Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd Brexit Economi Lles Anifeiliaid Yr Amgylchedd

Beth yw rheolau Sefydliad Masnach y Byd ynghylch amaethyddiaeth?

Mae hynt Brexit wedi rhoi rheolau Sefydliad Masnach y Byd (y WTO) o dan y chwyddwydr, a hynny yn sgil y posibilrwydd y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb masnach. Mae'r blog hwn yn rhoi trosolwg byr o reolau'r WTO ynghylch cymorth ym maes amaethyddiaeth a chyfyngiadau mewnforio, a'r hyn a allai ddigwydd yn dilyn Brexit.

07 Ionawr 2019

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae hynt Brexit wedi rhoi rheolau Sefydliad Masnach y Byd (y WTO) o dan y chwyddwydr, a hynny yn sgil y posibilrwydd y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb masnach. Mae’r blog hwn yn rhoi trosolwg byr o reolau’r WTO ynghylch cymorth ym maes amaethyddiaeth a chyfyngiadau mewnforio, a’r hyn a allai ddigwydd yn dilyn Brexit.

Cyn i’r WTO gael ei sefydlu ym 1995, roedd cytundeb rhyngwladol arall yn bodoli, sef y Cytundeb Cyffredinol ar Dariffau a Masnach (GATT). Er bod cytundeb GATT yn parhau i fod yn weithredol, mae’r WTO wedi ei ddisodli ac wedi diweddaru nifer o ddarpariaethau cysylltiedig. Sefydlwyd y WTO er mwyn sicrhau bod llif masnach mor llyfn, rhagweladwy a rhydd â phosibl, ac mae gan y sefydliad 164 o aelodau ar draws y byd ar hyn o bryd.

Gall unrhyw aelod o’r WTO fynd ar drywydd anghydfod sy’n ymwneud â masnach mewn perthynas ag unrhyw aelod arall. Mae telerau aelodaeth yr WTO yn sicrhau bod unrhyw anghydfod nad yw’n cael ei ddatrys drwy drafodaethau rhwng y gwledydd dan sylw yn mynd i’r llys yn awtomatig, ac mae’r holl broses hon yn cymryd rhwng dwy a thair blynedd, yn dibynnu ar a yw’n destun apêl ai peidio.

Dyna lun o gynwysyddion ar long

Cymorthdaliadau cynhyrchu

Cafodd y Cytundeb ar Amaethyddiaeth (yr AoA) ei sefydlu’n benodol er mwyn mynd i’r afael â materion masnach byd-eang ym maes amaethyddiaeth. Arwyddwyd y Cytundeb ar Amaethyddiaeth yn 1995, pan sefydlwyd y WTO, ac mae’n cynnwys tri phrif biler:

  • Mynediad i’r farchnad – y defnydd o gyfyngiadau masnach, fel tariffau ar fewnforion;
  • Cystadleuaeth allforio – y defnydd o gymorthdaliadau allforio a rhaglenni cymorth eraill gan y llywodraeth sy’n darparu cymorthdaliadau mewn perthynas ag allforion; a
  • Cymorth domestig – y defnydd o gymorthdaliadau a rhaglenni cymorth eraill sy’n ysgogi cynhyrchu yn uniongyrchol ac yn ystumio masnach.

Yn nherminoleg gyffredinol y WTO, mae cymorthdaliadau yn cael eu nodi drwy system o ‘flychau’, ac mae system goleuadau traffig yn cael ei defnyddio i gategoreiddio’r cymorthdaliadau.

Defnyddir blychau gwyrdd, oren a glas i ddyrannu cymorthdaliadau yn y sector amaethyddol (yn unol â ffigur 1 a’r esboniad isod). Yn ogystal, mae blwch datblygu, sy’n caniatáu cenhedloedd sy’n datblygu i ddefnyddio mwy o gymorthdaliadau, ond nid yw hyn yn berthnasol i Gymru. Nid yw’r Cytundeb ar Amaethyddiaeth yn cynnwys unrhyw gymorthdaliadau yn y blwch coch; mewn sectorau eraill, mae hyn yn dynodi lefel o gefnogaeth sydd wedi’i gwahardd.

Ffigur 1 – Mathau o gymhorthdaliadau a’r cyfyngiadau priodol. *Mae eithriadau’n berthnasol i 32 o aelodau’r WTO, gan gynnwys yr UE.

Y blwch gwyrdd

Rhaid i gymorthdaliadau yn y blwch gwyrdd beidio ac ystumio masnach, neu ar y mwyaf, dylent arwain at ychydig iawn o ystumio yn unig. Nid oes cap ar gymorthdaliadau yn y blwch gwyrdd, ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â’r meini prawf a nodir yn Atodiad 2 i’r Cytundeb ar Amaethyddiaeth. Yn gyffredinol, nid yw cymorthdaliadau yn y blwch gwyrdd yn uniongyrchol gysylltiedig â chynnyrch penodol, ond gallant gynnwys cymorth incwm uniongyrchol nad yw’n gysylltiedig â lefelau cynhyrchu neu brisiau. Gallant hefyd gynnwys rhaglenni ar gyfer diogelu’r amgylchedd a rhaglenni datblygu rhanbarthol.

Y blwch oren

Mae cymorthdaliadau yn y blwch oren yn cynnwys mesurau i gefnogi prisiau, neu gymorthdaliadau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â graddfeydd cynhyrchu ac sydd felly’n ystumio masnach. Mae’r blwch oren yn cynnwys ystod eang o gymorthdaliadau.

Mae cymorthdaliadau yn y blwch oren yn ddarostyngedig i derfynau: caniateir lefelau “de minimis” o gymorth. Yn gyffredinol, mae hyn yn cael ei gapio ar 5 y cant o gynnyrch amaethyddol ar gyfer gwledydd datblygedig, ac ar 10 y cant ar gyfer gwledydd sy’n datblygu. Fodd bynnag, mae eithriadau penodol uwchben y lefel hon ar gyfer 32 o aelodau’r WTO, gan gynnwys yr UE, sy’n gallu mynd y tu hwnt i’r lefelau de minimis o gymorth, gan eu bod eisoes yn uwch na’r terfynau hynny cyn i’r cytundebau gael eu rhoi ar waith. Mynegir y lefel hon o gymorth fel y “Mesur Cyfanswm Cyfanredol o Gymorth” (Total AMS).

Y blwch glas

Gellir gweld cymorthdaliadau yn y blwch glas fel cymorthdaliadau yn y blwch oren gydag amodau. Er enghraifft, efallai y bydd cyfyngiad ar lefelau cynhyrchu er mwyn lleihau’r broses o ystumio masnach. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw derfynau ar gymorthdaliadau yn y blwch glas.

Cymorthdaliadau’r WTO a Brexit

Mae ymadael â’r UE yn golygu gadael Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE (y PAC) a’i gymorth cysylltiedig. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriadau yn ddiweddar ynghylch dyfodol rheoli tir yn y DU. Mae’r ddwy Lywodraeth yn cynnig cynlluniau taliadau yn y dyfodol a fydd yn seiliedig ar “nwyddau cyhoeddus”. Gallai nwyddau cyhoeddus ddod â buddion amgylcheddol neu fuddion i’r economi leol, ac mae’r mater hwn yn cael ei drafod yn Atodiad 2 i’r Cytundeb ar Amaethyddiaeth.

Ar hyn o bryd, o dan y Cytundeb ar Amaethyddiaeth, mae lefel y taliadau a wneir o dan y rhaglenni amgylcheddol a’r rhaglenni datblygu rhanbarthol wedi’i chyfyngu i’r costau ychwanegol neu’r incwm a gollir sy’n gysylltiedig â chynhyrchu nwyddau amaethyddol (yr hyn a elwir yn “income foregone”). Ar hyn o bryd, mae diffyg eglurder ynghylch sut y bydd buddion amgylcheddol, na ellid eu gwerthu’n uniongyrchol ar y farchnad, yn cael eu trin o dan y drefn incwm a gollir.

Mae Dr Ludivine Petetin o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn honni, os bydd y DU yn mynd ar drywydd newid polisi radical ym maes amaethyddiaeth—sef cadw dehongliad yr UE o incwm a gollir ond dod â’r drefn Taliadau Uniongyrchol i ben ar yr un pryd—mae’n debyg y bydd y 25 y cant o ffermydd ar waelod y sector yn Lloegr, sydd ond yn goroesi ar hyn o bryd yn sgil y cymorth a ddarperir drwy’r PAC, yn diflannu. Mae’n dweud y gallai’r senario hon fod yn waeth yn y gwledydd datganoledig, gan eu bod yn dibynnu i raddau mwy helaeth ar daliadau CAP.

Yn dibynnu ar y trafodaethau a geir, mae’n bosibl y bydd angen i’r DU ddefnyddio’r egwyddor de minimis ar gyfer cymorthdaliadau yn y blwch oren, neu efallai y bydd yn derbyn cyfran o lwfans yr UE ar gyfer y Mesur Cyfanswm Cyfanredol o Gymorth. Mae cymorthdaliadau yn y blwch oren yn llai tebygol o gael eu herio gan aelodau’r WTO yn sgil y ffaith y derbynnir eu bod yn ystumio masnach.

Mae Dr Petetin yn dadlau y dylid defnyddio cymorthdaliadau yn y blwch oren am gyfnod trosiannol yn dilyn Brexit, gan y byddai hynny’n bont rhwng system o gymorthdaliadau sy’n seiliedig ar ardaloedd a system o daliadau sy’n seiliedig ar ganlyniadau amgylcheddol. Mae hi’n datgan y byddai dibynnu ar y blwch oren am gyfnod trosiannol yn unig (yn hytrach nag am gyfnod amhenodol) yn fwy derbyniol yn wleidyddol i aelodau’r WTO nad ydynt yn elwa o’r Mesur Cyfanredol o Gymorth. Mae o’r farn ei fod yn annhebygol y bydd cymorthdaliadau yn y blwch glas yn cael eu defnyddio ar gyfer cymorth amaethyddol yn dilyn Brexit.

Cyfyngiadau ar fewnforio 

Mae erthygl XX o gytundeb GATT yn cynnwys nifer o “eithriadau cyffredinol” y gall Llywodraethau eu defnyddio i reoli mewnforion, a hynny hyd yn oed os yw’r mesurau hynny, yn gyffredinol, yn anghyson â rheolau’r WTO. Gellir cymhwyso’r eithriadau cyffredinol hyn at ddibenion diogelu moesau cyhoeddus; diogelu bywyd neu iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion; a gwarchod adnoddau naturiol.

Mae gan y WTO ddau gytundeb penodol arall sy’n ystyried diogelwch bwyd, ac iechyd a diogelwch anifeiliaid a phlanhigion:

Mae’r WTO yn annog safonau rhyngwladolr gyfer yr holl gytundebau hyn, gan ei fod o’r farn eu bod yn llai tebygol o fod yn destun her gyfreithiol yn y WTO na fyddai’n digwydd pe byddai’n pennu ei safonau ei hun.

Cyfyngiadau mewnforio ac allforio yn dilyn Brexit

Yn union ar ôl i’r DU adael yr UE, bydd safonau’n cael eu halinio â rheolau a safonau’r UE. Yn dibynnu ar y cytundeb masnach terfynol, bydd gofyn i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru benderfynu a ddylid cadw rheoliadau cyfredol yr UE neu eu newid. Os bydd y DU yn masnachu o dan reolau’r WTO, gallai unrhyw reolau newydd sy’n wahanol i reolau’r UE arwain at rwystrau nad ydynt yn rhwystrau tariff rhwng y DU a’r UE.

Ar hyn o bryd, ystyrir bod safonau bwyd y DU yn rhai o’r safonau gorau yn y byd. Ar hyn o bryd, mae’r safonau hyn yn bodloni neu’n rhagori ar safonau’r UE. Fodd bynnag, mae’r mae Sefydliad y Llywodraeth yn awgrymu, hyd yn oed os yw’r safonau uchel hyn yn parhau yn y dyfodol, yn absenoldeb cydnabyddiaeth ffurfiol o reoliadau’r DU fel rheoliadau sy’n gyfwerth â rhai’r UE, mae’n bosibl y bydd problemau o ran mewnforion ac allforion yng nghyd-destun yr UE oherwydd y rheswm a ganlyn:

There is a difference between having the same rules and having those rules legally recognised as being the same as the EU’s.

Yn yr achos hwn, byddai’n ofynnol i’r UE, o dan ei gyfreithiau ei hun, drin y DU fel trydedd wlad. Mae hynny’n golygu y byddai busnesau’r DU yn wynebu rhwystrau rheoleiddio a gwiriadau tollau wrth wneud busnes gyda’r UE.

Trafododd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad fasnach a safonau amaethyddol yn ei adroddiad, Dyfodol Rheoli Tir yng Nghymru (Mawrth 2017). Yn ogystal, trafododd Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Tŷ’r Cyffredin y materion hyn yn ei adroddiad, Brexit: Trade in Food (Chwefror 2018).

I weld y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr hyn y mae’r Cynulliad yn ei wneud o ran Brexit, gallwch ddilyn ein tudalen newydd, y Cynulliad a Brexit.


Erthygl gan Chris Wiseall ac Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Chris Wiseall gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.