Cyhoeddiad Newydd: Sut y gallai newidiadau yn yr economi wledig ar ôl Brexit effeithio ar anghydraddoldebau gofal iechyd/iechyd yng Nghymru wledig

Cyhoeddwyd 18/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi sefydlu cytundeb Fframwaith Academaidd Brexit. Yn y Fframwaith, mae arbenigwyr yn darparu gwasanaethau ymchwil a chyngor i Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Brexit i ategu gwaith y Gwasanaeth Ymchwil.

Mae’r Athro Mike Woods a Dr Rachel Rahman yn y Ganolfan am Ragoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig, Prifysgol Aberystwyth, wedi darparu’r dadansoddiad a ganlyn, sy’n trafod effeithiau posibl bargen Brexit a senario dim bargen ar benderfynyddion iechyd a llesiant mewn ardaloedd gwledig.

Barn yr Athro Mike Woods a Dr Rachel Rahman yw unrhyw farn a fynegir, nid barn y Gwasanaeth Ymchwil.

Cyhoeddiad Newydd: Sut y gallai newidiadau yn yr economi wledig ar ôl Brexit effeithio ar anghydraddoldebau gofal iechyd/iechyd yng Nghymru wledig (PDF, 1454KB)


Erthygl gan Philippa Watkins, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru