Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymunedau

Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl

Dydd Llun 3 Rhagfyr yw Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl. Nod y diwrnod yw hyrwyddo hawliau a llesiant pobl ag anableddau, a chynyddu ymwybyddiaeth o sefyllfa pobl ag anableddau ym mhob agwedd ar fywyd gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol. Felly, beth yw’r realiti i bobl anabl sy’n byw yng Nghymru heddiw? Mae adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, A yw Cymru’n Decach? Cyflwr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2018, yn awgrymu bod pobl anabl yn gynyddol ar ei hôl hi o ran addysg, iechyd, gwaith a safonau byw o’i gymharu â’u cyfoedion nad ydynt yn anabl.

03 Rhagfyr 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Dydd Llun 3 Rhagfyr yw Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl. Nod y diwrnod yw hyrwyddo hawliau a llesiant pobl ag anableddau, a chynyddu ymwybyddiaeth o sefyllfa pobl ag anableddau ym mhob agwedd ar fywyd gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.

Felly, beth yw’r realiti i bobl anabl sy’n byw yng Nghymru heddiw?

Mae adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, A yw Cymru’n Decach? Cyflwr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2018, yn awgrymu bod pobl anabl yn gynyddol ar ei hôl hi o ran addysg, iechyd, gwaith a safonau byw o’i gymharu â’u cyfoedion nad ydynt yn anabl.

Addysg

Y blynyddoedd cynnar

Yn ystod y cyfnod 2015-17, roedd cyrhaeddiad yn y blynyddoedd cynnar yn is ar gyfer plant ag Anghenion Addysgol Arbennig (cyflawnodd 57.8% y canlyniad disgwyliedig) na’r rhai heb AAA (96.7%). Cyflawnodd oddeutu chwarter (24.0%) o blant ag anhwylderau sbectrwm awtistig y canlyniad disgwyliedig. Plant ag anawsterau dysgu difrifol (5.0%) a phlant ag anawsterau dysgu dwys a lluosog (6.7%) oedd â’r cyrhaeddiad isaf.

Y canlyniad disgwyliedig ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen yw y bydd disgyblion yn cyrraedd deilliant 5 neu uwch mewn ‘Datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol’, ‘Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu – Saesneg’ neu ‘Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu – Cymraeg’ ac ‘Datblygiad mathemategol’.

Rhwng 2012-14 a 2015-17, gwelodd plant ag AAA gynnydd mewn cyflawniad o 3.7 pwynt canran, o’i gymharu â chynnydd o 1.2 pwynt canran ar gyfer y rhai heb AAA. Fodd bynnag, bu cwymp mewn cyrhaeddiad plant â rhai cyflyrau penodol, sef:

  • plant ag anawsterau corfforol a meddygol (-16.8 pwynt canran);
  • plant â nam ar eu clyw (-26.5 pwynt canran);
  • plant ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu (-9.5 pwynt canran); a
  • phlant ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol (-5.6 pwynt canran).

Oedran gadael ysgol

Canfu adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y bydd un o bob pump o ddisgyblion ag AAA (20.6%) yn cyflawni pump TGAU gradd A* -C (gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg), o’i gymharu â dwy ran o dair (66.6%) o ddisgyblion heb AAA.

Roedd cyrhaeddiad yn arbennig o isel ar gyfer disgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol (16.6%); anghenion o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu (15.6%); anawsterau dysgu cyffredinol (14.9%); ac anawsterau dysgu cymedrol (9.7%).

Addysg uwch a dysgu gydol oes

Yn 2016/17, roedd gan 28.2% o bobl yng Nghymru rhwng 25 a 64 oed gymhwyster lefel gradd. O fewn hyn, roedd gan 31.6% o bobl nad ydynt yn anabl gymwysterau lefel gradd i’w gymharu â 16.6% o bobl anabl.

Yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, o’r rhai sy’n dilyn prentisiaethau yng Nghymru, dywedodd tua 700 o bobl fod ganddynt anabledd a oedd yn effeithio ar eu gallu i ddysgu a/neu ddefnyddio cyfleusterau. Mae hyn yn cyfrif am 1-2% o bobl sy’n dilyn prentisiaethau yng Nghymru.

Iechyd

Iechyd da

Nododd ‘A yw Cymru’n Decach?’ fod pobl nad ydynt yn anabl yn dweud bod eu hiechyd yn dda bron i ddwywaith mor aml (95.5%) â phobl anabl (51.2%). Roedd y rhai â chanser (30.8%) ac anawsterau iechyd meddwl (42.4%) yn dweud bod eu hiechyd yn dda yn llai aml na’r rheini â chyflyrau corfforol (56.3%). Dywedodd plant anabl fod eu hiechyd yn dda yn llai aml (62.0%) na’r rhai heb anableddau (87.4%).

Iechyd meddwl

Yn 2015, dywedodd pobl anabl yng Nghymru bod eu hiechyd meddwl yn wael bron i dair gwaith yn fwy aml (48.0%) na phobl nad ydynt yn anabl (16.9%). Hefyd, nododd pobl anabl iau hefyd gyfraddau uwch o iechyd meddwl gwael na phobl hŷn, gan amrywio rhwng 66.6% (16-24 oed) a 34.4% (75+ oed).

Gwaith

Er bod y gyfradd gyflogaeth gyffredinol yng Nghymru wedi cynyddu, canfu’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod y gyfradd hon yn dal i fod yn is nag yn Lloegr a’r Alban. Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl (73.4%) fwy na dwywaith y gyfradd ar gyfer pobl anabl (34.6%) yn 2016/17. Roedd y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl anabl (8.4%) ddwywaith y gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl (3.9%) yn 2016/17. Bu gostyngiad o 3.0 pwynt canran yn y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl rhwng 2013/14 a 2016/17, a gostyngiad o 3.8 pwynt canran ar gyfer pobl anabl.

Roedd enillion fesul awr yn uwch yn 2016/17 ar gyfer cyflogeion nad ydynt yn anabl (£10.67) nag ar gyfer cyflogeion anabl (£9.72), sef bwlch cyflog anabledd o 8.9%.

Roedd pobl nad ydynt yn anabl (29.2%) yn fwy tebygol o weithio mewn galwedigaethau cyflog uchel na phobl anabl (23.7%) yn 2016/17. Mewn cyferbyniad, roedd pobl anabl (33.2%) yn fwy tebygol o weithio mewn galwedigaethau cyflog isel na phobl nad ydynt yn anabl (28.9%).

Safonau byw

Tai

Cyhoeddwyd adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Tai a Phobl Anabl: Argyfwng Cudd Cymru, ym mis Mai 2018.

Canfu’r adroddiad mai “i ormod o bobl anabl… mae diffyg tai hygyrch a’r cymorth cysylltiedig yng Nghymru yn rhwystr mawr iddynt wireddu eu hawl i fyw’n annibynnol”. Roedd prif ganfyddiadau’r adroddiad, a grynhowyd yn A yw Cymru’n Decach, yn cynnwys:

  • bod gan dros hanner (52%) o awdurdodau lleol gofrestr dai hygyrch, er bod eu data ar dai hygyrch ac addasadwy yn gyffredinol wael;
  • bod prinder sylweddol o dai hygyrch ac o dai sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn i fodloni’r galw cynyddol. Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn bod y tai cymdeithasol newydd y mae’n eu hariannu’n uniongyrchol yn bodloni rhai meini prawf o ran hygyrchedd ac addasrwydd. Fodd bynnag, dim ond un o’r 22 o awdurdodau lleol sy’n pennu targed o ran y ganran o dai hygyrch ac addasadwy;
  • bod addasu cartrefi’n arwain at fiwrocratiaeth ac oedi annerbyniol, ac mae pobl anabl yn aml yn gorfod aros am gyfnodau hir, hyd yn oed ar gyfer mân addasiadau; ac
  • nid yw pobl anabl yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i fyw’n annibynnol gan fod y ddarpariaeth o gyngor, cefnogaeth ac eiriolaeth yn anghyson, ac mae pobl yn adrodd nad oes ganddynt unrhyw le i droi pan nad yw eu tai yn addas. Dim ond 30% o awdurdodau lleol oedd yn teimlo eu bod yn bodloni’r galw am gymorth tenantiaeth.

Tlodi

Yn ôl adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree, Tlodi yng Nghymru 2018, mae 39% o bobl anabl yn byw mewn tlodi o’i gymharu â 22% o bobl nad ydynt yn anabl. Y gyfradd dlodi ymhlith pobl anabl yng Nghymru yw’r uchaf ledled y DU.

Mae’r gyfradd dlodi ymhlith pobl mewn teuluoedd sy’n cynnwys o leiaf un person anabl hefyd yn uwch yng Nghymru nag mewn mannau eraill yn y DU. Mae’r 29% o bobl yng Nghymru sy’n byw mewn teulu sy’n cynnwys rhywun sy’n anabl yn byw mewn tlodi, o’i gymharu â 21% o bobl yng Nghymru mewn teuluoedd nad ydynt yn cynnwys person anabl. Yng ngweddill y DU, mae rhwng 23% a 26% o bobl mewn teuluoedd sy’n cynnwys o leiaf un person anabl yn byw mewn tlodi.

Darllenwch fwy o’n herthyglau ar faterion cydraddoldeb a hawliau dynol yma.


Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llun o Wikimedia Commons gan Ltljltlj. Dan drwydded Creative Commons.