Cymunedau Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG Plant a Phobl Ifanc

‘Amser i Siarad’ am iechyd meddwl?

Mae 7 Chwefror 2019 yn 'Ddiwrnod Amser i Siarad', sef menter ledled y DU a drefnir yng Nghymru gan Amser i Newid Cymru. Y nod: rhoi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu y mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn eu hwynebu. Mae Amser i Newid Cymru, a sefydlwyd yn 2012, yn cael ei redeg gan yr elusennau iechyd meddwl Mind Cymru a Hafal, ac fe’i hariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.

07 Chwefror 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae 7 Chwefror 2019 yn ‘Ddiwrnod Amser i Siarad‘, sef menter ledled y DU a drefnir yng Nghymru gan Amser i Newid Cymru. Y nod: rhoi terfyn ar y stigma a’r gwahaniaethu y mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn eu hwynebu. Mae Amser i Newid Cymru, a sefydlwyd yn 2012, yn cael ei redeg gan yr elusennau iechyd meddwl Mind Cymru a Hafal, ac fe’i hariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Ar Ddiwrnod Amser i Siarad, mae ymgyrchwyr yn annog pawb yng Nghymru i ddechrau sgwrs am iechyd meddwl.

Yn ôl Mind Cymru:

‘Drwy siarad am iechyd meddwl, gallwn:

  • gryfhau’r berthynas â ffrindiau, teulu a chydweithwyr
  • cael gwared â’r tabŵ sydd ynghlwm wrth rywbeth sy’n effeithio ar bawb
  • chwalu stereoteipiau a herio stigma
  • cefnogi pobl o ran eu hadferiad

Gellir cael gafael ar adnoddau’r Ymgyrch yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Bydd Diwrnod Amser i Siarad yn rhedeg ledled y DU, gyda chwaer-ymgyrchoedd; See me (yr Alban), Change your Mind (Gogledd Iwerddon) a Time to Change England.

Sylwer: Mae’r wythnos 4 – 10 Chwefror 2019 hefyd yn Wythnos Iechyd Meddwl Plant.

Beth sy’n digwydd yng Nghymru?

Mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd gyffredinol Law yn llaw at iechyd meddwl – strategaeth ar gyfer iechyd meddwl a lles yng Nghymru. Yn y strategaeth, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd:

Bydd chwarter ohonom yn profi problemau iechyd meddwl neu salwch ar ryw adeg, gan gael effaith enfawr ar y rhai o’n cwmpas. Yn waeth fyth, mae dioddefwyr yn aml yn wynebu gwahaniaethu a stigma.

Yn ddiweddar, bu nifer o ymchwiliadau gan bwyllgorau’r Cynulliad yn canolbwyntio ar iechyd meddwl.

Iechyd meddwl plant

Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg adroddiad ei ymchwiliad Cadernid Meddwl, ar iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru ym mis Ebrill 2018. Yr argymhelliad allweddol oedd:

bod Llywodraeth Cymru yn gwneud lles a gwydnwch emosiynol a meddyliol ein plant a’n pobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol benodedig.

Darllenwch ein blog i ddarganfod mwy am yr adroddiad.

Nid oedd y Pwyllgor yn fodlon bod Ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru yn bodloni argymhellion adroddiad y Pwyllgor. Yn ystod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Gorffennaf, dywedodd Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

fy mod i a’r pwyllgor yn siomedig iawn gydag ymateb Llywodraeth Cymru i’n hargymhellion. Yn gyntaf, mae gormod o bwyntiau hanfodol wedi’u gwrthod. Yn ail, er bod llawer o argymhellion wedi cael eu derbyn mewn egwyddor, mae hyn, i raddau helaeth, ar y sail fod Llywodraeth Cymru o’r farn fod y pethau rydym wedi galw amdanynt eisoes yn eu lle. Wel, rwy’n dweud wrth Lywodraeth Cymru heddiw: nid ydym yn cytuno â chi. Nid ydym yn credu bod digon o sylw wedi cael ei roi i’r dystiolaeth gadarn a chynhwysfawr rydym wedi’i chyflwyno yn ein hadroddiad.

Wedyn, cyhoeddodd Ysgrifenydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ei bod yn fwriad ganddynt ffurfio ‘Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol’ a ‘Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid’, mewn ymateb i bryderon y Pwyllgor ac Aelodau’r Cynulliad.

Derbyniodd Cadeirydd y Pwyllgor wahoddiad i ymuno â’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen fel sylwedydd, a galwodd am ail ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r adroddiad ‘Cadernid Meddwl’. Bydd yr ymateb hwn yn cael ei ddarparu cyn diwedd mis Mawrth 2019.

Ar 14Ionawr 2019 cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod £7.1 miliwn ar gael i gefnogi’r Llywodraeth gyda’i gwaith yn dilyn argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor. Dywedodd:

Mae’r cyllid ychwanegol dw i’n ei gyhoeddi heddiw yn fuddsoddiad sylweddol a fydd yn golygu y gallwn ni wneud mwy i amddiffyn, gwella a chefnogi iechyd meddwl a llesiant ein plant a phobl ifanc, drwy barhau i ddatblygu’r gwasanaethau hyn.

Unigrwydd ac unigedd

Ym mis Rhagfyr 2017 cwblhaodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd. Gwnaeth adroddiad y Pwyllgor chwe argymhelliad i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ‘bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r amserlen ar gyfer datblygu ei strategaeth i fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd, gyda’r bwriad o’i chyhoeddi cyn 2019 ‘, a’i bod yn defnyddio dull drawsadrannol i wneud y mwyaf o gyfraniad pob maes polisi. Darllenwch fwy am yr adroddiad hwn yn ein blog.

Ymateb Llywodraeth Cymru oedd derbyn pedwar o’r argymhellion (gan gynnwys dull trawsadrannol) a derbyn y ddau arall yn rhannol (gan gynnwys adolygu’r amserlenni). 

Yn ystod y ddadl ddilynol, dywedodd Huw Irranca-Davies AC, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ar y pryd, er nad yw’r Llywodraeth yn symud dyddiad y strategaeth ymlaen oherwydd yr angen am fwy o waith ymchwil, nid oedd yn golygu na allent weithredu yn awr. Dywedodd:

Rydym yn gwneud pethau yn awr a dylem eu dwysáu. Dylem eu cyflymu. Felly, rydym yn bwrw iddi i weithredu yn awr. Nid oes raid aros am strategaeth yn 2019.

Argymhelliad terfynol yr adroddiad oedd y dylid cynnal ymgyrch i dynnu sylw at y broblem o unigrwydd ac unigedd gan ddefnyddio ystod eang o ddulliau cyfathrebu. Galwodd Cadeirydd y Pwyllgor am ymgyrch debyg i Amser i Newid Cymru, ‘i newid agweddau’r cyhoedd tuag at unigrwydd ac unigedd’.

Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hymgynghoriad ar ‘Gysylltu Cymunedau – Mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol’ ac mae ar hyn o bryd yn adolygu’r ymatebion i’r ymgynghoriad.

Atal hunanladdiad

Yn y ddadl ar yr adroddiad ar unigrwydd ac unigedd, tynnwyd sylw at y cysylltiad rhwng unigrwydd ac unigedd a’r perygl cynyddol o hunanladdiad. Yn y dystiolaeth a roddwyd i’r Pwyllgor Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Chwaraeon, amlygwyd cyffredinolrwydd hunanladdiad yng Nghymru, ac oherwydd hyn, ysgogwyd y pwyllgor i ddechrau ymchwiliad penodol i atal hunanladdiad yng Nghymru.

Yn ôl y Samariaid yn eu hadroddiad ystadegau hunanladdiad Rhagfyr 2018, (PDF 6,418KB) roedd 360 o hunanladdiadau yng Nghymru yn 2017, sef cynnydd o 11.9 y cant er 2016.

Ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth Cymru ‘Strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed i Gymru 2015-2020, Siarad â fi 2; darllenwch ein blog am ragor o wybodaeth.

Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan ystod eang o sefydliadau cyn llunio ei adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018 ac a oedd yn gwneud 32 o argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor yn ei ragair i’r adroddiad:

Mae hunanladdiad yn fater i bawb, dyna’r neges allweddol a glywsom; a dyna’r neges y mae angen i bawb ohonom ni ei chofio a’i rhannu. Gall hunanladdiad effeithio ar unrhyw un, nid oes un gymuned yng Nghymru lle nad yw pobl wedi cael eu cyffwrdd gan hunanladdiad.

[…]

Mae llawer o bobl yn teimlo na allant siarad am eu hiechyd meddwl, yn bennaf oherwydd y stigma sy’n parhau i fod yn gysylltiedig â chyfaddef bod ganddynt broblem. Mae angen inni oresgyn y mater hwn er mwyn sicrhau bod pawb yn teimlo’n gyfforddus wrth geisio’r cymorth sydd ei angen arnynt heb ofni y byddant yn cael eu barnu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei ymateb (PDF 578KB) i adroddiad y pwyllgor yn ddiweddar.

 Iechyd Meddwl Amenedigol

Yn 2017 cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol.

Mae’r cyfnod Amenedigol yn dechrau ar ddechrau beichiogrwydd ac yn para tan ddiwedd y flwyddyn gyntaf ar ôl i fabi gael ei eni. Mae iechyd meddwl amenedigol yn ymwneud ag iechyd a llesiant seicolegol ac emosiynol menywod beichiog a’u plant, eu partneriaid a’u teuluoedd. – Adroddiad Pwyllgor.

Yn ôl Mind Cymru, mewn tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd i’r ymchwiliad, mae problemau iechyd meddwl amenedigol yn effeithio ar hyd at 20 y cant o fenywod beichiog ar ryw adeg neu yn y flwyddyn ar ôl geni.

Tynnodd adroddiad y Pwyllgor, a gynhyrchwyd ym mis Rhagfyr 2017, sylw at y materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas ag argaeledd Unedau Mamau a Babanod yng Nghymru. Gwnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion y teimlai’r pwyllgor eu bod yn bwysig ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru.

Ers hynny, mae’r Pwyllgor wedi penderfynu cynnal ymchwiliad dilynol, i weld a yw cynnydd yn cael ei wneud ar ei argymhellion. 

Mae Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi rhyddhau diweddariad 12 mis yn amlinellu pa waith a wnaed ynghylch pob un o’r 27 argymhelliad sydd yn yr adroddiad. Wedyn, cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid ar ymateb y Llywodraeth fel y gallent holi’r Gweinidog am ei ymateb. Yn y sesiwn graffu, cydnabu’r Gweinidog fod angen gwneud rhagor o waith yn y maes hwn, Dywedodd:

I recognise that we would all have wanted to have moved faster since the committee’s report, and the recommendations that we accepted on developing a mother and baby unit, particularly in south Wales, but also the north Wales position as well.

Cynigiodd y Gweinidog ddarparu diweddariadau pellach i’r Pwyllgor:

I think that we should provide the committee with a six monthly update on our general progress on what’s happening, because we could provide some answers to this on a regular basis, which would answer some of the questions that we may not be able to give you in all of the detail you’d want today, the figures that we’ll acquire, but, also, to give some reassurance that progress is being made[…]


Erthygl gan Holly Kings, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Holly Kings gan Gyngor Ymchwil Biowyddorau Prydain, a arweiniodd at allu cwblhau’r papur hwn.

%d bloggers like this: