Addysg

Diwygio’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu

Bydd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (29 Ionawr 2019) ynghylch Papur Gwyn ynghylch 'Diwygio'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu'.

23 Ionawr 2019

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Lansiodd Llywodraeth Cymru ei hymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar 28 Ionawr 2019.

Bydd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (29 Ionawr 2019) ynghylch Papur Gwyn ynghylch ‘Diwygio’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu’.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhwydwaith o ‘Ysgolion Arloesi’ a phartneriaid addysg i ddatblygu Cwricwlwm newydd i Gymru er mwyn datblygu gweledigaeth adolygiad cwricwlwm a threfniadau asesu yr Athro Graham Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus (PDF 1.53MB) (2015). Bydd y cwricwlwm newydd, y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi fersiwn ddrafft ohono ddiwedd mis Ebrill 2019 cyn ei gyflwyno’n raddol o fis Medi 2022, yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol gan fod y Cwricwlwm Cenedlaethol presennol yn seiliedig ar Ddeddf Addysg 2002.

Y Papur Gwyn sydd ar y gweill a’r Bil arfaethedig

Roeddllythyr diweddar gan y Gweinidog Addysg at Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad (PDF 429KB) yn nodi bod disgwyl cyhoeddi Papur Gwyn ar gyfer Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft yn gynnar yn 2019, gan lansio ymgynghoriad cyhoeddus. Dywedodd Kirsty Williams wrth y Pwyllgor ar 10 Ionawr 2019 (paragraffau 4-7) ei bod yn gobeithio y byddai’r cyhoeddiad yn digwydd o fewn mis (felly erbyn canol mis Chwefror 2019). Ychwanegodd mai dyma fyddai’r prif gyfle i’r cyhoedd gael rhoi eu barn ar y cwricwlwm newydd, a hynny oherwydd y bydd y cyfnod ‘adborth’ ynghylch y cwricwlwm drafft rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2019 yn canolbwyntio’n bennaf ar y proffesiwn addysg (paragraffau 18-27).

Beth ydyn ni’n ei wybod hyd yn hyn am y Cwricwlwm newydd i Gymru?

Yn Dyfodol Llwyddiannus (PDF 1.53MB), gwnaeth yr Athro Donaldson 68 o argymhellion, gan gynnwys bod Cwricwlwm newydd i Gymru yn seiliedig ar bedwar diben ac wedi’i strwythuro o gwmpas chwe Maes Dysgu a Phrofiad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r pedwar diben canlynol o’r cwricwlwm newydd fel yr argymhellwyd gan yr Athro Donaldson, sef y bydd pob plentyn a pherson ifanc sy’n cwblhau eu haddysg yn:

  • Ddysgwyr uchelgeisiol a galluog sydd yn barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau;
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol sydd yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;
  • Dinasyddion gwybodus, moesegol, sydd yn barod i fod yn ddinasyddion o Gymru a’r byd;
  • Unigolion iach, hyderus sydd yn barod i arwain bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi mabwysiadu’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad yr oedd yr Athro Donaldson yn dadlau o’u plaid:

  • Y Celfyddydau Mynegiannol;
  • Iechyd a Lles;
  • Y Dyniaethau;
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu;
  • Mathemateg a Rhifedd;
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Roedd Dyfodol Llwyddiannus yn argymell y dylid defnyddio’r Meysydd Dysgu a Phrofiad rhwng 3 ac 16 oed ac y dylent gynnig continwwm dysgu yn hytrach na gwahanu addysg i’r cyfnodau allweddol fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Felly, bydd y cwricwlwm newydd yn mesur cynnydd dysgwyr drwy’r ‘Deilliannau Cyrhaeddiad’ disgwyliedig ar bum ‘Cam Dilyniant’ yn 5, 8, 11, 14 ac 16 oed.

Yn dilyn argymhelliad yr Athro Donaldson, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu trydedd flaenoriaeth drawsgwricwlaidd ar gyfer y cwricwlwm, sef cymhwysedd digidol, ochr dyn ochr â’r ddwy flaenoriaeth bresennol, sef llythrennedd a rhifedd.

Y dull o gynllunio’r cwricwlwm

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu rhwydwaith o ‘Ysgolion Arloesi’ (PDF) i arwain ar ddatblygiad y cwricwlwm newydd. Roedd hyn yn rhan o ddull a ddewiswyd i rymuso’r proffesiwn addysgu a rhoi rôl ganolog iddynt wrth gynllunio’r cwricwlwm newydd, gan arwain at fwy o berchnogaeth ymhlith athrawon.

Mae’r Ysgolion Arloesi yn gweithio fel rhan o ‘bartneriaeth Cymru gyfan’ sy’n cynnwys awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, Estyn, y sectorau addysg uwch ac addysg bellach, arbenigwyr allanol, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru. Mae’r bartneriaeth hon wedi arwain at ffurfio gweithgorau ar gyfer pob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad, gyda Grŵp Cwricwlwm ac Asesu yn derbyn cyfrifoldeb dros sicrhau bod y cwricwlwm newydd aros yn driw i egwyddorion Dyfodol llwyddiannus, a Grŵp Cydlynu Cwricwlwm sy’n gwneud gwaith craffu manwl a gwella ansawdd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu Grŵp Cynghori Annibynnol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Donaldson, a Byrddau Newid a Chyflawni dan arweiniad Llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am gyflwyno’r rhaglen yn llwyddiannus. Nod y Grŵp Rhanddeiliaid Strategol yw cynnwys rhanddeiliaid allweddol a’u hysbysu.

Y broses ddatblygu

Yn ogystal â pharatoi at gyhoeddi’r Papur Gwyn Cwricwlwm ac Asesu, mae Llywodraeth Cymru a’r rhwydwaith Ysgolion Arloesi wrthi’n cwblhau’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn barod i’w cyhoeddi ym mis Ebrill. Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gynharach y mis hwn fod pedwar o’r chwe maes yn mynd drwy’r broses olygyddol, tra bod ychydig yn fwy o waith i’w wneud ar y ddau arall (Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu; a’r Dyniaethau), ond ei bod yn gwbl hyderus y byddant ar gael i’w cyhoeddi ar yr un pryd â’r lleill.

Mae pob gweithgor Maes Dysgu a Phrofiad wedi cynhyrchu adroddiadau crynodeb gweithredol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017. Roedd y rhain yn dangos y syniadau diweddaraf ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad ar y pryd. Cyhoeddwyd adroddiadau ‘Beth sy’n Bwysig’ dilynol ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad ym mis Rhagfyr 2017 (ar gael fel dogfennau ar wahân ar wefan Llywodraeth Cymru). Nod yr adroddiadau hyn yw nodi’r elfennau allweddol y dylai pob dysgwr gael profiad ohonynt ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad yng nghyd-destun y pedwar diben cwricwlaidd.

Cyhoeddwyd diweddariad pellach ym mis Mai 2018 gan Lywodraeth Cymru, sy’n amlinellu datblygiadau ers mis Rhagfyr 2017 a datganiadau ‘Beth sy’n Bwysig?’ diwygiedig. Ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad, roedd rhwng pedwar a saith datganiad ‘Beth sy’n Bwysig?’ a datganiad cyffredinol sy’n manylu ar sut y mae’r Maes Dysgu a Phrofiad yn cefnogi pedwar amcan y cwricwlwm. Yn ystod ail hanner 2018, gwnaed gwaith i ymhelaethu ar y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sy’n ymwneud â phob datganiad ‘Beth sy’n Bwysig’ ac yn diffinio’r Deilliannau Cyrhaeddiad disgwyliedig ar bob Cam Dilyniant. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhannu fersiynau dilynol o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad drafft ymhlith rhanddeiliaid addysg a’r rheini sy’n ymwneud â’r broses ddylunio.

Mae’ramserlen lefel uchel ar gyfer datblygu a chyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru fel a ganlyn:

  • Ebrill 2019Cyhoeddi’r trefniadau cwricwlwm ac asesu newydd ar gyfer adborth y cyhoedd. Bydd y cyfnod ar gyfer adborth yn parhau hyd fis Gorffennaf 2019.
  • Ionawr 2020 – Cyhoeddi trefniadau cwricwlwm ac asesu terfynol.
  • Medi 2022Dechrau’r cwricwlwm yn yr holl ysgolion a lleoliadau a gynhelir ar sail statudol.  Bydd hyn yn digwydd yn raddol fel mai dysgwyr ym mlwyddyn 7 ac islaw sy’n astudio’r cwricwlwm newydd i ddechrau ac yna drwy gydol eu haddysg yn y dyfodol. (Mae hyn yn golygu y bydd y garfan gyntaf ym mlwyddyn 11 yn cwblhau’r cwricwlwm newydd yn haf 2027, sef carfan blwyddyn 3 yn 2018/19.)

Gwaith craffu gan y Cynulliad

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad wedi penderfynu cadw llygad ar ddatblygiad y Cwricwlwm newydd i Gymru. Yn fwyaf diweddar, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Addysg ar 10 Ionawr 2019, ar ôl targedu galwad am dystiolaeth gan randdeiliaid. Daeth 35 o ymatebion i law.

Holodd y Pwyllgor y Gweinidog ynghylch y pryderon a gododd yn y dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW) (PDF 325KB). Dywedodd CLlLC ac ADEW nad yw’r Meysydd Dysgu a Phrofiad yn cynnwys digon o’r hyn sydd wir yn bwysig, bod gormod ohonynt wedi’u diffinio’n wael ac yn wan o ran datblygu gwybodaeth a sgiliau, a bod perygl bod datblygiad disgyblion yn cael ei adael i ffawd, gyda’r rheini heb gefnogaeth deuluol gadarn mewn perygl o fod fwyaf ar eu colled.

Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog ei bod yn ‘siomedig’ darllen tystiolaeth CLlLC ac ADEW, ei bod yn ymddangos ei bod yn cyfeirio at fersiynau blaenorol o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad, ac nad oedd y naill sefydliad na’r llall wedi cymryd y cyfle i godi pryderon o’r fath gyda Llywodraeth Cymru.

Fframwaith Asesu a Gwerthuso

Mae ‘cwricwlwm trawsnewidiol’ yn ganolog i gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-2021, sef Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl, sydd hefyd yn nodi’r bwriad i gyflwyno Fframwaith Asesu a Gwerthuso newydd. Mae hyn yn mynd i’r afael ag elfen ganolog arall Dyfodol Llwyddiannus ac argymhellion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (PDF 2.91MB).

Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd polisïau sydd â’r nod o flaenoriaethu asesu at ddibenion llywio addysgu a dysgu yn hytrach nag atebolrwydd ysgolion. Fe wnaethom ni flogio am y pwnc hwn yn ddiweddar cyn cyhoeddiad y Gweinidog ynghylch y defnydd o asesiadau wedi’u personoli i gymryd lle’r profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol.

Cadarnhaodd Kirsty Williams i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 10 Ionawr 2019 y caiff Fframwaith Asesu a Gwerthuso drafft ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r cwricwlwm drafft, ac y caiff fersiynau terfynol o’r ddau eu cyhoeddi ar y cyd yn dilyn ymgynghoriad ac adborth. Bydd hunanarfarnu ac achredu ar gyfer hunanarfarnu wrth wraidd hyn, fel y dywedodd y Gweinidog mewn datganiad ym mis Medi 2018.

Sut i ddilyn y datganiad Mae datganiad y Gweinidog wedi’i drefnu ar gyfer dydd Mawrth 29 Ionawr 2019, tua 2.45yp. Darlledir y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar wefan Cofnod Trafodion y Cynulliad.


Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru