A all trawsnewidiad digidol ddigwydd yng ngofal iechyd Cymru?

Cyhoeddwyd 25/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar ddydd Mercher 30 Ionawr 2019, bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Systemau Gwybodeg yn GIG Cymru.

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i wasanaethau gwybodeg GIG Cymru yn ystod tymor yr haf 2018, a chyhoeddwyd ei adroddiad ym mis Tachwedd 2018. Ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ym mis Ionawr 2019, a oedd yn derbyn pob un o'r pum argymhelliad.

Dywedir bod yr argymhelliad 'wedi codi cwestiynau difrifol ynglŷn â chymhwysedd, gallu a chapasiti’r system iechyd i newid y drefn o ran gwasanaethau gofal iechyd digidol yng Nghymru'.

Cyn lansio'r ymchwiliad hwn, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ar systemau gwybodeg yn GIG Cymru ym mis Ionawr 2018. Mae’r adroddiad yn ystyried a all GIG Cymru sicrhau’r manteision a fwriedir o’i fuddsoddiad mewn gwasanaethau TGCh clinigol wedi'u diweddaru. Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi ymateb i'r adroddiad, a oedd yn derbyn pob un o'r 13 argymhelliad.


Erthygl gan Rebekah James, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru