Penawdau sy’n deillio o’r data sydd newydd eu rhyddhau ar niferoedd y myfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru.

Cyhoeddwyd 24/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyflwyniad

Bob blwyddyn bydd yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn cyhoeddi bwletin ar ystadegau myfyrwyr addysg uwch yn y DU.

Ar 17 Ionawr 2019 rhyddhawyd y bwletin ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017/18. Er bod y bwletin bron yn ddwy oed, mae’r data yn y datganiad hwn yn seiliedig ar gofrestriadau gwirioneddol myfyrwyr (nid ceisiadau o ran data UCAS), a hwn yw’r data mwyaf diweddar a mwyaf dibynadwy yn y DU ar faint y corff o fyfyrwyr addysg uwch, a’i nodweddion. Mae lluniwyr polisi yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â rheoleiddwyr a’r rhai sy’n ymchwilio i addysg uwch yn defnyddio’r data hwn.

Mae’r blog hwn yn trafod rhywfaint ar y data sydd wedi ennyn sylw yn y gorffennol. Mae’r bwletin cyfan, a’r holl ddata i’w gweld yn y linc hwn.

Cofrestriadau myfyrwyr gyda darparwyr Cymru 2017/18

Tabl 01 - cofrestriadau Addysg Uwch amser llawn a rhan-amser fesul lefel astudio: darparwyr Cymru i

Mae’r tabl uchod yn dangos bod nifer y rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer cymhwyster lefel gradd gyntaf (BA, BSc ac ati) wedi parhau’n gymharol sefydlog, ac wedi dychwelyd i lefelau 2013/14 yn 2017/18.

Caiff y sector addysg uwch yng Nghymru y rhan fwyaf o’i incwm [PDF: 434KB] o ffioedd dysgu, ac mae myfyrwyr gradd gyntaf yn gyfran o 64% o’r holl gofrestriadau yn 2017/18, a chyfran o 78% o’r cofrestriadau amser llawn. Mae’r data llawn y tu hwnt i’r tabl hwn hefyd yn dangos bod nifer yr israddedigion sy’n cofrestru ar eu blwyddyn gyntaf yn 2017/18 wedi aros yn weddol sefydlog, sy’n dangos bod y galw yn gyson, er gwaethaf y lleihad demograffig ar hyn o bryd. Bydd pob garfan o fyfyrwyr yn cael effaith ar gyllid prifysgol am dair blynedd wrth iddynt gwblhau eu cwrs a symud drwy bob blwyddyn o astudio. Felly byddai gostyngiad sydyn o ran cofrestriadau blwyddyn gyntaf yn 2017/18 yn parhau i effeithio ar gyllid y brifysgol tan fis Gorffennaf 2020

Nodweddion y rhai a gofrestrwyd â darparwyr Cymru yn 2017/18

Ffigur 02 - nodweddion dethol pob myfyriwr sy’n dod o’r DU: darparwyr Cymru

Mae’n bwysig nodi bod y tabl hwn yn dangos myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru gyda darparwyr Cymru. Felly mae’n cynnwys myfyrwyr o Loegr, o’r Alban ac o Ogledd Iwerddon hefyd.

Mae’r tabl yn dangos bod cyfran graddol gynyddol o fyfyrwyr sy’n cofrestru yn dod o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (fel y’u mesurir gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru - WIMD) ac o gymdogaethau sydd â chyfradd isel o bobl sydd wedi cymryd rhan mewn addysg uwch (POLAR4) yn arferol.

Mae prifysgolion Cymru bron bob amser yn cynnwys targedau recriwtio myfyrwyr o ran Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru a chymdogaethau cyfranogiad isel yn eu cynlluniau ehangu mynediad. Mae’n debyg, felly, eu bod yn croesawu’r cynnydd graddol cyffredinol (o 5,700 i 6,980 o gofrestriadau).

O ble y daeth myfyrwyr gyda darparwyr Cymru yn 2017/18

Tabl 03 - Cofrestriadau Addysg Uwch gyda darparwyr Cymru yn ôl eu gwlad

Mae’r tabl hwn yn dangos o ble y daeth myfyrwyr a oedd wedi cofrestru gyda darparwyr Cymru. Mae nifer y myfyrwyr o Loegr wedi bod yn cynyddu’n raddol tra bod niferoedd y myfyrwyr o Gymru wedi bod yn lleihau. Gellid esbonio hyn gan nifer o ffactorau, gan gynnwys rhagor o lif trawsffiniol (hynny yw, rhagor o fyfyrwyr o Gymru yn cofrestru mewn Prifysgol yn Lloegr yn 2017/18 nag oedd yn 2013/14) a’r nifer lai o bobl ifanc 18 mlwydd oed yn y DU(yr hyn a elwir yn leihad demograffig).

Mae’r tabl hefyd yn dangos bod cofrestriadau o wladwriaethau’r UE wedi codi yn 2017/18 tra bod data pellach yn dangos bod nifer fwy o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf o’r Undeb Ewropeaidd yn 2017/18 nag oedd yn 2016/17. Mae cofrestriadau myfyrwyr rhyngwladol (hynny yw, heb fod yn yr UE) wedi gostwng am y pumed flwyddyn yn olynol. Dengys data ychwanegol sydd ar gael ar wefan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch bod darparwyr Cymru yn dibynnu ar fyfyrwyr Tsieineaidd o ran cofrestriadau rhyngwladol - maent yn gyfran o 41% o’r holl gofrestriadau rhyngwladol yng Nghymru, o’i gymharu â thraean (33%) yn Lloegr.

Llif trawsffiniol myfyrwyr yn 2017/18

Tabl 04 - Llif trawsffiniol myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn 2017/18

Mae’r tabl hwn yn dangos y llif trawsffiniol o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sy’n dod o Loegr i Gymru, a’r llif myfyrwyr o Gymru sy’n mynd i wledydd eraill y DU yn 2017/18.

Roedd tua 2% o’r corff myfyrwyr blwyddyn gyntaf oedd yn dod o Loegr yn mynychu darparwr o Gymru (15,475 o fyfyrwyr), tra bod 26% o’r corff myfyrwyr blwyddyn gyntaf o Gymru wedi symud ar draws y ffin i astudio mewn darpariaeth yn Lloegr. Nid oes llawer o lif trawsffiniol o Gymru i’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Roedd myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru a oedd yn astudio gyda darparwyr yn Lloegr yn gallu (ac yn dal i allu, fel mater o bolisi Llywodraeth Cymru) cael mynediad i’r un pecyn cymorth ariannol [PDF: 642KB) â’r rhai a oedd yn astudio yng Nghymru yn 2017/18.

Dengys ystadegau y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr bod 22,200 o fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru wedi cael eu benthyciad ffioedd dysgu wedi’i dalu ar eu rhan i ddarparwyr yn Lloegr yn 2017/18. Nid yw’r Cwmni Benthyciadau yn rhyddhau data ar faint o Grantiau Ffioedd Dysgu (TFG) a ariennir gan Lywodraeth Cymru a dalwyd i ddarparwyr yn Lloegr ar ran myfyrwyr Cymru. Fodd bynnag, amcangyfrifodd yr Athro Syr Ian Diamond fod £93.9 miliwn yn cael ei dalu ar ran myfyrwyr o Gymru i ddarparwyr y tu allan i Gymru yn y DU yn 2014/15.

Mae’n bosibl gwneud amcangyfrif cyffredinol o’r ffigur hwn ar gyfer 2017/18.

Pe bai pob un o’r 22,200 o fyfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn Lloegr y dyfarnwyd benthyciad ffioedd dysgu iddynt yn 2017/18 hefyd yn cymryd swm cyfartalog y Grant Ffioedd Dysgu o £4,600 a ddyfarnwyd yn 2017/18 (sy’n debygol, oherwydd nad yw’r Grant hwnnw’n ad-daladwy ac felly mae ‘am ddim’ i fyfyrwyr), ar y sail hon gellir amcangyfrif bod gwerth oddeutu £102 miliwn o Grantiau Ffioedd Dysgu o bosibl wedi cael eu talu ar ran myfyrwyr o Gymru i ddarparwyr yn Lloegr yn 2017/18.

Fodd bynnag mae swm o £249 miliwn (dros dro) o fenthyciadau ffioedd dysgu wedi cael ei dalu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i ddarparwyr Cymru ar ran myfyrwyr sy’n byw yn Lloegr sy’n dymuno astudio yng Nghymru yn 2017/18 (nid oes gan fyfyrwyr o Loegr fynediad at grant ffioedd dysgu cyfatebol am ddim).

Caiff y Grant Ffioedd Dysgu ei ddileu ar hyn o bryd, fel rhan o Ddiwygiadau Diamond, felly bydd myfyrwyr newydd o 2018/19 ymlaen yn cael mynediad at fenthyciad ffioedd dysgu yn lle’r Grant Ffioedd Dysgu.

Cymwysterau a gyflawnwyd yn 2017/18


Ffigur 05 - Canran y rhai sy’n cymhwyso i gael gradd gyntaf yn ôl dosbarthiad: darparwyr Cymru

Mae’r tabl hwn yn dangos bod canran y myfyrwyr sy’n astudio gradd gyntaf y dyfarnwyd gradd Dosbarth Cyntaf iddynt gan ddarparwyr Cymru wedi cynyddu o 18% yn 2013/14 i dros chwarter yn 2017/18.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae data mwy cyfoes ar gofrestriadau myfyrwyr sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o ran myfyrwyr 2018/19, ond gall y data hwn gynnwys amcangyfrifon ac nid yw ar gael i’r cyhoedd.Bydd UCAS yn rhyddhau ei ddata ar lefel ceisiadau darparwyr ar 30 Ionawr 2019 ar gyfer y flwyddyn academaidd 2018/19. Er na all hwn ddangos cofrestriadau gwirioneddol, bydd yn rhoi syniad o’r galw sydd ymhlith israddedigion amser llawn (sef, prif ffynhonnell incwm y brifysgol yng Nghymru) i astudio ym mhob prifysgol yng Nghymru.


Erthygl gan Phil Boshier, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru