Addysg

Asesiadau wedi’u Personoli: Asesu ar gyfer dysgu ac nid ar gyfer atebolrwydd?

Ddydd Mawrth (8 Ionawr 2019), bydd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ynghylch 'Cyflwyno Asesiadau wedi'u Personoli'. Nod yr erthygl hon yw rhoi ychydig o wybodaeth gefndir i lywio paratoadau Aelodau'r Cynulliad ar gyfer y datganiad Cabinet. Efallai y bydd hefyd o ddiddordeb i randdeiliaid addysg yn fwy cyffredinol.

07 Ionawr 2019

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ddydd Mawrth (8 Ionawr 2019), bydd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ynghylch ‘Cyflwyno Asesiadau wedi’u Personoli’. Nod yr erthygl hon yw rhoi ychydig o wybodaeth gefndir i lywio paratoadau Aelodau’r Cynulliad ar gyfer y datganiad Cabinet. Efallai y bydd hefyd o ddiddordeb i randdeiliaid addysg yn fwy cyffredinol.

Cyflwyno, yn raddol, Asesiadau wedi’u Personoli i ddisodli’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno, yn raddol, asesiadau addasol wedi’u personoli i ddisodli’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar bapur a wneir gan ddisgyblion ym Mlynyddoedd 2 i 9; sef rhwng 6 ac 13 oed (ar ddechrau’r flwyddyn).

Ar hyn o bryd mae disgyblion ym Mlynyddoedd 2 i 9 yn gwneud tri math o brofion cenedlaethol – Darllen, Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu). Cyflwynwyd y rhain yn 2013 fel rhan o waith Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu  llythrennedd a rhifedd o fewn ‘cynllun ugain pwynt’ i ymateb i ganlyniadau PISA siomedig Cymru. I gael rhywfaint o gefndir, gweler ein cyhoeddiad yn 2013, Llythrennedd a Rhifedd yng Nghymru (PDF, 655KB).

Rhifedd (Gweithdrefnol) fydd y prawf cyntaf i symud i asesiad wedi’i bersonoli ar-lein yn 2018/19. Bydd Darllen yn dilyn yn 2019/20 ac yna Rhifedd (Rhesymu) yn 2020/21.

Beth yw Asesiadau wedi’u Personoli?

Yn ei chynllun gweithredu, Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl (Medi 2017), dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’n ‘dechrau cyflwyno, yn raddol, asesiadau addasol wedi’u personoli (i ddisodli profion darllen a rhifedd ar bapur)’ ‘yn ystod hydref 2018’. O fewn cyd-destun y Cwricwlwm newydd yng Nghymru a’i bedwar diben, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’n:

cynllunio trefniadau asesu newydd a’u rhoi ar waith, gyda mwy o bwyslais ar asesu ffurfiannol; bydd hyn yn cynnwys datblygu asesiadau wedi’u personoli sydd ar gyfrifiadur ac sy’n gallu addasu i ddarparu galluoedd diagnostig gwell i’n holl ddysgwyr, gan gynnwys y rhai mwyaf abl, a sicrhau hefyd bod trefniadau atebolrwydd newydd yn addas i’r diben ac yn cefnogi’r gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yn effeithiol.

Ychydig fisoedd ynghynt, roedd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi esbonio diben yr Asesiadau wedi’u Personoli yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mai 2017:

Fel y byddwch yn gwybod o fy natganiad ysgrifenedig [2 Mai 2017] yn ddiweddar, mae’n bosibl mai un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous y bydd ysgolion yn ei weld yn y blynyddoedd i ddod yw’r newid o’r profion darllen a rhifedd papur traddodiadol y mae dysgwyr yn eu gwneud bob blwyddyn, i asesiad ar-lein ymaddasol wedi’i bersonoli. Bydd yr asesiadau newydd yn addasu anhawster y cwestiynau i gyd-fynd ag ymateb y dysgwr, gan gymhwyso i ddarparu her addas i bob unigolyn. Mae hyn yn golygu y bydd pob dysgwr yn cael cwestiynau sy’n gydnaws â’u sgiliau unigol ac yn eu herio mewn darllen a rhifedd. Bydd ysgolion yn cael gwybodaeth o ansawdd uchel wedi’i theilwra am sgiliau pob dysgwr a gallant ddefnyddio’r wybodaeth honno fel tystiolaeth ychwanegol i gynllunio’r camau nesaf ar gyfer addysgu a dysgu. Bydd y profion yn marcio eu hunain ac yn gydnaws â systemau rheoli gwybodaeth ysgolion. Bydd athrawon a dysgwyr yn cael adborth penodol ac uniongyrchol o ansawdd uchel, a bydd hynny’n rhoi gwell syniad iddynt ynglŷn â sut y gallant fynd i’r afael â chryfderau a gwendidau pob dysgwr.

Y cyd-destun polisi: Asesu ar gyfer dysgu ac nid ar gyfer atebolrwydd?

Mae Asesiadau wedi’u Personoli yn rhan o symud tuag at ddefnyddio asesu ar gyfer dysgu yn hytrach nag at ddibenion atebolrwydd, fel yr argymhellir gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) (gweler Adolygiad 2014 a 2017 Rapid Policy Assessment) a dogfennau’r Athro Graham Donaldson (Dyfodol Llwyddiannus, 2015 ac Arolygiaeth Dysgu, 2018).

Mae asesu ar gyfer dysgu yn golygu y dylai asesiadau athrawon o ddisgyblion fod yn ffurfiannol yn hytrach na chrynodol, hynny yw dylent lywio’r addysgu parhaus sy’n gysylltiedig â disgybl penodol yn hytrach nag asesu disgyblion ar ddiwedd cyfnod o ddysgu ar sail safon neu feincnod. Felly, defnyddir technegau asesu ar gyfer dysgu drwy gydol rhaglen astudio yn hytrach nag ar y diwedd yn unig. Cyhoeddwyd blog gennym ym mis Mai 2017 cyn datganiad Kirsty Willliams yn y Cyfarfod Llawn bryd hynny.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi’r gorau i gyhoeddi canlyniadau asesiadau athrawon o ddisgyblion ar lefel ysgolion cynradd. Y prif reswm yw bod Llywodraeth Cymru am iddynt gael eu gweld a’u mabwysiadu er mwyn dylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd yn yr ystafell ddosbarth yn hytrach na mesur ysgol yn erbyn ei chymheiriaid. Bu rhai pryderon hefyd ynghylch pa mor ddibynadwy oedd yr asesiadau athrawon o fewn system atebolrwydd uchel, gydag Estyn yn dweud mewn adroddiad yn 2013/14 nad ydynt ‘bob amser yn ddigon cadarn neu ddibynadwy.’

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud, trwy gyflwyno Asesiadau wedi’u Personoli ar-lein, ei bod yn ymateb i argymhelliad (43) yr Athro Donaldson yn Dyfodol Llwyddiannus:

Dylai dulliau arloesol o asesu, gan gynnwys dulliau rhyngweithiol, gael eu  datblygu gan fanteisio ar y posibiliadau cynyddol mewn technoleg ddigidol.

Yn ei adroddiad diweddar, Developing Schools as Learning Organisations in Wales, disgrifiodd yr OECD ddatblygiad Llywodraeth Cymru o asesiadau addasol wedi’u personoli ar-lein fel cam blaengar ac addawol.

Sut i ddilyn y ddadl

Bydd y Gweinidog yn gwneud y datganiad tua 14.45 Ddydd Mawrth 8 Ionawr 2019. Darlledir y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar wefan Cofnod Trafodion y Cynulliad.


Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru