Cenhadaeth cyllideb i Papua New Guinea

Cyhoeddwyd 21/12/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

21 Rhagfyr 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn ddiweddar, treuliais ddeg diwrnod yn gweithio gyda thîm rhyngwladol o staff seneddol yn Papua New Guinea (PNG).

Gweithiais gyda Rhaglen Datblygu'r Cenhedloedd Unedig (UNDP) i ysgrifennu briff cyllideb diduedd i ASau ac i hyfforddi staff Senedd PNG i wneud yr un peth yn y dyfodol. Roedd yn brofiad dwys ond gwerth chweil.

Y swyddfa cyllideb symudol

Yn aml, nid oes gan seneddau bach, yn enwedig rhai mewn gwledydd sy'n datblygu, lawer o adnoddau i ddatblygu eu gallu ymchwil mewnol eu hunain. Mae hyn yn broblem i wledydd ynysoedd y Môr Tawel ac mae'r UNDP wedi datblygu model hyblyg – swyddfa cyllideb symudol y Môr Tawel – y gall seneddau'r Môr Tawel ei defnyddio i rannu arbenigedd a chefnogi ei gilydd yn ystod eu prosesau cyllidebol perthnasol.

Mae'r “tîm dadansoddi cyllideb symudol” yn cynnwys arbenigwyr gwirfoddol o seneddau eraill, yn bennaf yn y Môr Tawel, sy'n dod at ei gilydd i weithio gyda staff lleol i lunio briff cyllideb diduedd i ASau. Mae'r gwirfoddolwyr hefyd yn hyfforddi'r staff lleol ac yn gadael deunyddiau cefnogol. Y syniad yw bod staff lleol yn llunio'r briff cyllideb y flwyddyn ganlynol, gyda rhywfaint o gymorth allanol os bydd angen.

Eleni, anfonodd yr UNDP dimau dadansoddi cyllideb i'r PNG, yr Ynysoedd Solomon a Vanuatu.

Mae gwella enw da rhyngwladol y Cynulliad fel senedd o'r radd flaenaf lle gall eraill ddysgu yn flaenoriaeth strategol i Gomisiwn y Cynulliad. Felly, mae gan staff ran werthfawr wrth gyfrannu tuag at gyflawni'r flaenoriaeth hon drwy gymryd rhan mewn prosiectau sy'n helpu i feithrin gallu mewn gwledydd sy'n datblygu.

PNG, heb os nac oni bai

Fel plentyn, nid oedd llawer o lefydd yn tanio fy nychymyg fel New Guinea, yr ynys ryfeddol ochr arall y byd. Tir llawn fforestydd glaw, mynyddoedd a chorsydd gyda myrdd o bobl wahanol, pob un â'u hiaith a'u diwylliant unigryw eu hunain. Felly, pan gododd y cyfle i wirfoddoli yn PNG, roedd yn rhaid i mi fynd.

Wrth gwrs ni welais ddim o hynny! Mae fersiwn rhamantaidd PNG i'w ddarganfod gan deithwyr gwrol sy'n mentro y tu hwnt i Port Moresby, prifddinas lychlyd a gwasgarog y wlad. Ond, roeddwn i yn Port Moresby ar genhadaeth cyllideb a threuliais y rhan fwyaf o fy amser yn gweithio yn Senedd PNG neu swyddfeydd UNDP.

Y realiti yw bod PNG yn wlad sy'n datblygu sy'n wynebu nifer o heriau. Caiff ei hystyried yn wlad dlawd er gwaethaf ei hadnoddau naturiol, ac er bod ganddi sectorau mwynol, nwy a masnachol cynyddol, mae'r mwyafrif helaeth o'i phobl yn byw mewn ardaloedd anghysbell ac yn ymwneud ag amaethyddiaeth neu bysgota er mwyn cynhaliaeth.

Mae abwyd y dinasoedd yn aml yn troi'n siom ac mae lefelau uchel o droseddau treisgar yn gwneud Port Moresby yn un o'r canol trefi mwyaf peryglus y byd.

Mae PNG yn lle anodd i fod yn fenyw hefyd. Mae'n rhif 159 allan o 160 o wledydd ar Fynegai Anghydraddoldeb Rhyw UNDP gan adlewyrchu anghydraddoldeb sylweddol mewn canlyniadau iechyd, grymuso a statws economaidd menywod. Mae trais seiliedig ar ryw yn broblem fawr, gydag astudiaeth ddiweddar yn dod i'r casgliad bod 67 y cant o fenywod yn PNG wedi dweud eu bod profi rhyw fath o drais corfforol neu rywiol yn ystod eu hoes.

Mae'n wlad sy'n tueddu i gael trychinebau naturiol fel daeargrynfeydd, tswnamis a ffrwydradau folcanig ac, fel gwledydd eraill ynys y Môr Tawel, mae hefyd yn dioddef effaith waethaf newid yn yr hinsawdd.

Y tîm

Digwyddodd y genhadaeth cyllideb ddechrau mis Tachwedd a dyna'r tro cyntaf roedd Senedd PNG wedi gofyn am gymorth gan y swyddfa cyllideb symudol. Roedd staff seneddol wedi nodi'r angen i gael cymorth er mwyn i ASau wella gwaith craffu ar gynigion cyllideb y Llywodraeth.

Digwyddodd y genhadaeth cyllideb ddechrau mis Tachwedd a dyna'r tro cyntaf roedd Senedd PNG wedi gofyn am gymorth gan y swyddfa cyllideb symudol. Roedd staff seneddol wedi nodi'r angen i gael cymorth er mwyn i ASau wella gwaith craffu ar gynigion cyllideb y Llywodraeth.

Roedd tîm y gyllideb yn cynnwys cymysgedd o ymchwilwyr, dadansoddwyr a chlercod o seneddau Cymru, Awstralia, Fiji, Seland Newydd, Tonga a De Cymru Newydd, gyda chymorth gan staff UNDP.

Roedd gennym ddeg diwrnod i baratoi'r briff a'r cyflwyniad, a pharatoi ar gyfer seminar hyfforddiant gyda staff Senedd PNG. Buom yn gweithio oriau hir, gyda dim ond un prynhawn i ffwrdd, ond roedd rhannu profiadau â'r cydweithwyr newydd hyn yn hynod ddiddorol.

Briff y gyllideb

Roeddwn i'n arwain adran gyd-destunol y briff, gan adael y rhannau mwy technegol i'r arbenigwyr cyllid a chyllideb yn y tîm (polisi amgylcheddol yw fy nghefndir i). Rhoddodd hyn gyfle i mi ymchwilio i bynciau a oedd yn eithaf gwahanol i'r rhai y byddwn i'n gweithio arnynt yng Nghymru fel arfer, sef:

  • gwaith adfer ar ôl daeargryn difrifol yn yr ucheldiroedd yn gynharach yn 2018;
  • paratoadau ar gyfer refferendwm annibyniaeth yn Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville (amod yn y cytundeb heddwch a ddaeth â'r rhyfel cartref yno yn y 1990au i ben);
  • gwaddol yn sgil uwch-gynhadledd APEC, a oedd yn digwydd cael ei chynnal yn Port Moresby pan oedden ni yno;
  • annog cydraddoldeb rhwng y rhywiau; a
  • mynd i'r afael a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Ar ein diwrnod llawn olaf, gwnaethom gyflwyno'r briff i ystafell yn llawn ASau. Rwyf wedi arfer cyflwyno i Aelodau etholedig ac ateb eu cwestiynau treiddgar yn fy swydd yn y Cynulliad, ond roedd gwneud hynny mewn amgylchedd anghyfarwydd gydag ASau nad oeddwn i'n gwybod llawer amdanynt yn brofiad nerfus iawn!

Mae meithrin gallu yn y senedd gartref yn agwedd bwysig ar y fenter swyddfa cyllideb symudol. Roedd staff Senedd PNG yn ein cysgodi tra roeddem yn gweithio, a oedd yn brofiad dysgu i bawb. Tra roedden nhw'n cael cipolwg i sut roeddem yn ymchwilio ac yn drafftio'r briff, cawsom ni gyd-destun lleol hanfodol i'r wybodaeth gyllideb a oedd yn gwella ein cynnyrch terfynol yn sylweddol.

Ar ôl y cyflwyniad i'r ASau, daeth y genhadaeth i ben gyda'r seminar hyfforddiant lle trafodwyd y broses gyfan gyda staff PNG. Gadawsom ni'r templedi a'r deunyddiau canllaw y gwnaethom eu datblygu er mwyn iddynt eu defnyddio yn y dyfodol.

Heriau

Nid oedd y profiad heb ei heriau, a byddwn wedi bod yn siomedig pe byddai wedi bod yn hawdd. Un o fy nghymhellion am fynd oedd profi fy hun mewn lleoliad anghyfarwydd.

Roedd y rhan fwyaf o'r problemau yn “broblemau'r byd cyntaf” mewn gwirionedd – gweithio gyda phrosesau anghyfarwydd, rhyngrwyd ysbeidiol, anhawster yn dod o hyd i wybodaeth. Hynny ar ben jet-lag a theimlo'n sâl yn sgil meddyginiaeth malaria.

Y sioc ddiwylliannol fwyaf i mi, fodd bynnag, oedd y diogelwch. Roedd ein llety yn cael ei ddiogelu gan swyddogion diogelwch, a heblaw am gerdded 100m fel grŵp i swyddfeydd yr UNDP, nid oeddem yn gallu teithio ar droed neu o gwbl ar ôl iddi dywyllu. Ond, roedd yn gweithio, nid oeddwn i'n teimlo mewn perygl o gwbl. Efallai mai dyma'r realiti i weithwyr tramor mewn llefydd fel Port Moresby.

Nid oedd fy mhrofiad yn PNG yn hawdd, ond dysgais gymaint drwy herio fy hun i fynd i amgylchedd anghyfarwydd a gweithio gyda chydweithwyr o'r seneddau eraill. Rwy'n siŵr ein bod wedi gadael gwaddol o gymorth a chyngor ar gyfer staff PNG a fydd yn eu helpu wrth iddynt baratoi i graffu ar y gyllideb yn y dyfodol.

Gellir gweld datganiad i'r wasg UNDP ar y genhadaeth yma: “National Parliament to receive independent analysis of the 2019 National Budget”

Gellir gweld ciplun o'r gyllideb a luniwyd fel rhan o'r briff ar wefan Senedd PNG yma: “2019 National Budget Snapshot”


Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru