Colli Olew yn Aberdaugleddau

Cyhoeddwyd 24/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r erthygl hon yn rhoi'r cefndir i ollyngiadau olew, Purfa Penfro, a gwybodaeth am yr olew sydd wedi'i ollwng yn ddiweddar yn nyfrffordd Aberdaugleddau.

Ar 3 Ionawr 2019, adroddwyd fod olew wedi'i golli wrth lanfa Purfa Penfro. Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro werth amgylcheddol eithriadol o ran harddwch naturiol a thrafnidiaeth. Dyfrffordd Aberdaugleddau, sy'n rhan o'r parc cenedlaethol, yw un o'r porthladdoedd naturiol dyfnaf yn y byd ac mae'n sianel longau brysur; yn llawn fferïau, tanceri a llongau pleser.

Mae Purfa Penfro wedi'i lleoli yn y ddyfrffordd a chafodd ei phrynu gan Valero, purwr petroliwm annibynnol, yn 2011. Y burfa yw un o'r mwyaf cymhleth yng Ngorllewin Ewrop, ac mae'n cynhyrchu gasolin, tanwydd disel, nwy petroliwm hylifedig a phorthiant petrocemegol, gyda chyfanswm capasiti mewnbwn o 270,000 casgen y dydd. Mae'n gyflogwr cenedlaethol mawr gyda thros 500 o weithwyr a channoedd o gontractwyr.

Roedd amcangyfrifon cychwynnol yn awgrymu bod 10,000 litr (2,200 galwyn) o danwydd trwm wedi'u rhyddhau o'r pibellau tanwydd i ochr ddeheuol dyfrffordd Aberdaugleddau. Ymddangosodd clwt olew amlwg yn y ddyfrffordd a daeth ychydig o olew i'r lan. Fodd bynnag, deallir bellach nad oedd mwy na 500 litr o olew wedi'i ryddhau – sy'n ddigwyddiad difrifol, ond yn swm dibwys o gymharu â digwyddiad y Sea Empress yn 1996.

Llun o'r Awyr o Burfa Penfro a dyfrffordd Aberdaugleddau

Mae'r digwyddiad wedi golygu gwaith glanhau aml-asiantaeth yn ogystal â chau'r lanfa a'r llwybr llongau ar unwaith. Valero sydd wedi bod yn gyfrifol am staffio ac ariannu'r broses lanhau tra bod Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Penfro aPharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn monitro'r ardal ac yn cynghori. Roedd yr ymateb yn cynnwys achub yn y môr, glanhau traethau lle bo angen, defnyddio rhwystrau i ddiogelu morfeydd heli a chynefinoedd a defnyddio droniau i fonitro lledaeniad yr olew. Fe wnaeth hynny ymatal yr olew, ac felly mae graddfa'r gwaith glanhau wedi lleihau ac mae'r llwybrau llongau bellach wedi ailagor.

Nodwyd mai dwy bibell tanwydd ar y lanfa oedd ffynhonnell y llygredd a oedd yn effeithio ar ddŵr, tir a bywyd gwyllt cyfagos ym mis Rhagfyr a dechrau mis Ionawr. Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru hysbysiad gorfodi ar 8 Ionawr i atal defnyddio'r piblinellau hyn tan y bydd yn fodlon na fyddant yn bygwth yr amgylchedd.

Er gwaetha'r ffaith mai swm cyfyngedig o olew a gafodd ei ryddhau, nid yw'r effaith amgylcheddol wedi'i mesur eto. Mae'r ddyfrffordd yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt morol a chynefinoedd gwely'r môr sensitif. Mae arolygon o'r traethau ac asesiadau o wely'r môr wrthi'n cael eu cynnal. Mae ymchwiliad i sut ddigwyddodd y digwyddiad hefyd yn cael ei gynnal, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yn parhau i fonitro'r ardal.

Anogir pobl – yn arbennig perchnogion cŵn – i fod yn wyliadwrus ac i edrych allan am lygredd ar yr arfordir. Gofynnir iddynt osgoi olew os ydynt yn ei ddarganfod ac i gysylltu â llinell ddigwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru: 03000 65 3000.

Cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, ddatganiadau ysgrifenedig yn rhoi'r diweddaraf ar y sefyllfa bresennol a'r ymateb aml-asiantaeth ar 10 Ionawr a 17 Ionawr 2019.

Effaith yr olew

Mae olew yn hanfodol i economïau modern gan ei fod yn cael ei ddefnyddio ym maes ynni, trafnidiaeth a gweithgynhyrchu. Heddiw, mae'r galw am olew yn fyd-eang tua 100 miliwn casgen y dydd (~15.9 biliwn litr).

Fel arfer, caiff olew ei gludo ar hyd pellteroedd helaeth o'r ffynhonnell i'r defnyddiwr, gyda 10-15 o drosglwyddiadau rhwng dulliau trafnidiaeth. Mae gwelliannau mewn technoleg, gweithdrefnau gweithredu a rheoliadau wedi lleihau cyfraddau colli olew dros y degawdau diwethaf. Fodd bynnag, gyda chymaint o ddefnydd a chludo mor eang, mae achosion o golli olew yn anorfod. Amcangyfrifir bod 30-50 y cant o achosion o golli olew yn cael eu hachosi gan gamgymeriadau dynol tra bod 20-40 y cant yn cael eu hachosi gan fethiannau offer. Fodd bynnag, mae'r mwyafrif helaeth o'r olew sy'n cael ei ryddhau i'r amgylchedd yn sgil llongau a gweithgareddau diwydiannol, nid achosion o golli a gollwng.

Mae'r effaith amgylcheddol yn sgil colli olew yn cael ei phennu gan lawer mwy na maint yr olew. Pan fydd olew yn mynd i'r amgylchedd morol, mae'n lledaenu gyda gwynt a cherrynt, gan fynd drwy nifer o newidiadau cemegol a ffisegol. Gall y prosesau hyn, a elwir yn hindreulio, naill ai annog olew i fod yn barhaus neu ei dorri i lawr yn naturiol, yn dibynnu ar y tywydd ac amodau'r môr, a maint yr olew, y math o olew a'r gyfradd gollwng.

Mae'r effeithiau amgylcheddol hirdymor yn dibynnu ar nifer o ffactorau ychwanegol; gan gynnwys math a lleoliad porthladdoedd a thraethau, sensitifrwydd olew ac arwyddocad ecolegol rhwydweithiau lleol, a phrosesau glanhau a ddewiswyd. Mae gan ecosystemau morol amrywiad naturiol uchel - mae'n anodd gwybod yn union yr amodau cyn-gollwng na nodi pwyntiau adfer pendant. Mae pob ecosystem a lleoliad yn unigryw - nid oes unrhyw ddau achos o golli olew yr un fath.

Mae Rhaglen Grantiau Môr Prifysgol Delaware yn amlinellu ymatebion glanhau cyffredin - gydag ymatebion priodol yn dibynnu ar bob achos unigol. Gall rhwystrau traethliniau gerllaw (rhwystrau sy'n arnofio) ymatal olew tra bod offer sgimio yn ei dynnu oddi ar wyneb y dŵr. Mae gwasgarwyr ac asiantau biolegol hefyd yn cyflymu'r broses bioddiraddio naturiol. Mewn rhai achosion, y dull gorau yw gadael yr olew i wasgaru drwy ddulliau naturiol.

Cofio Digwyddiad Olew y Sea Empress, 1996

Ar 15 Chwefror 1996, tarodd y Sea Empress, tancer a oedd yn cludo 130,000 tunnell o olew crai Môr y Gogledd greigiau wrth fynd i ddyfrffordd Aberdaugleddau bedair milltir o lanfa'r burfa. Cafodd y tancer ei ddifrodi'n ddifrifol, gan ddaearu ac ail-arnofio nifer o weithiau wrth i ymdrechion i'w reoli a dadlwytho'r olew gael eu difetha gan dywydd gwael. Cafodd 72,000 tunnell (~80 miliwn litr) o olew crai ysgafn eu gollwng i'r dŵr dros 7 diwrnod, gan halogi 200km o arfordir. Hwn oedd y trydydd achos mwyaf o golli olew yn y DU a'r ugeinfed mwyaf yn y byd ar y pryd.

Roedd y gwaith glanhau yn cynnwys gwasgarwyr, tua 100 o sgimwyr a phympiau trosglwyddo, 6km o rwystrau ar y môr a 11km o rwystrau ar y glannau a chymorth gan longau o Ffrainc a'r Iseldiroedd. Ar anterth y gwaith gweithredu, roedd dros 50 o longau, 19 o awyrennau, 25 o sefydliadau a thros 250 o staff ar y môr a 950 ar y glannau. Parhaodd y gwaith glanhau am 18 mis ac fe gostiodd tua £23 miliwn. Roedd ofnau y byddai'r halogiad olew yn golygu goblygiadau parhaol i'r diwydiant pysgota a thwristiaeth; yn 1995 roedd twristiaid yn gwario tua £160m yn yr ardal.

Roedd yr effeithiau amgylcheddol yn ddifrifol, ac yn cynnwys; 7,000 o adar marw neu yn llawn olew yn cael eu casglu ar y glannau, nifer anhysbys yn marw yn y môr, a phoblogaethau sêr môr, molysgiaid a chregyn meheryn bron â diflannu'n llwyr, gan effeithio ar wymon ac algâu sydd fel arfer yn bwydo ar anifeiliaid o'r fath. Wrth i boblogaethau ostwng, dechreuodd y seren glustog (Asterina Phylactica) ffrwythloni ei hun, gan gynyddu'r bregusrwydd gyda goblygiadau genetig o rhyng-fridio. Gall newidiadau o'r fath i ecosystemau morol gael effeithiau ecolegol nas rhagwelir. Er mwyn diogelu rhag cynnyrch a allai fod yn halogedig, gosodwyd gwaharddiad dros dro ar bysgota masnachol - gan effeithio ar fywoliaeth tua 700 o bobl leol.

Er bod yr effeithiau'n bellgyrhaeddol, cawsant eu lleihau'n sylweddol gan gyfuniad o ffactorau. Dangosodd profion fod tua 40% o'r olew, gan gynnwys nifer o elfennau gwenwynig, wedi anweddu'n gyflym ar ôl ei ryddhau. Roedd cyfeiriad y gwynt wedi cludo'r olew i ffwrdd o arfordir Sir Benfro, gan alluogi defnydd o wasgarwyr a 50% o olew i wasgaru yn y golofn ddŵr. Digwyddodd y digwyddiad yn ystod tymor tawel i dwristiaid a dim ond ychydig wythnosau cyn yr oedd disgwyl i filoedd o adar ymfudol ddychwelyd i'r ardal. Er bod poblogaethau bywyd gwyllt wedi'u niweidio (i raddau amrywiol), roedd y mwyafrif helaeth yn wydn ac wedi dychwelyd i'w niferoedd blaenorol.

Penododd Llywodraeth y DU bwyllgor annibynnol; Pwyllgor Gwerthuso Amgylcheddol y Sea Empress (SEEEC) i asesu effaith yr achos. Cyhoeddwyd ei brif ganfyddiadau ac argymhellion yn Adroddiad SEEEC.

Erthygl gan Robert Byrne, Senedd Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Robert Byrne gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i'r Briff Ymchwil hwn gael ei gwblhau.