Brexit Cyfansoddiad

Paratoi’r gyfraith ar gyfer Brexit

Wrth i’r dadlau gwleidyddol am Brexit barhau, mae'r gwaith o baratoi'r gyfraith ar gyfer y diwrnod ymadael wedi bod yn parhau yn y Cynulliad ac yn San Steffan. Mae Gweinidogion y DU a Chymru wedi bod yn gwneud rheoliadau o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth i sicrhau nad oes unrhyw fylchau yn y gyfraith ar ôl Brexit.

Amcangyfrif o amser darllen: 5 Munud >

13 Chwefror 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Wrth i’r dadlau gwleidyddol am Brexit barhau, mae’r gwaith o baratoi’r gyfraith ar gyfer y diwrnod ymadael wedi bod yn parhau yn y Cynulliad ac yn San Steffan. Mae Gweinidogion y DU a Chymru wedi bod yn gwneud rheoliadau o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth i sicrhau nad oes unrhyw fylchau yn y gyfraith ar ôl Brexit.

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (Pwyllgor MCD) yn gyfrifol am graffu ar y rheoliadau hyn, ac maen nhw wedi llunio canllaw i’r broses. Mae’r blog hwn yn crynhoi’r canllaw hwnnw ac yn edrych ar sut mae’r broses yn mynd hyd yn hyn.

Rheoliadau a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig

Mewn cytundeb rhynglywodraethol rhwng y DU a Llywodraeth Cymru, mae Llywodraeth y DU yn dweud na fydd yn gwneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig heb gytundeb Llywodraeth Cymru, gan nodi mai prif ddiben pwerau o’r fath fydd ‘effeithlonrwydd gweinyddol’.

Mae’r rheoliadau hyn yn cael eu gosod gerbron Senedd y DU yn unig. Fodd bynnag, o dan Reol Sefydlog 30C y Cynulliad, yn achos rheoliadau a wneir gan Weinidogion y DU o dan y Ddeddf Ymadael, rhaid i Lywodraeth Cymru osod datganiad yn hysbysu’r Cynulliad o’r rheoliadau dan sylw.

Os yw’r rheoliadau yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol, yna mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd osod Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (MCOS). Gall unrhyw Aelod wedyn gyflwyno cynnig i ofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol roi caniatâd ffurfiol i’r rheoliadau.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi gosod 16 MCOS, ac mae nifer y datganiadau ysgrifenedig sy’n ymwneud â rheoliadau i’w gwneud gan Weinidogion y DU mewn ardaloedd datganoledig wedi cyrraedd 100.

Ar y llaw arall, yn Senedd y DU, mae Gweinidogion wedi cyflwyno 401 o offerynnau statudol ar gyfer y DU gyfan, ond dim ond 142 sydd wedi cwblhau eu taith drwy’r Senedd.

Rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru

Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn gwneud rheoliadau o dan y Ddeddf Ymadael. Cyn i rai offerynnau statudol gael eu gosod yn ffurfiol yn y Cynulliad, mae’n rhaid iddynt fynd trwy broses sifftio i benderfynu ar y lefel briodol o graffu. Mae gan Weinidogion ddewis o weithdrefn, a bydd y mwyafrif o reoliadau yn cael eu gosod fel ‘offerynnau negyddol arfaethedig’. Ar ôl proses sifftio gan y pwyllgor, bydd y rhain yn cael eu gosod fel offerynnau statudol.

O ganlyniad i’r broses sifftio, gall y pwyllgor MCD argymell bod rhai rheoliadau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn hytrach na’r negyddol—mae hyn yn golygu y bydd angen cymeradwyaeth y Cynulliad ar y rheoliadau cyn y gallant ddod i rym. Yna, bydd y pwyllgor yn craffu ar y rheoliadau sydd wedi’u sifftio yn y modd hwn ac yn cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y canlyniad.

Mae protocol y cytunwyd arno rhwng y Pwyllgor MCD a Llywodraeth Cymru wedi sefydlu system rhybuddio cynnar i alluogi cynllunio priodol i ddigwydd a sicrhau’r defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau.

Ar ddiwedd mis Ionawr 2019, ystyriwyd 14 o offerynnau negyddol arfaethedig gan y pwyllgor, gydag un o’r rhain yn cael ei argymell ar gyfer y weithdrefn gadarnhaol.

Pryderon ynglŷn â chraffu gan y Cynulliad

Yn ystod y broses o gyflwyno rheoliadau, mae’r Aelodau wedi codi pryderon ynghylch y graddau y gall y Cynulliad graffu arnynt. Ar 4 Rhagfyr 2018, ysgrifennodd y Llywydd lythyr at y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, yn amlinellu’r pryderon a godwyd gan Gadeiryddion pwyllgorau ynghylch rôl y Cynulliad yn y broses o ddeddfu ar gyfer Brexit ac i ba raddau y mae Gweinidogion y DU yn gweithredu ar ran y Gweinidogion Cymru.

Ymatebodd y Prif Weinidog newydd, Mark Drakeford, ar 11 Ionawr a dywedodd fod dull gweithredu Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu’r angen i ymateb i ‘amgylchiadau eithriadol’ Brexit, yn hytrach nag unrhyw ymgais i rwystro rôl y Cynulliad fel deddfwrfa. Er ei fod yn cytuno nad yw’r weithdrefn cydsyniad deddfwriaethol yn caniatáu i’r Aelodau gyflawni’r un lefel o graffu manwl ag y gallant ei wneud ar gyfer deddfwriaeth y Cynulliad, dywedodd na fyddai Llywodraeth Cymru wedi gallu dod â’r maint yma o ddeddfwriaeth gerbron y Cynulliad mewn cyfnod mor gywasgedig.

Rhoddodd ddiweddariad hefyd am y sefyllfa bresennol:

I currently expect 140-150 UK Government EU Exit SIs to be made in areas devolved to Wales ahead of exit day, though this number is subject to change as SIs are merged or disaggregated and new ones emerge. Almost all of these will require the consent of the Welsh Ministers through the process set out in the Intergovernmental Agreement.

Rhoddodd y Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Materion Allanol ar gynnydd offerynnau statudol ar 4 Chwefror. Dywedodd fod graddfa’r her ‘heb ei debyg’ ac y byddai nifer y Biliau a’r rheoliadau y byddai’n rhaid i’r Cynulliad eu pasio, pe bai’r Cynulliad yn delio â’r cyfan o’r llwyth gwaith, yn fwy mewn chwe mis na mae’r Cynulliad erioed wedi’i basio mewn 12 mis. Ychwanegodd fod y newidiadau sy’n cael eu gwneud yn rhai technegol yn bennaf, neu’n rhai lle nad oes unrhyw newidiadau polisi arwyddocaol.

Rhoddodd ddiweddariad hefyd ar y nifer o reoliadau Llywodraeth Cymru a ddisgwylir. Dywedodd fod y Llywodraeth ar hyn o bryd yn bwriadu gwneud 42 offeryn statudol. Dywedodd hefyd ei fod yn rhagweld y bydd y Llywodraeth wedi gosod yr holl rheoliadau angenrheidiol ar gyfer y broses sifftio, fel y bydd gan y Pwyllgor MCD ddigon o amser i’w hystyried, ac yna i’w ailosod fel rhai cadarnhaol os gwneir y penderfyniad hwnnw.

Adroddiad cynnydd

Ar 6 Chwefror 2019, cyhoeddodd y Pwyllgor MCD adroddiad cynnydd ar graffu ar reoliadau Brexit, a hefyd anfonodd lythyr atodol i’r Prif Weinidog ynghylch craffu ar ddeddfwriaeth Brexit.

Prif ganfyddiadau’r adroddiad yw:

  • Mae’r pwyllgor yn pryderu am y diffyg gwybodaeth fanwl a gynhwysir mewn datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C, ac y dylid gwella ansawdd y datganiadau hyn a’r wybodaeth y maent yn ei gynnwys. Mae’r pwyllgor hefyd wedi nodi dwy set o reoliadau sy’n ymddangos yn groes i’r Cytundeb Rhynglywodraethol gan eu bod yn gwneud polisi newydd mewn meysydd datganoledig.
  • Mae’r pwyllgor yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno unrhyw gynigion sy’n gofyn am gydsyniad y Cynulliad i’r rheoliadau sy’n destun MCOSau, gan fod y Llywodraeth o’r farn na fyddai dadl ar y rhain yn ddefnydd cynhyrchiol o ‘amser gwerthfawr y Cyfarfod Llawn’. Barn y pwyllgor yw bod y pryderon a fynegwyd yn ymwneud â chapasiti a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran ymdrin â faint o ddeddfwriaeth sydd ei angen i gywiro llyfr statud Cymru, yn hytrach na gallu’r Cynulliad i wneud gwaith craffu priodol ar y ddeddfwriaeth honno.
  • Er bod y pwyllgor yn derbyn bod Llywodraeth Cymru o dan bwysau o ran amser ac adnoddau, mae’n credu nad yw’r Llywodraeth wedi cael y cydbwysedd yn iawn rhwng caniatáu i Weinidogion y DU weithredu ar ran Gweinidogion Cymru a gwneud ei ddeddfwriaeth ei hun. Oni bai bod oedi i ymadawiad y DU â’r UE, maent yn cydnabod na ellir newid y broses a fabwysiadwyd, ond mae’n parhau i fod yn aneglur ynghylch pam mae’r sefyllfa yma wedi codi.

Bydd y Pwyllgor MCD yn parhau i wneud y gwaith pwysig yma tan y diwrnod ymadael. Cadwch lygad ar eu tudalennau ar wefan y Cynulliad am yr holl wybodaeth ddiweddaraf.


Erthygl gan Peter Hill, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: