Cyhoeddiad Newydd: Cyllido ysgolion yng Nghymru (15/02/2019)

Cyhoeddwyd 15/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar 29 Awst 2018. Mae’n cael ei hailgyhoeddi cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Chwefror 2019 ar ariannu ysgolion.

Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad a'r Pumed Cynulliad (2011 ymlaen), mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio diogelu cyllid ysgolion mewn cylchoedd pennu cyllideb olynol. Yn 2018-19, darparodd arian i gynnal cyllid llywodraeth leol ar gyfer cyllidebau ysgolion ar y lefelau presennol, gan osgoi gostyngiadau posibl.

Yng Nghymru, caiff ysgolion a gynhelir (h.y. ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth yn lle rhai annibynnol/preifat) eu hariannu drwy awdurdodau lleol, sy’n cael y rhan fwyaf o’u harian o gyllideb llywodraeth leol flynyddol Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â'i dull o geisio diogelu cyllidebau ysgolion yn y setliad llywodraeth leol, mae Llywodraeth Cymru wedi addo £100 miliwn ychwanegol o gyllideb yr Adran Addysg yn y Pumed Cynulliad ar gyfer codi safonau ysgolion.

Yn 2018-19, mae awdurdodau lleol wedi neilltuo £2.566 biliwn o'u cyllidebau i'w wario ar gyfer ysgolion. Mae'r papur hwn yn esbonio'r ffordd y caiff ysgolion eu hariannu, gan gynnwys y broses ar gyfer dyrannu arian i ysgolion unigol a gwariant ar wasanaethau ysgol a ddarperir yn ganolog gan awdurdodau lleol. Mae'n cynnwys data Cymru gyfan a data awdurdod lleol ar lefelau cyllid ysgolion.

Mae'r Papur Briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil hefyd yn rhoi data ar lefelau cronfeydd wrth gefn ysgolion, yn ogystal â rhywfaint o gyd-destun polisi i'r graddau y mae cyllidebau ysgolion wedi'u diogelu yng Nghymru.

Cyhoeddiad Newydd: Cyllido ysgolion yng Nghymru (PDF, 758KB)


Erthygl gan Michael Dauncey, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru