Trafnidiaeth

Y Cynulliad i drafod cyflwr y ffyrdd yng Nghymru

Yn ystod haf 2018, Cytunodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i gynnal ymchwiliad i Gyflwr y Ffyrdd yng Nghymru. Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar 9 Ionawr 2019.

03 Ionawr 2019

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn ystod haf 2018, Cytunodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i gynnal ymchwiliad i Gyflwr y Ffyrdd yng Nghymru. Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar 9 Ionawr 2019.

Yn ogystal â nifer y llythyrau y mae Aelodau’r Pwyllgor yn eu cael am y mater hwn, mae’n flaenoriaeth iddynt oherwydd iddo gael ei nodi gan randdeiliaid allweddol, gan gynnwys y sectorau cludo nwyddau a pheirianneg sifil, yn ystod sesiynau ymgysylltu â’r Pwyllgor.

Derbyniodd ymateb Llywodraeth Cymru (PDF,228KB) i’r adroddiad 9 o 14 o argymhellion y Pwyllgor. Derbyniwyd un arall “mewn egwyddor” a gwrthodwyd pedwar. Mae’r erthygl hon yn trafod y sail resymegol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru dros wrthod y pedwar argymhelliad.

Fel rhan o’r ymchwiliad, cynhaliodd y Pwyllgor gystadleuaeth ffotograffiaeth yn gofyn i’r cyhoedd dynnu lluniau o gyflwr y ffyrdd yng Nghymru. Mae’r llun buddugol, a dynnwyd gan Antony Maybury o Wrecsam, i’w weld isod.

EIS competition winner - lorry and pothole

Y cefndir

Trafododd yr ymchwiliad dri mater:

  • cyflwr a gwaith cynnal a chadw’r rhwydwaith ffyrdd;
  • cyflawni prosiectau gwella mawr;
  • cynaliadwyedd y dull gweithredu o ran priffyrdd.

Rhennir cyfrifoldeb am rwydwaith ffyrdd Cymru rhwng Llywodraeth Cymru, fel awdurdod priffyrdd y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd, ac awdurdodau lleol sydd â’r un cyfrifoldeb am ffyrdd lleol.

Cyflwr presennol

Data Llywodraeth Cymru a oedd yn dangos darlun amrywiol o gyflwr y rhwydwaith oedd yn gefndir i’r ymchwiliad.

Er mai gwella yw’r duedd gyffredinol i ffyrdd lleol, roedd bron 11 y cant mewn cyflwr gwael yn 2016-17.  Mae’r ffigur cenedlaethol hwn yn cuddio amrywiad sylweddol – o bron 19 y cant o rwydwaith Powys sydd mewn cyflwr gwael, i 3.4 y cant yn unig yn Sir y Fflint.

Ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd, roedd y data ar gyfer 2017-18 yn dangos bod angen i’r cyflwr strwythurol gael ei fonitro’n agos ar gyfer 4.9 y cant o’r rhwydwaith traffyrdd ac 1.8 y cant o’r rhwydwaith cefnffyrdd.

Pwysau o ran cyllid

Awgrymodd tystiolaeth i’r ymchwiliad mai cyllid Llywodraeth Cymru i ategu benthyca llywodraeth leol drwy’r hen Fenter Benthyca Llywodraeth Leol oedd yn gyfrifol am y duedd bod ffyrdd lleol yn gwella.  Awgrymodd yr ymgyngoreion y gellid disgwyl dirywiad mewn cyflwr o ganlyniad i bwysau cyllid ar ôl diwedd y fenter hon yn 2014-15.

Er bod data’n awgrymu bod cyflwr y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd yn well, nododd Llywodraeth Cymru a’r Asiantiaid Cefnffyrdd (y cyrff sydd â chyfrifoldeb dirprwyedig am weithredu a chynnal a chadw’r rhwydwaith) fod diffygion categori 1 mwy difrifol yn cynyddu.  Fel awdurdodau lleol, awgrymodd yr Asiantiaid Cefnffyrdd y byddai cyllid tymor hir yn fuddiol.

O safbwynt prosiectau mawr, man cychwyn y Pwyllgor oedd ymchwiliad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Pedwerydd Cynulliad yn 2015 i Werth am Arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd, ac adroddiad 2011 cyn hynny gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch Prosiectau Trafnidiaeth Mawr.

Tynnodd tystiolaeth i’r ymchwiliad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (PDF 429KB) sylw at sut y mae gostyngiadau cyfalaf, newidiadau i gynlluniau grant Llywodraeth Cymru a chyllid blynyddol yn golygu mai “ychydig iawn o brosiectau gwella mawr sy’n cael eu harwain gan awdurdodau lleol yn awr”.

Ar gyfer prosiectau mawr ar y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd, cododd tystion ystod o faterion, gan gynnwys diffyg eglurder ar y rhestr o brosiectau, trefniadau caffael cymhleth ac arafwch wrth benderfynu fel ffactorau sy’n effeithio ar werth am arian.

Yr argymhellion a wrthodwyd

Er y derbyniodd Llywodraeth Cymru nifer o argymhellion, gwrthododd bedwar argymhelliad allweddol y Pwyllgor yn llwyr.

Canolbwyntio gwariant lleol ar ffyrdd

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion cyllido a nodwyd mewn tystiolaeth, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru “ystyried y ffordd orau y gallai ysgogi awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn cynnal a chadw”, gan gynnwys “dull cyllido cyfatebol” i roi cyllid ar ben gwariant llywodraeth leol.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru hyn ar y sail a ganlyn:

dylai awdurdodau lleol benderfynu sut maent yn dyrannu’r Grant Cymorth Cyfalaf ar gyfer cynnal a chadw a’r grant cyfalaf heb ei neilltuo ar gyfer gwaith adfer neu ddarpariaeth newydd.

Mae’r ymateb yn parhau i gyfeirio at £60 miliwn arall a ddyrannwyd i awdurdodau lleol dros dair blynedd – cadarnhawyd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20.  Wrth graffu ar y gyllideb ddrafft yng nghyfarfod Pwyllgor ESS, nododd Ken States, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, y canlynol:

…a significant sum of money, and I think, in all fairness, local government colleagues have raised with me on numerous occasions concerns about the cost of not addressing poorly maintained roads because of austerity……It will be delivered through the local government budget, and it’ll go straight into the revenue support grant.

Fodd bynnag, ni waeth am yr angen clir i wario ar waith cynnal a chadw, nid yw’n glir eto i ba raddau y bydd arian heb ei glustnodi a ddyrennir drwy’r grant cynnal refeniw yn cael ei wario ar briffyrdd gan awdurdodau lleol sy’n brin o arian.

Sicrwydd cyllid i awdurdodau lleol

Yn ei ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ym mis Ionawr ar ddyfodol Trafnidiaeth Cymru, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd ei fod wedi “ymrwymo i raglen pum mlynedd o gyllid cyfalaf ar gyfer trafnidiaeth, drwy Trafnidiaeth Cymru”, a fyddai’n arwain at arbedion effeithlonrwydd rhwng 15 ac 20 y cant.

Fodd bynnag, wrth ymateb i adroddiad y Pwyllgor, gwrthododd Llywodraeth Cymru alwad i awdurdodau lleol gael sicrwydd tebyg.  Er bod yr ymateb yn dweud bod y Llywodraeth yn “cydymdeimlo” â galwadau o’r fath, mae’n nodi nifer o resymau pam na all wneud hyn nawr.

Mae’n cyfeirio at y ffaith bod awdurdodau lleol yn cael cyllid o amrywiaeth o ffynonellau, nid Llywodraeth Cymru yn unig.  Mae hefyd yn nodi ansicrwydd ynghylch adolygiad o wariant cynlluniedig Llywodraeth y DU, ar y cyd â chyni a Brexit, fel sail i’r penderfyniad i gyhoeddi cynlluniau refeniw ar gyfer 2019-20, a chyfalaf ar gyfer 2019-20 a 2020-21.  Er ei bod yn ymrwymo i weithio gyda llywodraeth leol i ddarparu “gwybodaeth fynegol… i lywio blaengynllunio ariannol”, nid yw’n glir sut y mae’r ansicrwydd ariannol hwn yn effeithio ar y rhaglen pum mlynedd o gyllid cyfalaf yr ymrwymwyd iddi ar gyfer Trafnidiaeth Cymru.

Rhestr o brosiectau

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth sy’n awgrymu nad oes gan Gymru restr glir o brosiectau mawr y mae angen i’r sector peirianneg sifil eu cynllunio’n effeithiol.

Mae hyn yn adlewyrchu tystiolaeth i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Pedwerydd Cynulliad, er gwaethaf y ffaith bod y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol (CCTC) wedi’i gyhoeddi a’i ddiweddaru ers hynny.

Mae’r CCTC yn cynnwys manylion ynghylch cyflawni ac amserlenni.  Fodd bynnag, er y disgrifiodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain hyn fel “cam i’r cyfeiriad cywir”, tynnodd sylw hefyd at yr angen i’r rhain gael eu blaenoriaethu ag amserlenni clir. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth debyg gan y Ffederasiwn Busnesau Bach a Siambr Fasnach De Cymru.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad bod “dynodiadau cliriach o flaenoriaethau ac amserlenni” yn cael eu nodi yn y CCTC, ac y dylai Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru newydd ei gyfansoddi argymell blaenoriaethau.

Mae’r ymateb yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn “adolygu a ellid egluro’r camau datblygu ymhellach” ar gyfer prosiectau’r CCTC.  Fodd bynnag, dywed fod gan y cynllun “orsaf amser cynllunio cyllideb cymharol fyr o 5 mlynedd”, felly nid rôl y comisiwn seilwaith, gyda’i orsaf cynllunio 5 i 30 mlynedd, yw trafod prosiectau o fewn amserlen y CCTC.

Wedi gwrthod yr argymhelliad, nid yw’n glir eto a fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu eglurder yn y rhestr o brosiectau’r CCTC.

Polisi priffyrdd cynaliadwy

Rhoddodd Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well (PDF 758KB) dystiolaeth o beth mae’n credu yw elfennau polisi priffyrdd mwy cynaliadwy.

Dywedodd y Pwyllgor ei fod “wedi’i argyhoeddi” gan hyn. Argymhellodd y dylai Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru, a ddisgwylir ym mis Mai 2020:

…bennu blaenoriaeth glir ar gyfer cynnal y rhwydwaith ffyrdd presennol, prif-ffrydio ac uwchraddio’r seilwaith teithio llesol, a blaenoriaethu mynediad, yn hytrach nag adeiladu ffyrdd newydd.

Wrth wrthod yr argymhelliad hwn, nid yw ymateb Llywodraeth Cymru yn ymdrin â’r materion polisi a awgrymwyd gan yr argymhelliad. Yn lle hynny, mae’n canolbwyntio ar y ffaith mai’r CCTC, yn hytrach na Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, sy’n “pennu’r rhaglen fuddsoddi”.  Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod argymhelliad y Pwyllgor yn ymdrin â blaenoriaethau polisi, gan bennu cyfeiriad strategol, yn hytrach nag elfennau penodol o’r rhaglen fuddsoddi.

Fodd bynnag, gofynnwyd i Ysgrifennydd y Cabinet wedyn ynghylch yr argymhelliad hwn gan Bwyllgor ESS wrth graffu ar gyllideb ddrafft 2019-20 ym mis Tachwedd 2018.  Yn ystod y sesiwn dystiolaeth honno, dywedodd nad oedd yn cytuno’n llwyr â’r argymhelliad, gan esbonio ei fod yn gwahaniaethu rhwng adeiladu ffyrdd newydd ac ymdrin â thagfeydd drwy fynd i’r afael â mannau prysur.  Dywedodd y canlynol:

I think it’s more complicated than just deeming capital programmes where you see tarmac and concrete poured as new roads. It’s often a case of actually alleviating congestion through providing a bypass or overtaking provision. And would you really want to see projects like Northern Gateway, Newtown bypass, Caernarfon-Bontnewydd bypass cancelled in order to pour more money into road maintenance…?

Mae rhwydwaith ffyrdd Cymru yn un o asedau gwerth mwyaf Cymru. Yn sicr, bydd y Pwyllgor am wneud gwaith dilynol ar ei argymhellion, a safbwynt y Llywodraeth fel yr amlinellwyd yn ystod y ddadl, i asesu i ba raddau y mae polisi priffyrdd Cymru yn cynnig gwerth am arian.


Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru