Sut y gwnaeth Cymru gynhyrchu ei hynni yn 2017?

Cyhoeddwyd 17/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hadroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2017 ym mis Hydref 2018. Mae'r adroddiad yn trafod y sefyllfa bresennol yng Nghymru o ran cynhyrchu ynni, ac mae'n dadansoddi sut y mae'r sefyllfa wedi newid gydag amser.

Yn ôl yr adroddiad, yn 2017, daeth 78 y cant o'r trydan a gynhyrchwyd yng Nghymru o ffatrïoedd tanwydd ffosil, â'r 22 y cant sy'n weddill wedi'i gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy. Cynhyrchwyd cyfanswm o 32.5 Terawatt awr (TWh) o drydan, o gymharu â 40TWh yn 2016. Mae tua 7.1TWh o'r trydan a gynhyrchir yng Nghymru yn deillio o ffynonellau adnewyddadwy, cynnydd o 6.9TWh yn 2016.

Ym mis Medi 2017, gwnaeth Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y pryd, ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar bolisi ynni. Yn y datganiad hwnnw, gosododd nifer o dargedau mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy:

  • Cynhyrchu 70% o'r trydan a ddefnyddir yng Nghymru o ynni adnewyddadwy erbyn 2030;
  • 1 GW o gapasiti trydan adnewyddadwy yng Nghymru i gael ei gynhyrchu'n lleol erbyn 2030;
  • Pob prosiect ynni adnewyddadwy newydd i gynnwys o leiaf un elfen o berchnogaeth leol erbyn 2020.

Er gwybodaeth:

  • 1 MW = 1000 Kilowatt awr (KWh);
  • 1 GWh = 1 000 000 KWh; a
  • 1 TWh = 1 000 000 000 KWh.

Ynni adnewyddadwy

Yn 2017, cynyddodd capasiti ynni adnewyddadwy Cymru o 313 Megawatt (MW), gan gyrraedd cyfanswm o 3683MW Mae dros 84% o'r capasiti hwn yn dod o brosiectau trydan adnewyddadwy, â'r gweddill o brosiectau gwres adnewyddadwy. Roedd y cynnydd mewn capasiti trydan adnewyddadwy yn 2017 yn llai na chwarter y cynnydd capasiti a welwyd yn 2015.

Mae'r tabl isod yn dangos nifer y gwahanol fathau o brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn 2017, ynghyd â'u capasiti cynhyrchu ac amcangyfrif yr hyn y gallant ei gynhyrchu. Er bod 80% o gyfanswm nifer y prosiectau yng Nghymru yn rhai ffotofoltäig solar (PV solar), gwynt ar y tir sydd â'r capasiti gorau i gynhyrchu trydan ac sydd â'r amcangyfrif gorau o ran cynhyrchu trydan. Biomas sydd â'r capasiti gwres mwyaf a'r capasiti gorau o ran amcangyfrif cynhyrchiant gwres.

Y sefyllfa leol

Castell-nedd Port Talbot yw'r ardal awdurdod lleol â'r cyfanswm uchaf o gapasiti ynni adnewyddadwy wedi'i osod (358MW) a'r cynhyrchiant ynni adnewyddadwy mwyaf ag amcangyfrif o 1122GWh. Mae hyn yn bennaf yn dilyn comisiynu gorsaf bŵer tân coed Margam, a phrosiectau gwynt ar y tir Awel Aman Tawe, Lynfi Afan a Mynydd Brombil.

O ran defnyddio ynni adnewyddadwy, dyma'r pum ardal awdurdod lleol sydd â'r mwyaf o'u hynni trydan yn deillio o ynni adnewyddadwy:

  • Ceredigion 119%;
  • Powys 88%;
  • Castell-nedd Port Talbot 77%;
  • Rhondda Cynon Taf 75%; ac
  • Ynys Môn 48%.

Ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol

Mae diffiniad 'cynhyrchu yn lleol' yn cynnwys ynni sy'n cael ei gynhyrchu gan dai, cymunedau, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, cyrff sector cyhoeddus eraill, sefydliadau addysg bellach, busnesau lleol, a ffermydd ac ystadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 1GW o gapasiti trydan adnewyddadwy i gael ei gynhyrchu yn lleol erbyn 2030.

Bellach, mae 529MW o ynni adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, sy'n gynnydd o dros 12% ers 2016. Hefyd, mae 221MW o gapasiti gwres adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol, sy'n gynnydd o 16% ers 2016. Mae cyfanswm o dros 63,000 o brosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn lleol, gyda PV solar ar ben toeau domestig amlycaf.


Erthygl gan Chloe Corbyn, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru