Pennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2019-20: Beth allai hyn ei olygu i drethdalwyr Cymru?

Cyhoeddwyd 14/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 15 Ionawr 2019, bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ynghylch pennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2019-20 am y tro cyntaf erioed.

Beth yw Cyfraddau Treth Incwm Cymru?

O 6 Ebrill 2019 ymlaen, Llywodraeth fydd Cymru yn gyfrifol am bennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru. Ar hyn o bryd, mae holl drethdalwyr Cymru yn talu treth incwm i Lywodraeth y DU.

Ffigur 1. Strwythur presennol treth incwm

O fis Ebrill 2019, bydd Llywodraeth y DU yn torri 10c ar bob un o'r tair cyfradd treth incwm a delir gan drethdalwyr Cymru. Yna bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei chyfraddau ei hun ym mhob band treth, y bydd y Cynulliad yn eu trafod a'u cymeradwyo, a bydd refeniw o'r cyfraddau hyn yn ffurfio rhan o'i chyllideb. Mae Llywodraeth Cymru, yn ei hadroddiad polisi treth 2018, yn cynnig pennu cyfraddau o 10c ar gyfer treth incwm cyntaf Cymru.

Beth fydd hyn yn ei olygu i drethdalwyr Cymru?

Mae hyn yn golygu y bydd trethdalwyr Cymru yn talu 10c o bob cyfradd treth incwm i Lywodraeth Cymru, gan dalu'r gweddill i Lywodraeth y DU. Ni fydd unrhyw effaith ar drethdalwyr Cymru oherwydd bydd cyfraddau treth incwm yn aros ar yr un lefel â'r hyn sy'n cael ei dalu ar hyn o bryd i Lywodraeth y DU.

Ffigur 1. Strwythur treth incwm datganoledig os caiff cyfraddau arfaethedig o 10c eu cymhwyso

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi fydd yn gyfrifol am gasglu treth incwm, gyda refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru. Mae'n bwysig nodi mai dim ond pwerau i newid Treth Incwm Cymru sydd gan Lywodraeth Cymru, nid y bandiau treth incwm na'r trothwy lwfans personol.

Beth fyddai effaith newid cyfraddau treth incwm Cymru?

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi amcangyfrif effaith newidiadau i gyfraddau treth incwm Cymru ar incwm unigolion a Llywodraeth Cymru.


Erthygl gan Christian Tipples, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru