Cymunedau Tai

Hwyl fawr, Hawl i Brynu

Caiff y cynllun Hawl i Brynu ei ddiddymu yng Nghymru yfory, dydd Sadwrn 26 Ionawr 2019. Mae'r cynlluniau hawl i brynu tai cymdeithasol llai adnabyddus: Hawl i Brynu a Gadwyd, Hawl i Brynu a Estynnwyd a Hawl i Gaffael hefyd yn cael eu diddymu.

25 Ionawr 2019

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Caiff y cynllun Hawl i Brynu ei ddiddymu yng Nghymru yfory, dydd Sadwrn 26 Ionawr 2019.  Mae’r cynlluniau hawl i brynu tai cymdeithasol llai adnabyddus: Hawl i Brynu a Gadwyd, Hawl i Brynu a Estynnwyd a Hawl i Gaffael hefyd yn cael eu diddymu.

Mae Hawl i Brynu wedi bod yn un o’r polisïau tai mwyaf poblogaidd a dadleuol yn y pedwar degawd diwethaf.  Er ei fod bellach yn cael ei nodi’n bennaf fel polisi allweddol llywodraeth y Ceidwadwyr dan arweiniad Margaret Thatcher, roedd y polisi mewn gwirionedd yn ymrwymiad ym maniffesto etholiad y Ceidwadwyr ym mis Hydref 1974 pan oedd Edward Heath yn arweinydd. Roedd awdurdodau lleol eisoes yn gwerthu cartrefi yn wirfoddol yn y 1970au, ond ni chyflwynwyd hawl cyfreithiol i brynu eich tŷ cyngor tan 1980.

O dan Hawl i Brynu, yn wreiddiol roedd gan denantiaid hawl i ostyngiad sylweddol oddi ar werth y farchnad: o leiaf 33 y cant lle roeddent wedi bod yn denant diogel am o leiaf dair blynedd a hyd at 50 y cant pe baent wedi bod yn denant diogel am bedair blynedd neu fwy (yn dibynnu am ba mor hir yr oeddent wedi bod yn denant diogel).  Yn y lle cyntaf, cafodd y gostyngiad ei gapio mewn termau arian parod ar £25,000.  I roi hynny mewn cyd-destun, pris cyfartalog cartref yng Nghymru ym 1980 oedd £19,000.  Felly roedd prynu cartref am lai na £10,000 yn realiti i lawer.  Erbyn diwedd chwarter cyntaf 1981, roedd tua 28,000 o bobl yng Nghymru wedi gwneud cais i brynu eu cartref eu hunain o dan y cynllun Hawl i Brynu.

Er bod Hawl i Brynu yn caniatáu i lawer o deuluoedd ddod yn berchnogion tai, cafodd ei feirniadu am ei ran yn lleihau argaeledd tai cymdeithasol. Ers 1980 mae cyfanswm y stoc tai cymdeithasol yng Nghymru wedi gostwng o dros 300,000 i tua 230,000 yn 2018. Er bod cartrefi cymdeithasol newydd wedi’u hadeiladu, bron yn gyfan gwbl gan gymdeithasau tai, nid oes digon wedi’u hadeiladu’n i gymryd lle’r stoc a werthwyd drwy Hawl i Brynu. Efallai bod awdurdodau lleol wedi bod eisiau adeiladu cartrefi newydd gyda’r derbyniadau Hawl i Brynu, ond roedd y ffordd yr oedd tai awdurdod lleol yn cael eu hariannu yn golygu na ddigwyddodd hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau dros nifer o flynyddoedd i beidio â chymell Hawl i Brynu ac, i amddiffyn y stoc tai cymdeithasol rhag gostyngiad pellach. Cafodd y gostyngiadau eu lleihau i uchafswm o £8,000 – sy’n cymharu â’r gostyngiad mwyaf o £50,000 yn y 1990au. Mewn saith awdurdod lleol ledled Cymru, mae Hawl i Brynu eisoes wedi cael ei atal dros dro gan ddefnyddio pwerau o dan Fesur Tai (Cymru) 2011

Cafodd Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a’r Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 Gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2018. Fodd bynnag, roedd gan denantiaid a oedd yn ystyried prynu eu cartref dan y cynllun Hawl i Brynu gyfnod rhybudd o ddeuddeg mis cyn y diddymiad, gyda landlordiaid yn gorfod rhoi gwybodaeth iddynt am y cynllun yn dod i ben. Nid oedd tenantiaid mewn ardaloedd lle roedd Hawl i Brynu eisoes wedi’i atal yn cael cyfle arall i brynu eu cartref.

Mae Cymru wedi dilyn yr Alban yn diddymu Hawl i Brynu, ond mae datganoli wedi amlygu gwahaniaeth clir o gymharu â Lloegr lle mae polisi wedi bod ers 2012 i gymell ac ehangu Hawl i Brynu. Ar hyn o bryd mae’r gostyngiad mwyaf o ran Hawl i Brynu yn Lloegr yn £80,900, ac eithrio yn Llundain lle mae’n £108,000.

Mae Hawl i Brynu yn cael cefnogaeth wleidyddol gan y Ceidwadwyr Cymreig a lansiodd eu strategaeth dai (PDF, 1.3MB) newydd yn ddiweddar. Mae’n ymrwymo i ailgyflwyno cynllun Hawl i Brynu diwygiedig gydag enillion o werthiannau’n cael eu hailfuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd os byddant yn dod yn llywodraeth.

Gallwch ddarllen mwy am Ddeddf Diddymu’r Hawl i Brynu a’r Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 a hanes Hawl i Brynu yng Nghymru, yn y papur briffio diweddar hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil.

Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (PDF, 1198KB)
Geirfa Ddwyieithog (PDF, 97KB)


Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru 

%d bloggers like this: