Brexit

Brexit: 100 diwrnod i fynd

Ar 29 Mawrth 2017, fe wnaeth y DU sbarduno Erthygl 50 o Gytuniad Lisbon, sy'n amlinellu'r broses gyfreithiol ar gyfer gadael yr UE. Dechreuodd hyn y cyfnod negodi dwy flynedd, sy'n dod i ben am 11pm ar 29 Mawrth 2019. Felly, oni bai bod Erthygl 50 yn cael ei ymestyn—a fyddai angen newid ym mholisi Llywodraeth y DU a chytundeb unfrydol yn y Cyngor Ewropeaidd—bydd y DU yn gadael yr UE mewn 100 diwrnod. Mae'r erthygl hon yn edrych ar ble rydym ni yn y broses, beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn, a beth sydd i ddod.

19 Rhagfyr 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 29 Mawrth 2017, fe wnaeth y DU sbarduno Erthygl 50 o Gytuniad Lisbon, sy’n amlinellu’r broses gyfreithiol ar gyfer gadael yr UE. Dechreuodd hyn y cyfnod negodi dwy flynedd, sy’n dod i ben am 11pm ar 29 Mawrth 2019. Felly, oni bai bod Erthygl 50 yn cael ei ymestyn—a fyddai angen newid ym mholisi Llywodraeth y DU a chytundeb unfrydol yn y Cyngor Ewropeaidd—bydd y DU yn gadael yr UE mewn 100 diwrnod. Mae’r erthygl hon yn edrych ar ble rydym ni yn y broses, beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn, a beth sydd i ddod.

Ble ydym ni nawr?

Yn dilyn 20 mis o drafodaethau, cyrhaeddodd y DU a’r Undeb Ewropeaidd garreg filltir bwysig ar 25 Tachwedd 2018 pan gafodd y Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol ar y berthynas yn y dyfodol eu cytuno gan arweinwyr yr UE mewn cyfarfod o’r Cyngor Ewropeaidd. Yna, trefnwyd dadl pum diwrnod o hyd yn Nhŷ’r Cyffredin, gyda’r bleidlais i gadarnhau’r cytundeb wedi’i amserlennu ar gyfer 11 Rhagfyr.

Fodd bynnag, aeth y bleidlais ddim yn ei blaen. Ar 10 Rhagfyr, fe wnaeth y Prif Weinidog ohirio’r bleidlais. Dywedodd ei bod hi’n credu y byddai yna wrthwynebiad sylweddol i’r cynnig, oherwydd bod gormod o Aelodau Seneddol yn gwrthwynebu’r cynigion ar gyfer y ‘backstop’—y cynllun wrth gefn i osgoi ffin galed yn Iwerddon os nad oes cytundeb ar berthynas fasnach erbyn diwedd y cyfnod pontio.

Mae hyn yn golygu bod y ddadl wedi’i ohirio, heb benderfyniad eto gan Dŷ’r Cyffredin. Felly, nid oes raid i Lywodraeth y DU wneud datganiad ar gynlluniau wrth gefn yn dilyn gwrthod y cytundeb gan y Senedd, achos nid yw’r cam hwn wedi’i gyrraedd eto.

Ar 17 Rhagfyr, cyhoeddodd y Prif Weinidog mewn datganiad i Dŷ’r Cyffredin y bydd yn dod â’r cytundeb Brexit yn ôl ar gyfer pleidlais ym mis Ionawr. Bydd y ddadl ar y cytundeb yn ailgychwyn yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 7 Ionawr, gyda’r bleidlais yn cael ei chynnal yr wythnos ganlynol. Dywedodd y Prif Weinidog ei bod hi wedi ceisio sicrwydd gan yr UE ynghylch statws y ‘backstop’, a’i bod yn gobeithio cael sicrwydd gwleidyddol a chyfreithiol ychwanegol yn yr wythnosau nesaf. Gwrthododd yr achos dros refferendwm arall, gan ddweud y byddai’n gwneud ‘niwed mawr i uniondeb ein gwleidyddiaeth’.

Beth sydd wedi bod yn digwydd yn y Cynulliad?

Y datblygiad mwyaf arwyddocaol yn y Cynulliad yw bod yr Aelodau wedi pleidleisio i wrthod y Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol. Wrth osod safbwynt y Llywodraeth yn y ddadl ar 4 Rhagfyr, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid ar y pryd, Mark Drakeford, nad yw’r Cytundeb Ymadael yn ateb ‘buddiannau sylfaenol’ Cymru a’r DU. Fel rhan o’r ddadl, cymeradwyodd y Cynulliad welliant 2 i’r cynnig gwreiddiol, a gyflwynwyd gan Plaid Cymru, a oedd yn gwrthod y Cytundeb Ymadael mewn termau cryfach. Pleidleisiodd cyfanswm o 34 Aelod o blaid y cynnig diwygiedig, gyda 16 yn pleidleisio yn erbyn. Mae’r cynnig a gytunwyd yn dweud bod y berthynas yn y dyfodol yn llai cryf na’r model a nodir yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, yn nodi y bydd Cymru’n waeth yn economaidd o dan y cytundeb bresennol, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i geisio aelodaeth o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau.

Gwaith yn parhau tu ôl i’r llenni

Yn ogystal â’r holl ddigwyddiadau sy’n cyrraedd y penawdau, yn ystod y misoedd diwethaf, mae pwyllgorau’r Cynulliad wedi bod yn brysur yn edrych ar wahanol agweddau ar Brexit.

Y Pwyllgor Materion Allanol yw’r prif bwyllgor ar gyfer craffu ar waith Brexit. Yn dilyn cyhoeddi’r Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol, cyhoeddodd y pwyllgor ei ddadansoddiad o’r dogfennau, gan ganolbwyntio ar feysydd allweddol o ddiddordeb i Gymru, gan gynnwys yr economi a masnach, amaethyddiaeth a gofal iechyd. Mae’r pwyllgor hefyd wedi gwneud gwaith ar baratoadau Brexit mewn tri maes—porthladdoedd, gofal iechyd a bwyd—ac mae wedi bod yn parhau â’i waith ar ran dau o’i ymchwiliad i berthynas Cymru gydag Ewrop yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar rwydweithiau a pherthnasoedd a sut y gellir cynnal y rhain yn y dyfodol.

Mae gwaith y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig hefyd wedi bod yn rhan bwysig o graffu ar gynlluniau Brexit y Cynulliad. Mae wedi cyhoeddi adroddiadau ar lywodraethu amgylcheddol, fframweithiau cyffredin a physgodfeydd ar ôl Brexit. Yn ddiweddar, mae’r pwyllgor wedi bod yn canolbwyntio ar ddwy ddarn allweddol o ddeddfwriaeth y DU a fydd yn effeithio ar Gymru—y Bil Amaethyddiaeth a’r Bil Pysgodfeydd. I ddarllen mwy am oblygiadau posibl y Biliau hyn i Gymru, edrychwch ar ein blogiau ar amaethyddiaeth a physgodfeydd.

Mae pwyllgorau pwnc eraill hefyd wedi bod yn edrych ar oblygiadau Brexit ar gyfer eu meysydd nhw, gan gynnwys y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a’r Cyfathrebu a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Gwaith i’w wneud o hyd: is-ddeddfwriaeth Brexit

Yn y Cynulliad, mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (CLA) yn gyfrifol am sifftio a chraffu ar reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y pwerau yn Neddf yr UE (Ymadael) 2018. Mae’r Pwyllgor wedi cytuno ar brotocol (PDF, 103KB) gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer craffu ar y rheoliadau hyn. Mae’r protocol yn cynnwys ymrwymiad i system rhybuddio cynnar ar gyfer Offerynnau Statudol sydd i’w cyflwyno, a llif rheolaidd o reoliadau.

Hyd yma, mae tri offeryn ‘negyddol arfaethedig’ wedi’u gosod, ac mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r offerynnau sy’n weddill gael eu gosod rhwng nawr a mis Mawrth. Disgwylir y bydd Ionawr yn fis arbennig o brysur i’r pwyllgor oherwydd y nifer yr offerynnau fydd yn cael eu gosod.

Mewn llythyr (PDF, 377KB) i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol ar 1 Tachwedd, amlinellodd y Prif Weinidog bryd hynny, Carwyn Jones, gynllun Llywodraeth ar gyfer is-ddeddfwriaeth yn y misoedd nesaf:

Rydym yn rhagweld ar hyn o bryd y caiff rhyw 55 o Offerynnau Statudol Ymadael eu gosod yn y Cynulliad Cenedlaethol rhwng Tachwedd a dechrau Chwefror. Caiff y mwyafrif o’r Offerynnau Statudol eu gwneud gan ddefnyddio pwerau Deddf yr UE (Ymadael), er y gallai nifer bach iawn gael eu gwneud o dan bwerau cyfredol eraill. Gallai’r nifer hwn newid gan y gallai rhai Offerynnau Statudol gael eu huno neu eu gwahanu, wrth i’r gwaith drafftio gael ei gwblhau.

Yn ogystal ag offerynnau statudol Llywodraeth Cymru, mae’r pwyllgor yn gyfrifol am graffu ar reoliadau’r DU a wneir mewn meysydd datganoledig. Yn achos rheoliadau a wneir gan Weinidogion y DU o dan Ddeddf Ymadael yr UE, mae Rheol Sefydlog 30C y Cynulliad yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru osod datganiad ysgrifenedig yn hysbysu’r Cynulliad o’r rheoliadau dan sylw. Pan fo’r rheoliadau yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol, rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd osod Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM). Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi gosod naw SICM a 60 o ddatganiadau ysgrifenedig yn ymwneud â rheoliadau i’w gwneud gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig. Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd tua 150 o offerynnau yn cael eu gosod yn Senedd y DU mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru, ond maent wedi dweud y gallai’r rhif hwn newid.

Beth gallwn ni ei ddisgwyl yn y flwyddyn newydd?

Er nad yw’n uniongyrchol gysylltiedig â Brexit, mae penodiad Mark Drakeford fel Prif Weinidog newydd Cymru yn ddatblygiad sylweddol, gan y bydd e’n gyfrifol am sicrhau bod safbwynt y Cynulliad yn cael ei ystyried yn ystod cam nesaf y trafodaethau Brexit. Efallai’n fwy arwyddocaol yw’r ffaith bod Jeremy Miles wedi’i benodi i swydd newydd Gweinidog Brexit yn y Cabinet. Mae ei gyfrifoldebau’n cynnwys goruchwylio deddfwriaeth Brexit, cronfeydd strwythurol yr UE a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin

Mae nawr yn doriad y Nadolig yn y Cynulliad, ond pan fydd Aelodau’n dychwelyd ym mis Ionawr, byddant yn parhau â’u gwaith o graffu ar ddatblygiadau Brexit. Os, ym mis Ionawr, caiff y cytundeb Brexit ei gadarnhau gan Senedd y DU, bydd Aelodau Cynulliad yn awyddus i ddilyn cynnydd y Bil Cytundeb Ymadael, a fydd ei angen i weithredu’r cytundeb. Hefyd, bydd y Bil yn destun cydsyniad deddfwriaethol yn y Cynulliad. Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl ddatblygiadau Brexit yng Nghymru a San Steffan, cadwch lygad ar ein tudalennau Brexit ar wefan y Cynulliad.


Erthygl gan Peter Hill, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: