Cyhoeddiad Newydd: Bil Pysgodfeydd y DU 2017-19: Crynodeb o'r Bil

Cyhoeddwyd 30/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/06/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r papur ymchwil hwn yn edrych ar gyflwyno Bil Pysgodfeydd y DU a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol cysylltiedig a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n trafod prif elfennau'r Bil, ac ymatebion i'r Bil sy'n tynnu sylw at feysydd pryder rhanddeiliaid.

Mae crynodeb o'r Ail Ddarlleniad wedi'i gynnwys, ynghyd â chrynodeb o'r gwelliannau a gymeradwywyd o fewn y Bil fel y'i diwygiwyd. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i'r gwelliannau, ac fe'i trafodir yn y papur hefyd.

Bydd y papur hwn yn cael ei ddiweddaru gydag unrhyw ddatblygiadau yn y Bil.

Cyhoeddiad newydd: Cyhoeddiad Newydd: Bil Pysgodfeydd y DU 2017-19: Crynodeb o'r Bil (PDF, 3288KB)


Erthygl gan Lorna Scurlock, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru