Sut mae’r Prif Weinidog newydd yn cael ei benodi?

Cyhoeddwyd 07/12/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd Carwyn Jones AC ei fwriad i sefyll i lawr fel Prif Weinidog yng Nghynhadledd Wanwyn Llafur ym mis Ebrill 2018. Dechreuodd yr ymgyrch ffurfiol i’w olynu fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru ym mis Medi 2018. Cyhoeddwyd y canlyniad ddoe, gyda Mark Drakeford AC yn fuddugol.

Ddydd Mawrth 11 Rhagfyr bydd Carwyn Jones yn cyflwyno ei ymddiswyddiad yn ffurfiol i’r Frenhines. Bydd hyn yn sbarduno'r broses yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gyfer enwebu Aelod Cynulliad i'w benodi'n Brif Weinidog. Gall y digwyddiadau canlynol hefyd sbarduno’r gweithdrefnau enwebu:

  • cynnal pleidlais mewn etholiad cyffredinol;
  • y Cynulliad yn penderfynu nad oes gan y Cynulliad hyder yng Ngweinidogion Cymru bellach;
  • y Prif Weinidog yn cyflwyno’i ymddiswyddiad i’r Frenhines;
  • Prif Weinidog Cymru yn marw neu’n methu gweithredu neu’n gyflwynol i ymddiswyddiad yn barhaol; neu
  • Phrif Weinidog Cymru yn peidio â bod yn Aelod o’r Cynulliad, ac eithrio os caiff ei ddiddymu (ee drwy ymddiswyddo o’r Cynulliad).

Pan fydd un o’r rhain yn digwydd, rhaid i’r Cynulliad enwebu Prif Weinidog o fewn 28 diwrnod.

Disgwylir i'r Llywydd agor enwebiadau ar gyfer y Prif Weinidog newydd ddydd Mercher 12 Rhagfyr, ar yr amod bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn cadarnhad bod Ei Mawrhydi yn derbyn ymddiswyddiad y Prif Weinidog. Os mai dim ond un Aelod sydd wedi'i enwebu, bydd y person hwnnw'n cael ei ddatgan yn "enwebai". Os bydd mwy nag un enwebiad yn cael ei wneud, ar y llaw arall, bydd pob Aelod, ac eithrio'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd, yn cael cyfle i bleidleisio dros yr ymgeisydd sydd orau ganddynt drwy alwad o’r gofrestr.

Unwaith y bydd y Cynulliad wedi dewis Prif Weinidog newydd, bydd y Llywydd yn argymell penodiad gan y Frenhines.

Bydd yr Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion presennol yn parhau i fod yn eu swyddi hyd nes clywir yn wahanol, ond ni fydd y Cwnsler Cyffredinol yn parhau yn ei swydd ar ôl penodiad y Prif Weinidog newydd.


Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru