Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Fil Brexit yr Alban

Cyhoeddwyd 23/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 13 Rhagfyr 2018 cyflwynodd y Goruchaf Lys ei ddyfarniad ar Fil Ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban) ("Bil yr Alban"), a gyfeiriwyd ato gan y Twrnai Cyffredinol ac Adfocad Cyffredinol yr Alban. Clywyd yr achos ar 24 a 25 Gorffennaf. Roedd y Cwnsler Cyffredinol a Thwrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon hefyd yn cymryd rhan.

Ar 27 Chwefror 2018, roedd Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno Bil yr Alban, a hynny er mwyn gwneud darpariaeth ar gyfer parhad cyfreithiol yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE. Pasiwyd Bil yr Alban gan Senedd yr Alban ar 21 Mawrth 2018.

Ar 26 Mehefin 2018, cafodd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Gydsyniad Brenhinol a daeth yn Ddeddf Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd 2018 ("Deddf Ymadael y DU"). Hynny yw, daeth Deddf Ymadael y DU yn gyfraith ar ôl i Fil yr Alban gael ei basio ond cyn iddo gael Cydsyniad Brenhinol.

Effaith dyfarniad y Goruchaf Lys yw na all Bil yr Alban bellach gael Cydsyniad Brenhinol yn ei ffurf bresennol. Mae gan Senedd yr Alban y dewis i’w ddiwygio er mwyn iddo fod o fewn cymhwysedd.

Beth a ddywed y dyfarniad?

Rhoddodd y Goruchaf Lys farn unfrydol. Canfu nad oedd Bil yr Alban, yn gyffredinol, y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol Senedd yr Alban. Yn wir, pan basiwyd y Bil, roedd o fewn cymhwysedd yn gyfan gwbl, ar wahân i adran 17, a oedd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd o’r cychwyn gan y byddai wedi addasu Deddf yr Alban 1998 mewn ffordd y mae’r Ddeddf honno’n ei wahardd. Roedd Adran 17 yn gwahardd Llywodraeth y DU rhag gwneud is-ddeddfwriaeth ar gyfer yr Alban mewn meysydd datganoledig yr effeithir arnynt gan gyfraith yr UE, oni bai bod Llywodraeth yr Alban yn cydsynio. Roedd y Llys o’r farn bod hyn yn ymgais i osod amodau ar bŵer Senedd y DU i ddeddfu ar gyfer yr Alban, fel y’i diogelir yn Neddf yr Alban 1998, oherwydd mae’r pŵer hwnnw’n cynnwys y gallu i ganiatáu i Weinidogion y DU wneud is-ddeddfwriaeth ar gyfer yr Alban ar unrhyw bwnc, heb unrhyw gyfyngiad.

Dyfarnodd y Llys hefyd y byddai nifer sylweddol o adrannau eraill, o leiaf yn rhannol, y tu allan i gymhwysedd Senedd yr Alban o ganlyniad i Ddeddf Ymadael y DU, oherwydd y byddent yn addasu darpariaethau’r Ddeddf honno, sef rhywbeth sydd hefyd bellach wedi’i wahardd gan Ddeddf yr Alban.

Un pwynt amlwg a wnaed gan Lywodraeth y DU oedd bod Bil yr Alban yn ei gyfanrwydd y tu hwnt i gymhwysedd oherwydd mae’n ymwneud â chysylltiadau â’r UE (maes a gedwir yn ôl). Er mwyn ymwneud â maes a gedwir yn ôl, rhaid i ddarpariaeth gael mwy na chysylltiad rhydd neu gysylltiad canlyniadol ag ef. Daeth y Goruchaf Lys i’r casgliad nad yw Bil yr Alban yn ymwneud â chysylltiadau â’r UE. Dywedodd am y Bil:

“[it] simply regulates the legal consequences in Scotland of the cessation of EU law as a source of domestic law.”

Dadl arall a wnaed yn erbyn y Bil oedd ei fod yn gwneud darpariaeth a fyddai’n anghydnaws â chyfraith yr UE fel ag y mae’n sefyll. Penderfynodd y Llys, fodd bynnag, nad oedd hyn yn mynd â’r Bil y tu allan i gymhwysedd, oherwydd na fyddai’r darpariaethau hynny’n dod i rym nes i gyfraith yr UE beidio â bod yn gymwys yn yr Alban.

Ar ddiwrnod y dyfarniad, gwnaeth yr Arglwydd Adfocad, y Gwir Anrhydeddus James Wolffe QC ddatganiad i Senedd yr Alban. Eglurodd fod y Goruchaf Lys wedi gorfod ymdrin â dau fater. Yn gyntaf, a oedd Bil yr Alban o fewn cymhwysedd Senedd yr Alban pan basiwyd y Bil? Yn ail, a oedd y newidiadau a wnaed i gymhwysedd deddfwriaethol Senedd yr Alban, yn enwedig gan Ddeddf Ymadael y DU, wedi effeithio ar y sefyllfa? Dywedodd:

“On the first issue, the Supreme Court has concluded that when this Parliament passed the continuity bill, the bill was, with the exception of section 17, within the competence of this Parliament. In reaching that conclusion, the court has confirmed the constitutional analysis that I and the other devolved law officers advanced in our submissions to the court. It has affirmed this Parliament’s power, subject to the limits on its competence, to prepare the statute book against the UK’s withdrawal from the European Union.”

O ran yr ail fater, pwysleisiodd

“the court has rejected the submission by the UK Government’s law officers that the coming into force of the European Union (Withdrawal) Act 2018 means that the whole [Scottish] continuity bill is now outwith the competence of this Parliament.”

Fodd bynnag, daeth y Goruchaf Lys i’r casgliad:

“the following provisions in the continuity bill would modify provisions in the withdrawal act and, for that reason, cannot now become law”.

Daeth i’r casgliad hefyd:

“Had the continuity bill become law before the withdrawal bill received royal assent, all those provisions would have survived.”

Y goblygiadau i Gymru

Ar 20 Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Jeremy Miles AC, y darpar Gwnsler Cyffredinol, ddatganiad ysgrifenedig am y farn. Croesawodd fod y Goruchaf Lys “wedi derbyn dadleuon a gyflwynwyd ar ran Llywodraethau Cymru a’r Alban ynghylch cwmpas ‘cysylltiadau rhyngwladol’ yn golygu nad oes amheuaeth bellach bod deddfu i reoleiddio canlyniadau domestig cytundebau rhyngwladol yn syrthio y tu allan i gwmpas y mater hwnnw a gedwir yn ôl.”

Ailadroddodd y darpar Gwnsler Cyffredinol safbwynt Llywodraeth Cymru, fod y penderfyniad i gyflwyno’r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) ond yn opsiwn wrth gefn erioed, oherwydd mai ei lwybr dewisol oedd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a oedd yn darparu’n briodol ar gyfer y DU gyfan. Dywedodd:

Drwy’r newidiadau a wnaed i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a’r Cytundeb Rhynglywodraethol ategol, llwyddwyd i amddiffyn datganoli yng Nghymru, a sicrhau bod cyfreithiau a meysydd polisi sydd wedi’u datganoli ar hyn o bryd yn parhau i fod wedi’u datganoli.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Rhaid i Lywodraeth yr Alban benderfynu a ddylid diwygio Bil yr Alban a’i ailgyflwyno. Yn dilyn y dyfarniad, dywedodd Alison Atack, Llywydd Cymdeithas y Gyfraith yr Alban:

Today’s judgment means that the Scottish Government has a decision to make on whether to bring forward a revised bill.

With under four months to go until we are due to leave the EU, time is extremely limited. The Scottish Government will have to act quickly if it intends to bring forward a new bill which takes account of the points raised in the Supreme Court judgment and which will allow enough time for it to go through parliamentary processes and for proper scrutiny.

Wrth roi sylwadau ar flog Cymdeithas Cyfraith Gyfansoddiadol y DU, dywedodd Christopher McCorkindale a’r Athro Aileen Harg o Brifysgol Strathclyde:

Although there might be a practical attraction in abandoning the Bill, and with it the complexities of co-existing schemes for Scotland and for the rest of the UK, there might be life in the Bill yet.

Maent yn nodi bod yr Arglwydd Adfocad, yn ei ddatganiad, yn pwysleisio bod:

important provisions that remain intact: s12 (ministerial powers relating to compliance with the UK’s international obligations), s13 (ministerial powers that allow for Scotland to ‘keep pace’ with future developments in EU law post-Brexit) and s26A (a ministerial duty to prepare and consult on proposals concerning the protection of environmental principles).


Erthygl gan Alys Thomas, Senedd Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru