Addysg

Effaith ymchwil academaidd gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru: dadansoddiad newydd

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) y DU yw proses o adolygiad arbenigol sy'n gwerthuso ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU. Rydym yn ymwybodol o beth mae'r REF yn ei olygu i ymchwilwyr academaidd a'u sefydliadau, ac yn awyddus i gefnogi academyddion wrth iddynt ymgysylltu â'r Cynulliad.

18 Rhagfyr 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) y DU yw proses o adolygiad arbenigol sy’n gwerthuso ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU. Rydym yn ymwybodol o beth mae’r REF yn ei olygu i ymchwilwyr academaidd a’u sefydliadau, ac yn awyddus i gefnogi academyddion wrth iddynt ymgysylltu â’r Cynulliad. I weld rhagor o wybodaeth am weithgareddau ymgysylltu academaidd allweddol yn y Cynulliad, gweler ein tudalennau gwe penodol.

Am y tro cyntaf yn 2014, roedd yr ymarfer REF yn cynnwys asesiadau o effaith anacademaidd yn sgil yr ymchwil. Cyflwynodd sefydliad addysg uwch y DU eu tystiolaeth o effaith ymchwil ar ffurf ‘astudiaethau achos effaith’, sydd bellach ar gael yn gyhoeddus fel cronfa ddata chwiliadwy. Am fanylion am yr effaith a wnaed gan brifysgolion Cymru yn unig, gweler dadansoddiad o astudiaethau achos REF2014 gan King’s College Llundain, a gomisiynwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Cafodd yr astudiaethau achos effaith, sy’n amlinellu’n glir yr ymgysylltiad â’r Cynulliad, eu dadansoddi i ddeall sut roedd academyddion yn cyflawni effaith (fel y cyflwynwyd yn 2014). O’r 6,637 o astudiaethau achos effaith REF heb eu hailolygu ar gyfer y DU gyfan sydd ar gael ar y gronfa ddata ar-lein, roedd 36 a oedd yn amlinellu’n glir ymgysylltiad â’r Cynulliad. Roedd y 36 o astudiaethau achos effaith hyn yn amlinellu 37 digwyddiad effaith – cafodd dau ddigwyddiad ymgysylltu ar wahân eu hamlinellu yn un o’r astudiaethau achos.

Dylid nodi fod yr ymarfer REF 2014 ond yn trafod ymchwil academaidd a gynhaliwyd rhwng 1 Ionawr 1993 a 31 Rhagfyr 2013, sy’n rhagflaenu mentrau ymgysylltu academaidd mwy diweddar y Cynulliad.  Fodd bynnag, mae’r dadansoddiad hwn yn cynnig meincnod defnyddiol er mwyn cymharu lefelau ymgysylltu yn y dyfodol.  Mae hefyd yn cynnig rhai enghreifftiau da o le mae ymchwil academaidd wedi cael effaith uniongyrchol ar graffu a datblygu deddfwriaeth/polisi. 

Pwy oedd yn ymgysylltu?

  • Roedd yr astudiaethau achos yn cwmpasu pob un o’r pedwar prif faes gwyddoniaeth a ddiffinnir gan REF: Gwyddorau Byw, Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol, Gwyddorau Cymdeithasol a’r Celfyddydau a’r Dyniaethau. Roedd ymchwil a gyflwynwyd o dan ‘Gwyddorau Cymdeithasol‘ wedi cyfrannu at y mwyafrif (58% o 36) o astudiaethau achos sy’n dangos yn glir ymgysylltiad â’r Cynulliad.
  • Cyflwynwyd astudiaethau achos i 19 o’r 36 categori disgyblaeth gwyddonol yn ôl diffiniad REF. Y categorïau mwyaf cyffredin oedd ‘Astudiaethau Busnes a Rheoli’ ac ‘y Gyfraith’, gyda 5 astudiaeth achos effaith yr un o’r 36 oedd yn amlinellu’n glir ymgysylltiad â’r Cynulliad.
  • Roedd y mwyafrif (50% o 36) o astudiaethau achos a oedd yn amlinellu’n glir ymgysylltiad â’r Cynulliad wedi’u cyflwyno gan sefydliad addysg uwch Cymru. Cyflwynwyd astudiaethau achos o Loegr (39%), yr Alban (6%) a Gogledd Iwerddon (6%).

Map - Welsh

Pa rannau o’r Cynulliad yr oedd academyddion yn ymgysylltu â nhw?

  • Roedd academyddion yn ymgysylltu â saith maes gwahanol yn y Cynulliad: Pwyllgorau’r Cynulliad, Comisiwn y Cynulliad, dadleuon, digwyddiadau, Aelodau’r Cynulliad unigol, gwasanaethau proffesiynol a’r gwasanaeth ymchwil. Ar gyfer dau o’r digwyddiadau effaith, nid oedd y maes ymgysylltu yn glir.
  • Gyda 26 o’r 37 digwyddiad effaith, Pwyllgorau’r Cynulliad oedd y maes ymgysylltu mwyaf cyffredin. Roedd ymchwil a gyflwynwyd o dan ‘Gwyddorau Cymdeithasol’ wedi cyfrannu at y mwyafrif (58% o 26) o’r digwyddiadau effaith hyn.
  • Gwyddorau Cymdeithasol oedd yn ymgysylltu â’r ystod fwyaf o feysydd y Cynulliad.

Ym mha ffyrdd y gwnaeth ymchwilwyr academaidd ymgysylltu?

  • Nodwyd naw ffordd o ymgysylltu: rhoi tystiolaeth, cael eu dyfynnu yn uniongyrchol, ymchwil wedi’i gyflwyno drwy drydydd parti, bod yn llefarwr/cyflwynydd, cael eu dyfynnu’n anuniongyrchol, cyd-awdur/adroddiad, bod yn gynghorydd arbenigol, cael secondiad a mynd i gyfarfod.
  • Gyda 13 o’r 37 digwyddiad effaith, rhoi tystiolaeth oedd y ffordd fwyaf cyffredin o ymgysylltu. Roedd ymchwil a gyflwynwyd o dan ‘Gwyddorau Cymdeithasol’ wedi cyfrannu at y mwyafrif (54% o 13) o’r digwyddiadau effaith hyn.
  • Gwyddorau Cymdeithasol oedd yn defnyddio’r ystod fwyaf o ffyrdd i ymgysylltu.

Pa ganlyniadau a gafwyd yn sgil ymgysylltu?

Am ragor o wybodaeth am y dadansoddiad hwn, gan gynnwys y cafeatau i’r data, edrychwch ar ein Briff Ymchwil: Trosolwg o astudiaethau achos effaith REF 2014 sy’n cyfeirio at ymgysylltu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru (PDF, 1470KB).

Yr ymarfer REF nesaf: 2021

Mae’r gwerthusiad REF nesaf wedi’i drefnu ar gyfer 2021. Mae Senedd y DU a’r deddfwrfeydd datganoledig yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn awyddus i gefnogi academyddion i ymgysylltu â’u gwaith. Er mis Ionawr 2018, bu cyfeillion o ddeddfwrfeydd y DU yn cydweithio i lywio datblygiad canllawiau a meini prawf asesu y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021. Mae hyn i sicrhau bod yr aelodau panel REF sy’n asesu cyflwyniadau yn deall yn glir beth mae effaith yn ei golygu i gyrff deddfwriaethol y DU.

Fel rhan o hyn, mae’r Cynulliad, ynghyd â Senedd y DU, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, wedi cydgynhyrchu nodyn briffio (PDF, 719KB) yn cynnig trosolwg o effaith ymchwil mewn deddfwrfeydd. Mae’r briff hwn wedi cael ei ddyfynnu’n uniongyrchol yn y canllawiau drafft ar gyflwyniadau a’r meini prawf panel a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer REF 2021.


Erthygl gan Dr Lindsay Walker, Cydymaith Ymchwil, Prifysgol Caerdydd a Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: