Adroddiad blynyddol Prif Arolygydd EM: Beth a ganfu Estyn o'i arolygiadau yn 2017/18?

Cyhoeddwyd 14/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (19 Chwefror, 2019), bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod yr adroddiad blynyddol diweddaraf gan Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd EM dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae'r erthygl hon yn rhoi crynodeb o ganfyddiadau allweddol y Prif Arolygydd, yn seiliedig ar yr arolygiadau a gynhaliwyd gan Estyn yn ystod y flwyddyn academaidd 2017/18, yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth gefndirol berthnasol.

Cyhoeddwyd adroddiad blynyddol 2017/18 gan Estyn ar 4 Rhagfyr 2018 a chraffodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) arno ar 6 Rhagfyr 2018.

Beth mae Estyn yn ei wneud?

Mae Estyn, y mae'r Prif Arolygydd yn ei arwain, yn gorff y Goron ac yn annibynnol ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae Estyn yn arolygu pob ysgol yng Nghymru o leiaf unwaith mewn cylch arolygu ac yn ymgymryd â gweithgarwch dilynol pan fo'r arolygiaeth o'r farn bod angen hyn. Hefyd, mae dau gategori statudol gan Estyn ar gyfer ysgolion sy'n peri pryder: angen gwelliant sylweddol, ac angen rhoi mesurau arbennig ar waith ynddynt.

Dechreuodd y cylch presennol ym mis Medi 2016 a chyflwynwyd Fframwaith Arolygu Cyffredin newydd ym mis Medi 2017, ar ôl ei ddatblygu yn ystod blwyddyn gyntaf y cylch arolygu saith mlynedd newydd.

Ynghyd ag adroddiad blynyddol y Prif Arolygydd, mae Estyn yn cyhoeddi data ar ddeilliannau arolygu. Mae hyn yn rhoi manylion am yr holl farnau arolygu yn 2017/18 ac ar gyfer blynyddoedd blaenorol.

Yn ychwanegol at ei gylch arolygiadau rhaglenedig a gweithgarwch dilynol, mae Estyn yn cael gorchwyl gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (drwy'r llythyr cylch gwaith blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol) i adrodd a/neu roi cyngor ar faterion penodol. Gelwir yr adroddiadau hyn yn 'adroddiadau thematig'.

Beth y mae Estyn yn edrych arno wrth arolygu ysgolion a lleoliadau eraill?

Mae'r Fframwaith Arolygu Cyffredin, a ddefnyddir gan Estyn ers mis Medi 2017, yn cynnwys pum maes arolygu:

  • Safonau
  • Lles ac agweddau tuag at ddysgu
  • Addysgu a phrofiadau dysgu
  • Gofal, cymorth ac arweiniad
  • Arweinyddiaeth a rheolaeth

Mae Estyn yn ffurfio barn yn erbyn pob un o'r pum maes hyn, yn ôl y raddfa ganlynol ac iddi bedwar pwynt:

  • Rhagorol: Perfformiad ac arferion cryf iawn, cynaledig
  • Da: Nodweddion cryf, er y gall fod angen gwella mân agweddau
  • Digonol ac angen gwella: Cryfderau’n gorbwyso gwendidau, ond angen gwella agweddau pwysig
  • Anfoddhaol ac angen gwelliant brys: Gwendidau pwysig yn gorbwyso cryfderau

Trosolwg o ganfyddiadau a chasgliadau allweddol

Mae adroddiad y Prif Arolygydd yn cynnwys Rhagair, sy'n nodi ei brif negeseuon, yn seiliedig ar yr hyn yr arsylwodd Estyn arno yn ystod 2017/18.

  • Mae llawer o'r tueddiadau a nodwyd mewn adroddiadau blaenorol yn parhau ac roedd deilliannau arolygu yn 2017/18 yn debyg, fwy neu lai, i flynyddoedd blaenorol.
  • Mae'r ddarpariaeth yn gyson yn Ardderchog neu’n Dda mewn meithrinfeydd nas cynhelir, ysgolion arbennig a gynhelir a cholegau addysg bellach.
  • Bu gwelliannau cyffredinol mewn ysgolion cynradd, yn dilyn gwelliannau mewn ffactorau sylfaenol, megis presenoldeb a llythrennedd sylfaenol yn y blynyddoedd diwethaf.
  • Mae'r safonau yn Rhagorol neu’n Dda mewn 84 y cant o’r ysgolion cynradd a arolygwyd yn 2017/18 (i fyny o tua 70 y cant yn 2016/17).
  • Fodd bynnag, mae mynd i'r afael â thanberfformiad a lleihau amrywioldeb yn parhau i fod yn heriau allweddol mewn sectorau eraill, yn enwedig ysgolion uwchradd. Mae hwn yn ddarlun parhaus o flynyddoedd blaenorol.
  • Mae'r safonau yn Rhagorol neu’n Dda mewn 52 y cant o’r ysgolion uwchradd yn 2017/18 (tua'r un faint â 2016/17).
  • Mae mwy o begynnu o ran deilliannau arolygu mewn ysgolion uwchradd nag ysgolion cynradd, h.y. bernir bod mwy o ysgolion uwchradd naill ai'n Ardderchog neu'n Anfoddhaol nag ysgolion cynradd (bernir bod y rhan fwyaf o ysgolion cynradd yn Dda).
  • Ymddengys mai’r brif her mewn ysgolion cynradd yw camu ymlaen o Dda i Ardderchog.
  • Ymddengys mai'r brif her ymysg ysgolion uwchradd yw lleihau amrywioldeb rhwng ysgolion a mynd i'r afael â'r cyfrannau sylweddol o ysgolion y bernir bod eu safonau’n Ddigonol a bod angen eu gwella (41 y cant) ac yn Anfoddhaol (7 y cant) yn y drefn honno.

Ysgolion sy'n tanberfformio

Roedd angen rhyw fath o weithgarwch dilynol ar 39 o 200 o ysgolion cynradd a arolygwyd yn 2017/18. Mae 29 o'r rhain yn destun adolygiad safonol arall gan Estyn ac mae 10 yn y ddau gategori statudol: mae angen gwelliant sylweddol mewn 7 ohonynt ac mae angen rhoi mesurau arbennig ar waith mewn 3.

O ran ysgolion uwchradd, roedd angen gweithgarwch dilynol ar 13 o'r 27 a arolygwyd. Mae 9 o'r rhain dan adolygiad Estyn, pan oedd angen gwelliant sylweddol ar ddwy ac roedd angen rhoi mesurau arbennig ar waith yn y ddwy arall. Ysgrifennodd y Prif Arolygydd yn ei adroddiad:

Er gwaethaf mentrau amrywiol, gan gynnwys bandio a chategoreiddio, erys y ffaith nad yw’r ysgolion hyn yn cael eu nodi’n ddigon cynnar ac nid oes digon yn cael ei wneud i’w cynorthwyo i ddatblygu strategaethau cynaliadwy ar gyfer gwella.

Ychwanegodd Meilyr Rowlands y canlynol mewn tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor PPIA ar 6 Rhagfyr 2018:

Mae e'n ofid. Mae yna angen gwneud rhywbeth ar fyrder ynglŷn â'r ysgolion yma, yn enwedig yn y sector uwchradd. Fel roeddwn i'n ei ddweud, mae angen adnabod yr ysgolion yn gynt, mae eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael gwell cefnogaeth, ond rydw i'n meddwl mai un o'r pethau rydw i'n meddwl sydd angen ei wneud ydy cydgordio'r gefnogaeth y maen nhw'n ei chael ar hyn o bryd yn well.

Cyfeiriodd y Prif Arolygydd hefyd at weithgor y mae Llywodraeth Cymru yn ei sefydlu a chynadleddau gwella Estyn ei hun, sy'n dwyn ynghyd yr holl asiantaethau perthnasol (gan gynnwys yr awdurdod lleol a'r consortiwm rhanbarthol) i drafod ysgol sy'n peri pryder.

Ar ôl ystyried adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Estyn, ysgrifennodd y Pwyllgor PPIA at Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg (PDF 186KB), i gael gwybodaeth am rôl a nodau arfaethedig y gweithgor a diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fonitro a gwerthuso'r her a'r cymorth a ddarperir gan y pedwar consortiwm rhanbarthol i'r ysgolion sy'n tanberfformio fwyaf.

Tynnodd Adroddiad y Pwyllgor PPIA Cyrraedd y nod? Cyllid wedi’i dargedu i wella canlyniadau addysgol (PDF 1.91MB) (Mehefin 2018) sylw at bwysigrwydd sicrhau bod y consortia yn ymgymryd â'u cyfrifoldeb i annog gwella ysgolion, yn enwedig o ystyried eu rôl fwy ar ôl cau rhaglen Her Ysgolion Cymru. Adroddwyd, yn ddiweddar, fod rhai rhanddeiliaid yn amau rhinweddau'r model consortia, rhywbeth a drafodwyd hefyd yn ystod sesiwn y Pwyllgor gyda'r Prif Arolygydd (paragraffau 329-359)

Gan ymateb i lythyr y Pwyllgor, dywedodd y Gweinidog (PDF 314KB) y byddai'n ymdrin â'i gwestiynau yn ystod dadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad blynyddol y Prif Arolygydd.

Y cwricwlwm newydd i Gymru

Un o'r prif negeseuon o adroddiad blynyddol 2017/18 y Prif Arolygydd yw'r angen i ysgolion baratoi i'r cwricwlwm gael ei ddiwygio. Mae Estyn wedi cyhoeddi adroddiadau thematig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar baratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd i Gymru. Disgwylir cyhoeddi'r cwricwlwm newydd ar ffurf ddrafft ym mis Ebrill 2019, ei gwblhau ym mis Ionawr 2020 a'i gyflwyno fesul cam ar sail statudol o fis Medi 2022. (Am ragor o fanylion, darllenwch ein herthygl flaenorol ac ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.)

Dywedodd Meilyr Rowlands wrth y Pwyllgor PPIA:

The point I was making in the annual report is that all schools now need to realise how much work is involved in preparing for the new curriculum. It's not a question of just picking up a folder; it's a new way of working. I think there's a lot of preparation, a lot of staff development, that needs to be done. It's a new way of working; it's a new culture, really. It's more of a framework, as you all know, and it's putting more responsibility on the school and on the teachers themselves to develop what they're teaching. So, we shouldn't, any of us, underestimate how much work is needed to prepare for that.

Arolygiaeth Dysgu

Mae Estyn wedi diwygio'r dull o lunio adroddiad blynyddol y Prif Arolygydd eleni, yn dilyn adolygiad yr Athro Graham Donaldson o rôl yr arolygiaeth a'i adroddiad, sef Arolygiaeth Dysgu (Mehefin 2018). Argymhellodd yr Athro Donaldson fod Estyn yn llunio adroddiad cynhwysfawr 'cyflwr y genedl' bob tair blynedd (i gyd-fynd ag adrodd ar ganlyniadau pob cylch PISA) gydag adroddiadau byrrach mewn blynyddoedd eraill.

Felly, nid yw'r Prif Arolygydd wedi rhoi sylwadau ar flaenoriaethau ac amcanion Llywodraeth Cymru fel yn y blynyddoedd blaenorol ac mae wedi canolbwyntio ar adroddiadau cryno o ddeilliannau ac arsylwadau arolygu ym mhob sector.

Argymhellodd Arolygiaeth Dysgu hefyd y dylai fod gan Estyn fwy o rôl o ran cefnogi’r broses o wella ysgolion yn ychwanegol at ei bwyslais presennol ar ddarparu sicrwydd ac atebolrwydd. Argymhellodd y dylai Estyn, felly, fod â rhan fwy o lawer yn yr ateb, yn hytrach na dim ond y diagnosis.

Nid yw Llywodraeth Cymru ac Estyn wedi ymateb i argymhelliad yr Athro Donaldson eto y dylid cael seibiant o flwyddyn rhwng arolygiadau cylchol rheolaidd Estyn (ond nid i unrhyw weithgarwch dilynol) er mwyn galluogi'r arolygiaeth i gymryd mwy o ran mewn gwaith datblygu ac i ysgolion ganolbwyntio'n llwyr ar baratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd heb ormod o dynnu sylw.

Mae'r Prif Arolygydd wedi awgrymu ei fod yn gweld manteision mewn cyfnod o seibiant rhannol o'r fath, a dywedodd y Gweinidog fod ei swyddogion yn dal i weithio gydag Estyn i ystyried yr effaith lawn.

Sut i ddilyn y ddadl

Mae'r ddadl wedi'i threfnu ar gyfer dydd Mawrth 19 Chwefror 2019, tua 4.00yp. Darlledir y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar wefan Cofnod Trafodion y Cynulliad.


Erthygl gan Michael Dauncey, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru