Brexit

Prif Weinidog newydd, blaenoriaethau Brexit newydd?

15 Ionawr 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ers mis Rhagfyr, mae gan Gymru Brif Weinidog newydd. Mae Mark Drakeford yn ymgymryd â’r rôl ar bwynt hollbwysig yn y broses Brexit, ac mae’r blog hwn yn edrych ar ei flaenoriaethau ar gyfer Brexit yng Nghymru.

Mewn datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Ionawr, dywedodd y Prif Weinidog mai ei brif ystyriaeth ar gyfer Brexit oedd diogelu swyddi a busnesau yng Nghymru. Pwysleisiodd bod hyn yn golygu dim tariffau na rhwystrau eraill i fasnachu, a dim oedi i gadwyni cyflenwi. Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnig a gytunwyd gan y Cynulliad ar 4 Rhagfyr, a oedd yn gwrthod y cytundeb ymadael Brexit. Hefyd, soniodd y Prif Weinidog am mewnfudo fel blaenoriaeth, gan ddweud y dylai’r system fod yn deg i ddinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru, gan nodi effaith newidiadau mewnfudo ar y GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Yn y datganiad, amlinellodd y Prif Weinidog yr hyn yr hoffai i Theresa May ei wneud nesaf, gan ddisgrifio’r canlynol fel y ‘dewis gorau’ i Gymru a’r DU:

Hyd yn oed ar yr adeg hwyr yma rwy’n gobeithio y bydd Prif Weinidog y DU yn llwyddo i gael gwell bargen, un sy’n cyd-fynd yn agosach â’n huchelgeisiau ni fel y’u nodir nhw yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’. Os na all Llywodraeth y DU wneud ei gwaith dylai ofyn i’r Undeb Ewropeaidd am estyniad i’r dyddiad Brexit yn erthygl 50 sef 29 Mawrth ac yna rhoi cyfle i’r DU gyfan roi mandad clir ar gyfer y ffordd ymlaen, drwy etholiad cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus.

Tîm Gweinidogol newydd

Ar 13 Rhagfyr, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei Gabinet a phenodiadau Gweinidogol eraill. Yn ei ddatganiad ysgrifenedig, dywedodd y Prif Weinidog mai Brexit yw ‘ein her fwyaf’, a dywedodd fod angen i’r Llywodraeth baratoi ar gyfer pob canlyniad.

Dywedodd ei fod yn cadw Gweinidogion mewn swyddi lle mae eu profiad o baratoi ar gyfer Brexit yn allweddol ar gyfer parhad gwleidyddol, gan greu swydd newydd i adlewyrchu’r flaenoriaeth newydd a roddir i berthnasau a masnach rhyngwladol. Felly, mae Ken Skates, Lesley Griffiths a Vaughan Gething wedi cadw eu cyfrifoldebau mewn perthynas â’r economi, amaethyddiaeth ac iechyd, yn y drefn honno.

O ran swyddi newydd, mae’r Prif Weinidog wedi penodi Eluned Morgan i arwain portffolio newydd fel Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol. Bydd hi’n gyfrifol am hyrwyddo masnach ryngwladol, Cymru yn Ewrop a chynyddu potensial swyddfeydd tramor Cymru.

Mae Jeremy Miles wedi cael ei benodi’n Weinidog Brexit, i arwain gwaith y Llywodraeth yn y maes hwn, a bydd hefyd yn Gwnsler Cyffredinol. Bydd yn gyfrifol am gynrychioli Llywodraeth Cymru ar y Cydbwyllgor Gweinidogol a’r Fforwm Gweinidogol ar Drafodaethau’r UE, yn ogystal â goruchwylio deddfwriaeth sy’n ymwneud â Brexit. Penodwyd Jane Hutt yn Ddirprwy Weinidog i weithio’n uniongyrchol i’r Prif Weinidog ar ystod o gyfrifoldebau, gan gynnwys materion cyfansoddiadol a chysylltiadau rhynglywodraethol.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr benodol o gyfrifoldebau ar gyfer y tîm Gweinidogol newydd. Gan gyfeirio at hyn yn y Pwyllgor Materion Allanol ar 7 Ionawr, dywedodd y Prif Weinidog:

I don’t think it is fair to say, ‘Oh, here’s the list of the First Minister’s responsibilities, and there’s a Deputy Minister in the First Minister’s office and she’s doing this, this and this.’ It’s more fluid than that; I will continue to take a very direct interest in those matters.

Gall Cwnsler Cyffredinol fod yn Weinidog?

Ar 8 Ionawr yn y Cyfarfod Llawn, pasiodd y Cynulliad gynnig yn cytuno argymhelliad y Prif Weinidog i Ei Mawrhydi benodi Jeremy Miles yn Gwnsler Cyffredinol. Fodd bynnag, yn ystod y ddadl ar y cynnig, fe wnaeth rhai Aelodau gwestiynu’r penodiad, gan fod Jeremy Miles hefyd yn Weinidog Brexit. Mae Adran 49(9) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn dweud:

A person holding office as the First Minister, a Welsh Minister appointed under section 48 or a Deputy Welsh Minister may not be appointed as the Counsel General or designated under subsection (6); and the Counsel General or a person so designated may not be appointed to any of those offices.

Gan gyfeirio at yr adran hon o’r Ddeddf, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod gwrthdaro clir o ran cyfrifoldebau, gan y byddai gwaith y Cwnsler Cyffredinol yn golygu rhoi cyngor cyfreithiol iddo ef ei hun. Dywedodd David Melding bod y penodiad yn ‘dra afreolaidd’, gan ddweud y dylai Llywodraeth Cymru ddilyn y rheolau a pheidio â’u dehongli allan o fodolaeth pan nad ydynt yn gyfleus.

Fodd bynnag, fe wnaeth y Prif Weinidog roi sicrwydd i Aelodau’r Cynulliad ei fod wedi cael cyngor cyfreithiol bod penodi Jeremy Miles fel Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit yn ‘gwbl gyson â Deddf Llywodraeth Cymru’ gan na phenodwyd y Gweinidog Brexit o dan adran 48 o’r ddeddfwriaeth, ac oherwydd na fydd Jeremy Miles yn arfer unrhyw bwerau statudol a roddir i weinidogion Cymru wrth gyflawni ei gyfrifoldebau gweinidogol.

Paratoadau ‘dim cytundeb’

Ar 19 Rhagfyr, mynychodd Mark Drakeford ei gyfarfod llawn cyntaf o’r Cyd-gyngor Gweinidogol fel Prif Weinidog, ac ar yr un diwrnod cyhoeddodd y byddai Llywodraeth Cymru yn dwysáu ei baratoadau ymhellach ar gyfer Brexit ‘dim bargen’.

Ymhelaethodd y Prif Weinidog ar hyn yng nghyfarfod y Pwyllgor Materion Allanol ar 7 Ionawr, gan ddweud ei fod wedi cynnal cyfarfod o’r Cabinet newydd yn union cyn y Nadolig er mwyn sicrhau bod pob aelod o’r Cabinet yn gallu adrodd ar y paratoadau sy’n mynd ymlaen yn eu portffolio ar gyfer sefyllfa ‘dim bargen’.

O ran busnes y Cynulliad, soniodd y Prif Weinidog am y posibilrwydd, pe na bai cytundeb yn Nhy’r Cyffredin, y byddai’n tynnu holl fusnes y Llywodraeth yn ôl o raglen y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth 22 Ionawr, ac yn defnyddio’r amser i gyflwyno cyfres o ddatganiadau gan Aelodau’r Cabinet, yn nodi pa baratoadau sydd wedi bod ar gyfer ‘dim bargen’ yn eu meysydd portffolio nhw.

Paratoadau

Ar 17 Medi, yn ystod sesiwn graffu gyda’r Prif Weinidog blaenorol, Carwyn Jones, clywodd y Pwyllgor y byddai Llywodraeth Cymru yn recriwtio 198 o staff ychwanegol i ddelio â pharatoadau Brexit.

Fodd bynnag, pan ymddangosodd Mark Drakeford gerbron y Pwyllgor Materion Allanol ar 7 Ionawr, dywedodd fod y Llywodraeth yn cael ei ‘ymestyn’ o ran adnoddau:

We’re stretched financially, and we’re stretched in terms of hands on deck as well… So, on both scores—on both finding the money to cope with the Brexit impact, and finding the people to deal with it as well—undoubtedly, we are having to pull the elastic even tighter.

Yn ei ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn, soniodd y Prif Weinidog ei fod wedi cadarnhau yn ystod toriad y Nadolig y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £31 miliwn mewn cyllid canlyniadol o ganlyniad i’r staff ychwanegol sy’n cael eu recriwtio yn Whitehall i gyflawni gweithgareddau Brexit. Ychwanegodd y byddai’r cyllid hwn yn caniatáu i’r Llywodraeth gryfhau ei weithgarwch o ran cyflwyno deddfwriaeth a rhoi paratoadau ‘dim bargen’ ar waith.

Beth sydd nesaf?

Heno, bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ynghylch a ddylid derbyn neu wrthod y cytundeb ymadael Brexit a’r datganiad gwleidyddol. Beth bynnag yw canlyniad y bleidlais, cadwch lygad ar y blog hwn am y diweddaraf ar beth fydd y canlyniad yn ei olygu i Gymru.


Erthygl gan Peter Hill, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: