Camddefnyddio sylweddau yng Nghymru

Cyhoeddwyd 05/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 12Chwefror 2019, bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad blynyddol 2018 Llywodraeth Cymru ar gamddefnyddio sylweddau.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd - Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed - yn 2018. Mae'r adroddiad blynyddol diweddaraf hwn yn rhoi trosolwg o weithgarwch ledled Cymru yn ystod 2017-18, ac yn nodi'r heriau allweddol dros y 12 mis nesaf.

Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym am dueddiadau mewn camddefnyddio sylweddau yng Nghymru?

  • Yn 2017-18, roedd derbyniadau ysbyty ar gyfer cyflyrau sy'n ymwneud yn benodol ag alcohol 2.4 gwaith yn uwch nag ar gyfer defnyddio cyffuriau anghyfreithlon. Roedd 6,506 o dderbyniadau yn ymwneud â chyffuriau anghyfreithlon, a 14,588 o dderbyniadau yn ymwneud yn benodol ag alcohol.
  • Mae cyfran y cleifion a dderbynnir o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn sylweddol uwch na'r ardaloedd lleiaf difreintiedig - 3.3 gwaith yn uwch ar gyfer cyflyrau sy'n ymwneud yn benodol ag alcohol a 6.1 gwaith yn uwch o ran defnyddio cyffuriau anghyfreithlon.
  • Gostyngodd nifer y bobl a aseswyd o fewn gwasanaethau arbenigol ar gyfer camddefnyddio sylweddau yng Nghymru yn 2017-18 gan 3.5 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd 51.7 y cant o'r asesiadau ar gyfer cleientiaid gyda phroblem alcohol, roedd 47.6 y cant yn gleientiaid gyda phroblem gyda chyffuriau, a dywedodd y gweddill fod ganddynt broblem gyda defnyddio alcohol a chyffuriau.
  • Yn 2017, roedd 185 o farwolaethau o gamddefnyddio cyffuriau, sy'n ostyngiad o 4.1 y cant o 2016. Roedd 540 o farwolaethau alcohol yn 2017, sef cynnydd o 7.1 y cant.

Dangosodd hefyd:

  • Fod derbyniadau ysbyty wedi gostwng ar gyfer pobl ifanc dan 25 oed, ac ar gyfer oedolion oedran gweithio (25-49 oed), ar gyfer defnyddio alcohol a chyffuriau.
  • Mewn oedolion oedran gweithio, mae opioidau (fel heroin) yn cyfrif am lawer mwy o dderbyniadau i'r ysbyty nag unrhyw gyffur anghyfreithlon arall. Roedd gwasanaethau camddefnyddio sylweddau wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr asesiadau lle mae crac/cocên yn cael ei nodi fel y prif sylwedd sy'n peri problemau.
  • Ymhlith pobl hŷn, er bod nifer y derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig â chyflwr sy'n ymwneud yn benodol ag alcohol yn is na'r flwyddyn flaenorol, mae'r ffigur hwn 32.6 y cant yn uwch na derbyniadau tebyg yn 2008-09. Mae derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer y defnydd o opioidau yn y garfan hon wedi cynyddu bron driphlyg dros y degawd diwethaf. Bu cynnydd sylweddol mewn derbyniadau sy'n gysylltiedig â chanabinoid. Mae derbyniadau yn dilyn y defnydd o gocên hefyd wedi cynyddu dros y pum mlynedd diwethaf, er bod y niferoedd yn parhau i fod yn isel.

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru, Data mining Wales: The annual profile for substance misuse 2017-18

Isafbris am alcohol

Un o'r cyflawniadau allweddol a amlygwyd yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gamddefnyddio sylweddau yw pasio Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018.

Mae gosod isafbris yn fesur wedi'i dargedu, sy'n ceisio lleihau lefelau yfed peryglus a niweidiol. Wrth graffu ar y Bil, pwysleisiodd y rhanddeiliaid dro ar ôl tro na fydd yr isafbris yn effeithiol ar ei ben ei hun, a bod angen ystod o fesurau i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol. Teimlwyd bod camau i fynd i'r afael â chanlyniadau anfwriadol posibl y ddeddfwriaeth yn arbennig o bwysig, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau triniaeth a chymorth digonol ar gael ar gyfer yfwyr dibynnol sy'n agored i niwed.

Roedd rhywfaint o dystiolaeth sy'n gwrthdaro ynghylch capasiti gwasanaethau presennol i ddiwallu anghenion cyfredol, ond rhagwelir y bydd angen adnoddau/gwasanaethau ychwanegol i ymateb i'r cynnydd disgwyliedig yn y galw.

Yn ei adroddiad cyfnod 1, argymhellodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y dylai Llywodraeth Cymru gynnal asesiad cadarn o'r galw am wasanaethau triniaeth a chymorth o ran alcohol yng Nghymru i sicrhau bod darpariaeth ddigonol, wedi'i diogelu, ar waith. Galwodd hefyd ar Lywodraeth Cymru i fonitro effeithiau gosod isafbris ar wasanaethau alcohol yn yr Alban, er mwyn llywio'r dull gweithredu yng Nghymru.

Adolygu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau

Roedd adroddiad ar y cyd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ledled Cymru (Gorffennaf 2018) yn amlygu rhai canfyddiadau cadarnhaol, gan gynnwys bod pobl yn gwerthfawrogi'r gofal a gânt gan wasanaethau, a bod y staff yn gweithio'n galed a'u bod yn angerddol ynghylch darparu gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Un o'r meysydd allweddol ar gyfer gwella a nodwyd oedd yr angen am fwy o gydweithio rhwng gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, gofal sylfaenol ac eilaidd, gwasanaethau cymdeithasol ac - yn benodol - gwasanaethau iechyd meddwl, i gefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ac sydd hefyd yn camddefnyddio sylweddau mewn ffordd well.

'Roedd pobl yn aml yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd cael help gyda'u problemau iechyd meddwl oherwydd eu bod yn camddefnyddio sylweddau a disgrifiwyd eu bod yn cael eu symud yn aml rhwng gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau iechyd meddwl'.

Mynegwyd yr un pryderon hyn yn ystod ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i atal hunanladdiad. Roedd adroddiad y Pwyllgor yn cydnabod y gwaith sydd eisoes wedi dechrau, megis datblygu fframwaith gwasanaeth i drin pobl sydd â phroblem iechyd meddwl yn ogystal â phroblem o ran camddefnyddio sylweddau. Fodd bynnag, yn ôl y Pwyllgor mae angen gwneud mwy i ddatblygu llwybrau gofal integredig ar gyfer unigolion sydd â phroblemau o ran camddefnyddio sylweddau yn ogystal â phroblem iechyd meddwl, er mwyn lleihau'r risg o hunanladdiad ymhlith y grŵp hwn.

Y camau nesaf

Roedd adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o'r strategaeth Gweithio gyda’n gilydd i leihau niwed (Ebrill 2018) yn codi rhai cwestiynau allweddol i'w hystyried wrth symud ymlaen:

  1. Sut mae’r her o ddelio â’r meysydd sydd heb eu datganoli, lle mae Llywodraeth Cymru ynghlwm wrth bolisi Llywodraeth y DU/Swyddfa Gartref a chyllid San Steffan, yn cael ei hateb?
  2. Yng nghyd-destun materion a ddatganolwyd, mae’r atebolrwydd yn llai aneglur. A oes cytundeb cyffredinol ar y meysydd gwaith sy’n gweithio’n dda a’r rheini nad ydynt yn gweithio cystal?
  3. Yng nghyd-destun penderfynu ar bolisi, beth yw’r cydbwysedd rhwng penderfynu ar sail anghenion a phenderfynu ar sail canfyddiadau’r cyhoedd (e.e. pryderon ynghylch sbwriel sy’n gysylltiedig â chyffuriau)? Pa mor dda y mae’r cydbwysedd hwn yn cael ei reoli?
  4. O ran symud oddi wrth strategaeth benodol ar Gamddefnyddio Sylweddau a mabwysiadu ffocws ar Iechyd a Llesiant:
    • A yw’r system bresennol ar gyfer trosolwg ac atebolrwydd yn addas i’w diben? Ym mha ffordd y mae angen ei haddasu?
    • Ym mha feysydd y mae’r cynnydd/canlyniadau wedi bod yn brin oherwydd ffocws blaenorol y Strategaeth ar ‘gamddefnyddio sylweddau’?

Dywed yr adroddiad blynyddol ar gamddefnyddio sylweddau fod Llywodraeth Cymru wedi dechrau gweithio gyda byrddau cynllunio ardal a rhanddeiliaid i ddatblygu blaenoriaethau camddefnyddio sylweddau wrth symud ymlaen.

'Caiff y rhain eu llywio gan ystod o dystiolaeth ac anghenion a byddant yn ymateb i'r heriau a nodir yn Cymru Iachach'.

Yn y cyfamser, bydd y cynllun cyflenwi o ran camddefnyddio sylweddau ar gyfer 2016-18 yn parhau i fod y ffocws yng ngwaith Llywodraeth Cymru gyda phartneriaid hyd at fis Ebrill 2019.


Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru