Beth fydd yn digwydd i aelodaeth Cymru o Bwyllgor y Rhanbarthau ar ôl Brexit?

Cyhoeddwyd 04/12/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yr wythnos hon, bydd Mick Antoniw AC yn mynd i sesiwn lawn Pwyllgor y Rhanbarthau Ewropeaidd, a gynhelir ym Mrwsel ar 5 a 6 Rhagfyr 2018. Mae’r agenda’n cynnwys dadl ar benderfyniad y DU i ymadael â’r UE, gan gynnwys datganiad gan Michel Barnier, sef prif swyddog yr UE yn y trafodaethau Brexit. Yn ystod y ddadl, bydd Mick Antoniw yn codi i siarad am gysylltiadau Cymru â’r UE yn y dyfodol.

Beth yw Pwyllgor y Rhanbarthau?

Prif rôl Pwyllgor y Rhanbarthau yw mynegi buddiannau lleol a rhanbarthol yn yr UE, a chynghori sefydliadau’r UE sy’n gyfrifol am lunio a mabwysiadu deddfwriaeth yr UE ar faterion rhanbarthol.

Ar hyn o bryd mae gan y Pwyllgor 350 o aelodau llawn (a 350 o aelodau wrth gefn ychwanegol) sy’n gynrychiolwyr a etholwyd ar sail ranbarthol a lleol o’r 28 o wledydd yr UE. Mae gan y DU gyfanswm o 24 o aelodau llawn a 24 o aelodau wrth gefn.

Sut y caiff Cymru ei chynrychioli ar Bwyllgor y Rhanbarthau?

Ar hyn o bryd mae gan Gymru bedwar cynrychiolydd ar y Pwyllgor: dau Aelod Cynulliad sy’n cael eu henwebu gan Lywodraeth Cymru a dau gynghorydd a enwebir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mick Antoniw AC yw’r aelod llawn sy’n cynrychioli’r Cynulliad a Bethan Sayed AC yw’r aelod wrth gefn.

Mick Antoniw AS

A fydd aelodaeth Cymru o Bwyllgor y Rhanbarthau yn newid ar ôl Brexit?

Mae’r Cytundeb Ymadael drafft yn nodi na fydd y DU mwyach yn rhan o broses yr UE o wneud penderfyniadau yn ystod y cyfnod pontio. Golyga hyn na fydd y DU yn cael ei chynrychioli yn sefydliadau, asiantaethau na chyrff yr UE ar ôl y diwrnod ymadael ar 29 Mawrth 2019. O ganlyniad, bydd cynrychiolaeth Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau yn dod i ben. Fodd bynnag, er nad oes ganddo rôl ffurfiol yn y trafodaethau ar Erthygl 50, mae Pwyllgor y Rhanbarthau wrthi’n trafod ei berthynas â’r DU yn y dyfodol ar ôl Brexit.

Yn ei sesiwn ar 16 a 17 Mai, penderfynodd y Pwyllgor yn unfrydol i fabwysiadu penderfyniad ynghylch goblygiadau Brexit ar gyfer awdurdodau lleol a rhanbarthol yr UE. Ymhlith materion eraill, tynnodd y penderfyniad sylw at y materion a ganlyn:

  • yn aml mae materion penodol yn gofyn bod camau gweithredu lleol a rhanbarthol yn cael eu cymryd, felly bydd angen cydweithio i rannu arfer gorau ar lefel leol a rhanbarthol ar ôl Brexit;
  • bydd rhai rhanbarthau ac Aelod-wladwriaethau yn fwy agored i effaith economaidd a chymdeithasol bosibl Brexit oherwydd natur a graddfa eu perthynas fasnachol â’r DU;
  • ni ddylai Aelod-wladwriaethau a sefydliadau’r UE adael awdurdodau lleol a rhanbarthol i ymdrin â heriau Brexit ar eu pennau eu hunain a dylid lliniaru heriau cyn belled ag y bo modd drwy sicrhau perthynas gadarnhaol yn y dyfodol; a
  • Phwyllgor y Rhanbarthau sydd yn y sefyllfa orau i ddyfeisio a gweithredu mecanweithiau sefydliadol i hyrwyddo ymgynghori rheolaidd a rhyngweithio â llywodraeth leol a sefydliadau datganoledig yn y DU ar ôl Brexit.

Ar hyn o bryd mae Dirprwyaeth y DU i Bwyllgor y Rhanbarthau yn gweithio ar ddatblygu cynigion ar gyfer mecanwaith i gynnal perthynas rhwng y DU a’r Pwyllgor ar ôl Brexit.

Beth yw’r cynigion ar gyfer perthynas y DU â’r UE yn y dyfodol?

Ym mis Gorffennaf 2018, dywedodd Syr Albert Bore, arweinydd Dirprwyaeth y DU wrth Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad (‘y Pwyllgor MADY’) fod dull â chanddo dau gam yn cael ei gynnig, gyda’r nod o ddatblygu perthynas rhwng y DU a Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol.

Yn y tymor byr, mae Dirprwyaeth y DU yn cynnig sefydlu comisiwn ar y cyd rhwng y DU a’r Pwyllgor i sicrhau parhad rhwng y diwrnod ymadael a threfniant mwy parhaol. Byddai’r cyd-gomisiwn arfaethedig yn cynnwys 12 aelod ar y naill ochr a byddai’n cynnwys sicrhau cynrychiolaeth ddaearyddol ledled y DU.

Yn y tymor hwy, mae Dirprwyaeth y DU wedi awgrymu ymchwilio i’r posibilrwydd o sefydlu rhanbarth macro-economaidd gogledd-orllewin Ewrop. Ymhelaethodd Syr Albert Bore ar hyn yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor MADY ym mis Gorffennaf 2018, gan nodi beth fyddai hyn yn ei gynnwys:

There are a number of macro-economic regions already established and, therefore, there is an opportunity with EU funding sitting in behind macro-economic regions to look at economic issues across the regions perhaps of a number of member states. We wondered whether or not, post Brexit, that we might look at a north-west Europe macro-economic region, which then engaged the UK, not just with the north-west of Europe, but also potentially with the likes of Norway and Iceland. That would be phase 2, but phase 2 would require the agreement of member states. We would have to go down that route.

Beth yw’r farn o Gymru am berthynas barhaus â Phwyllgor y Rhanbarthau?

Yn ei adroddiad cyntaf ar berthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol (PDF, 9MB) gwnaeth y Pwyllgor MADY gydnabod rôl bwysig a buddiol aelodaeth Cymru o Bwyllgor y Rhanbarthau yn y gorffennol, gan nodi hefyd y galwadau am berthynas barhaus rhwng Cymru a Phwyllgor y Rhanbarthau ar ôl Brexit.

Amlygwyd manteision aelodaeth yn y dystiolaeth ysgrifenedig gan Dr Rachel Minto a Dr Jo Hunt:

In addition to the formal networks within the Committee of the Regions (for example, in work undertaken around particular legislative proposals), representatives from local and regional authorities build strong informal networks. These specialised networks (both formal and informal) enable the sharing of knowledge, the exchange of best practice and policy learning. This policy learning has significant potential to inform policymaking at a regional and local level. This potential benefit risks being overlooked in discussions around Brexit.

Yn ei hymateb (PDF, 221KB) i’r adroddiad a osodwyd ar 16 Mai, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cefnogi’r egwyddor o berthynas barhaus rhwng y DU a Phwyllgor y Rhanbarthau, gan gynnwys sefydlu comisiwn ar y cyd yn ogystal â’r cynnig yn y tymor hwy o sefydlu fforwm gwleidyddol parhaol ar gyfer gogledd-orllewin Ewrop ar ôl y cyfnod pontio. Mae’n dweud hefyd:

...y dylai fod cynrychiolaeth ddatganoledig gref yn nirprwyaeth y DU i’r cyd-gomisiwn a byddem yn disgwyl i’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig fod mewn sefyllfa i enwebu un cynrychiolydd i’r pwyllgor (yn amodol ar ddatblygiad y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon).

Mewn llythyr at Karl-Heinz Lambertz, Llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau, ar 19 Mehefin, croesawodd y Llywydd:

...the commitment the Committee made in the Resolution to begin internal preparations to ensure the maintenance of relationships between devolved legislatures and local government in the UK and the Committee of the Regions following the UK’s withdrawal.

Erthygl gan Manon George Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru