Mae ein papur briffio ar bolisi cynllunio lleol yn disgrifio sut y caiff cynlluniau datblygu lleol eu llunio ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses o fabwysiadu'r cynlluniau hyn ledled y wlad. Mae’r papur hefyd yn disgrifio'r categori newydd o “Gynlluniau Datblygu Strategol” ac yn cynnwys rhestr ddefnyddiol o ffynonellau i gael rhagor o wybodaeth.
Cyhoeddiad Newydd: Y Gyfres Gynllunio: 2 - Polisi Cynllunio Lleol (PDF, 2124KB)
Erthygl gan Francesca Howorth ac Elfyn Henderson, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru