hwn.

Beth sydd ynddo?

Mae’r Pwyllgor Materion Allanol (EAAL) wedi cyhoeddi dadansoddiad o’r datganiad gwleidyddol fel rhan o’i adroddiad ar oblygiadau’r cytundeb ymadael i Gymru (PDF, 629KB). I grynhoi, mae’r datganiad yn cynnwys y pwyntiau allweddol canlynol:

  • O ran yr economi, mae’r datganiad yn nodi y bydd trefniadau yn cael eu rhoi ar waith i greu ardal fasnach rydd ar gyfer nwyddau, sy’n cyfuno cydweithrediad dwfn o ran rheoleiddio a thollau, ac yr ategir hwn gan ddarpariaethau i sicrhau bod tegwch cyfartal i bawb o ran cystadleuaeth agored a theg. Y nod yw na fydd unrhyw dariffau, ffioedd, taliadau na chyfyngiadau meintiol ar draws pob sector nwyddau. Er y bydd yr UE a’r DU yn gallu gosod eu rheolau eu hunain o ran safonau ac yn y blaen, byddant yn rhoi darpariaethau ar waith i osgoi rhwystrau dianghenraid i fasnachu nwyddau. O ran gwasanaethau, fodd bynnag, nid yw’r datganiad yn anelu at yr un lefel o alinio. Yn hytrach, mae’n anelu at lefel o ryddid o ran masnach sydd ymhell y tu hwnt i ymrwymiadau Sefydliad Masnach y Byd yr UE a’r DU.
  • Mae adran allweddol arall o’r datganiad ar gyfer Cymru yn ymwneud â physgodfeydd. Dywed y datganiad na fydd y DU yn rhan o’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin bellach, ac y bydd yn wladwriaeth arfordirol annibynnol sy’n gallu gosod ei rheolau ei hun. Fodd bynnag, mae’r datganiad yn dweud y bydd y DU a’r UE yn ceisio cydweithredu’n ddwyochrog ac yn rhyngwladol er mwyn sicrhau y bydd pysgota’n gynaliadwy. Mae’r DU a’r UE yn bwriadu defnyddio eu ‘hymdrechion gorau’ i lunio cytundeb pysgodfeydd newydd a fyddai’n cwmpasu mynediad at ddyfroedd a chwotâu mewn pryd i bennu cyfleoedd pysgota am y flwyddyn gyntaf ar ôl y cyfnod pontio.
  • O ran yr amgylchedd, mae’r datganiad yn cynnwys meysydd allweddol ar gyfer cydweithrediad amgylcheddol ym meysydd newid hinsawdd, datblygu cynaliadwy a llygredd trawsffiniol. Yn benodol o ran newid yn yr hinsawdd, dywed y dylai’r berthynas yn y dyfodol ailddatgan yr ymrwymiadau y mae’r UE a’r DU wedi’u gwneud i addewidion newid yn yr hinsawdd rhyngwladol, fel y cytundeb Paris. Fel y nodwyd uchod, fodd bynnag, nid yw’r datganiad yn destun cyfreithiol sy’n rhwymo.
  • O ran cydweithredu ym maes iechyd yn y dyfodol, dywed y datganiad y dylai’r DU a’r UE gydweithredu yn yr un ffordd ag y mae’r UE yn ei threfniadau presennol gyda thrydydd wledydd. Byddai hyn yn golygu cydweithredu mewn fforymau rhyngwladol ar atal, canfod, paratoi ac ymateb i fygythiadau sefydledig a rhai sy’n dod i’r amlwg i ddiogelwch iechyd.
  • O ran hawliau i ddinasyddion, dywed y cytundeb gwleidyddol mai rhagofyniad hanfodol i unrhyw berthynas yn y dyfodol yw ei fod wedi’i ategu gan ymrwymiadau hirsefydlog i hawliau sylfaenol unigolion, gan gynnwys cadw at y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a’i system o orfodi – h.y. parchu barn y Llys Hawliau Dynol Ewropeaidd. O ran manylion y tu hwnt i’r cytundeb gwleidyddol, mae’n anelu at deithio heb fisa rhwng y DU a’r UE ar gyfer teithiau byr (fel gwyliau). Mae hefyd yn rhagweld ‘trefniadau’ sydd heb eu diffinio ar gyfer pobl sy’n symud rhwng y DU a’r UE am gyfnod oherwydd eu swyddi neu fusnes.
  • Er mwyn sicrhau gweithrediad y berthynas yn y dyfodol, gwneir trefniadau sefydliadol ar gyfer ei rheoli, ei goruchwylio, ei gweithredu a’i datblygu dros amser, yn ogystal ag ar gyfer datrys anghydfodau a gorfodi.

Beth yw barn Llywodraeth Cymru amdano?

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar 26 Tachwedd, ymatebodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, i gwestiynau gan y Pwyllgor ar y cytundeb drafft a’r datganiad gwleidyddol. Yn benodol wrth sôn am y datganiad gwleidyddol, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod ‘yn fyr’ o’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl ac nad yw’r cytundeb na’r datganiad gwleidyddol yn debygol o sicrhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru mewn pleidlais.

Cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru hyn mewn datganiad ysgrifenedig ar 27 Tachwedd, lle roedd yn amlinellu asesiad y Llywodraeth o’r cytundeb ymadael a’r datganiad gwleidyddol. Yn y datganiad, dywed y Prif Weinidog, er bod y datganiad gwleidyddol wedi’i ddatblygu ers i amlinelliad gael ei gyhoeddi ar 14 Tachwedd, mae’n methu â darparu gwarantau clir ynghylch perthynas yn y dyfodol â’r UE a fyddai’n diogelu buddiannau Cymru a’r DU gyfan. Y prif bwyntiau yn asesiad y Llywodraeth yw:

  • O ran y trefniadau tollau, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y datganiad yn cynnwys darpariaethau ar gyfer alinio’r tollau â’r UE, a’i fod yn nodi uchelgais i ddarparu masnach ddi-dâl rhwng y DU a’r UE. Fodd bynnag, mae’n nodi, er bod y datganiad yn nodi’r bwriad i ddatblygu a gwella o ran y diriogaeth tollau sengl y darperir ar ei gyfer yn y cytundeb ymadael, nid yw hwn yn ymrwymiad clir y bydd y DU yn cytuno ar undeb tollau parhaol gyda’r UE.
  • Mae’r datganiad yn nodi, er bod y datganiad yn cynnwys cyfeiriad at bwysigrwydd aliniad rheoleiddiol ar gyfer nwyddau, mae’n adlewyrchu penderfyniad Llywodraeth y DU na ddylai sectorau gwasanaethau gael eu halinio yn yr un modd, a allai effeithio ar allforion gwerth £700 miliwn y sector gwasanaethau o Gymru i wledydd yr UE. Aiff ymlaen i ddweud y bydd sefyllfa Llywodraeth y DU o ran y sector gwasanaethau yn cael effaith negyddol ar fasnachu ac yn niweidio’r sector gweithgynhyrchu, sy’n darparu gwasanaethau a nwyddau masnachol.
  • Mae’r datganiad hefyd yn dweud nad yw’r datganiad gwleidyddol yn cynnwys fframwaith mudo a symudedd manwl ac mae’n seiliedig ar y rhagdybiaeth o hawliau cyfyngedig iawn i bobl symud rhwng y DU a’r UE at ddibenion heblaw ymweliadau tymor byr. Barn y Llywodraeth yw y bydd hyn yn amddifadu dinasyddion y DU o gyfleoedd i symud i fyw a gweithio mewn gwledydd eraill yr UE, ac mae’n debygol o achosi problemau o ran y cyflenwad llafur i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus.

I gloi, ailadroddodd Prif Weinidog Cymru nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r datganiad gwleidyddol fel y mae, gan ddweud y bydd y ddadl ar y cytundeb ymadael a’r datganiad gwleidyddol yn gyfle i’r Cynulliad Cenedlaethol anfon neges glir i Lywodraeth y DU ynghylch blaenoriaethau Cymru:

“Nid yw’r amlinelliad o berthynas y DU â’r UE yn y dyfodol sydd i’w cael yn y Datganiad Gwleidyddol yn diogelu ac yn adlewyrchu buddiannau Cymru a gweddill y DU. Rydym yn croesawu’r camau y mae Llywodraeth y DU wedi cymryd i nesáu at ein safbwynt ni, ond mae’r Datganiad Gwleidyddol yn bell o gyrraedd y nod er mwyn sicrhau’r sefydlogrwydd a’r sicrwydd sydd eu hangen ar gyfer y tymor hir. Dylai Llywodraeth y DU groesawu’r berthynas â’r UE yn y dyfodol a amlinellir yn Diogelu Dyfodol Cymru.”

Os ydych chi am gael clywed y diweddaraf ynghylch beth y mae’r Cynulliad yn ei wneud o ran Brexit, gallwch ddilyn y dudalen newydd Brexit yng Nghymru.


Erthygl gan Peter Hill, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.